Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Rhan 1 Gweinyddu a Chofrestru Etholiadol

Pennod 1: Cydlynu Gwaith Gweinyddu Etholiadol
Adran 1 - Bwrdd Rheoli Etholiadol Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru

15.Mae’r adran hon o’r Ddeddf yn mewnosod Rhan 2A yn Neddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013 (“Deddf 2013”) (fel y’i hailenwir gan Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024), sy’n cynnwys adrannau newydd 20A i 20I. Mae’r Rhan hon yn disgrifio swyddogaeth gyffredinol y Comisiwn o gydlynu’r gwaith o weinyddu etholiadau’r Senedd ac etholiadau lleol yng Nghymru, ynghyd ag unrhyw refferenda datganoledig yng Nghymru. Mae’r Rhan hefyd yn nodi’r trefniadau i sefydlu’r Bwrdd.

Adran 20A - Swyddogaethau gweinyddu etholiadol

16.Mae adran 20A yn disgrifio’n fwy manwl swyddogaeth gyffredinol y Comisiwn o gydlynu’r gwaith o weinyddu etholiadau a refferenda Cymreig. Mae is-adrannau (2) a (3) yn cadarnhau bod y swyddogaeth yn cynnwys—

(i)

cynorthwyo swyddogion canlyniadau, awdurdodau lleol a phersonau eraill i gyflawni eu swyddogaethau mewn perthynas ag etholiadau a refferenda Cymreig;

(ii)

hybu arferion gorau mewn etholiadau a refferenda Cymreig, er enghraifft drwy ddarparu gwybodaeth, cyngor neu hyfforddiant i’r rhai sy’n ymwneud â gweinyddu’r etholiadau; a

(iii)

darparu gwybodaeth, cyngor neu gymorth arall i Weinidogion Cymru ynghylch gweinyddu etholiadau a refferenda Cymreig.

Adran 20B - Cyfarwyddiadau i swyddogion canlyniadau

17.Mae adran 20B yn darparu pŵer i’r Comisiwn i ddyroddi cyfarwyddydau ysgrifenedig i swyddogion canlyniadau ynghylch cyflawni eu swyddogaethau mewn perthynas ag etholiadau a refferenda Cymreig. Enghraifft o gyfarwyddydau y gellid eu dyroddi allai fod cyfarwyddydau i sefydlu dyddiad cyson ledled Cymru ar gyfer dosbarthu papurau pleidleisio drwy’r post.

18.Nid oes rhaid dilyn cyfarwyddydau a ddyroddir gan y Comisiwn o dan yr adran hon os ydynt yn anghyson ag unrhyw ddyletswydd gyfreithiol a osodir ar y swyddog, neu’n ymwneud â swyddogaeth y swyddog sy’n ymwneud â phôl cyfun.

Adran 20C – Cyfarwyddiadau i swyddogion cofrestru etholiadol

19.Mae’r adran hon yn darparu pŵer i’r Comisiwn i ddyroddi cyfarwyddydau ysgrifenedig i swyddogion cofrestru etholiadol ynghylch cyflawni eu swyddogaethau mewn perthynas ag etholiadau a refferenda Cymreig. Fel yn achos cyfarwyddydau a ddyroddir i swyddogion canlyniadau, nid oes rhaid dilyn cyfarwyddyd a ddyroddir gan y Comisiwn o dan yr adran hon os yw’n anghyson ag unrhyw ddyletswydd gyfreithiol a osodir ar y swyddog cofrestru etholiadol.

Adran 20D – Ymgynghori â’r Comisiwn Etholiadol

20.Rhaid ymgynghori â’r Comisiwn Etholiadol cyn rhoi unrhyw gyfarwyddyd o dan adrannau 20B neu 20C.

Adran 20E – Y Bwrdd Rheoli Etholiadol

21.Mae adran 20E yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn sefydlu’r Bwrdd, a fydd yn gyfrifol am gyflawni swyddogaeth gweinyddu etholiadol y Comisiwn.

22.Wrth ymgymryd â’i waith, caiff y Bwrdd hefyd ddefnyddio pŵer y Comisiwn yn adran 12 o Ddeddf 2013 sy’n caniatáu iddo wneud pethau sy’n ategol i’r gwaith o arfer ei swyddogaethau eraill (ac eithrio benthyca arian, caffael eiddo heb gydsyniad Gweinidogion Cymru neu ffurfio cwmnïau).

Adran 20F – Aelodaeth o’r Bwrdd

23.Mae adran 20F yn nodi pwy fydd yn aelod o’r Bwrdd. Yn gryno, rhaid i’r Bwrdd gynnwys—

(i)

Cadeirydd, y mae rhaid iddo fod yn aelod o’r Comisiwn a benodwyd o dan adran 4 o Ddeddf 2013 ac sydd â phrofiad blaenorol o fod yn swyddog canlyniadau neu’n swyddog cofrestru etholiadol. Bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu ar ei delerau a’i amodau;

(ii)

un aelod arall o’r Comisiwn a benodwyd o dan adran 4 o Ddeddf 2013, y bydd Gweinidogion Cymru hefyd yn penderfynu ar ei delerau a’i amodau;

(iii)

o leiaf bedwar aelod arall, y mae rhaid iddynt fod yn swyddogion canlyniadau presennol neu’n swyddogion cofrestru etholiadol presennol, neu’n gyn-swyddogion canlyniadau neu’n gyn-swyddogion cofrestru etholiadol (a ddiffinnir fel “swyddogion etholiadau” gan adran 20F(9)).

24.Mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol i’r Bwrdd ddewis un o’r aelodau hyn sy’n swyddogion etholiadau presennol neu’n gyn-swyddogion etholiadau i fod yn ddirprwy gadeirydd y Bwrdd. Mae is-adran (8) yn nodi’r personau na chaniateir iddynt fod yn aelod o’r Bwrdd a benodir o dan is-adran (1)(c).

Adran 20G – Deiliadaeth

25.Mae adran 20G yn darparu bod aelodau’r Bwrdd yn dal swydd ac yn ymadael â swydd yn unol â thelerau ac amodau eu penodiad, fel y’u penderfynir o dan adran 20F.

Adran 20H – Trafodion y Bwrdd

26.Mae adran 20H yn galluogi’r Bwrdd i benderfynu ar ei weithdrefn ei hun, gan gynnwys isafswm nifer yr aelodau y mae rhaid iddynt fod yn bresennol er mwyn gwneud penderfyniadau. Mae is-adran (1) yn cadarnhau bod pleidleisiau pob aelod yn gyfwerth â phleidleisiau’r aelodau eraill, ond y bydd gan y Cadeirydd (neu ei ddirprwy yn absenoldeb y Cadeirydd) bleidlais fwrw os bydd y bleidlais yn gyfartal. Hefyd, mae is-adran (3) yn cadarnhau dilysrwydd trafodion neu weithredoedd y Bwrdd os oes diffyg ym mhenodiad aelod o’r Bwrdd.

27.Mae is-adran (4) yn galluogi’r Cadeirydd neu’r dirprwy Gadeirydd i wahodd pobl eraill i gyfarfodydd y Bwrdd i ddarparu cyngor neu i gynorthwyo gyda gwaith y Bwrdd, ar yr amod bod yr holl aelodau’n cytuno. Gall hyn gynnwys, er enghraifft, gynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol, Cymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol, Rheolwyr Gwasanaethau Etholiadol, a chynrychiolwyr Llywodraeth y DU a/neu Lywodraeth Cymru. Mae hyn er mwyn sicrhau bod gan y Bwrdd ddigon o hyblygrwydd i geisio’r arbenigedd a’r cymorth sy’n angenrheidiol wrth gyflawni ei swyddogaethau. Ni fyddai unrhyw fynychwyr o’r fath yn rhan o aelodaeth y Bwrdd.

Adran 20I – Dehongli

28.Mae adran 20I yn diffinio geiriau a thermau penodol a ddefnyddir yn Rhan 2A o Ddeddf 2013 (fel y’i mewnosodir gan adran 1(2)).

Adran 2 – Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

29.Mae’r adran hon yn cyflwyno’r mân ddiwygiadau a’r diwygiadau canlyniadol a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf, sy’n gwneud newidiadau i Ddeddf 2013 sy’n ymwneud â Phennod 1 o’r Ddeddf.

30.Mae paragraff 1(4) yn rhoi is-adrannau newydd (1A), (1B) ac (1C) yn lle adran 14(1) o Ddeddf 2013, sy’n ymdrin â chyfarwyddydau a roddir i’r Comisiwn gan Weinidogion Cymru.

31.Mae is-adran (1A) yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddyroddi cyfarwyddydau i’r Comisiwn mewn perthynas â swyddogaethau’r Comisiwn, ac eithrio mewn perthynas â’i swyddogaethau o dan Ran 2A o Ddeddf 2013 sy’n ymwneud â chydlynu gwaith gweinyddu etholiadol, neu ei swyddogaethau o dan Ran 3A o Ddeddf 2013 sy’n ymwneud â ffiniau etholaethau’r Senedd.

32.Mae is-adran (1B) yn nodi bod rhaid i’r Comisiwn gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir iddo gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf 2013, ac mae is-adran (1C) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi pob cyfarwyddyd y maent yn ei roi i’r Comisiwn neu i brif gyngor o dan Ddeddf 2013 (“prif gyngor” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru).

Pennod 2: Cofrestru Etholiadol Heb Geisiadau
Adran 3 - Dyletswydd i gofrestru etholwyr llywodraeth leol

33.Mae is-adran (1) yn hepgor adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, sy’n cynnwys darpariaeth ynghylch cofrestru etholwyr llywodraeth leol heb gais, nad yw wedi ei dwyn i rym.

34.Mae is-adran (2) yn mewnosod adran newydd (9ZA) yn Neddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (y cyfeirir ati fel “Deddf 1983” o hyn ymlaen). Mae adran 9ZA yn ei gwneud yn ofynnol i bob swyddog cofrestru etholiadol yng Nghymru ychwanegu etholwyr cymwys at y gofrestr llywodraeth leol yng Nghymru pan fo’r swyddog cofrestru etholiadol wedi ei fodloni bod gan y person hawlogaeth i fod yn gofrestredig. Defnyddir cofrestr llywodraeth leol yng Nghymru ar gyfer etholiadau sy’n ethol cynghorwyr i siroedd, bwrdeistrefi sirol a chymunedau yng Nghymru ynghyd ag etholiadau i fod yn Aelod o Senedd Cymru. Bydd angen i swyddogion cofrestru etholiadol wirhau hunaniaeth y person a’r amgylchiadau sy’n ymwneud â’i gymhwystra er mwyn bod yn fodlon; a bydd angen i swyddogion cofrestru etholiadol hysbysu personau y maent yn bwriadu eu cofrestru cyn iddynt wneud hynny. Ni fydd angen i’r etholwr wneud cais drwy’r system bresennol os oes dyletswydd ar y swyddog cofrestru etholiadol i’w gofrestru.

35.Mae adran 9ZA(3) yn ei gwneud yn ofynnol i swyddogion cofrestru etholiadol hysbysu personau y maent wedi eu bodloni eu bod yn gymwys i’w cofrestru cyn iddynt gael eu cofrestru. Rhaid i’r hysbysiad fod yn ysgrifenedig gan roi gwybod i’r person am y canlynol—

(i)

dyletswydd y swyddog cofrestru etholiadol i gofrestru’r person ar ôl diwedd y cyfnod hysbysu,

(ii)

yr eithriadau i ddyletswydd y swyddog cofrestru etholiadol i gofrestru’r person;

(iii)

hawl yr etholwr i ofyn am gael ei eithrio o’r gofrestr olygedig o etholwyr llywodraeth leol (os gwneir darpariaeth ar gyfer cofrestr olygedig mewn rheoliadau o dan adran 53 o Ddeddf 1983);

(iv)

hawl yr etholwr i wneud cais i gofrestru’n ddienw; a

(v)

y mathau o etholiadau y bydd gan y person hawlogaeth i bleidleisio ynddynt ac na fydd ganddo hawlogaeth i bleidleisio ynddynt o ganlyniad i gael ei gofrestru heb gais (byddai gan y person hawlogaeth i bleidleisio yn etholiadau Senedd Cymru ac mewn etholiadau ar gyfer cynghorwyr mewn siroedd, bwrdeistrefi sirol a chymunedau yng Nghymru, ond ni fyddai’n rhoi hawlogaeth iddo i bleidleisio mewn etholiad i fod yn aelod o Dŷ’r Cyffredin yn Senedd y DU – byddai angen gwneud cais i gofrestru yn yr achos hwnnw).

36.Y cyfnod hysbysu yw 60 o ddiwrnodau (is-adran (4) o adran 9ZA) ac mae hyn yn rhoi amser i berson sy’n cael hysbysiad i ymateb iddo ag unrhyw bryderon neu wrthwynebiadau cyn i ddyletswydd y swyddog cofrestru etholiadol i gofrestru gymryd effaith ar ddiwedd y cyfnod.

37.Mae is-adran (5) o adran 9ZA yn ei gwneud yn ofynnol i swyddog cofrestru etholiadol gofrestru’r person ar ddiwedd y cyfnod hysbysu o 60 o ddiwrnodau oni bai—

(i)

bod y person wedi hysbysu’r swyddog cofrestru etholiadol nad yw’n dymuno cael ei gofrestru (paragraff (a));

(ii)

nad yw’r swyddog cofrestru etholiadol wedi ei fodloni mwyach fod gan y person hawlogaeth i fod yn gofrestredig (paragraff (b)); neu

(iii)

bod y person yn dymuno gwneud cais i gofrestru’n ddienw neu ei fod wedi gwneud cais o’r fath (paragraff (c)).

38.Pan fo’r person yn gwrthwynebu cael ei gofrestru heb gais, mae’n ofynnol i’r swyddog cofrestru etholiadol roi terfyn ar y broses gofrestru awtomatig ac, yn lle hynny, ddilyn y broses yn adran 9E o Ddeddf 1983, sy’n ei gwneud yn ofynnol i swyddog cofrestru etholiadol wahodd person i wneud cais i gofrestru os oes gan y swyddog cofrestru etholiadol, mewn perthynas â pherson anghofrestredig y mae’r swyddog cofrestru etholiadol yn gwybod ei enw a’i gyfeiriad, reswm dros gredu bod gan y person hawlogaeth i fod yn gofrestredig. Mae adran 9ZA(6) yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth mewn rheoliadau ynghylch gofynion hysbysiadau i berson y mae’r swyddog cofrestru etholiadol yn ystyried ei gofrestru o dan yr adran, gan gynnwys darpariaeth ynghylch ffurf yr hysbysiad a sut ac i bwy y caniateir iddo, neu y mae rhaid iddo, gael ei ddarparu.

39.Mae is-adrannau (8) a (9) yn ei gwneud yn ofynnol i’r rheoliadau o dan is-adran (6) gael eu gwneud drwy offeryn statudol ac yn ddarostyngedig i’r weithdrefn penderfyniad negyddol yn y Senedd.

Adran 4 - Darpariaeth sy’n gysylltiedig â’r ddyletswydd i gofrestru etholwyr llywodraeth leol cymwys

40.Mae is-adran (3) yn diwygio adran 9E o Ddeddf 1983 i wneud darpariaeth ynghylch y berthynas rhwng dyletswyddau presennol swyddogion cofrestru etholiadol o dan adran 9E mewn cysylltiad â gwahoddiadau i wneud cais i gofrestru a’r ddyletswydd newydd i gofrestru heb gais o dan adran 9ZA a fewnosodir gan adran 3. Effaith y diwygiad i adran 9E yw na fydd dyletswydd y swyddog cofrestru etholiadol yn adran 9E(1) yn gymwys tra bo’r broses gofrestru o dan adran 9ZA yn mynd rhagddi.

41.Mae is-adran (4) yn diwygio adran 13A o Ddeddf 1983, sy’n ei gwneud yn ofynnol i swyddogion cofrestru etholiadol ddyroddi hysbysiadau ynghylch newidiadau i’r gofrestr a restrir yn is-adran (1) o’r adran honno. Mae ychwanegu person at y gofrestr o dan adran newydd 9ZA yn cael ei ychwanegu at y rhestr o newidiadau sy’n sbarduno’r ddyletswydd i ddyroddi hysbysiadau. Mae is-adrannau (5) a (6) yn gwneud diwygiadau canlyniadol cysylltiedig i adrannau 13AB a 13B o Ddeddf 1983.

42.Mae is-adrannau (7) a (9) yn diwygio adran 53 o Ddeddf 1983 ac Atodlen 2 iddi. Mae adran 53 o Ddeddf 1983 yn rhoi pŵer i’r Ysgrifennydd Gwladol i wneud rheoliadau ynghylch cofrestru etholiadol o dan y Ddeddf honno, ac mae Atodlen 2 i Ddeddf 1983 yn pennu pethau y gellir eu gwneud mewn rheoliadau o dan adran 53. Trosglwyddwyd pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 53 (ac Atodlen 2) i Weinidogion Cymru gan Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2018 (O.S. 2018/644), i’r graddau y mae’r pwerau’n arferadwy o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.

43.Mae is-adran (9) yn diwygio Atodlen 2 i Ddeddf 1983 i bennu pethau pellach y gellir eu cynnwys mewn rheoliadau o dan adran 53 o’r Ddeddf honno mewn cysylltiad â’r ddyletswydd newydd i gofrestru o dan adran 9ZA.

44.Mae paragraff 1A o Atodlen 2 yn darparu ar gyfer gwneud rheoliadau sy’n awdurdodi person i ddatgelu gwybodaeth i berson arall, neu sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny, at ddiben cynorthwyo swyddog cofrestru mewn perthynas â materion a bennir yn y paragraff. Mae paragraff (a) o is-adran (9) yn diwygio paragraff 1A o Atodlen 2, fel bod cynorthwyo swyddog cofrestru i benderfynu a yw person yn gymwys i gael ei gynnwys yn y gofrestr at ddiben adran 9ZA, yn cael ei ychwanegu at y rhestr o faterion y gellir gwneud rheoliadau mewn cysylltiad â hwy sy’n awdurdodi neu sy’n ei gwneud yn ofynnol datgelu gwybodaeth.

45.Mae paragraff (b) o is-adran (9) yn ei gwneud yn glir fod rheoliadau o dan adran 53 yn gallu gwneud darpariaeth ynghylch y camau y mae swyddog cofrestru wedi ei awdurdodi i’w cymryd, neu y mae’n ofynnol iddo eu cymryd, at ddiben penderfynu a yw person yn gymwys i gael ei gynnwys yn y gofrestr at ddiben adran 9ZA.

46.Mae is-adran (7) yn diwygio adran 53 i ddarparu na all rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 1A(1)(aa) o Atodlen 2 (a fewnosodir gan is-adran (9)(a)) sy’n awdurdodi person i ddatgelu gwybodaeth, neu sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny, roi swyddogaethau i awdurdodau a gedwir yn ôl, nac addasu eu swyddogaethau, pe bai cydsyniad un o Weinidogion y Goron, neu ymgynghori ag un o Weinidogion y Goron, yn ofynnol ar gyfer darpariaeth sy’n gwneud peth o’r fath pe bai’r ddarpariaeth wedi ei chynnwys mewn Deddf gan Senedd Cymru.

47.Mae is-adran (8) yn diwygio adran 56 o Ddeddf 1983 i roi hawl i apelio i’r llys sirol yn sgil penderfyniadau o dan adran 9ZA.

48.Mae paragraffau (c) a (d) o is-adran (9) yn ymwneud â’r gofrestr etholiadol olygedig, neu agored. Mae’r darpariaethau hyn yn datgymhwyso’r pwerau i wneud rheoliadau ym mharagraffau 10 a 10B o Atodlen 2 i Ddeddf 1983, gan olygu nad yw Gweinidogion Cymru yn gallu gwneud rheoliadau sy’n caniatáu ar gyfer creu a chyflenwi cofrestr etholiadol llywodraeth leol olygedig, neu agored, ar gyfer ardal yng Nghymru.

Pennod 3: Peilota a Diwygio Etholiadau Cymreig
Adran 5 – Rheoliadau peilot: pwerau

49.Mae adran 5 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau (“rheoliadau peilot”) er mwyn i beilotau etholiadau ddigwydd mewn cysylltiad â’r materion a ganlyn, a nodir yn is-adran (3):

(i)

cofrestru etholwyr ar gyfer etholiadau Cymreig, sydd, yn ymarferol, yn golygu cofrestru etholwyr ar y gofrestr llywodraeth leol. Fodd bynnag, ni fydd y peilotau hyn yn gallu effeithio ar hawl sylfaenol person i bleidleisio ac ni allant newid yr etholfraint;

(ii)

pryd, ble a sut y mae pleidleisio’n digwydd, a allai gynnwys trefniadau pleidleisio ymlaen llaw, gorsafoedd pleidleisio gwahanol, pleidleisio’n electronig etc., ymhlith pethau eraill;

(iii)

sut y caiff pleidleisiau eu cyfrif, a allai gynnwys cyfrif electronig;

(iv)

cyfathrebu â phleidleiswyr ynghylch etholiadau Cymreig; a

(v)

y prosesau a’r gweithdrefnau cyn pleidleisio, wrth bleidleisio neu ar ôl pleidleisio mewn etholiad Cymreig.

50.Diffinnir “etholiad Cymreig” gan is-adran (8) ac mae’n golygu etholiad i Senedd Cymru, etholiad i brif gyngor neu etholiad i gyngor cymuned. Yn ogystal, bydd peilotau hefyd yn gallu cael eu cynnal mewn is-etholiadau llywodraeth leol. Nid yw’r darpariaethau hyn yn gymwys i etholiadau seneddol y DU nac etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu sy’n digwydd yng Nghymru.

51.Mae adran 5(4) hefyd yn caniatáu i beilotau gael eu cynnal mewn cysylltiad â’r newidiadau y mae adrannau 3 a 4 yn eu gwneud i Ddeddf 1983 mewn cysylltiad â chofrestru fel etholwr heb gais. Nid oes angen cydsyniad prif gyngor ar Weinidogion Cymru i gynnal y peilotau hyn, ac nid oes rhaid iddynt gyflwyno cynnig i’r Comisiwn ychwaith.

52.Caiff rheoliadau peilot greu, dileu neu addasu troseddau, ond ni chaniateir iddynt greu nac addasu trosedd sydd, neu a ddaw, yn drosedd y caniateir ei chosbi â chyfnod o garchar sy’n hwy nag un flwyddyn pan fo’r euogfarn ar dditiad, neu sy’n hwy na’r “terfyn cymwys” ar euogfarn ddiannod. Ystyr y “terfyn cymwys” ar euogfarn ddiannod yw’r cyfnod hiraf yn y carchar y gall llys ynadon ei roi mewn cysylltiad â throsedd ddiannod (h.y. trosedd na ellir ond ei rhoi ar brawf mewn llys ynadon) ac mewn cysylltiad â throsedd neillffordd (h.y. trosedd y gellir ei rhoi ar brawf yn llys yr ynadon neu yn Llys y Goron). Diffinnir y terfyn cymwys gan adran 224(1A) o’r Cod Dedfrydu (sef y cod sydd wedi ei gynnwys yn Neddf Dedfrydu 2020 (p. 17)) ac ar hyn o bryd mae’n 6 mis o garchar am drosedd ddiannod a 6 mis am drosedd neillffordd. Mae’r cyfeiriad at y Cod “fel y mae’n cael effaith o bryd i’w gilydd” yn caniatáu ar gyfer y posibilrwydd y gall y naill neu’r llall o’r terfynau hyn newid yn y dyfodol. Caiff yr Ysgrifennydd Gwladol ddiwygio’r terfyn cymwys am drosedd neillffordd drwy reoliadau a wneir o dan baragraff 14A o Atodlen 23 i’r Cod Dedfrydu.

Adran 6 – Rheoliadau peilot: gofynion

53.Mae adran 6 yn nodi’r gofynion a osodir ar Weinidogion Cymru wrth wneud rheoliadau peilot. Mae is-adran (1) yn ei gwneud yn ofynnol i reoliadau peilot ddisgrifio amcan y peilot a phennu’r dyddiad erbyn pryd y mae rhaid i’r Comisiwn Etholiadol lunio ei adroddiad ar weithrediad y rheoliadau peilot (gweler adran 17(1)).

54.Mae is-adran (2) yn gwahardd Gweinidogion Cymru rhag gwneud rheoliadau peilot sy’n gymwys i ardal prif gyngor oni bai bod y prif gyngor hwnnw wedi cydsynio i’r peilot, neu fod Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i unrhyw argymhellion a wnaed gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru. Fodd bynnag, nid yw’r gwaharddiad hwn yn gymwys i unrhyw reoliadau peilot a wneir yn y 12 mis ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol pan fo’r rheoliadau at ddiben profi’r trefniadau sy’n ymwneud â chofrestru etholiadol heb gais.

55.Mae is-adran (5) yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â rhanddeiliaid y maent yn ystyried eu bod yn briodol cyn gwneud rheoliadau peilot sy’n ymwneud â chofrestru etholwyr heb gais. Yn benodol, mae’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â rhanddeiliaid y maent yn barnu eu bod yn cynrychioli grwpiau hyglwyf.

Adran 7 – Rheoliadau peilot: y weithdrefn

56.Yn gyffredinol, pan fydd rheoliadau peilot yn cael eu gwneud, maent yn ddarostyngedig i’r weithdrefn penderfyniad negyddol yn y Senedd. Fodd bynnag, mae rheoliadau peilot sydd naill ai yn profi sut y mae adrannau 3 a 4 yn gweithio yn ymarferol; neu’n gymwys i ardal prif gyngor heb gydsyniad y prif gyngor a fydd yn gweithredu’r peilot; neu sy’n cynnwys darpariaeth sy’n creu trosedd neu’n ehangu cwmpas trosedd, yn ddarostyngedig i weithdrefn penderfyniad cadarnhaol y Senedd. Os yw Gweinidogion Cymru yn cynnig peilota gweithgaredd o’r fath heb gydsyniad y prif gyngor angenrheidiol, mae hefyd yn ofynnol iddynt osod datganiad gerbron y Senedd sy’n egluro pam y maent yn ystyried y dylai’r ddarpariaeth gael ei gwneud heb gydsyniad y cyngor.

Adran 8 – Cynigion ar gyfer peilotau a wneir gan Weinidogion Cymru

57.Mae adran 8 yn nodi’r weithdrefn y mae rhaid i Weinidogion Cymru ei dilyn wrth gynnig cynllun peilot. Mae is-adran (1) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r swyddogion canlyniadau ar gyfer yr ardaloedd y byddai’r cynnig yn gymwys ynddynt ynghylch eu cynnig ar gyfer cynllun peilot. Rhaid iddynt wedyn gyflwyno’r cynnig i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru i’w ystyried. Bydd swyddogaeth y Comisiwn o ystyried cynigion ar gyfer peilotau etholiadol, a’r holl swyddogaethau eraill mewn perthynas â pheilotau etholiadol, yn cael eu dirprwyo i’w Fwrdd Rheoli Etholiadol ac yn cael eu harfer gan y Bwrdd hwnnw yn unol ag adran 20E o Ddeddf 2013 (fel y’i mewnosodir gan adran 1 o’r Ddeddf hon). Cyn gwneud unrhyw reoliadau peilot, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i’r adroddiad a lunnir gan y BRhE ar y cynnig.

Adran 9 – Cynigion ar gyfer peilotau a wneir gan brif gynghorau

58.Mae adran 9 yn galluogi prif gynghorau i gynnig cynllun peilot mewn cysylltiad â gweithgareddau sydd i’w treialu mewn etholiadau cyffredin llywodraeth leol ac is-etholiadau llywodraeth leol. Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyngor ymgynghori â Gweinidogion Cymru am ei gynnig cyn ei gyflwyno i’r Bwrdd Rheoli Etholiadol i’w ystyried. Cyn gofyn i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau peilot ar sail ei gynnig, rhaid i’r cyngor roi sylw i’r adroddiad a lunnir gan y Bwrdd, a rhaid i’r adroddiad gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru ynghyd â’r cais i wneud rheoliadau peilot.

Adran 10 - Cynigion ar gyfer peilotau a wneir ar y cyd gan y Comisiwn Etholiadol a phrif gynghorau

59.Mae adran 10 yn galluogi’r Comisiwn Etholiadol i wneud cynigion ar y cyd â phrif gynghorau mewn cysylltiad â gweithgareddau sydd i’w treialu mewn etholiadau cyffredin llywodraeth leol ac is-etholiadau llywodraeth leol. Bydd y cynigion hyn yn ddarostyngedig i’r un gofynion gweithdrefnol â chynigion a wneir gan brif gynghorau o dan adran 9.

Adran 11 – Cynigion ar gyfer peilotau a wneir gan swyddogion cofrestru etholiadol

60.Yn unol ag adran 11, caiff swyddogion cofrestru etholiadol wneud cynigion ar gyfer peilotau. Mae’r pŵer hwn, fodd bynnag, wedi ei gyfyngu yn is-adran (1) i beilota gweithgareddau penodol sy’n ymwneud â chofrestru etholwyr. Mae’r broses ymgynghori a chyflwyno y mae’n ofynnol i’r swyddogion cofrestru ei dilyn yr un fath â’r broses sydd i’w dilyn gan brif gynghorau o dan adran 9.

Adran 12 – Cynigion ar y cyd ar gyfer peilotau

61.Mae adran 12 yn galluogi prif gyngor, y Comisiwn Etholiadol a swyddog cofrestru etholiadol i wneud cynnig ar y cyd i Weinidogion Cymru ar gyfer peilot. Os yw’r Comisiwn Etholiadol yn gwneud y cynnig, rhaid iddo wneud hynny ar y cyd ag un neu ragor o brif gynghorau ond caiff hefyd wneud y cynnig ar y cyd â swyddog cofrestru etholiadol.

Adran 13 – Argymhellion y Comisiwn Etholiadol

62.Mae adran 13 yn galluogi’r Comisiwn Etholiadol i argymell cynigion ar gyfer peilot i brif gyngor neu i swyddog cofrestru etholiadol.

Adran 14 – Gwerthuso cynigion ar gyfer peilot

63.Mae adran 14 yn nodi’r hyn y mae’n ofynnol i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru ei wneud wrth werthuso cynigion ar gyfer peilot ac wrth lunio ei adroddiad. Rhaid i’r Comisiwn edrych ar amcanion y peilot a’i ddymunoldeb, hynny yw, pa un a allai’r peilot fod o fudd i’r pleidleisiwr neu’r gweinyddwyr etholiadol. Mae hefyd yn ofynnol iddo ystyried costau tebygol y peilot arfaethedig a’i ddichonoldeb. Gall Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan is-adran (3) sy’n nodi ffactorau y maent yn ystyried eu bod yn berthnasol i werthusiad y Comisiwn o’r cynigion ar gyfer peilot, a rhaid i’r Comisiwn roi sylw i ffactorau o’r fath wrth asesu’r cynnig a llunio ei adroddiad. Rhaid i awdurdod cyhoeddus sy’n cyflwyno cynnig ar gyfer peilot i’r Comisiwn o dan Bennod 3 ddarparu unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae’r Comisiwn yn gofyn amdani a fydd yn caniatáu i’r cynnig gael ei ystyried yn llawn ac i’r adroddiad gael ei lunio’n gywir. Mae’n ofynnol i’r Comisiwn anfon copi o’r adroddiad y mae’n ei lunio at bwy bynnag a gyflwynodd y cynnig heb fod yn hwyrach na 6 wythnos ar ôl i’r cynnig ddod i law.

Adran 15 – Fforymau peilotau etholiadau Cymreig

64.O dan adran 15, mae’n ofynnol i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru sefydlu fforwm lle y gellir trafod materion sy’n ymwneud â chyflwyno’r peilot yn ymarferol. Rhaid i’r fforwm hwn gynnwys swyddogion canlyniadau’r prif gynghorau sy’n cymryd rhan yn ogystal â gweinyddwyr etholiadol o’r awdurdodau hynny ac aelodau o’r Comisiwn, ond nid yw ei aelodaeth yn gyfyngedig iddynt hwy.

Adran 16 – Canllawiau ar beilotau

65.Mae adran 16 yn ei gwneud yn ofynnol i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru gyhoeddi canllawiau ar gynnal peilot y mae rhaid iddynt gynnwys cyngor ynghylch y trefniadau y mae eu hangen ar gyfer y peilot, yr hyfforddiant staff sy’n ofynnol, yn ogystal â sut i redeg y peilot yn unol â’r rheoliadau peilot.

Adran 17 – Gwerthuso’r rheoliadau peilot

66.Mae adran 17 yn nodi’r trefniadau ar gyfer gwerthuso peilotau wedi iddynt ddigwydd. Rhaid i’r gwerthusiad hwn gael ei gynnal gan y Comisiwn Etholiadol, y mae rhaid iddo werthuso llwyddiant y peilot (neu fel arall) wrth gyflawni ei amcanion, a pha un a ddylid mabwysiadu’r newidiadau a wneir gan reoliadau peilot yn barhaol ai peidio. Rhaid i’r prif gyngor ar gyfer ardal y peilot ddarparu cymorth i’r Comisiwn Etholiadol wrth i’r Comisiwn lunio ei adroddiad, a rhaid i’r swyddog canlyniadau perthnasol gyhoeddi’r adroddiad o fewn mis i’w gael, oni bai bod y peilot yn un sy’n dod o fewn cylch gwaith adran 11 yn unig, ac os felly, ar y swyddog cofrestru etholiadol y mae’r ddyletswydd i gyhoeddi adroddiad Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.

Adran 18 - Rheoliadau diwygio etholiadol

67.Mae adran 18 yn galluogi Gweinidogion Cymru i gyflwyno newidiadau parhaol sy’n debyg i’r rhai a dreialwyd mewn cynllun peilot, drwy gyfrwng rheoliadau diwygio etholiadol. Mae is-adran (1)(b) yn darparu mai dim ond os yw’r Comisiwn Etholiadol yn argymell hynny y gellir gwneud rheoliadau o’r fath. Gall rheoliadau diwygio etholiadol gymhwyso’r newid a beilotwyd i unrhyw etholiadau Cymreig, neu i’r cyfan ohonynt.

68.Caiff rheoliadau diwygio etholiadol greu, dileu neu addasu troseddau. Ond ni chaiff y rheoliadau greu nac addasu trosedd sydd, neu a ddaw, yn drosedd y caniateir ei chosbi â chyfnod o garchar sy’n hwy nag un flwyddyn pan fo’r euogfarn ar dditiad, neu sy’n hwy na’r “terfyn cymwys” ar euogfarn ddiannod. Ystyr y “terfyn cymwys” ar euogfarn ddiannod yw’r cyfnod hiraf yn y carchar y gall llys ynadon ei roi mewn cysylltiad â throsedd ddiannod (h.y. trosedd na ellir ond ei rhoi ar brawf mewn llys ynadon) ac mewn cysylltiad â throsedd neillffordd (h.y. trosedd y gellir ei rhoi ar brawf yn llys yr ynadon neu yn Llys y Goron). Diffinnir y terfyn cymwys gan adran 224(1A) o’r Cod Dedfrydu (sef y cod y darperir ar ei gyfer gan Ddeddf Dedfrydu 2020) ac ar hyn o bryd mae’n 6 mis o garchar am drosedd ddiannod a 6 mis am drosedd neillffordd. Mae’r cyfeiriad at y Cod “fel y mae’n cael effaith o bryd i’w gilydd” yn caniatáu ar gyfer y posibilrwydd y gall y naill neu’r llall o’r terfynau hyn newid yn y dyfodol. Caiff yr Ysgrifennydd Gwladol ddiwygio’r terfynau drwy reoliadau a wneir o dan baragraff 14A o Atodlen 23 i’r Cod Dedfrydu.

Adran 19 - Rheoliadau diwygio etholiadol: y weithdrefn

69.Mae adran 19 yn nodi pa un o weithdrefnau’r Senedd y mae rhaid ei dilyn wrth wneud rheoliadau diwygio etholiadol. Mae’n darparu ar gyfer cymryd camau craffu ychwanegol a chamau craffu manylach sy’n cynnwys ei gwneud yn ofynnol i Bwyllgor o’r Senedd ystyried y rheoliadau a’u goblygiadau. Bydd y Senedd hefyd yn cael mwy o amser i ystyried y rheoliadau a’u goblygiadau. Pan osodir y rheoliadau neu’r rheoliadau drafft, mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru hefyd osod gerbron y Senedd gopi o adroddiad y Comisiwn Etholiadol ar y rheoliadau peilot sydd wedi ei lunio o dan adran 17.

70.Pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu peidio â derbyn argymhelliad pwyllgor i wneud newidiadau o sylwedd i reoliadau drafft, naill ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol, neu’n gwneud newidiadau o sylwedd i’r rheoliadau drafft sy’n sylweddol wahanol i’r rhai sydd wedi eu hargymell gan bwyllgor, rhaid iddynt osod datganiad gerbron y Senedd sy’n nodi’r rhesymau dros y penderfyniad hwn.

Adran 20 – Cyhoeddi

71.Mae Pennod 3 o Ran 1 yn cynnwys nifer o ddarpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol cyhoeddi dogfennau (gweler, er enghraifft, adran 15(7)). Mae adran 20 yn ei gwneud yn ofynnol i’r dogfennau hynny gael eu cyhoeddi’n electronig, yn ychwanegol at unrhyw fodd arall y mae’r person sydd o dan y ddyletswydd i gyhoeddi yn ystyried ei fod yn briodol.

Adran 21 – Rheoliadau: darpariaeth ategol

72.Mae adran 21 yn darparu y caiff rheoliadau peilot a rheoliadau diwygio etholiadol a wneir o dan Bennod 3 o Ran 1 o’r Ddeddf gynnwys darpariaeth ategol, gan gynnwys darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth atodol, darpariaeth ddeilliadol, darpariaeth drosiannol, neu ddarpariaeth arbed. Caiff y rheoliadau addasu deddfiadau (pa bryd bynnag y’u gwneir) a chânt wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer ardaloedd gwahanol.

Adran 22 – Dehongli

73.Mae adran 22 yn diffinio geiriau a thermau penodol a ddefnyddir ym Mhennod 3 o Ran 1 o’r Ddeddf.

Adran 23 - Diwygiadau canlyniadol

74.Mae’r adran hon yn cyflwyno Rhan 2 o Atodlen 1, sy’n gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol sy’n ganlyniadol ar y ddarpariaeth ym Mhennod 3 o Ran 1 o’r Ddeddf.

Pennod 4: Hygyrchedd Ac Amrywiaeth: Etholiadau Cymreig
Adran 24 - Adroddiadau gan y Comisiwn Etholiadol

75.Mae adran 24 yn mewnosod adran 5A yn DPGER. Mae dyletswydd ar y Comisiwn Etholiadol o dan adran 5 o DPGER i lunio adroddiad ar weinyddiaeth pob un o etholiadau’r Senedd. Mae adran 5A(1) o DPGER fel y’i mewnosodir gan adran 24 yn creu dyletswydd i’r Comisiwn Etholiadol lunio a chyhoeddi adroddiad ar weinyddiaeth etholiadau cyffredin ar gyfer cynghorwyr i siroedd, bwrdeistrefi sirol a chymunedau yng Nghymru.

76.Mae is-adrannau (2) a (3) o adran 5A yn gosod dyletswydd ar y Comisiwn Etholiadol i gynnwys yn ei adroddiadau yn dilyn etholiadau’r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol ddisgrifiad o’r camau y mae swyddogion canlyniadau wedi eu cymryd i gynorthwyo personau anabl i bleidleisio yn yr etholiadau hynny pan allai’r anableddau effeithio ar eu hawl i bleidleisio.

77.Mae is-adran (4) o adran 5A yn diffinio “disability” at ddibenion is-adran (3), mewn perthynas â gwneud rhywbeth, fel ei fod yn cynnwys anallu tymor byr i’w wneud. Mae hyn yr un fath â’r diffiniad o “disability” yn adran 202 o Ddeddf 1983 (sef y Ddeddf y gwneir y rheolau odani ar gyfer cynnal etholiadau llywodraeth leol) ac yn erthygl 2(1) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 (O.S. 2007/236) (sy’n cynnwys y rheolau ar gyfer cynnal etholiadau Senedd Cymru).

78.Mae is-adran (4) o adran 5A hefyd yn diffinio “returning officer” (swyddog canlyniadau) at ddiben y ddyletswydd yn is-adran (3) i adrodd ar gamau a gymerwyd gan swyddogion canlyniadau. Yn achos adroddiadau ar etholiadau’r Senedd, fe’i diffinnir drwy gyfeirio at orchmynion a wneir o dan adran 13 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (y cyfeirir ati fel “DLlC 2006” o hyn ymlaen), sy’n llywodraethu’r modd y cynhelir etholiadau’r Senedd. Yn achos adroddiadau ar etholiadau llywodraeth leol, diffinnir swyddogion canlyniadau fel person a benodir o dan adran 35(1A) o Ddeddf 1983.

79.O dan y trefniadau ar gyfer ethol aelodau i Senedd Cymru a sefydlir gan Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024, nid oes dim is-etholiadau pan fydd seddi gwag ymhlith aelodaeth Senedd Cymru. Mae adran 25(3) yn gwneud darpariaeth drosiannol fel y bydd adroddiad o dan adran 5A(3) yn ofynnol hefyd ar gyfer is-etholiad yn un o etholaethau’r Senedd cyn i ddarpariaethau Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024, sy’n gwneud y newid hwnnw, ddod i rym.

Adran 25 - Arolwg o gynghorwyr ac ymgeiswyr aflwyddiannus mewn etholiadau lleol

80.Mae adran 25 yn diwygio adran 1 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynnal arolwg o gynghorwyr ac o ymgeiswyr aflwyddiannus mewn etholiadau cyngor yn eu hardal. Mae adran 25 yn dileu’r gofyniad i ffurf yr arolwg a’r cwestiynau gael eu nodi mewn rheoliadau ac, yn lle hynny, mae’n galluogi Gweinidogion Cymru i nodi’r rhain mewn cyfarwyddyd i awdurdodau lleol. Mae is-adran (4) yn mewnosod is-adran 3A ym Mesur 2011, sy’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan adran 1 neu adran 2 o Fesur 2011.

81.Gallai cyfarwyddyd a roddir i awdurdodau lleol o dan adran 1 (fel y’i diwygiwyd), ymhlith pethau eraill, gynnwys cwestiynau sydd wedi eu hanelu at ganfod effaith unrhyw fentrau lleol a sefydlwyd i wella amrywiaeth ymhlith yr ymgeiswyr sy’n sefyll yn yr etholiad yr ymgymerir â’r arolwg ar ei gyfer.

Adran 26 – Platfform gwybodaeth am etholiadau Cymreig

82.Mae’r darpariaethau yn adran 26 yn ymwneud â sicrhau bod gwybodaeth am etholiadau Cymreig ar gael i helpu pleidleiswyr i gymryd rhan mewn etholiadau Cymreig. Mae is-adran (1) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru drwy reoliadau sefydlu a chynnal platfform gwybodaeth am etholiadau Cymreig sy’n darparu gwybodaeth gyfredol am etholiadau Senedd Cymru ac etholiadau cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru. Mae hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau (ond nid yw’n ofynnol iddynt eu gwneud) ynghylch gwybodaeth a ddylai fod ar gael ar y platfform mewn perthynas ag etholiadau cynghorau cymuned ac etholiadau maerol yng Nghymru.

83.Rhaid i’r rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan yr adran hon hefyd ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi a gosod gerbron y Senedd adroddiad ynghylch sut y maent wedi sefydlu’r platfform a’i gynnal. Rhaid i adroddiad gael ei gyhoeddi heb fod yn hwy na 12 mis ar ôl etholiad cyffredin i’r Senedd ac etholiad cyffredin i brif gyngor.

Adran 27 - Gwasanaethau i hybu amrywiaeth ymhlith personau sy’n ceisio swydd etholedig

84.Mae is-adran (1) yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi trefniadau yn eu lle ar gyfer darparu gwasanaethau i hybu amrywiaeth yn nodweddion gwarchodedig ac amgylchiadau economaidd-gymdeithasol personau sy’n ceisio sefyll i gael eu hethol yn aelodau o Senedd Cymru ac o gynghorau siroedd, bwrdeistrefi sirol a chymunedau yng Nghymru.

85.Diffinnir “nodweddion gwarchodedig” at y diben hwn yn is-adran (11) fel y nodweddion gwarchodedig yn adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, sef—

(i)

oed;

(ii)

anabledd;

(iii)

ailbennu rhywedd;

(iv)

priodas a phartneriaeth sifil;

(v)

beichiogrwydd a mamolaeth;

(vi)

hil;

(vii)

crefydd neu gred;

(viii)

rhyw; a

(ix)

cyfeiriadedd rhywiol.

86.Mae is-adran (2) yn nodi’r materion y mae rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw iddynt wrth gyflawni’r ddyletswydd hon. Rhaid i Weinidogion Cymru ystyried a oes grwpiau o bersonau â’r un nodweddion gwarchodedig sy’n cael eu tangynrychioli ymhlith aelodaeth Senedd Cymru neu gynghorau siroedd, bwrdeistrefi sirol a chymunedau. Mae tangynrychioli i’w ystyried drwy gyfeirio at y boblogaeth a wasanaethir gan y corff sy’n cael ei ystyried (is-adran (3)).

87.Rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw hefyd i’r canlynol—

(i)

dymunoldeb lleihau’r anghydraddoldeb mewn canlyniadau sy’n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol, a

(ii)

dymunoldeb sicrhau bod gwasanaethau ar gael i bersonau ni waeth a ydynt (neu nad ydynt) yn aelodau o blaid wleidyddol gofrestredig.

88.Mae is-adran (4) yn darparu nad yw’n ofynnol i Weinidogion Cymru ddarparu gwasanaethau mewn cysylltiad â phob grŵp a dangynrychiolir sydd wedi ei nodi yn rhinwedd is-adran (2).

89.Mae is-adran (5) yn nodi rhestr hollgynhwysol o’r gwasanaethau y caniateir eu darparu o dan y trefniadau sy’n ofynnol gan yr adran hon. Y gwasanaethau yw gwybodaeth, cyngor, hyfforddiant, coetsio a mentora, profiad gwaith, cyfarpar, a chymorth â thasgau. Mae is-adran (8) yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i ychwanegu at y rhestr o wasanaethau a diwygio neu ddileu unrhyw wasanaethau a ychwanegir gan y rheoliadau.

90.Mae is-adran (6) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru sicrhau, mewn unrhyw drefniant a roddir yn ei le o dan y ddyletswydd hon, fod Gweinidogion Cymru wedi eu gwahardd rhag gwneud penderfyniadau mewn achosion penodol ynghylch a yw unigolyn i gael gwasanaeth o dan y trefniadau.

Adran 28 - Cynlluniau cymorth ariannol i hybu amrywiaeth ymhlith personau sy’n ceisio swydd etholedig

91.Mae is-adran (1) yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddarparu drwy reoliadau ar gyfer cynlluniau cymorth ariannol i gynorthwyo ymgeiswyr sy’n sefyll i gael eu hethol yn aelodau o Senedd Cymru neu o gyngor sir, bwrdeistref sirol neu gymuned yng Nghymru sydd ag amgylchiadau penodedig neu nodweddion penodedig i oresgyn unrhyw rwystrau rhag cymryd rhan yn yr etholiad sy’n gysylltiedig â’r nodweddion neu’r amgylchiadau hynny. Ystyr “penodedig” ac “a bennir” yw wedi ei bennu yn y rheoliadau (gweler is-adran (13)).

92.Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i roi cynllun o gymorth ariannol yn ei le i gynorthwyo ymgeiswyr anabl mewn etholiadau o’r fath i oresgyn unrhyw rwystr rhag cymryd rhan yn yr etholiad sy’n gysylltiedig â’u hanabledd.

93.Mae is-adran (7) yn ei gwneud yn ofynnol nad yw’r cynlluniau cymorth ariannol y darperir ar eu cyfer gan reoliadau o dan yr adran hon yn cael eu gweithredu’n uniongyrchol gan bersonau a eithrir. Mae’r personau a eithrir wedi eu nodi yn adran 29, ac mae’r rhestr o bersonau a eithrir yn cynnwys Gweinidogion Cymru (fel aelodau o Lywodraeth Cymru), Gweinidogion y Goron, awdurdodau lleol ac eraill.

Adran 29 – Personau a eithrir

94.Mae’r adran hon yn rhestru’r personau na chaniateir iddynt weithredu cynllun o gymorth ariannol y darperir ar ei gyfer gan reoliadau o dan adran 28.

Adran 30 – Canllawiau ar gyfer pleidiau gwleidyddol i hybu amrywiaeth ymhlith personau sy’n ceisio swydd etholedig

95.Mae is-adran (1)(a) yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ddyroddi canllawiau i annog pleidiau gwleidyddol cofrestredig i gasglu, crynhoi a chyhoeddi gwybodaeth benodedig am amrywiaeth ynghylch eu hymgeiswyr ar gyfer etholiadau’r Senedd. Mae’r termau ‘gwybodaeth am amrywiaeth’ a ‘penodedig’ wedi eu diffinio yn is-adran (3) o’r adran hon.

96.Mae is-adran (1)(b) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i annog pleidiau gwleidyddol cofrestredig i ddatblygu, cyhoeddi, gweithredu ac adolygu strategaethau i hybu amrywiaeth eu hymgeiswyr ac i gynorthwyo ymgeiswyr i oresgyn rhwystrau sy’n gysylltiedig â nodweddion neu amgylchiadau penodedig. Tra bo’r canllawiau yn is-adran (1)(a) yn ymwneud ag ymgeiswyr ar gyfer etholiadau’r Senedd, mae’r canllawiau a gyhoeddir o dan is-adran (1)(b) yn ymwneud ag ymgeiswyr ar gyfer pob etholiad Cymreig (a ddiffinnir yn is-adran (3)).

97.Mae is-adran (2) yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau o dan yr adran hon; a hynny cyn 1 Mai 2025. Wedi hynny, rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r canllawiau a gyhoeddir o bryd i’w gilydd, gan roi sylw i’r cylch etholiadau sy’n berthnasol i is-adrannau (1)(a) a (b).

98.Mae is-adran (3) yn diffinio termau penodol a ddefnyddir yn yr adran hon.

Pennod 5: Cyllid Ymgyrchu
Adran 32 - Gwariant tybiannol: ymgeiswyr mewn etholiadau llywodraeth leol

99.Mae adran 32 yn dileu’r eithriad yn adran 90C(1A) o Ddeddf 1983 fel bod y ddarpariaeth yn adran 90C(1A) sy’n egluro ystyr gwariant tybiannol yr eir iddo ar ran ymgeisydd hefyd yn gymwys i etholiad yng Nghymru o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Adran 33 - Gwariant tybiannol a gwariant gan drydydd parti: etholiadau Senedd Cymru

100.Mae adran 33 yn diwygio adrannau 73(1A), 86(1A), a 94(8A) o DPGER, a pharagraff 3(11) o Atodlen 8A iddi, fel bod y darpariaethau mewn perthynas â gwariant tybiannol gan bleidiau gwleidyddol a thrydydd partïon hefyd yn gymwys i gyfnodau ymgyrchu ar gyfer etholiadau Senedd Cymru.

Adran 34 - Codau ymarfer ar dreuliau

101.Mae adran 34(1) yn diwygio paragraff 14A o Atodlen 4A i Ddeddf 1983 sy’n galluogi’r Comisiwn Etholiadol i lunio cod ymarfer sy’n rhoi canllawiau ar dreuliau etholiad ar gyfer ymgeiswyr mewn etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru. Mae’r diwygiad yn egluro y gall y canllawiau ymdrin â chymhwyso’r rheolau mewn perthynas â threuliau yr eir iddynt, gan sicrhau bod y codau ymarfer yn ddigon eang er mwyn cynnwys esboniad o’r rheolau ar bob math o wariant.

102.Mae’r adran hon hefyd yn diwygio adran 156(3)(aa) o DPGER fel nad yw unrhyw weithdrefn gan y Senedd yn gymwys i orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru sy’n dwyn i rym god ymarfer a luniwyd gan y Comisiwn Etholiadol mewn perthynas â threuliau etholiad mewn etholiadau i Senedd Cymru o dan Atodlen 8 i DPGER. Mae’r adran hefyd yn gwneud diwygiadau pellach, mwy cyffredinol i adran 156 i egluro’r gweithdrefnau sy’n gymwys i offerynnau statudol a wneir gan Weinidogion Cymru o dan ddarpariaethau DPGER.

Adran 35 - Personau awdurdodedig nad yw’n ofynnol iddynt dalu drwy asiant etholiad

103.Mae adran 35 yn diwygio adran 73(5)(ca) o Ddeddf 1983, a fewnosodwyd gan Ddeddf Etholiadau 2022, er mwyn galluogi gwneud taliadau ar ran ymgeisydd neu ymgyrch yn ystod ymgyrch etholiad llywodraeth leol yng Nghymru gan berson awdurdodedig heblaw asiant etholiad. Bwriedir i hyn roi eglurder i drydydd partïon sydd wedi eu hawdurdodi gan ymgeisydd neu asiant i’w hyrwyddo, o dan adran 75 o Ddeddf 1983. Mae’r diwygiad yn sicrhau bod trydydd partïon yn gallu mynd i dreuliau awdurdodedig, a thalu amdanynt, o dan adran 75, yn hytrach na bod rhaid talu’r treuliau drwy asiant yr ymgeisydd y maent yn ei hyrwyddo.

Adran 36 - Cyfyngu ar ba drydydd partïon a gaiff fynd i wariant a reolir

104.Mae adran 36 yn cyflwyno cyfyngiad pellach ar drydydd partïon a gaiff fynd i wariant a reolir (gan gynnwys gwariant tybiannol a reolir) mewn cysylltiad ag ymgyrch etholiad i’r Senedd. Mae’n gwneud hyn drwy fewnosod adran newydd 89B yn DPGER, sy’n darparu mai dim ond y trydydd partïon hynny a fyddai’n dod o fewn y categorïau o drydydd partïon a restrir yn adran 88(2) o Ddeddf 2000 sy’n gallu mynd i dreuliau o ran gwariant a reolir uwchlaw trothwy de minimis o £700 yn ystod cyfnod rheoleiddiedig datganoledig Cymreig. Mae adran 89B a fewnosodir hefyd yn cynnwys trosedd neillffordd o awdurdodi treuliau yn groes i’r adran, sy’n drosedd y gellir ei chosbi drwy ddirwy.

Adran 37 - Trydydd partïon sy’n gallu rhoi hysbysiad

105.Mae adran 37 yn mewnosod adran 88(11) a (12) yn DPGER, er mwyn caniatáu i Weinidogion Cymru ddiwygio’r rhestr yn adran 88(2) o drydydd partïon sy’n gallu mynd i wariant a reolir yn ystod cyfnod rheoleiddiedig datganoledig Cymreig. Gellir ychwanegu trydydd partïon at y rhestr neu eu dileu ohoni, neu gellir amrywio’r rhestr, ond dim ond pan fo’r Comisiwn Etholiadol yn argymell hynny y gellir dileu neu amrywio. Effaith adran 37(3) yw y bydd unrhyw orchmynion a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 88(11) o DPGER yn ddarostyngedig i weithdrefn penderfyniad cadarnhaol y Senedd.

Adran 38 - Cod ymarfer ar reolaethau sy’n ymwneud â thrydydd partïon

106.Er mwyn cynorthwyo trydydd partïon i ddeall y cyfyngiadau ar wariant, mae adran 38 yn mewnosod is-adran (1A) yn adran 100A o DPGER, a fewnosodwyd yn DPGER gan Ddeddf Etholiadau 2022. Mae’r is-adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn Etholiadol lunio cod ymarfer ar wariant a reolir gan drydydd partïon yn ystod cyfnod rheoleiddiedig datganoledig Cymreig. Mae adran 38(4) yn mewnosod adran 100C yn DPGER sy’n nodi’r broses y mae rhaid i’r Comisiwn Etholiadol ei dilyn wrth lunio’r cod ymarfer, sy’n cynnwys ymgynghori â Senedd Cymru, ac unrhyw bersonau eraill y mae’r Comisiwn Etholiadol yn ystyried eu bod yn briodol. Mae adran 100C hefyd yn nodi’r broses sydd i’w dilyn cyn mabwysiadu cod a gynigir gan y Comisiwn o dan adran 100A(1A) o DPGER. Effaith adran 38(5) yw nad yw unrhyw weithdrefn gan y Senedd yn gymwys i orchymyn a wneir o dan adran 100C(8).

Adran 39 - Diwygiadau canlyniadol

107.Mae adran 39 yn cyflwyno Rhan 3 o Atodlen 1, sy’n cynnwys nifer o fân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i DPGER. Mae’r diwygiadau o sylwedd a wneir i DPGER gan y Ddeddf yn cyfeirio at etholiadau Senedd Cymru, ac effaith y diwygiadau pellach yn Rhan 3 o Atodlen 1 yw sicrhau bod cysondeb yn DPGER drwyddi draw pan fydd yn cyfeirio at yr etholiadau hynny.