Newidiadau dros amser i: Paragraff 4
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 31/12/2020.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, Paragraff 4 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 07 Ionawr 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.
Changes to Legislation
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
Gofynion yn ôl disgresiwnLL+C
This
adran has no associated
Nodiadau Esboniadol
[4(1)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth sy'n rhoi'r pŵer i awdurdod gorfodi osod, drwy hysbysiad, un neu ragor o ofynion yn ôl disgresiwn ar berson sy'n torri rheoliadau diogelwch.
(2)Ni chaiff y rheoliadau roi'r cyfryw bŵer ond mewn perthynas ag achos pan fo'r awdurdod gorfodi wedi ei fodloni yn ôl pwysau tebygolrwydd fod y rheoliadau wedi eu torri.
(3)At ddibenion yr Atodlen hon ystyr “gofyniad yn ôl disgresiwn” yw—
(a)gofyniad i dalu cosb ariannol i awdurdod gorfodi o swm y caniateir i'r awdurdod gorfodi ei benderfynu, neu
(b)gofyniad i gymryd unrhyw gamau a bennir gan awdurdod gorfodi, cyn pen cyfnod a bennir gan yr awdurdod gorfodi, er mwyn sicrhau nad yw'r toriad yn parhau neu'n digwydd eto.
(4)Yn yr Atodlen hon—
(5)Rhaid i'r rheoliadau, mewn perthynas â phob math o doriad o reoliadau diogelwch y caniateir gosod cosb amrywiadwy amdano—
(a)pennu'r gosb uchaf y caniateir ei gosod am doriad o'r math hwnnw, neu
(b)darparu am benderfynu'r gosb uchaf honno yn unol â'r rheoliadau.
(6)Ni chaiff y rheoliadau ganiatáu gosod gofynion yn ôl disgresiwn ar berson ar ragor nag un achlysur mewn perthynas â'r un weithred neu anwaith.]
Yn ôl i’r brig