Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Seilwaith (Cymru) 2024

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 32

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 04/06/2024.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Seilwaith (Cymru) 2024, Adran 32. Help about Changes to Legislation

32Gwneud cais am gydsyniad seilwaithLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Ni chaniateir rhoi cydsyniad seilwaith oni wneir cais amdano.

(2)Rhaid i gais am gydsyniad seilwaith gael ei wneud i Weinidogion Cymru.

(3)Rhaid i gais am gydsyniad seilwaith—

(a)pennu’r datblygiad y mae’n ymwneud ag ef;

(b)cynnwys gorchymyn cydsyniad seilwaith drafft;

(c)cynnwys adroddiad ymgynghoriad cyn gwneud cais.

(4)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch ceisiadau am gydsyniad seilwaith, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) ddarpariaeth ynghylch—

(a)ffurf a chynnwys cais (gan gynnwys y gorchymyn cydsyniad seilwaith drafft sy’n ofynnol);

(b)sut y gwneir cais;

(c)gwybodaeth, dogfennau neu ddeunyddiau eraill y mae rhaid eu cynnwys mewn cais;

(d)prosesu cais;

(e)amrywio cais neu ei dynnu yn ôl;

(f)hysbysiadau yn ymwneud â cheisiadau;

(g)y cyfnod y mae rhaid gwneud cais o’i fewn ac estyn y cyfnod hwnnw.

(5)Caiff rheoliadau o dan is-adran (4) roi swyddogaeth, gan gynnwys swyddogaeth sy’n ymwneud ag arfer disgresiwn, i unrhyw berson.

(6)Yn is-adran (3)(c), ystyr “adroddiad ymgynghoriad cyn gwneud cais” yw adroddiad sy’n rhoi manylion ynghylch—

(a)sut y cydymffurfiodd y ceisydd ag adran 30;

(b)yr ymatebion a gafwyd oddi wrth bersonau yn rhinwedd adran 30 a’r ystyriaeth a roddwyd i’r ymatebion.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 32 mewn grym ar 4.6.2024 at ddibenion penodedig, gweler a. 147(1)(b)

Yn ôl i’r brig

Options/Help

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open y Ddeddf Gyfan

Y Ddeddf Gyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?