Chwilio Deddfwriaeth

Nodiadau Esboniadol i Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024

Cyflwyniad

1.Mae’r Nodiadau Esboniadol hyn ar gyfer Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024, a basiwyd gan Senedd Cymru ar 08 Mai 2024 ac a gafodd y Cysyniad Brenhinol ar 24 Mehefin 2024. Fe’u lluniwyd gan Grŵp yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad Llywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo’r sawl sy’n darllen y Ddeddf. Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â’r Ddeddf ond nid ydynt yn rhan ohoni.

2.Mae’r Ddeddf yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynyddu nifer yr Aelodau o’r Senedd, drwy ddiwygio nifer yr etholaethau a nifer y seddi ar gyfer pob etholaeth a diddymu’r pum rhanbarth etholiadol. Mae hefyd yn gwneud newidiadau cysylltiedig sy’n deillio o’r newid hwn mewn maint. Mae’r rhain yn cynnwys cynyddu’r terfyn ar y nifer o Weinidogion Cymru a darparu ar gyfer Dirprwy Lywydd ychwanegol y caniateir ei ethol o’r Senedd.

3.Mae’r Ddeddf hefyd yn darparu ar gyfer newid system etholiadol aelodau cymysg y Senedd fel bod yr holl Aelodau yn cael eu hethol drwy system gyfrannol â rhestr gaeedig, gyda phleidleisiau’n cael eu trosi i seddi drwy ddefnyddio fformiwla D’Hondt. Ar y cyd, mae’n darparu ar gyfer ehangu rôl Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, a’i ailenwi yn Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (“y Comisiwn”). Mae’r Ddeddf yn rhoi i’r Comisiwn y swyddogaeth o gynnal adolygiadau parhaus o ffiniau etholaethau’r Senedd ac yn gwneud newidiadau cysylltiedig o ran sut y cyfansoddir y Comisiwn. Mae hefyd yn amlinellu’r rheolau a’r prosesau y mae rhaid i’r Comisiwn eu dilyn wrth gynnal ei adolygiadau ffiniau, gan gynnwys mewn perthynas â’r adolygiad symlach i baru 32 etholaeth newydd Senedd y DU cyn etholiad 2026 y Senedd sydd wedi ei drefnu (i ffurfio 16 etholaeth Senedd newydd), adolygiad llawn cyn yr etholiad yn 2030 sydd wedi ei drefnu, ac adolygiadau cyfnodol parhaus.

4.Bydd y Ddeddf hefyd yn dychwelyd y cyfnod arferol rhwng etholiadau cyffredinol cyffredin y Senedd i 4 blynedd; yn ei gwneud yn ofynnol i Aelodau o’r Senedd, ac ymgeiswyr i fod yn Aelodau ohoni, gael eu cofrestru ar y gofrestr etholwyr llywodraeth leol mewn cyfeiriad yng Nghymru; yn darparu gofyniad i’r Llywydd i gyflwyno cynnig i’r Senedd ystyried adolygiad o weithrediad y darpariaethau deddfwriaethol newydd yn dilyn etholiad 2026 a darparu gofyniad i’r Llywydd i gyflwyno cynnig i’r Senedd ymgymryd â gwaith i archwilio ystyriaethau ymarferol a deddfwriaethol sy’n ymwneud â rhannu rhai swyddi sy’n ymwneud â’r Senedd a Llywodraeth Cymru.

Rhan 1 – Y Senedd a Gweinidogion Cymru

5.Mae’r Rhan hon yn gwneud darpariaeth i newid nifer yr Aelodau o’r Senedd, drwy ddiwygio nifer yr etholaethau a nifer y seddi ar gyfer pob etholaeth ac (ar y cyd â’r newidiadau i’r system etholiadol a wneir gan Ran 2), diddymu’r pum rhanbarth etholiadol. Mae’n gwneud newidiadau cysylltiedig, megis darparu ar gyfer pennu etholaethau’r Senedd drwy gyfeirio at reoliadau a wneir i weithredu’r adolygiadau ffiniau y darperir ar eu cyfer yn Rhan 4, ac yn rhoi pŵer i’r Senedd i ethol ail Ddirprwy Lywydd, yn ogystal â’r Dirprwy Lywydd y mae rhaid ei benodi yng nghyfarfod cyntaf y Senedd o dan adran 25(1)(b) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Yn yr un modd, mae’n darparu ar gyfer cynyddu’r nifer uchaf o Weinidogion Cymru a gaiff ddal swydd ar yr un pryd. Mae’r Ddeddf yn newid amlder etholiadau cyffredinol cyffredin i’r Senedd, ac yn anghymhwyso person nad yw wedi ei gofrestru ar y gofrestr etholwyr llywodraeth leol mewn cyfeiriad o fewn etholaeth Senedd, rhag sefyll etholiad i’r Senedd, neu rhag aros fel Aelod o’r Senedd. Mae’n darparu gofyniad i’r Llywydd i gyflwyno cynnig i’r Senedd i ymgymryd â gwaith i sefydlu pwyllgor i archwilio ystyriaethau ymarferol a deddfwriaethol sy’n ymwneud â rhannu rhai swyddi.

Adran 1 – Y nifer o Aelodau o’r Senedd ac etholaethau’r Senedd

6.Mae adran 1 yn diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (“Deddf 2006”) i ddarparu i’r Senedd gael 16 etholaeth, â chwe sedd ym mhob etholaeth. Mae hyn yn golygu y bydd y Senedd yn cynnwys 96 Aelod (16 wedi ei luosi â chwech) ac eithrio mewn amgylchiadau pan fo un neu ragor o seddi yn y Senedd yn wag.

Adran 2 – Etholaethau’r Senedd

7.Mae adran 2 yn diwygio Deddf 2006 i ddarparu ar gyfer etholaethau’r Senedd o dan y system etholiadol newydd. Ar gyfer yr etholiad cyntaf a gynhelir ar ôl 6 Ebrill 2026 bydd yr etholaethau yn cael eu pennu mewn rheoliadau a wneir o dan baragraff 9 o Atodlen 1 i’r Ddeddf. Yn dilyn hynny, byddant yn cael eu pennu mewn rheoliadau o dan adran 49J o Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013 (enw byr y Ddeddf honno ar hyn o bryd yw Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ond yng ngoleuni’r newidiadau sy’n cael eu gwneud i’r Ddeddf honno gan y Ddeddf hon, fel a drafodir isod, mae adran 17 o’r Ddeddf yn gwneud darpariaeth i newid ei henw). Mae hyn yn golygu y bydd Aelodau o’r Senedd yn cael eu hethol o’r 16 etholaeth Senedd yn unig (ni fydd Aelodau rhanbarthol).

Adran 3 – Etholiadau cyffredinol cyffredin: pa mor aml

8.Mae adran 3 yn diwygio adran 3 o Ddeddf 2006 i newid amlder etholiadau cyffredinol cyffredin er mwyn eu cynnal bob pedair blynedd, yn hytrach na phob pum mlynedd.

Adran 4 – Dirprwy Lywydd ychwanegol

9.Mae adran 4 yn diwygio adran 25 o Ddeddf 2006 i ddarparu y bydd y Senedd yn gallu ethol ail Ddirprwy Lywydd, yn ogystal â’r Dirprwy Lywydd y mae rhaid ei ethol yng nghyfarfod cyntaf y Senedd o dan adran 25(1)(b) o Ddeddf 2006. Caiff Rheolau Sefydlog y Senedd ddarparu i’r Dirprwy Lywydd ychwanegol ddal swydd am gyfnod byrrach o amser na’r sefyllfa ddiofyn a ddarperir ar ei chyfer yn Neddf 2006 (sef, aros yn y swydd tan ddiddymiad y Senedd y cafodd y Dirprwy Lywydd ei ethol yn ei hystod).

10.Mae adran 4 hefyd yn darparu ar gyfer cyfyngiadau penodol ar ddewis y Senedd o ail Ddirprwy Lywydd. Ni chaniateir iddo fod o’r un grŵp gwleidyddol â’r Llywydd neu’r Dirprwy Lywydd arall, ac ni chaniateir iddo fod yn Aelod o grŵp nad yw’n grŵp gweithrediaeth os yw’r Llywydd a’r Dirprwy Lywydd yn Aelodau o grwpiau nad ydynt yn grwpiau gweithrediaeth (mae grŵp nad yw’n grŵp gweithrediaeth yn golygu grŵp gwleidyddol o fewn y Senedd nad oes ganddo unrhyw Aelodau yn y Llywodraeth sy’n weithredol ar y pryd (h.y. y weithrediaeth)). Fodd bynnag, mae hefyd yn darparu y gellir trechu’r cyfyngiadau hyn gan bleidlais fwyafrifol o ddwy ran o dair yn y Senedd.

11.Oni nodir yn wahanol uchod, effaith adran 4 yw bod y dyletswyddau, y pwerau a’r gofynion eraill deddfwriaethol sy’n gymwys i’r Dirprwy Lywydd y mae rhaid ei benodi yng nghyfarfod cyntaf y Senedd o dan adran 25(1)(b) o Ddeddf 2006 hefyd yn gymwys i unrhyw Ddirprwy Lywydd ychwanegol. Mae’r adran hon hefyd yn gwneud diwygiadau cysylltiedig i Ddeddf 2006 a deddfwriaeth arall.

Adran 5 – Cynyddu nifer uchaf Gweinidogion Cymru

12.Mae adran 5 yn darparu, drwy ddiwygio adran 51 o Ddeddf 2006, ar gyfer cynyddu’r nifer uchaf o Weinidogion Cymru a gaiff ddal swydd ar yr un pryd, o 12 i 17. Mae’r terfyn hwn yn cynnwys Dirprwy Weinidogion (gweler y diffiniad o “Welsh Ministerial Office” yn adran 51 o Ddeddf 2006) ond nid yw’n cynnwys y Prif Weinidog na’r Cwnsler Cyffredinol. Mae adran 5 hefyd yn darparu ar gyfer pŵer i wneud rheoliadau er mwyn cynyddu’r terfyn yn y dyfodol, i nifer uchaf o 19. Ni ellir ond defnyddio’r pŵer i gynyddu’r nifer, ni ellir ei ddefnyddio i leihau’r nifer (yn ymarferol, mae Prif Weinidog bob amser wedi gallu penodi llai o Weinidogion Cymru na’r nifer uchaf gan fod adran 51 yn gosod terfyn ar y nifer uchaf o Weinidogion Cymru yn hytrach na gosod nifer gofynnol o Weinidogion Cymru; nid yw’r diwygiadau a wneir gan y Ddeddf hon yn effeithio ar hyn). Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau sy’n cynyddu’r terfyn oni fo o leiaf 64 Aelod (h.y. dwy ran o dair o gyfanswm nifer y seddi yn y Senedd, ni waeth pa un a yw unrhyw un neu ragor o’r seddi yn wag adeg y bleidlais) wedi pleidleisio o blaid penderfyniad gan y Senedd i gymeradwyo’r offeryn drafft.

Adran 6 – Anghymhwyso rhag bod yn Aelod o’r Senedd neu’n ymgeisydd

13.Mae adran 6, drwy ddiwygio Atodlen 1A i Ddeddf 2006, yn anghymhwyso person nad yw wedi ei gofrestru ar y gofrestr etholwyr llywodraeth leol mewn cyfeiriad o fewn etholaeth Senedd, rhag sefyll ar gyfer etholiad i’r Senedd, neu rhag bod yn Aelod o’r Senedd.

Adran 7 – Adolygiad o’r posibilrwydd o rannu swyddi sy’n ymwneud â’r Senedd

14.Mae adran 7 yn gwneud darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r Llywydd gyflwyno cynnig bod y Senedd yn sefydlu pwyllgor i adolygu’r graddau y dylai personau allu dal swydd berthnasol ar y cyd (h.y. ‘rhannu swydd’) neu ddal swydd berthnasol dros dro tra nad yw’r person sy’n dal y swydd honno ar gael. Mae “swydd berthnasol” yn golygu’r rolau a restrir yn adran 7(3). Rhaid cyflwyno’r cynnig cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyfarfod cyntaf y Senedd gyntaf a etholir ar ôl 7 Tachwedd 2025 (h.y. mae hyn yn cynnwys Senedd a etholir gan etholiad cyffredinol eithriadol a arweiniodd at beidio â chynnal yr etholiad cyffredinol cyffredin sydd wedi ei drefnu ym mis Mai 2026 – gweler adran 5(5) o Ddeddf 2006), ond mewn unrhyw achos, o fewn chwe mis i’r cyfarfod hwnnw.

15.Pe bai’r Senedd yn cytuno y dylid cynnal adolygiad o’r fath, gallai’r adolygiad hwnnw gynnwys ystyriaeth o’r goblygiadau ymarferol a deddfwriaethol. Rhaid i’r cynnig a gyflwynir gan y Llywydd hefyd gynnig bod y pwyllgor yn llunio adroddiad ar ei adolygiad, gydag argymhellion. Os yw pwyllgor a sefydlir o dan y cynnig hwn yn gosod adroddiad ar ei adolygiad gerbron y Senedd, rhaid i Weinidogion Cymru osod datganiad gerbron y Senedd sy’n nodi eu hymateb i’r adroddiad ac unrhyw gamau y maent yn bwriadu eu cymryd, a all gynnwys camau deddfwriaethol.

Rhan 2 – Y System Bleidleisio Mewn Etholiadau Cyffredinol Y Senedd a Dyrannu Seddi

16.Mae’r Rhan hon yn darparu ar gyfer newid system etholiadol y Senedd fel bod yr holl Aelodau yn cael eu hethol drwy system gyfrannol â rhestr gaeedig, gyda phleidleisiau’n cael eu trosi i seddi drwy ddefnyddio fformiwla D’Hondt. Mae’r Rhan hon hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch swyddi gwag yn seddi’r Senedd sy’n codi rhwng etholiadau cyffredinol.

Adran 8 – Etholiadau cyffredinol

17.Mae adran 8 yn disodli adrannau 6 i 9 o Ddeddf 2006 i roi effaith i’r system etholiadol newydd. Mae’r cyfeiriadau isod at yr adrannau o Ddeddf 2006 fel y’u hamnewidiwyd.

18.Mae adran 6 o Ddeddf 2006, fel y’i hamnewidiwyd, yn darparu y caiff personau sy’n pleidleisio mewn etholiadau cyffredinol y Senedd fwrw un bleidlais yn unig – naill ai ar gyfer plaid wleidyddol gofrestredig sydd wedi cyflwyno rhestr o ymgeiswyr ar gyfer yr etholaeth honno, neu ar gyfer ymgeisydd sy’n sefyll yn annibynnol o blaid yn yr etholaeth honno (a elwir yn “individual candidate” (“ymgeisydd annibynnol”) yn Neddf 2006). O ganlyniad i’r newid o’r system aelodau cymysg gyfrannol y darparwyd ar ei chyfer yn wreiddiol yn Neddf 2006 i system gyfrannol â rhestr gaeedig y darperir ar ei chyfer yn y darpariaethau hyn, caiff pob Aelod ei ethol yn yr un modd a dim ond un bleidlais yr un fydd gan unrhyw bleidleisiwr (yn hytrach na dwy). Mae’r adran hon hefyd yn ei gwneud yn ofynnol bod rhaid i orchymyn a wneir o dan adran 13 o Ddeddf 2006 ynghylch cynnal etholiadau Aelodau o’r Senedd, gynnwys enwau pob ymgeisydd a enwebir mewn modd dilys ar gyfer yr etholaeth ar y papur pleidleisio.

19.Mae adran 7 o Ddeddf 2006, fel y’i hamnewidiwyd, yn gwneud darpariaeth ynghylch rhestri o ymgeiswyr sy’n sefyll mewn etholiad cyffredinol i’r Senedd, a gyflwynir gan bleidiau gwleidyddol cofrestredig. Rhaid i restr gynnwys rhwng 1 ac 8 ymgeisydd. Ni ddylai’r rhestr gynnwys person sydd wedi ei gynnwys ar unrhyw restr arall (pa un ai yn yr un etholaeth neu mewn etholaeth arall), neu sy’n sefyll fel ymgeisydd unigol (eto, pa un ai yn yr un etholaeth neu mewn etholaeth arall). Yn yr un modd, ni chaiff person fod yn ymgeisydd unigol os yw hefyd yn ymddangos ar restr unrhyw blaid, neu fel ymgeisydd unigol mewn unrhyw etholaeth arall. Y canlyniad yw na chaiff person ond sefyll fel ymgeisydd unwaith mewn etholiad cyffredinol. Mae’r adran hefyd yn diffinio “constituency returning officer” (“swyddog canlyniadau etholaethol”).

20.Mae adrannau 8 a 9 fel y’u hamnewididwyd yn nodi’r dull ar gyfer dyrannu seddi sy’n cynnwys cymhwyso dull d’Hondt.

21.Mae adran 8 fel y’i hamnewidiwyd o Ddeddf 2006 yn darparu ar gyfer cyfrifo’r “seat allocation figure” (“ffigur dyrannu seddi”). Mae seddi i’w dyrannu yn eu tro i’r blaid neu’r ymgeisydd unigol sydd â’r ffigur dyrannu seddi uchaf (adran 9(1) a (2) fel y’i hamnewidiwyd).

22.Ar gyfer ymgeisydd unigol, y ffigur dyrannu seddi yw cyfanswm y pleidleisiau a gafwyd gan yr ymgeisydd hwnnw. Ar gyfer plaid sy’n sefyll mewn etholaeth, dyma gyfanswm y pleidleisiau a gafwyd gan y blaid yn yr etholaeth honno, wedi ei rhannu gan y “seat allocation divisor” (“rhannydd dyrannu seddi”). I ddechrau mae’r rhannydd dyrannu seddi yn un, sy’n golygu mai’r ffigur dyrannu seddi cyntaf ar gyfer plaid yw cyfanswm y pleidleisiau y mae wedi eu cael yn yr etholaeth.

23.Felly, dyrennir y cyntaf o’r 6 sedd ar gyfer yr etholaeth i’r blaid neu’r ymgeisydd unigol a gafodd y mwyaf o bleidleisiau.

24.Mae adran 9 fel y’i hamnewidiwyd o Ddeddf 2006 yn darparu ar gyfer ail-gyfrifo ffigur dyrannu seddi plaid gyda rhannydd mwy wrth ddyrannu’r ail i’r chweched sedd pe bai’r sedd flaenorol wedi ei dyrannu i’r blaid. Felly, i ddyrannu’r ail sedd, os dyrannwyd y sedd gyntaf i blaid, rhaid ail-gyfrifo ffigur dyrannu seddi y blaid honno drwy ychwanegu un at ei rhannydd dyrannu seddi blaenorol (h.y. mae’r rhannydd yn troi’n 2). Yna, caiff yr ail sedd ei dyrannu i’r blaid neu’r ymgeisydd unigol gyda’r ffigur dyrannu seddi uchaf. Er enghraifft, pe bai Plaid A wedi ennill 50,000 o bleidleisiau mewn etholaeth, ac roedd hyn yn ddigon i’r sedd gyntaf gael ei dyrannu i Blaid A, yna wrth ddyrannu’r ail sedd, byddai’r 50,000 yn cael ei rannu â 1+1=2, gan roi ffigur dyrannu seddi o 25,000 ar gyfer Plaid A.

25.Yna, cynhelir y broses hon eto ar gyfer y seddi sy’n weddill, gydag ailgyfrifiad yn digwydd bob tro y dyrannwyd sedd flaenorol i blaid. Felly, gan gymryd yr enghraifft uchod, os 25,000 oedd y ffigur dyrannu seddi uchaf wrth ddyrannu’r drydedd sedd, byddai’n cael ei ddyrannu i Blaid A a byddai ei ffigur dyrannu seddi, wrth ddyrannu’r bedwaredd sedd, yn 50,000 wedi ei rannu â 3 (rhannydd dyrannu seddi blaenorol o 2+1), gan roi ffigur dyrannu seddi o 16,666.666 (cylchol). Dyrennir y bedwaredd sedd i Blaid A os oes gan y pleidiau eraill ac unrhyw ymgeiswyr unigol ffigurau dyrannu seddi is (nid yw’r ffigurau wedi eu talgrynnu) neu os ydynt i’w diystyru yn y rownd honno (gweler y paragraff nesaf).

26.Caiff unrhyw ymgeisydd unigol y dyrannwyd sedd iddo ei ddiystyru mewn unrhyw rowndiau dilynol. Yn yr un modd, os yw seddi’n cael eu dyrannu i blaid ar gyfer yr holl ymgeiswyr ar ei rhestr, mae’r blaid honno’n cael ei diystyru mewn unrhyw rowndiau dilynol.

27.Rhaid i blaid lenwi’r seddi y dyrannwyd hwy iddi gyda’r ymgeiswyr sy’n ymddangos ar ei rhestr yn y drefn y maent yn ymddangos ar y rhestr honno.

28.Mewn achos o ffigur dyrannu seddi cyfartal mewn unrhyw rownd ar gyfer dwy neu ragor o bleidiau neu ymgeiswyr unigol, mae sedd i’w dyrannu i bob un o’r pleidiau neu’r ymgeiswyr hynny ar yr amod bod digon o seddi yn weddill. Os nad oes digon o seddi yn weddill, yna mae’r nifer seddi cyfartal i’w dorri fel a ganlyn:

  • mae’r ffigur dyrannu seddi ar gyfer y pleidiau neu’r ymgeiswyr unigol cyfartal yn cael ei ailgyfrifo drwy ychwanegu un at gyfanswm nifer y pleidleisiau a gafwyd. O ran ymgeisydd unigol, mae hyn yn syml yn golygu ychwanegu un at nifer y pleidleisiau a gafodd yr ymgeisydd. O ran plaid, mae hyn yn golygu ychwanegu un at gyfanswm nifer y pleidleisiau a gafwyd gan y blaid yn yr etholaeth ac yna rhannu’r rhif hwnnw â rhannydd dyrannu seddi’r blaid. Er enghraifft, os cafodd plaid 50,000 o bleidleisiau yn yr etholaeth a bod dwy sedd wedi eu dyrannu iddi hyd yma, byddai 50,001 yn cael ei rannu â rhannydd dyrannu seddi’r blaid o 3 i gael 16,667;

  • os yw’r ffigur dyrannu seddi diwygiedig yn torri’r nifer seddi cyfartal, yna dyrennir y sedd (neu’r seddi) sy’n weddill yn y dull arferol, sef i’r blaid neu’r ymgeisydd unigol sydd â’r ffigur dyrannu seddi uchaf.

29.Os bydd ffigur dyrannu seddi cyfartal yn parhau, yna rhaid i’r swyddog canlyniadau etholaethol ei ddatrys drwy lotiau.

Adran 9 – Seddi gwag

30.Mae adran 9 yn diwygio Deddf 2006 er mwyn nodi’r sefyllfa ynghylch swyddi gwag sy’n codi rhwng etholiadau (er enghraifft, o ganlyniad i ymddiswyddiad Aelod o’r Senedd) o dan y system gyfrannol â rhestr gaeedig. Mae’n diddymu adran 10 o Ddeddf 2006 (a oedd yn darparu ar gyfer cynnal is-etholiadau mewn cysylltiad â seddi gwag mewn etholaethau) ac yn rhoi adran 11 newydd yn lle’r un bresennol (a oedd yn darparu’n wreiddiol ar gyfer llenwi seddi gwag Aelodau o’r Senedd rhanbarthol).

31.Mae’r adran 11 fel y’i hamnewidiwyd o Ddeddf 2006 yn darparu, os bydd sedd a ddelir gan Aelod a ddychwelwyd o restr plaid yn dod yn wag, y caiff y swydd wag ei llenwi gan y person uchaf ar y rhestr honno sy’n bodloni’r amodau a ganlyn ac sydd heb ei ddychwelyd eisoes (ac at y dibenion hyn mae canlyniad di-rym, a fyddai’n wir pe bai’r person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn Aelod o’r Senedd adeg y canlyniad, yn cyfrif fel canlyniad). Yr amodau yw bod y person yn fodlon gwasanaethu ac yn achos person nad yw’n aelod o’r blaid, nad yw’r blaid wedi rhoi rhybudd i’r swyddog canlyniadau etholaethol nad yw’n dymuno i’r person hwnnw lenwi’r swydd wag. Mater i’r swyddog canlyniadau etholaethol yw rhoi gwybod i’r Llywydd am enw’r person (os oes un) sydd i lenwi’r swydd wag.

32.Os nad oes ymgeiswyr yn weddill ar restr y blaid sy’n gymwys ar yr adeg honno i lenwi’r swydd wag, neu os yw’r Aelod o’r Senedd y mae ei sedd wedi dod yn wag wedi ei ddychwelyd fel ymgeisydd unigol, bydd y sedd yn aros yn wag hyd nes yr etholiad cyffredinol nesaf.

Adran 10 – Diwygiadau cysylltiedig

33.Mae adran 10 yn gwneud diwygiadau i Ddeddf 2006 a deddfwriaeth arall, sy’n codi o’r trefniadau newydd o dan y Ddeddf ar gyfer dychwelyd y Senedd a’i chynnal.

Rhan 3 – Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru

34.Mae’r Rhan hon yn gwneud darpariaeth ar gyfer trosglwyddo’r swyddogaethau o adolygu ffiniau etholaethau’r Senedd i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, ac ar gyfer y newid enw cysylltiedig. Mae’r Rhan hon yn darparu ar gyfer y newidiadau hynny drwy ddiwygio Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 a gwneud newidiadau tebyg i enw byr y Ddeddf honno.

Adran 11 – Ailenwi Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013

35.Mae adran 11 yn gwneud darpariaeth i newid enw byr Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 i Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013 i adlewyrchu’r diwygiadau a wneir iddi gan y Ddeddf hon. Mae’r adran hon hefyd yn cyflwyno Rhan 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf sy’n diwygio deddfiadau amrywiol o ganlyniad i’r adran hon.

Adran 12 – Ailenwi Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru

36.Mae adran 12 yn newid enw Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru i adlewyrchu’r cyfrifoldebau ychwanegol a roddir iddo gan y Rhan hon o’r Ddeddf. Mae’r adran hon hefyd yn cyflwyno Rhan 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf sy’n diwygio deddfiadau amrywiol o ganlyniad i’r adran hon.

Atodlen 1: Mân Ddiwygiadau a Diwygiadau Canlyniadol Sy’N Ymwneud  Rhan 3

37.Cyflwynir Atodlen 1 gan adrannau 11 a 12.

38.Mae’r Atodlen hon yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol sy’n ymwneud â newid enw byr Deddf 2013 a newid enw Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.

Adran 13 – Nifer aelodau’r Comisiwn

39.Mae adran 13 yn cynyddu uchafswm nifer aelodau’r Comisiwn o bump i naw (gan gynnwys y cadeirydd a’r dirprwy gadeirydd). Mae hyn yn cydnabod y cynnydd disgwyliedig yn llwyth gwaith y Comisiwn o ganlyniad i’w swyddogaethau estynedig.

Adran 14 – Personau na chaniateir iddynt fod yn aelodau o’r Comisiwn neu’n brif weithredwr arno

40.Mae adran 14 yn estyn y rhestrau o bersonau na chaniateir iddynt fod yn aelodau o’r Comisiwn neu’n brif weithredwr arno gyda’r bwriad o sicrhau didueddrwydd wrth arfer ei swyddogaethau o adolygu ffiniau etholaethau’r Senedd.

Adran 15 – Cworwm ar gyfer cyfarfodydd o’r Comisiwn

41.Mae adran 15 yn gwneud darpariaeth ar gyfer pŵer i wneud rheoliadau sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i newid y cworwm ar gyfer cyfarfodydd y Comisiwn o’r gofyniad statudol presennol o dri. Mae’r pŵer hwn yn caniatáu cynnydd neu ostyngiad yn y nifer cworwm, ar yr amod nad yw unrhyw ostyngiad yn newid y cworwm i nifer sy’n llai na thri. Mae rheoliadau a wneir o dan y pŵer hwn yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol.

Adran 16 – Comisiynwyr cynorthwyol

42.Mae adran 16 yn darparu y caiff y Comisiwn benodi un neu ragor o gomisiynwyr cynorthwyol y caiff ddirprwyo ei swyddogaethau iddo neu iddynt yn unol ag adran 13 o Ddeddf 2013. Mae’r adran hon hefyd yn gwneud newidiadau i’r rhestr o’r personau na chaniateir iddynt fod yn gomisiynwyr cynorthwyol, i gyd-fynd â’r diwygiadau a wneir gan adran 14 i’r rhai na chaniateir iddynt fod yn aelodau o’r Comisiwn o dan y Ddeddf. Mae’r adran hon hefyd yn darparu bod comisiynwyr cynorthwyol wedi eu hanghymhwyso rhag bod yn Aelod o’r Senedd neu’n ymgeisydd i fod yn Aelod o’r Senedd (a oedd yn wir, ac sy’n parhau’n wir, ar gyfer aelodau o’r Comisiwn a phrif weithredwr y Comisiwn).

Rhan 4 – Adolygu Ffiniau Etholaethau’R Senedd

Adran 17 – Etholaethau’r Senedd ar gyfer etholiad cyffredinol a gynhelir ar ôl 6 Ebrill 2026 a chyn i reoliadau o dan adran 49J o Ddeddf 2013 gymryd effaith

43.Mae adran 17 yn cyflwyno Atodlen 2 sy’n gwneud darpariaeth ynghylch etholaethau’r Senedd yr etholir Aelodau o’r Senedd drostynt mewn etholiad cyffredinol a gynhelir ar ôl 6 Ebrill 2026 a chyn i’r set gyntaf o reoliadau a wneir o dan adran 49J o Ddeddf 2013 gymryd effaith (gweler is-adran (8) o’r adran honno; mewnosodir yr adran honno yn Neddf 2013 gan Atodlen 3 i’r Ddeddf hon).

Atodlen 2: Etholaethau’R Senedd Ar Gyfer Yr Etholiad Cyffredinol Cyntaf Ar Ôl 6 Ebrill 2026

44.Cyflwynir Atodlen 2 gan adran 17.

45.Mae’r Atodlen hon yn gwneud darpariaeth ar gyfer y Comisiwn (fel sydd wedi ei ailenwi gan y Ddeddf hon) i gynnal adolygiad i sefydlu etholaethau Senedd newydd y bydd Aelodau o’r Senedd i’w hethol iddynt yn yr etholiad cyffredinol sydd i’w gynnal ar ôl 6 Ebrill 2026 a chyn i’r set gyntaf o reoliadau a wneir o dan adran 49J o Ddeddf 2013 gymryd effaith, oherwydd newidiadau i system etholiadol y Senedd. Mae’n nodi’r rheolau a’r broses y mae rhaid i’r Comisiwn eu dilyn wrth benderfynu ar yr etholaethau hynny.

Etholiadau y mae’r Atodlen hon yn gymwys iddynt

46.Mae paragraff 1 yn nodi bod yr Atodlen hon yn gwneud darpariaeth ynghylch yr etholaethau yr etholir Aelodau o’r Senedd drostynt mewn etholiad cyffredinol a gynhelir ar ôl 6 Ebrill 2026. Golyga hyn y bydd yr Atodlen yn gymwys mewn perthynas ag etholiad cyffredinol y Senedd a gynhelir hyd at un mis calendr yn gynt na dyddiad yr etholiad cyffredinol cyffredin a amserlennir ar 7 Mai 2026. Mae’r paragraff hwn hefyd yn nodi y bydd etholaethau’r Senedd y darperir ar eu cyfer o dan yr Atodlen hon yn parhau ar waith hyd nes y bydd rheoliadau o dan adran 49J o Ddeddf 2013 (sy’n adran yn Rhan 3A o’r Ddeddf honno, fel y’i mewnosodwyd gan Atodlen 3 i’r Ddeddf hon) yn cymryd effaith, neu os caiff yr etholaethau eu newid fel arall o dan unrhyw ddeddfiad.

Etholaethau’r Senedd ac adolygiad ffiniau 2026

47.Mae paragraff 2 yn darparu bod rhaid i bob etholaeth Senedd a sefydlir o dan yr Atodlen hon gynnwys dwy o etholaethau seneddol y DU yng Nghymru sy’n gyffiniol. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn gynnal adolygiad yn unol â’r Atodlen ac mae’n rhestru’r penderfyniadau y mae rhaid i’r Comisiwn eu gwneud yn yr adolygiad ffiniau hwn. Y rhain yw: pa etholaethau seneddol y DU yng Nghymru sy’n gyffiniol a gyfunir i greu ardaloedd yr 16 o etholaethau’r Senedd, enwau’r etholaethau hynny (gweler mwy ym pharagraff 5 o Atodlen 2) a pha un a yw pob etholaeth yn etholaeth sirol neu’n etholaeth fwrdeistrefol.

Hysbysiad cychwyn adolygiad ffiniau 2026

48.Mae paragraff 3 yn darparu bod rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi hysbysiad unwaith y mae’r adolygiad wedi cychwyn (yn unol â pharagraff 14, sy’n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw beth a gyhoeddir o dan yr Atodlen gael ei gyhoeddi ar wefan y Comisiwn, ac mewn unrhyw fodd arall y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol) a bod rhaid i’r hysbysiad hwnnw bennu’r dyddiad y cychwynnodd yr adolygiad arno. Mae’r paragraff hwn hefyd yn diffinio “dyddiad yr adolygiad” at ddibenion Atodlen 2 drwy gyfeirio at y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad cychwyn.

Y materion y caiff y Comisiwn eu hystyried yn adolygiad ffiniau 2026

49.Mae paragraff 4 yn rhestru’r ffactorau y caiff y Comisiwn eu hystyried wrth wneud penderfyniadau am gyfuniadau etholaethau seneddol y DU fel rhan o’r adolygiad ffiniau hwn. Y rhain yw: ffiniau llywodraeth leol sy’n bodoli; ystyriaethau daearyddol arbennig; ac unrhyw glymau lleol (gan gynnwys clymau lleol sy’n gysylltiedig â’r defnydd o’r Gymraeg) a fyddai’n cael eu torri gan y cyplysiadau arfaethedig.

Penderfynu ar enwau etholaethau’r Senedd

50.Mae paragraff 5 yn nodi sut y dylid penderfynu ar enwau etholaethau’r Senedd, a’r camau y mae rhaid i’r Comisiwn eu cymryd wrth benderfynu ar yr enwau hynny, gan gynnwys ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg ar orgraff unrhyw enw arfaethedig. Rhaid i’r etholaethau gael enw unigol i’w ddefnyddio yn Gymraeg ac yn Saesneg, oni bai yr ystyrir hyn yn annerbyniol gan y Comisiwn. Os felly, caniateir rhoi enwau gwahanol ar etholaethau i’w defnyddio wrth gyfathrebu’n Gymraeg ac yn Saesneg. Os bydd enwau gwahanol, mae’n ofynnol cynnwys y ddau enw yn y fersiynau Cymraeg a Saesneg o adroddiadau’r Comisiwn.

Adroddiad cychwynnol ar adolygiad ffiniau 2026 a’r cyfnod cyntaf ar gyfer sylwadau

51.Mae paragraff 6(1) yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn wneud adroddiad cychwynnol wedi iddo gyhoeddi’r hysbysiad cychwyn ac ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg ar orgraff yr enwau arfaethedig, ac sy’n manylu ynghylch yr hyn y mae rhaid i’r adroddiad hwnnw ei gynnwys. Mae paragraff 6(2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn (ymysg pethau eraill) gyhoeddi’r adroddiad cychwynnol a gwahodd sylwadau arno. Mae’r paragraff hwn hefyd yn darparu mai’r cyfnod cyntaf ar gyfer sylwadau yw cyfnod o bedair wythnos sy’n dechrau ar y dyddiad y cyhoeddir yr adroddiad cychwynnol. Rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg yn ystod y cyfnod hwn (ac ni chyfyngir yr ymgynghoriad hwn i orgraff yr enwau arfaethedig).

Ail adroddiad ar adolygiad ffiniau 2026 a’r ail gyfnod ar gyfer sylwadau

52.Mae paragraff 7 yn nodi’r camau y mae rhaid i’r Comisiwn eu cymryd ar ôl y cyfnod cyntaf ar gyfer sylwadau, sef gofyniad i gyhoeddi’r sylwadau a gafwyd, ystyried ei gynigion gan roi sylw i’r sylwadau hynny ac ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg a rhoi sylw i unrhyw sylwadau a wnaed ganddo ar orgraff yr enwau arfaethedig os cynigir unrhyw newidiadau i enwau’r etholaethau. Ar ôl cymryd y camau sydd eu hangen a amlinellir ym mharagraff 7(1), mae paragraff 7(2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn wneud ail adroddiad ac mae’n manylu ynghylch yr hyn y dylai’r adroddiad ei gynnwys. Mae paragraff 7(3) yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn (ymysg pethau eraill) gyhoeddi’r ail adroddiad a gwahodd sylwadau arno. Mae paragraff 7(5) yn darparu mai’r ail gyfnod ar gyfer sylwadau yw cyfnod o bedair wythnos ac mae’n dechrau ar y dyddiad y cyhoeddir yr ail adroddiad. Rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg yn ystod y cyfnod hwn (ac ni chyfyngir yr ymgynghoriad hwn i orgraff yr enwau arfaethedig). Mae paragraff 7(6) yn nodi’r camau y mae rhaid i’r Comisiwn eu cymryd ar ôl yr ail gyfnod ar gyfer sylwadau, sy’n adlewyrchu’r camau y mae rhaid eu cymryd ar ôl y cyfnod cyntaf ar gyfer sylwadau.

Adroddiad terfynol ar adolygiad ffiniau 2026

53.Mae paragraff 8 yn darparu bod rhaid i’r Comisiwn, cyn 1 Ebrill 2025, wneud adroddiad terfynol ar adolygiad ffiniau 2026, a’i gyhoeddi, ac anfon yr adroddiad hwn at Weinidogion Cymru. Rhaid i’r adroddiad gadarnhau pa etholaethau seneddol y DU a gyfunwyd i greu’r 16 o etholaethau y Senedd, enw pob etholaeth a pha un a yw pob etholaeth yn etholaeth sirol neu’n etholaeth fwrdeistrefol. Rhaid i’r adroddiad bennu manylion unrhyw newidiadau i’r cynigion a nodir yn yr ail adroddiad ac esbonio pam y gwnaed y newidiadau hynny. Mae’r paragraff hwn yn darparu nad yw methu â chyflwyno adroddiad terfynol i Weinidogion Cymru erbyn 1 Ebrill 2025 yn gwneud yr adroddiad yn annilys. Mae’r paragraff hwn hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod yr adroddiad terfynol gerbron y Senedd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl iddynt gael yr adroddiad.

Gweithredu’r adroddiad terfynol gan Weinidogion Cymru

54.Mae paragraff 9 yn nodi’r manylion o sut y dylid gweithredu’r adroddiad terfynol. Rhaid i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau yn rhoi effaith i’r penderfyniadau yn adroddiad terfynol y Comisiwn cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 14 o wythnosau i’r dyddiad y gosodir yr adroddiad terfynol gerbron y Senedd, oni bai bod amgylchiadau eithriadol. Pan na wneir rheoliadau yn ystod y cyfnod hwnnw, rhaid i Weinidogion Cymru, o fewn 14 o wythnosau i’r dyddiad y gosodir yr adroddiad terfynol, osod datganiad yn nodi’r amgylchiadau eithriadol. Rhaid i Weinidogion Cymru barhau i osod datganiadau o’r fath bob pedair wythnos hyd nes bod y rheoliadau wedi eu gwneud. Nid yw rheoliadau o dan y paragraff hwn yn ddarostyngedig i unrhyw weithdrefn yn y Senedd, ond rhaid gosod yr offeryn statudol sy’n cynnwys y rheoliadau gerbron y Senedd. Mae’r paragraff hwn hefyd yn cynnwys darpariaeth drosiannol i sicrhau nad yw rheoliadau a wnaed oddi tano yn cael effaith hyd nes y diddymir y Senedd cyn yr etholiad cyffredinol cyntaf a gynhelir ar ôl 6 Ebrill 2026. Mae hyn yn sicrhau y gall yr etholaethau newydd gael eu creu mewn cyfraith, ond nid yw hyn yn effeithio ar ddychwelyd aelodau na chyfansoddiad y Senedd cyn etholiad pan fydd y system newydd y darparwyd ar ei chyfer gan y Ddeddf hon yn cymryd effaith.

Addasu’r adroddiad terfynol gan y Comisiwn

55.Mae paragraff 10 yn nodi’r camau y caiff neu y mae rhaid i’r Comisiwn a Gweinidogion Cymru eu cymryd os, ar ôl i’r adroddiad gael ei osod gerbron y Senedd ond cyn i reoliadau gael eu gwneud o dan baragraff 9, yw’r Comisiwn yn ystyried bod angen addasu’r adroddiad i gywiro gwall neu wallau mewn cysylltiad â materion a nodir ym mharagraff 8(2); mae hyn yn cynnwys cyhoeddi datganiad gan y Comisiwn yn pennu’r addasiadau a’r rhesymau dros eu gwneud, y mae rhaid i Weinidogion Cymru eu gosod gerbron y Senedd. Mae paragraff 10(5) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi effaith i’r adroddiad terfynol a’r addasiadau a nodir yn y datganiad o dan baragraff 10(2) wrth wneud rheoliadau o dan baragraff 9.

Dirprwyo swyddogaethau gan y Comisiwn o dan yr Atodlen hon

56.Mae paragraff 11 yn darparu y caiff y swyddogaethau adolygu ffiniau’r Senedd yn yr Atodlen hon gael eu dirprwyo gan y Comisiwn yn unol ag adran 13(1) o Ddeddf 2013.

Ni chaiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddydau i’r Comisiwn ynghylch swyddogaethau o dan yr Atodlen hon

57.Mae paragraff 12 yn darparu na chaniateir i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i’r Comisiwn o dan adran 14 o Ddeddf 2013 sy’n ymwneud ag arfer ei swyddogaethau adolygu ffiniau’r Senedd (fel y darperir ar eu cyfer gan yr Atodlen hon).

Dehongli

58.Mae paragraff 13 yn diffinio termau a ddefnyddir yn yr Atodlen hon.

59.Fel y nodir uchod, mae paragraff 14 yn darparu bod rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi hysbysiad, adroddiad neu ddogfen arall ar wefan y Comisiwn, ac mewn unrhyw fodd arall y mae’n ystyried ei fod yn briodol.

Adran 18 – Etholaethau’r Senedd ar gyfer etholiadau cyffredinol a gynhelir ar ôl i reoliadau o dan adran 49J o Ddeddf 2013 gymryd effaith

60.Mae adran 18 yn cyflwyno Atodlen 3, sy’n mewnosod Rhan 3A newydd yn Neddf 2013 sy’n gwneud darpariaeth am etholaethau’r Senedd yr etholir Aelodau o’r Senedd drostynt mewn etholiadau cyffredinol a gynhelir ar ôl i’r set gyntaf o reoliadau a wneir o dan adran 49J o Ddeddf 2013 gymryd effaith.

Atodlen 3:  Rhan Newydd 3a O Ddeddf 2013

61.Cyflwynir Atodlen 3 gan adran 18.

62.Mae’r Atodlen hon yn gwneud darpariaeth i’r Comisiwn gynnal adolygiadau rheolaidd o ffiniau etholaethau’r Senedd y bydd Aelodau o’r Senedd yn cael eu hethol drostynt mewn etholiadau cyffredinol i’w cynnal ar ôl i’r set gyntaf o reoliadau a wneir o dan adran 49J o Ddeddf 2013 gymryd effaith. Mae’n nodi’r rheolau a’r prosesau y mae rhaid i’r Comisiwn eu dilyn wrth adolygu’r ffiniau ac wrth benderfynu ar ba newidiadau i’w gwneud.

Rhan 3A o Ddeddf 2013

63.Mae paragraff 1 o Atodlen 3 yn mewnosod Rhan 3A newydd yn Neddf 2013, fel a nodir yn y paragraffau isod:

64.Mae adran 49A yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn gynnal adolygiad ffiniau unwaith ym mhob cyfnod adolygu, gydag is-adran (5) yn diffinio hyd y cyfnod adolygu fel cyfnod sy’n dechrau ag 1 Ebrill 2025 ac sy’n dod i ben ar 30 Tachwedd 2028, cyfnod o wyth mlynedd sy’n dechrau ag 1 Rhagfyr 2028 a phob cyfnod dilynol o wyth mlynedd. Mae adran 49A yn nodi’r materion y mae rhaid i’r Comisiwn benderfynu arnynt os yw’n ystyried y dylid newid ffiniau etholaeth Senedd. Mae’r adran hon hefyd yn darparu, hyd yn oes os na fydd ffiniau etholaeth Senedd yn newid, y caniateir i’r Comisiwn barhau i newid ei enw, neu ei statws fel etholaeth sirol neu fwrdeistrefol.

65.Mae adran 49B yn darparu bod rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi hysbysiad unwaith y bydd yr adolygiad wedi cychwyn (yn unol ag adran 49L(2), sy’n ei gwneud yn ofynnol bod rhaid i unrhyw beth a gyhoeddir o dan Ran 3A gael ei gyhoeddi ar wefan y Comisiwn ac mewn unrhyw fodd arall y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol), a rhaid i hysbysiad o’r fath bennu’r dyddiad y cychwynnodd yr adolygiad. Mae’r adran hon hefyd yn diffinio “dyddiad yr adolygiad” at ddibenion Rhan 3A o Ddeddf 2013 drwy gyfeirio at y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad cychwyn.

66.Mae adran 49C yn nodi’r rheolau y mae rhaid i’r Comisiwn eu dilyn wrth gynnal ei adolygiadau:

  • Mae is-adran (1) yn ei gwneud yn ofynnol i bob etholaeth Senedd fod o fewn amrywiad cwota etholiadol o ddim llai na 90% a dim mwy na 110% o’r cwota etholiadol. Diffinnir y cwota etholiadol yn is-adran (3)(b) o’r adran hon.

  • Mae is-adran (2)(a) yn darparu ar gyfer rhestr o ffactorau y caiff y Comisiwn roi sylw iddynt wrth benderfynu pa un a ddylid newid ffiniau etholaethau’r Senedd a beth y dylai’r newidiadau hynny fod. Mae is-adran (2)(b) yn datgan bod rhaid i’r Comisiwn, mewn unrhyw achos, geisio sicrhau y gwneir cyn lleied o newidiadau â phosibl i ffiniau etholaethau’r Senedd a rhoi sylw i’r anghyfleustra a achosir drwy wneud unrhyw newidiadau. Bwriad is-adran (2)(b) yw gorfodi’r Comisiwn i ystyried y ffaith bod canlyniadau gweinyddol ac ymarferol i wneud newidiadau i etholaethau, ac i anelu i achosi’r newid lleiaf posibl i etholaethau’r Senedd. Mae’r ddyletswydd hon yn gymwys ym mhob achos, gan gynnwys yng nghyd-destun pwerau’r Comisiwn i ystyried unrhyw un neu ragor o’r materion a restrir yn is-adran (2)(a). Caiff y Comisiwn ystyried, er enghraifft, ffiniau wardiau etholaethol presennol; ond wrth ystyried y wardiau hynny (ac, er enghraifft, ddod i’r casgliad na ddylai ffiniau etholaeth Senedd dorri ar draws ffiniau ward) dylai’r Comisiwn barhau i sicrhau’r newid lleiaf posibl i etholaethau’r Senedd. Nid bwriad y ddarpariaeth hon yw gorfodi’r Comisiwn i gyfyngu ei hun i’r newidiadau hynny’n unig sy’n hanfodol i etholyddiaeth etholaeth fod o fewn yr ystod cwota etholiadol yn is-adran (1).

  • Mae is-adran (3) yn diffinio’r etholyddiaeth a’r cwota etholiadol at ddibenion is-adran (1).

  • Mae is-adran (4) yn pennu pa fersiwn o’r gofrestr o etholwyr llywodraeth leol y dylid ei defnyddio i benderfynu’r cwota etholiadol ar gyfer pob adolygiad.

  • Mae is-adran (5), a ddarllenir gydag is-adran (2)(a)(i), yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn ystyried darpar ffiniau ar ddyddiad yr adolygiad.

  • Mae is-adran (6) yn diffinio “darpar ffin” at ddibenion is-adran (5).

67.Mae adran 49D yn nodi sut y dylid penderfynu ar enwau etholaethau’r Senedd, a pha gamau y mae rhaid i’r Comisiwn eu cymryd wrth benderfynu ar yr enwau hynny, gan gynnwys ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg ar orgraff unrhyw enw arfaethedig. Rhaid i etholaethau gael enw unigol i’w ddefnyddio wrth gyfathrebu’n Gymraeg ac yn Saesneg, oni bai yr ystyrir hyn yn annerbyniol gan y Comisiwn. Os felly, caniateir rhoi enwau gwahanol ar etholaethau i’w defnyddio wrth gyfathrebu’n Gymraeg ac yn Saesneg. Os bydd enwau gwahanol, mae’n ofynnol cynnwys y ddau enw yn y fersiynau Cymraeg a Saesneg o adroddiadau’r Comisiwn.

68.Mae adran 49E(1) yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn wneud adroddiad cychwynnol ar ôl iddo gyhoeddi’r hysbysiad cychwyn ac ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg ar orgraff yr enwau arfaethedig ar gyfer yr etholaethau (os yw’n cynnig newidiadau i unrhyw un neu ragor o’r enwau) a manylion ynghylch yr hyn y mae rhaid i’r adroddiad hwnnw ei gynnwys. Mae adran 49E(2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn (ymysg pethau eraill) gyhoeddi’r adroddiad cychwynnol a gwahodd sylwadau arno. Mae’r adran hon hefyd yn darparu mai’r cyfnod cyntaf ar gyfer sylwadau yw cyfnod o wyth wythnos, gan ddechrau â’r dyddiad y cyhoeddir yr adroddiad cychwynnol. Rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg yn ystod y cyfnod hwn (ac ni chyfyngir yr ymgynghoriad hwn i orgraff yr enwau arfaethedig).

69.Mae adran 49F yn nodi’r camau y mae rhaid i’r Comisiwn eu cymryd ar ôl y cyfnod cyntaf ar gyfer sylwadau, gan gynnwys y gofyniad yn is-adran (1) i gyhoeddi unrhyw sylwadau a gafwyd yn ystod y cyfnod hwnnw. Unwaith y cyhoeddir y sylwadau (ar ôl y cyfnod cyntaf), bydd yr ail gyfnod ar gyfer sylwadau yn cychwyn ac yn para am chwe wythnos, gan ddechrau â’r dyddiad y caiff y ddogfen sy’n amlinellu’r sylwadau a gafwyd, fel y crybwyllir yn is-adran (1), ei chyhoeddi. Rhaid i’r Comisiwn hysbysu unrhyw berson y mae’n ystyried ei fod yn briodol am sut i gael mynediad at y ddogfen a gwahodd sylwadau pellach ar y sylwadau a wnaed yn y ddogfen. Mae’n ofynnol i’r Comisiwn hefyd gyhoeddi gwybodaeth ynghylch gwrandawiadau cyhoeddus, gan gynnwys ymhle a phryd y’u cynhelir (mae adran 49G yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch gwrandawiadau cyhoeddus). Mae is-adran (4) yn diffinio “cyfleusterau o bell” yng nghyd-destun gwrandawiadau cyhoeddus.

70.Mae adran 49G yn nodi’r manylion am faint o wrandawiadau cyhoeddus sydd i’w cynnal yn ystod yr ail gyfnod ar gyfer sylwadau ac mae’n disgrifio sut y dylid cynnal y gwrandawiadau hynny.

71.Mae adran 49H yn nodi’r camau y mae rhaid i’r Comisiwn eu cymryd ar ddiwedd yr ail gyfnod ar gyfer sylwadau. Rhaid i’r Comisiwn ystyried ei gynigion yn gyntaf gan roi sylw i’r sylwadau a wnaed yn ystod y cyfnod cyntaf a’r ail gyfnod ar gyfer sylwadau. Os cynigir newidiadau i enwau’r etholaethau gan y Comisiwn na chawsant eu cynnig yn yr adroddiad cychwynnol, rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg, a rhoi sylw i unrhyw sylwadau a wnaed gan Gomisiynydd y Gymraeg, ar orgraff yr enwau hynny. Rhaid i’r Comisiwn yna wneud a chyhoeddi ail adroddiad, y mae rhaid iddo nodi manylion unrhyw newidiadau a wnaed gan y Comisiwn i’r cynigion a nodir yn yr adroddiad cychwynnol ac eglurhad dros wneud y newidiadau hynny, neu ddatganiad nad yw’n ystyried bod unrhyw newid yn briodol. Rhaid i’r Comisiwn hefyd gyhoeddi dogfen sy’n cynnwys unrhyw sylwadau a gafwyd yn ystod yr ail gyfnod ar gyfer sylwadau a chofnodion y gwrandawiadau cyhoeddus. Mae adran 49H hefyd yn darparu ar gyfer trydydd cyfnod a chyfnod terfynol ar gyfer sylwadau sy’n para am bedair wythnos (gan ddechrau ar y dyddiad y cyhoeddir yr ail adroddiad). Rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg yn ystod y cyfnod hwn (ac nid yw’r ymgynghoriad hwn wedi ei gyfyngu i orgraff yr enwau arfaethedig ar yr etholaethau). Mae adran 49H yn amlinellu’r camau y dylai’r Comisiwn eu cymryd ar ddiwedd y cyfnod terfynol ar gyfer sylwadau. Mae’r rhain yn golygu cyhoeddi unrhyw sylwadau a gafwyd yn ystod y cyfnod terfynol ac ystyried ei gynigion gan roi sylw i’r sylwadau hynny. Mae hyn yn cynnwys gofyniad pellach i ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg ar orgraff yr enwau pan fo’rr Comisiwn yn cynnig newidiadau sy’n ymwneud ag enwau etholaethau’r Senedd nad oeddent wedi eu cynnwys yn yr ail adroddiad.

72.Mae adran 49I yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn wneud a chyhoeddi adroddiad terfynol cyn 1 Rhagfyr 2028, a chyn 1 Rhagfyr bob wyth mlynedd ar ôl hynny, ac anfon yr adroddiad hwnnw at Weinidogion Cymru. Mae’r adran hon yn nodi yr hyn y mae rhaid ei gynnwys mewn adroddiad terfynol, gan gynnwys naill ai manylion unrhyw newidiadau sy’n ofynnol i’w gwneud i etholaethau’r Senedd neu ddatganiad nad yw’n ofynnol gwneud unrhyw newidiadau, yn ogystal ag amlinellu manylion unrhyw newidiadau i’r cynigion a nodir yn yr ail adroddiad ynghyd â’r rheswm am y newidiadau hynny. Mae is-adrannau (3) a (4) yn rhestru yr hyn y mae rhaid i’r adroddiad ei nodi yn benodol pan fo’n ofynnol gwneud newidiadau. Mae hyn yn benodol yn cynnwys gofyniad i nodi ffiniau ac enwau’r holl etholaethau hyd yn oed os yw’r newidiadau’n gysylltiedig â rhai etholaethau’n unig. Mae’r adran hon yn darparu nad yw methu â chyflwyno adroddiad terfynol i Weinidogion Cymru cyn y terfyn amser yn golygu bod yr adroddiad yn annilys. Mae’r adran hon hefyd yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru osod yr adroddiad terfynol gerbron y Senedd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl iddynt ei gael.

73.Mae adran 49J yn manylu ynghylch sut y mae rhaid i Weinidogion Cymru weithredu adroddiad terfynol. Pan fo’n ofynnol gwneud newidiadau i etholaethau’r Senedd, rhaid i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau yn rhoi effaith i’r penderfyniadau yn adroddiad terfynol y Comisiwn cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl gosod yr adroddiad gerbron y Senedd ac mewn unrhyw achos, oni bai bod amgylchiadau eithriadol, cyn diwedd y cyfnod o 4 mis. Mae’r adran hon hefyd yn nodi’r camau y mae rhaid i Weinidogion Cymru eu cymryd os nad yw’r rheoliadau wedi eu gwneud o fewn y cyfnod penodedig, sy’n union yr un fath â’r camau sy’n ofynnol o dan baragraff 9 o Atodlen 2 i’r Ddeddf. Dylid gwneud rheoliadau o dan yr adran hon drwy offeryn statudol, ac er nad ydynt yn ddarostyngedig i unrhyw weithdrefn yn y Senedd, rhaid gosod yr offeryn statudol sy’n cynnwys y rheoliadau gerbron y Senedd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r rheoliadau gael eu gwneud. Mae is-adran (8) yn darparu nad yw dod i rym y rheoliadau yn effeithio ar ddychwelyd Aelod o’r Senedd na chyfansoddiad y Senedd hyd nes y diddymir y Senedd mewn cysylltiad â’r etholiad cyffredinol cyffredin nesaf, neu etholiad cyffredinol eithriadol a gynhelir ar y diwrnod y byddai’r etholiad cyffredinol cyffredin nesaf wedi ei gynnal arno, neu etholiad cyffredinol eithriadol a gynhelir yn ystod y mis cyn hynny.

74.Mae adran 49K yn disgrifio sut y caniateir addasu adroddiad terfynol mewn unrhyw achos pan nodir gwallau gan y Comisiwn, ar ôl iddo gael ei osod gerbron y Senedd ond cyn i reoliadau gael eu gwneud o dan adran 49J. Mae’r adran hon yn darparu manylion y camau y caiff neu y mae rhaid i’r Comisiwn a Gweinidogion Cymru eu cymryd yn yr achos hwnnw, gan gynnwys cyhoeddi a gosod datganiad sy’n pennu’r addasiadau a’r rhesymau dros yr addasiadau hynny. Mae is-adran (5) yn ei gwneud yn ofynnol i’r rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 49J adlewyrchu’r adroddiad terfynol ac unrhyw addasiadau a bennir yn y datganiad a wneir o dan yr adran hon.

75.Mae adran 49L yn diffinio termau a ddefnyddir yn Rhan 3A o Ddeddf 2013. Mae’r adran hon hefyd yn nodi sut y dylai’r Comisiwn gyhoeddi unrhyw hysbysiadau, adroddiadau a dogfennau eraill sy’n ofynnol o dan y Rhan hon.

Diwygiadau cysylltiedig

76.Mae paragraff 2 o Atodlen 3 yn nodi diwygiadau cysylltiedig i Ddeddf 2013 a Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”). Mae paragraff 2(2) yn diwygio’r trosolwg yn adran 1 o Ddeddf 2013 i gynnwys cyfeiriad at Ran 3A newydd o’r Ddeddf. Mae paragraff 2(3) yn diwygio adran 13 i ganiatáu dirprwyo swyddogaethau adolygu ffiniau etholaethau’r Senedd i aelodau penodol o’r Comisiwn a chomisiynwyr cynorthwyol. Mae paragraff 2(4) yn diwygio adran 14 o Ddeddf 2013 fel na chaiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddydau i’r Comisiwn sy’n ymwneud ag arfer ei swyddogaethau mewn cysylltiad ag adolygiadau ffiniau etholaethau’r Senedd. Mae gweddill y darpariaethau yn y paragraff hwn yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau technegol.

Darpariaeth drosiannol

77.Mae paragraff 3 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru, wrth wneud y set gyntaf o reoliadau o dan adran 49J, nodi ffiniau ac enwau pob un o 16 o etholaethau’r Senedd, a nodi pa un a ydynt yn etholaeth sirol neu’n etholaeth fwrdeistrefol. Mae hyn yn gymwys pa un a yw’r adroddiad terfynol ar yr adolygiad cyntaf o ffiniau a gynhaliwyd o dan Ran 3A o Ddeddf 2013 yn pennu bod newidiadau yn ofynnol i etholaethau’r Senedd ai peidio. Mae paragraff 3(2) yn gwneud addasiad trosiannol i’r effaith fod y diffiniad o’r term “etholaeth Senedd” yn adran 49L(1) i’w ddarllen fel cyfeiriad at reoliadau a wneir o dan baragraff 9 o Atodlen 2 i’r Ddeddf (ar ôl yr adolygiad a gynhelir o dan yr Atodlen honno) hyd nes y bydd y set gyntaf o reoliadau o dan adran 49J yn cymryd effaith.

Rhan 5 – Adolygiad O Weithrediad Y Ddeddf Etc. a Darpariaethau Cyffredinol

Adolygiad o weithrediad y Ddeddf etc.

78.Mae’r Rhan hon yn darparu ar gyfer gofyniad i’r Llywydd i gyflwyno cynnig i’r Senedd ystyried adolygiad o weithrediad ac effaith darpariaethau Deddf 2006, fel y’u diwygir gan y Ddeddf, yn dilyn etholiad 2026. Mae’r Rhan hon hefyd yn cynnwys: pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol a darpariaeth drosiannol, pŵer i osod terfynau gwariant ymgyrchoedd y Senedd, darpariaethau ynghylch gweithdrefn y Senedd sydd i fod yn gymwys i reoliadau a wneir o dan adran 20 neu 21 o’r Ddeddf, adran ddehongli, darpariaethau trosiannol mewn perthynas â Rhan 1 a 2, a darpariaethau ynghylch cychwyn ac enw byr y Ddeddf.

Adran 19 – Adolygiad o weithrediad y Ddeddf etc. ar ôl etholiad cyffredinol 2026

79.Mae adran 19 yn gosod dyletswydd ar y Llywydd i gyflwyno cynnig i’r Senedd sefydlu pwyllgor i adolygu gweithrediad ac effaith Rhan 1 (“y Senedd a Gweinidogion Cymru”) a Rhan 2 (“y System Bleidleisio mewn Etholiadau Cyffredinol y Senedd a Dyrannu Seddi”) o’r Ddeddf hon, yn ogystal ag adolygu’r graddau y mae elfennau democratiaeth iach yn bresennol yng Nghymru.

80.Os yw’r Senedd yn cytuno ar gynnig i sefydlu pwyllgor i gynnal adolygiad o’r fath, mae’n bosibl y bydd yr adolygiad yn ystyried materion megis:

(i).)

effeithiau’r system bleidleisio newydd ar gyfranoldeb;

(ii).)

cyflwyno etholaethau aml-aelod;

(iii).)

y profiad o ddefnyddio rhestrau caeedig.

81.Yn y pen draw, penderfyniad i’r Senedd, o ran y cynnig y bydd yn cytuno arno (os bydd yn cymeradwyo unrhyw gynnig o’r fath) a’r pwyllgor ei hun fydd penderfynu yr hyn y dylid ei ystyried yn ei adolygiad, a sut y dylid cynnal yr adolygiad hwnnw. Wrth ystyried effaith y system bleidleisio newydd, mae ystod o faterion ac egwyddorion y gallai’r pwyllgor eu hystyried, gan gynnwys yr egwyddorion a osodir gan y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol (megis cyfranoldeb, symlrwydd, a’r graddau y mae’r system newydd wedi cyflawni Senedd sy’n adlewyrchu pobl Cymru).

82.Mae’n bosibl y bydd pwyllgor a sefydlir gan y Senedd o dan adran 19 hefyd yn dymuno cynnal asesiad o unrhyw faterion eraill diwygio’r Senedd y mae’n ystyried eu bod yn berthnasol, megis:

(i).)

ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o etholiadau a llywodraeth ddatganoledig Cymru;

(ii).)

asesiad o’r lefelau pleidleisio ac archwiliad o gynigion ar sut y gellir eu cynyddu;

(iii).)

cymorth ar gyfer aelodau a phleidiau i ymgymryd â’u rolau yn y Senedd;

(iv).)

y seilwaith sydd ar waith i gefnogi democratiaeth gref yng Nghymru,

  • ond bydd hyn fater i’r pwyllgor ei hun, yn ddarostyngedig i delerau’r cynnig a’i sefydlodd (ac unrhyw gynnig perthnasol arall).

83.Rhaid i’r cynnig gael ei gyflwyno cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyfarfod cyntaf y Senedd a ddychwelir mewn etholiad cyffredinol a gynhelir ar ôl 6 Ebrill 2026, ond mewn unrhyw achos o fewn 6 mis i’r cyfarfod hwnnw, a rhaid iddo gynnig bod rhaid i’r pwyllgor gwblhau ei adroddiad o fewn 12 mis i’r cyfarfod hwnnw.

84.Pe byddai’r Senedd yn cytuno ar gynnig i sefydlu pwyllgor o’r fath, a chynnal adolygiad o’r fath, yn unol â’r adran hon, ac os yw’r pwyllgor hwnnw wedyn yn gosod adroddiad gerbron y Senedd, yna mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru osod datganiad gerbron y Senedd sy’n amlinellu eu hymateb i’r adroddiad hwnnw.

Cyffredinol

Adran 20 – Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth drosiannol etc.

85.Mae adran 20 yn darparu pŵer i wneud darpariaeth ar gyfer dibenion penodol sy’n gysylltiedig â gweithredu’r Ddeddf. Mae hyn yn cynnwys pŵer i ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth arall. Pan ddefnyddir y pŵer i ddiwygio, dirymu neu addasu deddfwriaeth sylfaenol, mae’r Offeryn Statudol canlyniadol yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol yn y Senedd (gweler adran 22); fel arall, mae’n ddarostyngedig i’r weithdrefn negyddol.

Adran 21 – Pŵer i osod terfynau gwariant ymgyrchoedd etholiadol y Senedd mewn cysylltiad ag adran 1 a Rhan 2

86.Mewn cysylltiad â’r newidiadau a wnaed gan adran 1 (y nifer o Aelodau o’r Senedd ac etholaethau’r Senedd) a Rhan 2 (y system bleidleisio mewn etholiadau cyffredinol y Senedd a Dyrannu Seddi), mae adran 21 yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i ddiwygio paragraff 6 o Atodlen 9 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (terfynau ar wariant ymgyrch) er mwyn gosod y terfynau ar wariant ymgyrch yr eir iddo gan neu ar ran plaid gofrestredig sy’n ymladd am seddi mewn etholiad cyffredinol i’r Senedd.

87.Caniateir i derfynau o’r fath gael eu gosod unai drwy gyfeirio at nifer yr etholaethau y mae’r blaid yn eu hymladd mewn etholiad cyffredinol, neu nifer yr ymgeiswyr ar restr neu restrau ymgeiswyr plaid, neu’r ddau ohonynt. Mae’r pŵer hwn yn cynnwys pŵer i ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth arall.

88.Ni chaniateir gwneud rheoliadau o dan adran 21 ond â chydsyniad y Comisiwn Etholiadol ac maent yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol yn y Senedd.

Adran 22 – Rheoliadau o dan y Ddeddf hon

89.Mae adran 22 yn gwneud darpariaeth gyffredinol ynghylch rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf (ac eithrio’r rhai a wneir o dan baragraff 9 o Atodlen2; gellir gweld y ddarpariaeth sy’n ymwneud â gwneud y diwygiadau hynny yn Atodlen 2ei hun), gan gynnwys gweithdrefnau’r Senedd sy’n gymwys i’r rheoliadau hynny.

Adran 23 – Dehongli

90.Mae adran 23 yn diffinio ymadroddion penodol a ddefnyddir yn y Ddeddf, ac yn nodi ymhle y mae modd gweld diffiniadau o ymadroddion penodol eraill yn y Ddeddf.

Adran 24 – Darpariaeth drosiannol sy’n ymwneud â Rhannau 1 a 2

91.Mae adran 24 yn gwneud darpariaeth drosiannol sy’n ymwneud â Rhannau 1 a 2.

92.Mae confensiwn sy’n nodi y dylai newidiadau i gyfraith etholiadol ddod i rym o leiaf 6 mis cyn dyddiad hysbysiad o’r etholiad y mae’n weithredol iddo gyntaf. Bwriad hyn yw rhoi sicrwydd i weinyddwyr etholiadol ynghylch y gyfraith sy’n llywodraethu etholiad sydd ar ddod ac er mwyn rhoi digon o amser i baratoi ar ei gyfer, gan gynnwys amser i ddeall a rhoi effaith i newidiadau i’r gyfraith. Am y rheswm hwn, er bod adran 25 yn darparu ar gyfer y newidiadau a wneir gan y Ddeddf hon i faint y Senedd, etholaethau, y system bleidleisio ac anghymhwyso ymgeiswyr ac Aelodau, ynghyd â’r diwygiadau cysylltiedig i ddeddfiadau eraill (gweler adran 10), i ddod i rym ddeufis ar ôl cael y Cydsyniad Brenhinol, effaith adran 24 yw oedi’r newidiadau hynny rhag cymryd effaith hyd nes y cynhelir yr etholiad cyffredinol cyntaf ar 7 Ebrill 2026 neu wedi hynny (at y dibenion hyn, dyddiad y bleidlais ar gyfer yr etholiad cyffredinol sy’n berthnasol). Y dyddiad hwnnw yw’r dyddiad cynharaf y gallai’r Llywydd, o dan adran 4 o Ddeddf 2006, gynnig y bleidlais ar gyfer yr etholiad cyffredinol cyffredin nesaf a amserlennir (sydd, o dan adran 3 o Ddeddf 2006, wedi ei hamserlennu ar gyfer 7 Mai 2026). Canlyniad adran 24 yw y byddai unrhyw etholiad cyffredinol a gynhelir cyn y dyddiad hwnnw yn cael ei gynnal o dan y gyfraith bresennol h.y. y system etholiadol aelodau cymysg y darperir ar ei chyfer yn Neddf 2006. Yn yr un modd, ni fydd newidiadau eraill y Ddeddf a grybwyllir yn adran 24(1) a (2) (gan gynnwys, er enghraifft, y newidiadau i’r ffordd yr ymdrinnir â seddi gwag sy’n codi rhwng etholiadau cyffredinol) yn cymryd effaith mewn cysylltiad ag unrhyw Senedd a ddychwelir o ganlyniad i bleidlais a gynhelir cyn 7 Ebrill 2026.

93.Mae adran 3 o’r Ddeddf yn lleihau’r amser rhwng etholiadau cyffredinol cyffredin i bedair blynedd ac mae adran 25 yn darparu i’r newid hwnnw ddod i rym ar y diwrnod ar ôl diwrnod y bleidlais ar gyfer yr etholiad cyffredinol cyntaf a gynhelir ar ôl 7 Tachwedd 2025. Mae adran 24(3) a (4) yn cadarnhau, os cynhelir etholiad cyffredinol eithriadol ar ôl y dyddiad hwnnw ond cyn yr etholiad cyffredinol cyffredin sydd wedi ei drefnu ar gyfer Mai 2026 (a fyddai’n arwain at yr etholiad cyffredinol cyffredin hwnnw yn peidio â chael ei gynnal: gweler adran 5(5) o Ddeddf 2006), y cynhelir yr etholiad cyffredinol cyffredin nesaf yn 2030.

Adran 25 – Dod i rym

94.Mae adran 25 yn gwneud darpariaeth ar gyfer pan ddaw’r Ddeddf i rym fel a ganlyn:

(i).)

Daw Rhan 3, adran 17, Rhan 5 (ac eithrio adran 20), ac Atodlen 2 i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol.

(ii).)

Daw adrannau 1, 2, 6, 7, 18, 19,21, Rhan 2, ac Atodlen 3 i rym ddau fis ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol.

(iii).)

Daw adran 3 i rym drannoeth diwrnod y bleidlais ar gyfer yr etholiad cyffredinol cyntaf a gynhelir ar ôl 7 Tachwedd 2025.

(iv).)

Daw adrannau 4 a 5 i rym drannoeth diwrnod y bleidlais ar gyfer yr etholiad cyffredinol cyntaf a gynhelir ar ôl 6 Ebrill 2026.

Adran 26 – Enw byr

95.Mae’r adran hon yn darparu mai enw byr y Ddeddf yw Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024.

Atodlen 1: Mân Ddiwygiadau a Diwygiadau Canlyniadol Sy’N Ymwneud  Rhan 3

96.Cyflwynir Atodlen 1 gan adrannau 11 a 12. Mae paragraffau 37-38 o’r Nodiadau Esboniadol hyn yn darparu nodiadau ar Atodlen 1.

Atodlen 2: Etholaethau’R Senedd Ar Gyfer Yr Etholiad Cyffredinol Cyntaf Ar Ôl 6 Ebrill 2026

97.Cyflwynir Atodlen 2 gan adran 17. Mae paragraffau 44-59 o’r Nodiadau Esboniadol hyn yn darparu nodiadau ar Atodlen 2.

Atodlen 3: Rhan Newydd 3a O Ddeddf 2013

98.Cyflwynir Atodlen 3 gan adran 18. Mae paragraffau 61-77 o’r Nodiadau Esboniadol hyn yn darparu nodiadau ar Atodlen 3.

Cofnod Y Trafodion Yn Senedd Cymru

99.Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o hynt y Ddeddf drwy’r Senedd. Gellir cael Cofnod y Trafodion a rhagor o wybodaeth am hynt y Ddeddf hon ar wefan y Senedd ar:

  • https://busnes.senedd.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=41915

    CyfnodDyddiad
    Cyflwynwyd18 Medi 2023
    Cyfnod 1 – Dadl30 Ionawr 2024
    Cyfnod 2 Pwyllgor Craffu – ystyried y gwelliannau5 Mawrth 2024 a 6 Mawrth 2024
    Cyfnod 3 Cyfarfod Llawn – ystyried y gwelliannau30 Ebrill 2024
    Cyfnod 4 Cymeradwywyd gan y Senedd8 Mai 2024
    Y Cydsyniad Brenhinol24 Mehefin 2024

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Nodiadau Esboniadol

Testun a grëwyd gan yr adran o Lywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am bwnc y Ddeddf i esbonio beth mae’r Ddeddf yn ceisio ei wneud ac i wneud y Ddeddf yn hygyrch i ddarllenwyr nad oes ganddynt gymhwyster cyfreithiol. Mae Nodiadau Esboniadol yn cyd-fynd â holl Ddeddfau Senedd Cymru.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill