xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5LL+CADOLYGIAD O WEITHREDIAD Y DDEDDF ETC. A DARPARIAETHAU CYFFREDINOL

CyffredinolLL+C

Rhagolygol

21Pŵer i osod terfynau gwariant ymgyrchoedd etholiadol y Senedd mewn cysylltiad ag adran 1 a Rhan 2LL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau, mewn cysylltiad ag adran 1 a Rhan 2, ddiwygio paragraff 6 o Atodlen 9 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p. 41) (terfynau ar wariant ymgyrch) i osod y terfynau sy’n gymwys i wariant ymgyrch yr eir iddo gan neu ar ran plaid gofrestredig sy’n ymladd un neu ragor o etholaethau mewn etholiad cyffredinol.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) bennu terfynau drwy gyfeirio at y naill neu’r llall neu’r ddau o’r canlynol—

(a)nifer yr etholaethau a ymleddir gan blaid mewn etholiad cyffredinol;

(b)nifer yr ymgeiswyr ar restr a gyflwynir gan blaid o dan adran 7 o Ddeddf 2006.

(3)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud—

(a)darpariaeth atodol, darpariaeth ddeilliadol neu ddarpariaeth ganlyniadol;

(b)darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed,

a chaiff darpariaeth o’r fath ddiwygio, diddymu, dirymu neu addasu’r Ddeddf hon neu unrhyw ddeddfiad arall (pa bryd bynnag y caiff ei basio neu y’i gwneir).

(4)Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan is-adran (1) ond pan fo’r Comisiwn Etholiadol yn cydsynio i hynny.

(5)Yn yr adran hon, mae i “gwariant ymgyrch” a “plaid gofrestredig” yr un ystyr â “campaign expenditure” a “registered party” ym mharagraff 6 o Atodlen 9 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 21 mewn grym ar 24.8.2024, gweler a. 25(2)(e)