Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Seilwaith (Cymru) 2024

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 52

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Mae’r fersiwn hon o'r ddarpariaeth hon yn rhagolygol. Help about Status

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Seilwaith (Cymru) 2024, Adran 52 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 25 Chwefror 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

Rhagolygol

52Adroddiadau gan awdurdod archwilioLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i—

(a)awdurdod archwilio a benodir o dan adran 40(1) os Gweinidogion Cymru sydd â’r swyddogaeth o benderfynu ar y cais;

(b)awdurdod archwilio a benodir o dan adran 40(2) os Gweinidogion Cymru sydd â’r swyddogaeth o benderfynu ar y cais o dan reoliadau a wneir o dan adran 91.

(2)Rhaid i’r awdurdod archwilio gyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru ar y cais y mae’n ei archwilio sy’n nodi—

(a)canfyddiadau a chasgliadau’r awdurdod archwilio mewn cysylltiad â’r cais, a

(b)argymhellion yr awdurdod archwilio ynghylch y penderfyniad sydd i’w wneud ar y cais.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 52 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 147(2)

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth