Amrywiol ac atodolLL+C
33Rhannu gwybodaethLL+C
(1)At ddibenion yr adran hon, ystyr y “grŵp rhannu gwybodaeth” yw'r rheoleiddwyr perthnasol ac Archwilydd Cyffredinol Cymru.
(2)Caiff aelod o'r grŵp rhannu gwybodaeth ofyn, at ddibenion arfer ei swyddogaethau perthnasol, i aelod arall o'r grŵp ddarparu gwybodaeth neu ddogfennau penodedig iddo.
(3)Rhaid i aelod o'r grŵp rhannu gwybodaeth gydymffurfio â chais a wneir o dan is-adran (2) i'r graddau—
(a)y mae'r cais yn ymwneud â gwybodaeth a gafodd yr aelod, neu ddogfennau a ddangoswyd i'r aelod hwnnw, wrth iddo arfer ei swyddogaethau perthnasol; a
(b)y mae'n rhesymol ymarferol gwneud hynny.
(4)Y canlynol yw swyddogaethau perthnasol aelod o'r grŵp rhannu gwybodaeth—
(a)yn achos rheoleiddiwr perthnasol, ei swyddogaethau perthnasol o dan adran 16;
(b)yn achos Archwilydd Cyffredinol Cymru, y swyddogaethau sydd wedi'u crybwyll yn adran 23(7).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 33 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 53(2)
I2A. 33 mewn grym ar 1.4.2010 gan O.S. 2009/3272, ergl. 3(1), Atod. 2
34Y modd y mae gwybodaeth i'w defnyddio gan reoleiddwyrLL+C
Caiff rheoleiddiwr perthnasol ddefnyddio unrhyw wybodaeth y mae'n ei chael, neu ddogfennau a ddangoswyd i'r rheoleiddiwr, wrth arfer unrhyw swyddogaeth berthnasol at ddibenion swyddogaethau'r rheoleiddiwr o dan y Mesur hwn.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 34 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 53(2)
I4A. 34 mewn grym ar 1.4.2010 gan O.S. 2009/3272, ergl. 3(1), Atod. 2
35Rhan 1: dehongliLL+C
(1)At ddibenion y Rhan hon—
mae i'r ymadrodd “arolygiad arbennig” (“special inspection”) yr ystyr a roddwyd iddo gan adran 21;
mae i'r ymadrodd “awdurdod gwella Cymreig” (“Welsh improvement authority”) yr ystyr a roddwyd iddo gan adran 1;
mae i'r ymadrodd “awdurdod tân ac achub Cymreig” (“Welsh fire and rescue authority”) yr ystyr a roddwyd iddo gan adran 1(c);
ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw blwyddyn sy'n dechrau ar 1 Ebrill;
ystyr “cynllun gwella” (“improvement plan”) yw'r cynllun y cyfeiriwyd ato yn adran 15(6);
mae i'r ymadrodd “pwerau cydlafurio” (“powers of collaboration”) yr ystyr a roddir iddo gan adran 11(1);
ystyr “rheoleiddiwr perthnasol” (“relevant regulator”) yw person a grybwyllwyd yn adran 16(2);
ystyr “swyddogaethau perthnasol” (“relevant functions”), mewn perthynas â rheoleiddiwr perthnasol, yw'r swyddogaethau a bennwyd mewn cysylltiad â'r rheoleiddiwr yn adran 16(2);
ystyr “trefniadau cydlafurio” (“collaboration arrangements”) yw gweithgaredd a gyflawnir wrth arfer pwerau cydlafurio awdurdod gwella Cymreig.
(2)At ddibenion y Rhan hon, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae cyfeiriad at awdurdod gwella Cymreig yn arfer swyddogaeth yn cynnwys cyfeiriad at gyflawni gweithredoedd cysylltiedig (megis gwneud trefniadau gweinyddol).
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 35 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 53(2)
I6A. 35 mewn grym ar 17.7.2009 gan O.S. 2009/1796, ergl. 2(m)
36CyllidLL+C
(1)Mae adran 33 o Deddf Llywodraeth Leol 1999 (cyllid) wedi'i diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn is-adran (3)—
(a)rhowch “Welsh Ministers” yn lle “National Assembly for Wales”;
(b)ar ddiwedd paragraff (b), ychwanegwch “or the Local Government (Wales) Measure 2009”.
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 36 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 53(2)
I8A. 36 mewn grym ar 17.7.2009 gan O.S. 2009/1796, ergl. 2(n)