1Trosolwg o Ran 1LL+C
This
adran has no associated
Nodiadau Esboniadol
(1)Mae’r Rhan hon yn diwygio Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (p. 41) (“Deddf 1988”), o ran Cymru, fel a ganlyn.
(2)Mae Rhan 3 o Ddeddf 1988 yn gwneud darpariaeth ynghylch ardrethu annomestig. Mae adrannau 2 a 3 yn mewnosod adrannau newydd 41ZA a 52ZA yn Neddf 1988, gan ailddatgan darpariaeth ynghylch llunio rhestrau ardrethu annomestig lleol a chanolog ar gyfer Cymru. Mae’r rhestrau’n cynnwys manylion hereditamentau a’u gwerthoedd ardrethol. Mae adrannau 2 a 3 yn byrhau’r cyfnod rhwng blynyddoedd ailbrisio o 5 mlynedd i 3 blynedd. Mae adran 4 yn mewnosod pŵer yn Neddf 1988 i Weinidogion Cymru i newid y cyfnod hwnnw neu ddyddiad blwyddyn ailbrisio yn y dyfodol drwy reoliadau.
(3)Mae Atodlenni 4ZA, 4ZB a 5A i Ddeddf 1988 yn nodi rhyddhadau rhag ardrethu annomestig ar gyfer disgrifiadau penodol o hereditamentau. Mae adran 5 yn mewnosod darpariaeth ym mhob un o’r Atodlenni hyn i Weinidogion Cymru i ddiwygio neu i dynnu’n ôl ryddhadau presennol ac i roi rhyddhadau newydd drwy reoliadau.
(4)Mae paragraff 2 o Atodlen 4ZB i Ddeddf 1988 yn darparu ar gyfer rhyddhad llawn rhag ardrethu annomestig pan fo hereditament heb ei feddiannu, pan fo’r talwr ardrethi yn elusen neu’n glwb cofrestredig a phan fo amodau o ran y defnydd nesaf o’r hereditament wedi eu bodloni. Mae adran 6 yn ailddatgan y paragraff hwn ac yn ychwanegu at yr amodau y mae rhaid eu bodloni er mwyn i’r rhyddhad fod yn gymwys.
(5)Mae adran 46A o Ddeddf 1988 yn darparu ar gyfer barnu bod adeiladau newydd wedi eu cwblhau ar ddiwrnod penodol (a’u bod felly’n gymwys i’w cynnwys ar restr ardrethu annomestig leol neu ganolog). Mae adran 7 yn diwygio’r adran honno (drwy ehangu’r diffiniad o adeilad newydd) fel ei bod yn gymwys i adeiladau presennol sydd wedi cael eu haddasu pan fo’r adeiladau hynny wedi eu cynnwys mewn hereditamentau sydd wedi eu dileu oddi ar restr.
(6)Mae adran 47 o Ddeddf 1988 yn galluogi awdurdod bilio i roi neu amrywio rhyddhad rhag ardrethu annomestig yn ddarostyngedig i amodau a nodir yn yr adran. Mae adran 8 yn diwygio’r adran honno er mwyn dileu’r terfyn amser ar wneud penderfyniadau o ran rhoi neu amrywio rhyddhad.
(7)Mae Atodlen 5 i Ddeddf 1988 yn gwneud darpariaeth ynghylch hereditamentau sy’n esempt rhag ardrethu annomestig ac mae’n cynnwys pŵer cyfyngedig i Weinidogion Cymru i roi esemptiadau ychwanegol. Mae adran 9 yn disodli’r pŵer hwnnw â phŵer diamod i Weinidogion Cymru i ddiwygio esemptiadau presennol neu eu tynnu’n ôl ac i greu esemptiadau newydd drwy reoliadau.
(8)Mae Atodlen 7 i Ddeddf 1988 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â gosod lluosyddion a ddefnyddir i gyfrifo ardrethu annomestig. Mae adran 10 yn mewnosod pŵer newydd i Weinidogion Cymru i ddarparu ar gyfer lluosyddion gwahaniaethol mewn cysylltiad â disgrifiadau o hereditamentau sydd i gael eu pennu mewn rheoliadau. Mae adran 11 yn diwygio’r fformiwlâu yn Atodlenni 4ZA, 4ZB a 5A i Ddeddf 1988 ar gyfer cyfrifo ardrethi annomestig o ran hereditamentau yng Nghymru er mwyn adlewyrchu’r newidiadau a wneir gan adran 10 mewn perthynas â gosod lluosyddion gwahaniaethol.
(9)Mae Atodlen 9 i Ddeddf 1988 yn gosod dyletswyddau ar dalwyr ardrethi a thalwyr ardrethi posibl i hysbysu swyddogion prisio am wybodaeth sy’n ymwneud â’u hatebolrwydd o ran ardreth annomestig mewn cysylltiad â hereditament, ac mae’n darparu ar gyfer gorfodi’r dyletswyddau (drwy gosbau sifil a throseddol). Mae adran 12 yn diwygio Atodlen 9 fel bod y darpariaethau hyn yn gymwys o ran hereditamentau yng Nghymru.
(10)Mae adran 13 yn mewnosod adrannau 63F i 63M yn Neddf 1988. Mae’r adrannau newydd yn gwneud darpariaeth ynghylch gwrthweithio manteision a geir o drefniadau artiffisial i osgoi ardrethu annomestig. Maent yn cynnwys darpariaeth sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n darparu bod trefniant o fath penodedig yn drefniant artiffisial (oni bai, yn unol â’r rheoliadau, fod awdurdod bilio neu Weinidogion Cymru yn penderfynu fel arall mewn achos penodol); darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau bilio (neu Weinidogion Cymru) drin personau fel pe baent yn atebol am dalu’r symiau a godir a fuasai, neu a fyddai, yn daladwy yn absenoldeb trefniant artiffisial i osgoi ardrethu annomestig; darpariaeth ar gyfer proses adolygu ac apelio; darpariaeth sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n gosod cosbau ariannol pan fo person yr ymdrinnir ag ef fel pe bai’n atebol yn methu â thalu swm dyledus.
(11)Mae adran 14 yn mewnosod adran 143A yn Neddf 1988. Mae adran 143A yn gwneud darpariaeth ynghylch pwerau Gweinidogion Cymru i wneud gorchmynion a rheoliadau o dan y Ddeddf (gan ailddatgan darpariaethau adran 143 o Ddeddf 1988 i’r graddau y maent yn gymwys mewn cysylltiad â phwerau Gweinidogion Cymru).