Newidiadau dros amser i: Adran 14N
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 31/12/2020.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, Adran 14N yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 07 Ionawr 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.
Changes to Legislation
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
[14NDehongli adrannau 14A i 14KLL+C
This
adran has no associated
Nodiadau Esboniadol
(1)Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion adrannau 14A i 14K.
(2)Mae pob un o'r canlynol yn “gorff perthnasol”—
(a)awdurdod lleol;
(b)corff llywodraethu ysgol a gynhelir.
(3)Ystyr “cludiant i ddysgwyr” yw cludiant i'w gwneud yn hwylus i blentyn fynychu unrhyw fan perthnasol lle y caiff addysg neu hyfforddiant; ond nid yw'n cynnwys cludiant a ddarperir er mwyn teithio yn ystod y dydd rhwng mannau perthnasol neu rhwng safleoedd gwahanol o'r un sefydliad.
(4)Nid yw'r weithred o wneud unrhyw un o'r trefniadau a ganlyn i'w hystyried, ynddi'i hun, fel petai'n darparu cludiant i ddysgwyr neu'n sicrhau fel arall bod cludiant i ddysgwyr yn cael ei ddarparu.
(5)Y trefniadau a grybwyllir yn is-adran (4) yw—
(a)trefniadau i dalu'r cyfan neu unrhyw ran o dreuliau teithio rhesymol person;
(b)trefniadau i dalu lwfansau mewn cysylltiad â defnyddio cludiant.
(6)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio is-adran (3) yn y fath fodd ag i hepgor y geiriau o “ond nid yw'n cynnwys” hyd at ddiwedd yr is-adran.]
Yn ôl i’r brig