Newidiadau a wnaed i destun y wefan
Yn y golofn hon, mae 'Do' yn dynodi bod y newidiadau wedi eu gwneud i destun y ddeddfwriaeth ddiwygiedig ar y safle hwn gan dîm golygyddol legislation.gov.uk
Mae ‘Ddim eto’ yn dynodi nad yw’r newidiadau a’r effeithiau wedi eu gwneud i’r testun ar y wefan. Fodd bynnag, dangosir rhestr o’r newidiadau nad ydynt wedi’u gwneud ar y cyd â chynnwys deddfwriaeth ar lefel ddarpariaeth yn y blwch coch ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’.
Mae ‘Ddim yn berthnasol (gweler nodyn)’ yn dynodi na fydd y newidiadau’n cael eu gwneud gan y tîm golygyddol. Bydd rhagor o wybodaeth yn egluro pam na fydd y newidiadau’n cael eu gwneud, yn cael eu cynnwys yn y golofn ‘Nodiadau’.
Pan fydd testun y ddeddfwriaeth ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, gwneir y newidiadau i’r ddwy iaith ar wahân. Pan fydd newidiadau wedi eu gwneud i’r ddwy iaith bydd ‘Do’ wedi ei nodi yn y golofn hon.
Pan fydd newidiadau wedi eu gwneud i un iaith ond nid y llall, bydd y golofn hon yn dynodi pa newidiadau a wnaed a pha iaith sydd heb ei diweddaru.