Deddf Seilwaith (Cymru) 2024

65Tir y gall awdurdodiad i gaffael yn orfodol ymwneud ag efLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Ni chaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith gynnwys darpariaeth sy’n awdurdodi caffael tir yn orfodol onid yw—

(a)y tir yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru, a

(b)Gweinidogion Cymru yn fodlon bod un o’r amodau yn is-adrannau (2) i (4) wedi ei fodloni.

(2)Yr amod yw bod y cais am gydsyniad seilwaith wedi cynnwys archiad i awdurdodi caffael y tir yn orfodol.

(3)Yr amod yw bod yr holl bersonau a chanddynt fuddiant yn y tir yn cydsynio i’r ddarpariaeth gael ei chynnwys.

(4)Yr amod yw bod y weithdrefn a bennir mewn rheoliadau at ddiben yr adran hon wedi ei dilyn mewn perthynas â’r tir.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 65 mewn grym ar 4.6.2024 at ddibenion penodedig, gweler a. 147(1)(b)