xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Ni chaiff rheoliadau o dan y Ddeddf hon—
(a)cynnwys darpariaeth a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol cael cydsyniad y Gweinidog priodol o dan baragraff 8(1)(a) neu (c), 10 neu 11 o Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) pe bai’r ddarpariaeth yn cael ei chynnwys mewn Deddf gan Senedd Cymru;
(b)cynnwys darpariaeth a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol ymgynghori â’r Gweinidog priodol o dan baragraff 11(2) o Atodlen 7B i’r Ddeddf honno pe bai’r ddarpariaeth yn cael ei chynnwys mewn Deddf gan Senedd Cymru.
(2)Yn yr adran hon mae i “Gweinidog priodol” yr ystyr a roddir i “appropriate Minister” gan baragraff 8(5) o Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 69 mewn grym ar 10.9.2024, gweler a. 72(1)(d)
Yn y Ddeddf hon—
ystyr “Deddf 1983” (“1983 Act”) yw Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (p. 2);
ystyr “Deddf 2000” (“2000 Act”) yw Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p. 41);
ystyr “Deddf 2013” (“2013 Act”) yw Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013 (dccc 4);
ystyr “prif gyngor” (“principal council”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 70 mewn grym ar 10.9.2024, gweler a. 72(1)(d)
(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth ynddi neu er mwyn rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth ynddi, cânt drwy reoliadau wneud—
(a)darpariaeth atodol, darpariaeth ddeilliadol neu ddarpariaeth ganlyniadol;
(b)darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.
(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio, addasu, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys deddfiad a gynhwysir yn y Ddeddf hon).
(3)Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o dan yr adran hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.
(4)Os yw rheoliadau o dan is-adran (1) yn diwygio, yn diddymu neu fel arall yn addasu darpariaeth mewn Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig neu Ddeddf neu Fesur gan Senedd Cymru, ni chaniateir i’r offeryn sy’n cynnwys y rheoliadau gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
(5)Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan is-adran (1), nad yw is-adran (4) yn gymwys iddo, yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 71 mewn grym ar 10.9.2024, gweler a. 72(1)(d)
(1)Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf hon i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—
(a)Pennod 3 o Ran 1 a Rhan 2 o Atodlen 1 (peilota a diwygio etholiadau Cymreig);
(b)adran 61 (anghymhwyso rhag bod yn Aelod o’r Senedd ac yn gynghorydd cymuned), ond mae’r adran honno yn cael effaith yn unol ag adran 61(7);
(c)adran 66 (Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru: personau na chaniateir iddynt fod yn aelodau etc.);
(d)y Rhan hon.
(2)Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf hon i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—
(a)Pennod 1 o Ran 2 (trefniadau ar gyfer llywodraeth leol);
(b)adran 25 (arolwg o gynghorwyr ac ymgeiswyr aflwyddiannus mewn etholiadau lleol);
(c)adran 30 (canllawiau ar gyfer pleidiau gwleidyddol i hybu amrywiaeth ymhlith personau sy’n ceisio swydd etholedig);
(d)adrannau 62 a 63 (anghymhwysiad am arferion llwgr neu anghyfreithlon).
(3)Daw adran 65 i rym ar 6 Mai 2027.
(4)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol, yn ddarostyngedig i is-adran (5).
(5)Ni chaiff y darpariaethau ym Mhennod 2 o Ran 1 (cofrestru etholiadol heb geisiadau), ac eithrio paragraffau (c) a (d) o adran 4(9), ddod i rym oni bai—
(a)bod darpariaeth peilota etholiadau Cymreig o’r math a ddisgrifir yn adran 5(4) wedi ei gwneud mewn rheoliadau o dan adran 5(1),
(b)bod adroddiad ar weithrediad y rheoliadau wedi ei anfon at Weinidogion Cymru o dan adran 17(5)(a),
(c)bod Gweinidogion Cymru wedi gosod yr adroddiad gerbron Senedd Cymru, a
(d)nad yw’r rheoliadau sydd mewn grym o dan adran 53 o Ddeddf 1983 sy’n gymwys i gofrestrau etholwyr llywodraeth leol ar gyfer ardaloedd yng Nghymru yn ei gwneud yn ofynnol i swyddogion cofrestru lunio cofrestrau golygedig o etholwyr llywodraeth leol na chyflenwi cofrestrau o’r fath na rhan ohonynt i unrhyw berson ar ôl talu ffi, i’r graddau y mae gofynion o’r math hwnnw mewn rheoliadau o dan adran 53 wedi eu gwahardd yn rhinwedd paragraffau 10(3) a 10B(4) o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno (fel y’u mewnosodir gan adran 4(9)(c) a (d) o’r Ddeddf hon).
(6)Caiff gorchymyn o dan is-adran (4)—
(a)pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol;
(b)gwneud darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad â dod â darpariaeth i rym a ddygir i rym drwy’r gorchymyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I4A. 72 mewn grym ar 10.9.2024, gweler a. 72(1)(d)
Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 73 mewn grym ar 10.9.2024, gweler a. 72(1)(d)