Print Options
PrintThe Whole
Act
PrintThe Whole
Part
PrintThe Whole
Cross Heading
PrintThis
Section
only
Statws
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
2Y seilwaith trydan
This
adran has no associated
Nodiadau Esboniadol
(1)Mae’r mathau o ddatblygiad a ganlyn yn brosiectau seilwaith arwyddocaol—
(a)adeiladu—
(i)gorsaf gynhyrchu yng Nghymru (ac eithrio gorsaf ynni gwynt), neu
(ii)gorsaf gynhyrchu yn ardal forol Cymru,
y disgwylir y bydd ganddi gapasiti cynhyrchu gosodedig o rhwng 50 a 350 o fegawatiau ar ôl ei hadeiladu;
(b)estyn neu addasu—
(i)gorsaf gynhyrchu yng Nghymru (ac eithrio gorsaf ynni gwynt), neu
(ii)gorsaf gynhyrchu yn ardal forol Cymru,
pan ddisgwylir mai effaith yr estyniad neu’r addasiad fydd cynyddu’r capasiti cynhyrchu gosodedig 50 o fegawatiau o leiaf, ond nid fel y bo’r capasiti cynhyrchu gosodedig yn fwy na 350 o fegawatiau;
(c)adeiladu gorsaf ynni gwynt yng Nghymru y disgwylir y bydd ganddi gapasiti cynhyrchu gosodedig 50 o fegawatiau o leiaf ar ôl ei hadeiladu;
(d)estyn neu addasu gorsaf ynni gwynt yng Nghymru pan ddisgwylir mai effaith yr estyniad neu’r addasiad fydd cynyddu’r capasiti cynhyrchu gosodedig 50 o fegawatiau o leiaf;
(e)gosod llinell drydan uwchben y ddaear yng Nghymru—
(i)y disgwylir y bydd ganddi foltedd enwol o 132 o gilofoltau ac y bydd yn 2 gilometr o hyd o leiaf (i’r graddau y bo yng Nghymru), a
(ii)sy’n gysylltiedig ag adeiladu, estyn neu addasu gorsaf gynhyrchu y mae paragraffau (a) i (d) yn gymwys iddi.
(2)Yn yr adran hon—
ystyr “capasiti cynhyrchu gosodedig” (“installed generating capacity”) yw’r capasiti cynhyrchu trydan uchaf (mewn megawatiau) y gellir gweithredu’r orsaf gynhyrchu honno yn unol ag ef am gyfnod parhaus heb ddifrodi’r orsaf (gan ragdybio bod y ffynhonnell ynni a ddefnyddir i gynhyrchu trydan ar gael yn ddi-dor);
ystyr “gorsaf ynni gwynt” (“wind generating station”) yw gorsaf gynhyrchu sy’n cynhyrchu trydan o’r gwynt.
Yn ôl i’r brig