Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Seilwaith (Cymru) 2024

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Statws

Mae’r fersiwn hon o'r ddarpariaeth hon yn rhagolygol. Help about Status

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Seilwaith (Cymru) 2024, Adran 53 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 01 Mawrth 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

Rhagolygol

53Pŵer i gyfarwyddo archwiliad pellachLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Ar ôl cael adroddiad o dan adran 52, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r awdurdod archwilio i ailagor ei archwiliad o’r cais yn unol ag unrhyw ofynion a bennir yn y cyfarwyddyd.

(2)Mae’r ddyletswydd sydd ar awdurdod archwilio yn adran 52 yn gymwys i unrhyw archwiliad pellach sy’n ofynnol yn rhinwedd yr adran hon.

(3)Rhaid i gyfarwyddyd o dan is-adran (1)—

(a)cynnwys datganiad sy’n egluro pam y’i rhoddir;

(b)cael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl iddo gael ei roi.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 53 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 147(2)

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth