4Cyfleusterau derbyn nwy
(1)Mae adeiladu cyfleuster derbyn nwy yn brosiect seilwaith arwyddocaol—
(a)os yw’r cyfleuster yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru,
(b)os yw’r cyfleuster o fewn is-adran (3), ac
(c)os disgwylir i gyfradd llif uchaf y cyfleuster fod yn 4.5 miliwn metr ciwbig safonol y diwrnod o leiaf.
(2)Mae addasu cyfleuster derbyn nwy yn brosiect seilwaith arwyddocaol—
(a)os yw’r cyfleuster yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru,
(b)os yw’r cyfleuster o fewn is-adran (3), ac
(c)os effaith ddisgwyliedig yr addasiad yw cynyddu cyfradd llif uchaf y cyfleuster 4.5 miliwn metr ciwbig safonol y diwrnod o leiaf.
(3)Mae cyfleuster derbyn nwy o fewn yr is-adran hon os nad yw’r nwy a gaiff ei drin gan y cyfleuster—
(a)yn tarddu o—
(i)Cymru neu ardal forol Cymru,
(ii)Lloegr neu ddyfroedd sy’n gyfagos i Loegr hyd at derfynau atfor y môr tiriogaethol,
(iii)yr Alban neu ddyfroedd sy’n gyfagos i’r Alban hyd at derfynau atfor y môr tiriogaethol, neu
(iv)y Parth Ynni Adnewyddadwy.
(b)yn cyrraedd y cyfleuster o Loegr neu’r Alban, nac
(c)wedi ei drin eisoes mewn cyfleuster arall ar ôl iddo gyrraedd Cymru neu ardal forol Cymru.
(4)Yn yr adran hon—
ystyr “cyfleuster derbyn nwy” (“gas reception facility”) yw cyfleuster ar gyfer—
(a)derbyn nwy naturiol ar ei ffurf nwyol o’r tu allan i Gymru ac ardal forol Cymru, a
(b)trin nwy naturiol (rywfodd ac eithrio drwy ei storio);
ystyr “cyfradd llif uchaf” (“maximum flow rate”) yw’r gyfradd uchaf y gall nwy lifo allan o’r cyfleuster yn unol â hi;
mae i “Parth Ynni Adnewyddadwy” yr ystyr a roddir i “Renewable Energy Zone” gan adran 84(4) o Ddeddf Ynni 2004 (p. 20).