131Pŵer i ddatgymhwyso gofynion
This
adran has no associated
Nodiadau Esboniadol
(1)Caiff rheoliadau ddarparu pŵer i Weinidogion Cymru gyfarwyddo nad yw gofynion a osodir gan y Ddeddf hon, odani neu yn ei rhinwedd yn gymwys mewn achos a bennir yn y cyfarwyddyd.
(2)Mewn perthynas â’r rheoliadau—
(a)rhaid iddynt bennu’r gofynion y caniateir eu datgymhwyso gan gyfarwyddyd;
(b)rhaid iddynt ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud cyfarwyddyd—
(i)cyhoeddi’r cyfarwyddyd, a
(ii)gosod datganiad ynghylch y cyfarwyddyd gerbron Senedd Cymru yn egluro ei effaith a pham y’i gwnaed;
(c)cânt awdurdodi cyfarwyddydau i fod yn gymwys mewn achos penodol neu i achosion yn gyffredinol.