- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
(1)Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas â—
(a)dysgwyr nad ydynt eto'n 19 oed;
(b)dysgwyr sydd wedi cyrraedd 19 oed ac sydd wedi cychwyn ar gwrs addysg neu hyfforddiant cyn cyrraedd yr oedran hwnnw ac sy'n parhau i fynychu'r cwrs hwnnw;
(c)y cyfryw ddysgwyr eraill ag a ragnodir.
(2)Ym mhob blwyddyn academaidd, rhaid i awdurdod lleol asesu anghenion teithio dysgwyr ei ardal ar gyfer y flwyddyn academaidd ganlynol. Ond mae'r ddyletswydd hon yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adran 5.
(3)At ddibenion is-adran (2), anghenion dysgwyr sy'n preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod am gael trefniadau teithio addas bob dydd i'r mannau perthnasol lle y maent yn cael addysg neu hyfforddiant ac oddi yno yw “anghenion teithio dysgwyr” ardal awdurdod lleol.
(4)Wrth wneud asesiad o dan is-adran (2) rhaid i awdurdod lleol roi sylw yn benodol i—
(a)anghenion dysgwyr sy'n bersonau anabl,
(b)anghenion dysgwyr a chanddynt anawsterau dysgu,
(c)anghenion dysgwyr sy'n blant ac sy'n derbyn gofal, neu a fu gynt yn derbyn gofal, gan awdurdod lleol,
(d)oed dysgwyr, ac
(e)natur y ffyrdd y gellid yn rhesymol ddisgwyl i ddysgwyr eu dilyn i'r mannau perthnasol lle y maent yn cael addysg neu hyfforddiant.
(1)Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas â phlentyn o oedran ysgol gorfodol—
(a)os yw'r plentyn yn preswylio fel arfer mewn ardal awdurdod lleol,
(b)os yw'r amgylchiadau a nodir mewn cofnod yng ngholofn 1 y tabl canlynol yn gymwys i'r plentyn, ac
(c)os bodlonir yr amod, neu'r holl amodau, a nodir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 y tabl mewn perthynas â'r plentyn.
(2)Rhaid i'r awdurdod lleol wneud trefniadau cludo addas i hwyluso'r ffordd i'r plentyn fynychu bob dydd y mannau perthnasol lle y mae'r plentyn yn cael addysg neu hyfforddiant. Ond mae'r ddyletswydd hon yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adran 5.
Colofn 1 | Colofn 2 |
---|---|
Amgylchiadau | Amod(au) |
Mae'r plentyn yn cael addysg gynradd mewn— (a) ysgol a gynhelir, (b) uned cyfeirio disgyblion, (c) ysgol annibynnol a enwir mewn datganiad a gedwir mewn cysylltiad â'r plentyn o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996, neu (d) ysgol arbennig nas cynhelir, lle y mae'r plentyn yn ddisgybl cofrestredig. | (a) Mae'r plentyn yn preswylio fel arfer mewn man sydd 2 filltir (3.218688 o gilometrau) neu fwy o'r ysgol neu'r uned. (b) Nid oes trefniadau wedi eu gwneud gan yr awdurdod lleol i alluogi'r plentyn i ddod yn ddisgybl cofrestredig mewn— (i) ysgol a gynhelir sy'n ysgol addas, (ii) uned cyfeirio disgyblion sy'n uned addas, (iii) ysgol annibynnol a enwir mewn datganiad a gedwir mewn cysylltiad â'r plentyn o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996, neu (iv) ysgol arbennig nas cynhelir sy'n ysgol addas, ac sy'n nes at y man lle y mae'r plentyn yn preswylio fel arfer. (c) Nid oes trefniadau wedi eu gwneud gan yr awrdurdod lleol ar gyfer llety byrddio addas i'r plentyn yn yr ysgol neu'r uned neu'n agos at yr ysgol neu'r uned. |
Mae'r plentyn yn cael addysg uwchradd mewn— (a) ysgol a gynhelir, (b) uned cyfeirio disgyblion, (c) ysgol annibynnol a enwir mewn datganiad a gedwir mewn cysylltiad â'r plentyn o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996, neu (d) ysgol arbennig nas cynhelir, lle y mae'r plentyn yn ddisgybl cofrestredig. | (a) Mae'r plentyn yn preswylio fel arfer mewn man sydd 3 milltir (4.828032 o gilometrau) neu fwy o'r ysgol neu'r uned. (b) Nid oes trefniadau wedi eu gwneud gan yr awdurdod lleol i alluogi'r plentyn i ddod yn ddisgybl cofrestredig mewn— (i) ysgol a gynhelir sy'n ysgol addas, (ii) uned cyfeirio disgyblion sy'n uned addas, (iii) ysgol annibynnol a enwir mewn datganiad a gedwir mewn cysylltiad â'r plentyn o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996, neu (iv) ysgol arbennig nas cynhelir sy'n ysgol addas, ac sy'n nes at y man lle y mae'r plentyn yn preswylio fel arfer. (c) Nid oes trefniadau wedi eu gwneud gan yr awdurdod lleol ar gyfer llety byrddio addas i'r plentyn yn yr ysgol neu'r uned neu'n agos at yr ysgol neu'r uned. |
Mae'r plentyn yn cael addysg neu hyfforddiant mewn sefydliad yn y sector addysg bellach lle y mae'r plentyn wedi ymrestru fel myfyriwr llawnamser. | (a) Mae'r plentyn yn preswylio fel arfer mewn man sydd 3 milltir (4.828032 o gilometrau) neu fwy o'r sefydliad. (b) Nid oes trefniadau wedi eu gwneud gan yr awdurdod lleol i alluogi'r plentyn i ymrestru mewn sefydliad addas sy'n nes at y man lle y mae'r plentyn yn preswylio fel arfer. |
Mae'r plentyn— (a) yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir, a (b) yn cael addysg uwchradd mewn man perthnasol ac eithrio'r ysgol honno. Addysg sydd wedi ei threfnu gan y canlynol yw'r addysg uwchradd y cyfeirir ati ym mharagraff (b)— (i) gan yr awdurdod lleol, neu (ii) gan gorff llywodraethu yr ysgol lle y mae'r plentyn yn ddisgybl cofrestredig, neu ar ran y corff llywodraethu. | Mae'r plentyn yn preswylio fel arfer mewn man sydd 3 milltir (4.828032 o gilometrau) neu fwy o'r man perthnasol. |
Mae'r plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol ac mae'n cael addysg gynradd mewn— (a) ysgol a gynhelir, (b) uned cyfeirio disgyblion, (c) ysgol annibynnol a enwir mewn datganiad a gedwir mewn cysylltiad â'r plentyn o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996, neu (d) ysgol arbennig nas cynhelir, lle y mae'r plentyn yn ddisgybl cofrestredig. | Mae'r plentyn yn preswylio fel arfer mewn man sydd 2 filltir (3.218688 o gilometrau) neu fwy o'r ysgol neu'r uned. |
Mae'r plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol ac mae'n cael addysg uwchradd mewn— (a) ysgol a gynhelir, (b) uned cyfeirio disgyblion, (c) ysgol annibynnol a enwir mewn datganiad a gedwir mewn cysylltiad â'r plentyn o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996, neu (d) ysgol arbennig nas cynhelir, lle y mae'r plentyn yn ddisgybl cofrestredig. | Mae'r plentyn fel arfer yn preswylio mewn man sydd 3 milltir (4.828032 o gilometrau) neu fwy o'r ysgol neu'r uned. |
(3)Rhaid i'r awdurdod lleol beidio â chodi tâl ar blentyn neu riant sy'n unigolyn am unrhyw drefniadau cludo a wneir yn unol â'r adran hon.
(4)Caiff trefniadau cludo a wneir yn unol â'r adran hon gynnwys—
(a)darparu cludiant;
(b)talu'r cyfan, ond nid rhan, o dreuliau cludo plentyn.
(5)At ddibenion is-adran (2), nid yw trefniadau cludo'n addas—
(a)os ydynt yn peri lefelau afresymol o straen i'r plentyn,
(b)os ydynt yn cymryd amser afresymol o hir, neu
(c)os nad ydynt yn ddiogel.
(6)At ddibenion pob paragraff (b) yn ail golofn y tabl yn yr adran hon, mae'r ysgol, yr uned neu'r sefydliad yn addas i'r plentyn os yw'r addysg neu'r hyfforddiant a ddarperir yno yn addas, o ystyried oed, gallu a doniau'r plentyn ac unrhyw anawsterau dysgu a all fod ganddo.
(7)Mae'r pellteroedd a grybwyllir yng ngholofn 2 y tabl yn yr adran hon i'w mesur ar hyd y ffordd fyrraf sydd ar gael.
(8)Mae ffordd “ar gael” at ddibenion is-adran (7)—
(a)os yw'n ddiogel i blentyn heb anabledd neu anhawster dysgu gerdded y ffordd ar ei ben ei hun, neu
(b)os yw'n ddiogel i'r cyfryw blentyn gerdded y ffordd gyda hebryngwr, pe byddai oed y plentyn yn galw am ddarparu hebryngwr.
(9)Caiff rheoliadau bennu amgylchiadau ac amodau at ddibenion paragraffau (b) ac (c) o is-adran (1); caiff y cyfryw reoliadau ddiwygio'r tabl neu ddiwygio is-adrannau (6), (7) ac (8) (gan gynnwys diddymu cofnod yn y tabl neu yn yr is-adrannau hynny).
(1)Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas â phlentyn o oedran ysgol gorfodol—
(a)os yw'r plentyn yn cael addysg neu hyfforddiant mewn man perthnasol,
(b)os yw'r plentyn yn preswylio fel arfer mewn ardal awdurdod lleol, ac
(c)os yw'r awdurdod lleol o'r farn bod angen trefniadau teithio er mwyn hwyluso'r ffordd i'r plentyn fynychu bob dydd y man perthnasol lle y mae'r plentyn yn cael addysg neu hyfforddiant.
(2)Rhaid i'r awdurdod lleol wneud trefniadau teithio addas i hwyluso'r ffordd i'r plentyn fynychu bob dydd y mannau perthnasol lle y mae'r plentyn yn cael addysg neu hyfforddiant. Ond mae'r ddyletswydd hon yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adran 5.
(3)Rhaid i awdurdod lleol beidio â chodi tâl ar blentyn neu riant sy'n unigolyn am unrhyw drefniadau teithio a wneir yn unol ag is-adran (2).
(4)Caiff trefniadau teithio a wneir yn unol ag is-adran (2) gynnwys talu'r cyfan, ond nid rhan, o dreuliau teithio plentyn.
(5)Wrth ystyried a yw trefniadau teithio yn addas at ddibenion yr adran hon, rhaid i awdurdod lleol roi sylw'n benodol—
(a)i'r asesiad a wneir ganddo yn unol ag adran 2(2);
(b)i'r trefniadau cludo y mae dyletswydd arno i'w gwneud ar gyfer y plentyn o dan adran 3;
(c)i oed y plentyn;
(d)i unrhyw anabledd neu anhawster dysgu sydd gan y plentyn;
(e)i natur y ffyrdd y gellid yn rhesymol ddisgwyl i'r plentyn eu dilyn.
(6)At ddibenion yr adran hon nid yw trefniadau teithio'n addas—
(a)os ydynt yn peri lefelau afresymol o straen i'r plentyn,
(b)os ydynt yn cymryd amser afresymol o hir, neu
(c)os nad ydynt yn ddiogel.
(7)Wrth ystyried a yw trefniadau teithio'n angenrheidiol at ddibenion yr adran hon—
(a)rhaid i awdurdod lleol roi sylw'n benodol i'r materion a bennir yn is-adran (5);
(b)caiff awdurdod lleol roi sylw'n benodol i ba un a yw'r plentyn yn mynychu'r man perthnasol addas agosaf at fan preswyl arferol y plentyn ai peidio.
(8)Mae is-adran (7)(b) yn gymwys—
(a)os nad yw'r plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol, a
(b)os yw trefniadau wedi eu gwneud gan yr awdurdod lleol i alluogi'r plentyn i fynychu man perthnasol addas sy'n nes at fan preswyl arferol y plentyn.
(9)At ddibenion yr adran hon, mae man perthnasol yn addas i blentyn os yw'r addysg neu'r hyfforddiant a ddarperir yno yn addas, o ystyried oed, gallu a doniau'r plentyn ac unrhyw anawsterau dysgu a all fod ganddo.
Nid yw adran 2 yn ei gwneud yn ofynnol i asesu anghenion teithio dysgwyr ac nid yw adrannau 3 a 4 yn ei gwneud yn ofynnol i wneud trefniadau teithio—
(a)er mwyn i ddysgwyr deithio yn ystod y dydd rhwng mannau perthnasol neu rhwng gwahanol safleoedd yr un sefydliad, neu
(b)at unrhyw ddiben ac eithrio mynychu man perthnasol i gael addysg neu hyfforddiant.
(1)Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas â dysgwr—
(a)os yw'r dysgwr yn preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod lleol, neu
(b)os yw'r dysgwr yn cael addysg neu hyfforddiant yn ardal yr awdurdod lleol.
(2)Caiff yr awdurdod lleol wneud trefniadau teithio i hwyluso'r ffordd i'r dysgwr fynychu man lle y mae'r person hwnnw'n cael addysg neu hyfforddiant.
(3)Caiff awdurdod lleol godi tâl am drefniadau teithio a wneir o dan yr adran hon ar gyfer disgyblion cofrestredig o oedran ysgol gorfodol yn unol â darpariaethau adrannau 455 a 456 o Ddeddf Addysg 1996.
(4)Caiff awdurdod lleol godi tâl am drefniadau teithio a wneir o dan yr adran hon ar gyfer dysgwyr eraill.
(1)Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas â dysgwyr sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru a'r rheini —
(a)yn ddysgwyr—
(i)sydd dros oedran ysgol gorfodol ond heb fod eto'n 19 oed, neu
(ii)sydd wedi cyrraedd 19 oed ac wedi cychwyn ar gwrs addysg neu hyfforddiant penodol cyn cyrraedd yr oedran hwnnw ac sy'n parhau i fynychu'r cwrs hwnnw; a
(b)yn ddysgwyr sy'n cael addysg neu hyfforddiant—
(i)mewn man yng Nghymru, neu
(ii)a gyllidir gan Weinidogion Cymru mewn man y tu allan i Gymru.
(2)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch trefniadau teithio i ddysgwyr i'r mannau lle y maent yn cael addysg neu hyfforddiant ac oddi yno.
(3)Caiff y rheoliadau yn benodol—
(a)rhoi pwerau i'r canlynol neu osod dyletswyddau arnynt—
(i)Gweinidogion Cymru;
(ii)awdurdodau lleol;
(iii)sefydliadau yn y sector addysg bellach;
(b)pennu'r mathau o fan y caniateir, neu y mae'n rhaid, gwneud trefniadau teithio i fynd yno ac oddi yno;
(c)pennu'r trefniadau teithio y caniateir, neu y mae'n rhaid, eu gwneud;
(d)pennu'r materion y mae'n rhaid rhoi ystyriaeth iddynt wrth wneud penderfyniadau am drefniadau teithio;
(e)gwneud darpariaeth ynghylch codi tâl;
(f)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi unrhyw wybodaeth neu gymorth arall y mae'n rhesymol bod ei hangen neu ei angen ar unrhyw berson arall mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau'r person arall o dan y rheoliadau;
(g)gwneud darpariaeth ynghylch y safonau ymddygiad y mae'n ofynnol i ddysgwyr eu harddel tra byddant yn teithio i'r mannau lle y maent yn cael addysg neu hyfforddiant neu o'r mannau hynny.
(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch trefniadau teithio i blant o dan oedran ysgol gorfodol i'r mannau lle y maent yn cael addysg feithrin ac oddi yno.
(2)Caiff y rheoliadau'n benodol—
(a)ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol wneud trefniadau teithio;
(b)caniata[acute]u i awdurdod lleol wneud trefniadau teithio;
(c)pennu'r mathau o fan y caniateir gwneud, neu y mae'n rhaid gwneud, trefniadau teithio yno ac oddi yno;
(d)pennu'r trefniadau teithio y caniateir, neu y mae'n rhaid, eu gwneud;
(e)pennu'r materion y mae'n rhaid eu hystyried wrth wneud penderfyniadau am drefniadau teithio;
(f)gwneud darpariaeth ynghylch codi tâl;
(g)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi unrhyw wybodaeth neu gymorth arall y mae'n rhesymol bod ei hangen neu ei angen ar yr awdurdod lleol mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau'r awdurdod o dan y rheoliadau.
(1)Mae'r adran hon yn gymwys os gwneir trefniadau o dan adran 3, adran 4 neu adran 6 mewn cysylltiad â dysgwyr o fath a ddisgrifir mewn cofnod yng ngholofn 1 y tabl a ganlyn.
(2)Rhaid gwneud trefniadau hefyd yn unol â'r adrannau hynny mewn cysylltiad â'r dysgwyr o fath a ddisgrifir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 y tabl.
(3)Rhaid i'r trefniadau y cyfeirir atynt yn is-adran (2) beidio â bod yn llai ffafriol na'r trefniadau y cyfeirir atynt yn is-adran (1).
Colofn 1 | Colofn 2 |
---|---|
Plant o oedran ysgol gorfodol sy'n cael addysg neu hyfforddiant mewn ysgolion a gynhelir. | Plant yr un oed sy'n cael addysg neu hyfforddiant mewn mannau perthnasol eraill. |
Dysgwyr sydd dros yr oedran ysgol gorfodol ac sy'n cael addysg lawnamser neu hyfforddiant llawnamser mewn ysgolion a gynhelir. | Dysgwyr yr un oed sy'n cael addysg lawnamser neu hyfforddiant llawnamser mewn mannau perthnasol eraill. |
Dysgwyr a chanddynt anawsterau dysgu sy'n cael addysg neu hyfforddiant mewn ysgolion a gynhelir. | Dysgwyr yr un oed a chanddynt anawsterau dysgu sy'n cael addysg neu hyfforddiant mewn mannau perthnasol eraill. |
Dysgwyr a chanddynt anabledd sy'n cael addysg neu hyfforddiant mewn ysgolion a gynhelir. | Dysgwyr yr un oed a chanddynt anabledd sy'n cael addysg neu hyfforddiant mewn mannau perthnasol eraill. |
Plant sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol ac sy'n cael addysg neu hyfforddiant mewn ysgolion a gynhelir. | Plant yr un oed sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol ac sy'n cael addysg neu hyfforddiant mewn mannau perthnasol eraill. |
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Testun a grëwyd gan yr adran o Lywodraeth Cynulliad Cymru oedd yn gyfrifol am destun y Mesur i esbonio beth mae’r Mesur yn ceisio ei wneud ac i wneud y Mesur yn hygyrch i ddarllenwyr nad oes ganddynt gymhwyster cyfreithiol. Mae Nodiadau Esboniadol yn cyd-fynd â holl Fesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys