Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 01/04/2016
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 02/07/2014.
Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, RHAN 2 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 04 Ionawr 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
(1)Rhaid i awdurdod lleol—
(a)cychwyn; a
(b)wedi iddo wneud hynny, gynnal, hwyluso a chymryd rhan mewn
cynllunio cymunedol ar gyfer ei ardal.
(2)Mae cynllunio cymunedol ar gyfer ardal awdurdod lleol yn broses y mae'r awdurdod a'i bartneriaid cynllunio cymunedol yn ei defnyddio i wneud y canlynol—
(a)nodi amcanion hirdymor ar gyfer gwella—
(i)llesiant cymdeithasol yr ardal;
(ii)llesiant economaidd yr ardal; a
(iii)llesiant amgylcheddol yr ardal;
(b)nodi amcanion hirdymor mewn perthynas â'r ardal i gyfrannu at sicrhau datblygiad cynaliadwy yn y Deyrnas Unedig; a
(c)nodi'r camau sydd i'w cyflawni a'r swyddogaethau sydd i'w harfer gan yr awdurdod lleol a'i bartneriaid cynllunio cymunedol er mwyn cyrraedd yr amcanion a nodwyd o dan baragraffau (a) a (b).
(3)Rhaid i bob partner cynllunio cymunedol awdurdod lleol—
(a)cymryd rhan yn y broses o gynllunio cymunedol ar gyfer ardal yr awdurdod i'r graddau y mae'r cynllunio hwnnw yn gysylltiedig â swyddogaethau'r partner; a
(b)cynorthwyo'r awdurdod i gyflawni ei ddyletswyddau o dan is-adran (1).
(4)At ddibenion yr adran hon mae cyfeiriad at gam sydd i'w chyflawni neu swyddogaeth sydd i'w harfer gan awdurdod lleol neu un o'i bartneriaid cynllunio cymunedol yn gyfeiriad at gam neu swyddogaeth sydd o fewn pwerau'r awdurdod neu'r partner.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 37 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 53(2)
I2A. 37 mewn grym ar 1.1.2010 gan O.S. 2009/3272, ergl. 2, Atod. 1
(1)At ddibenion y Rhan hon, y cyrff canlynol yw partneriaid cynllunio cymunedol awdurdod lleol—
(a)cyngor cymuned ar gyfer cymuned y mae unrhyw ran ohoni yn dod o fewn ardal yr awdurdod lleol;
(b)awdurdod tân ac achub Cymreig sydd wedi'i gyfansoddi ar gyfer ardal y mae unrhyw ran ohoni yn dod o fewn ardal yr awdurdod lleol;
(c)Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd ar gyfer ardal y mae unrhyw ran ohoni yn dod o fewn ardal yr awdurdod lleol;
(d)Ymddiriedolaeth GIG sydd wedi'i phennu mewn perthynas ag ardal yr awdurdod drwy gyfarwyddyd Gweinidogion Cymru;
(e)awdurdod Parc Cenedlaethol y mae unrhyw ran o'i ardal yn dod o fewn ardal yr awdurdod lleol;
(f)[F1comisiynydd heddlu a throseddu] ar gyfer ardal heddlu y mae unrhyw ran ohoni yn dod o fewn ardal yr awdurdod lleol;
(g)prif gwnstabl yr Heddlu ar gyfer ardal heddlu sydd wedi ei grybwyll ym mharagraff (f);
(2)Yn ddarostyngedig i is-adrannau (3) a (4), caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn—
(a)diwygio neu hepgor unrhyw baragraff yn is-adran (1);
(b)ychwanegu paragraffau ychwanegol at yr is-adran honno;
(c)diwygio neu hepgor paragraffau ychwanegol o'r fath.
(3)Rhaid i Weinidogion Cymru beidio ag arfer eu pŵer o dan is-adran (2)—
(a)yn y fath fodd ag i gynnwys, neu ddarparu ar gyfer cynnwys, person yn is-adran (1) nad oes ganddo swyddogaethau cyhoeddus eu natur;
(b)yn y fath fodd ag i gynnwys, neu ddarparu ar gyfer cynnwys, person yn yr is-adran honno onid ydynt wedi ymgynghori â'r canlynol—
(i)pan fônt yn bwriadu cynnwys person, y person hwnnw;
(ii)unrhyw gynrychiolwyr awdurdodau lleol yng Nghymru y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol;
(iii)unrhyw gynrychiolwyr partneriaid cynllunio cymunedol y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol.
(4)Os bydd Gweinidogion Cymru yn arfer eu pŵer o dan is-adran (2) yn y fath fodd ag i gynnwys, neu ddarparu ar gyfer cynnwys, person yn is-adran (1) y mae ganddo swyddogaethau cyhoeddus a phreifat eu natur, dim ond mewn perthynas â'r swyddogaethau cyhoeddus eu natur y cânt gynnwys y person hwnnw, neu ddarparu ei fod yn cael ei gynnwys.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 38(1)(f) wedi eu hamnewid (2.7.2014) gan Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (Diwygio) 2014 (O.S. 2014/1713), erglau. 1(2), 2(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 38 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 53(2)
I4A. 38 mewn grym ar 17.7.2009 gan O.S. 2009/1796, ergl. 2(o)
(1)Pan fydd cynllunio cymunedol ar gyfer ardal awdurdod lleol wedi cyrraedd y pwynt a ddisgrifir yn is-adran (2), rhaid i'r awdurdod lunio dogfen (y cyfeirir ati yn y Mesur hwn fel “strategaeth gymunedol”) sy'n cynnwys yr wybodaeth a ddisgrifir yn is-adran (3).
(2)Cyrhaeddir y pwynt y cyfeiriwyd ato yn is-adran (1) pan fo'r awdurdod o'r farn bod maint y consensws ymhlith y partneriaid cynllunio cymunedol a'r awdurdod—
(a)ynghylch amcanion strategaeth gymunedol ar gyfer ardal yr awdurdod yn golygu ei bod yn briodol gosod yr amcanion hynny yn y strategaeth gymunedol; a
(b)ynghylch y camau sydd i'w cyflawni a'r swyddogaethau sydd i'w harfer er mwyn cyrraedd yr amcanion hynny yn golygu ei bod yn briodol eu disgrifio yn y strategaeth gymunedol.
(3)Yr wybodaeth sydd i'w chynnwys yn y strategaeth gymunedol yw—
(a)disgrifiad o'r amcanion strategaeth gymunedol y mae'r awdurdod yn credu ei bod yn briodol eu gosod gan roi sylw i'r consensws y cyfeiriwyd ato yn is-adran (2)(a); a
(b)disgrifiad o'r camau sydd i'w cyflawni a'r swyddogaethau sydd i'w harfer er mwyn cyrraedd yr amcanion hynny y mae'r awdurdod yn credu ei bod yn briodol eu cynnwys yn y strategaeth gan roi sylw i'r consensws y cyfeiriwyd ato yn is-adran (2)(b).
(4)Rhaid i'r strategaeth gymunedol—
(a)cael ei llunio cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i gynllunio cymunedol ar gyfer ardal yr awdurdod gyrraedd y pwynt sydd wedi ei ddisgrifio yn is-adran (2); a
(b)pan fo wedi'i llunio, cael ei chyhoeddi cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol gan yr awdurdod.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 39 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 53(2)
I6A. 39 mewn grym ar 1.1.2010 gan O.S. 2009/3272, ergl. 2, Atod. 1
(1)Rhaid i adolygiad o strategaeth gymunedol gael ei gwblhau'n unol ag adran 41—
(a)cyn pedwerydd pen blwydd y dyddiad y cafodd y strategaeth gymunedol ei chyhoeddi o dan adran 39(4); a
(b)ar ôl hynny, cyn pedwerydd pen blwydd y dyddiad y cafodd yr adolygiad diwethaf o'r strategaeth gymunedol ei gwblhau.
(2)At ddibenion yr adran hon ac adran 41, bydd adolygiad o strategaeth gymunedol wedi'i gwblhau—
(a)ar y dyddiad y caiff strategaeth gymunedol ddiwygiedig ei chyhoeddi o dan adran 41(6); neu
(b)os na fydd adolygiad yn arwain at unrhyw ddiwygiad i strategaeth gymunedol, ar y dyddiad y penderfynodd yr awdurdod lleol nad oedd yn ofynnol o dan adran 41(4) i'r strategaeth gael ei diwygio.
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 40 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 53(2)
I8A. 40 mewn grym ar 1.1.2010 gan O.S. 2009/3272, ergl. 2, Atod. 1
(1)Mae'r adran hon yn nodi'r broses y mae'n rhaid i strategaeth gymunedol gael ei hadolygu drwyddi.
(2)Rhaid i awdurdod lleol ac, yn ddarostyngedig i is-adran (3), ei bartneriaid cynllunio cymunedol—
(a)drwy gymryd i ystyriaeth unrhyw ddatganiad a gyhoeddwyd o dan adran 42(3) er y dyddiad y cafodd y strategaeth gymunedol ei llunio neu (yn ôl y digwydd) y dyddiad y cwblhawyd yr adolygiad diwethaf ohoni, bwyso a mesur i ba raddau—
(i)y mae'r amcanion strategaeth gymunedol, sydd wedi'u cynnwys yn y strategaeth, wedi'u cyrraedd;
(ii)os nad yw amcan wedi'i gyrraedd, y mae cynnydd wedi'i wneud tuag at gyrraedd yr amcan;
(b)yng ngoleuni'r pwyso a mesur o dan baragraff (a) ac unrhyw ffactorau eraill y bydd yr awdurdod neu bartner yn meddwl eu bod yn briodol, pwyso a mesur—
(i)a ddylid addasu'r amcanion strategaeth gymunedol;
(ii)a ddylid gosod amcanion newydd;
(iii)a ddylai'r disgrifiad yn y strategaeth o'r camau sydd i'w cymryd a'r swyddogaethau sydd i'w harfer er mwyn cyrraedd un o'r amcanion strategaeth gymunedol gael eu haddasu (p'un ai yng ngoleuni addasiad o amcan neu am unrhyw reswm arall);
(iv)pan fo'r awdurdod neu'r partner yn credu y dylai amcan newydd gael ei osod, pa gamau y dylid eu cymryd a pha swyddogaethau y dylid eu harfer er mwyn cyrraedd yr amcan.
(3)Dim ond i faterion sy'n gysylltiedig â'i swyddogaethau y mae dyletswydd partner cynllunio cymunedol o dan is-adran (2) yn ymestyn.
(4)Os caiff y gofyniad yn is-adran (5) ei fodloni, rhaid i awdurdod lleol, yn sgil y pwyso a mesur sy'n ofynnol o dan is-adran (2), ddiwygio'r strategaeth gymunedol ar gyfer ei ardal drwy wneud y cyfan neu unrhyw rai o'r canlynol—
(a)addasu'r amcanion strategaeth gymunedol;
(b)gosod amcanion newydd;
(c)addasu'r camau sydd i'w cymryd a'r swyddogaethau sydd i'w harfer er mwyn bodloni un o'r amcanion strategaeth gymunedol;
(d)disgrifio'r camau sydd i'w cymryd a'r swyddogaethau sydd i'w harfer er mwyn bodloni amcan newydd.
(5)Y gofyniad yw bod yr awdurdod o'r farn, mewn perthynas â diwygiad arfaethedig, bod maint y consensws ymhlith y partneriaid cynllunio cymunedol a'r awdurdod mewn perthynas â'r diwygiad yn golygu ei bod yn briodol gwneud y diwygiad.
(6)Rhaid i'r awdurdod lleol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl iddo ddod yn ddarostyngedig i'r ddyletswydd o dan is-adran (4), gyhoeddi strategaeth gymunedol ddiwygiedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I9A. 41 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 53(2)
I10A. 41 mewn grym ar 1.1.2010 gan O.S. 2009/3272, ergl. 2, Atod. 1
(1)Rhaid i awdurdod lleol a'i bartneriaid cynllunio cymunedol sicrhau bod trefniadau'n cael eu gwneud i fonitro—
(a)y cynnydd sydd wedi ei wneud tuag at gyrraedd yr amcanion strategaeth gymunedol ar gyfer ardal yr awdurdod lleol sydd wedi'u cynnwys yn y strategaeth gymunedol gyfredol; a
(b)effeithiolrwydd y camau sydd wedi eu cymryd a'r swyddogaethau sydd wedi eu harfer er mwyn cyrraedd yr amcanion hynny.
(2)Dim ond i faterion sy'n gysylltiedig â'i swyddogaethau y mae dyletswydd partner cynllunio cymunedol o dan is-adran (1) yn ymestyn.
(3)Rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi o dro i dro (ond o leiaf unwaith bob dwy flynedd) ddatganiad sy'n disgrifio—
(a) y cynnydd sydd wedi ei wneud tuag at gyrraedd yr amcanion strategaeth gymunedol ar gyfer ei ardal; a
(b)y camau sydd wedi eu cymryd a'r swyddogaethau sydd wedi eu harfer er mwyn cyrraedd yr amcanion hynny.
(4)Mae'n ddyletswydd ar bob partner cynllunio cymunedol i awdurdod lleol ddarparu unrhyw wybodaeth y mae ar yr awdurdod angen rhesymol amdani er mwyn galluogi'r awdurdod i gydymffurfio â'i ddyletswydd o dan is-adran (3).
(5)Rhaid i'r datganiad cyntaf o dan is-adran (3) gael ei lunio o fewn dwy flynedd i'r dyddiad y cyhoeddir strategaeth gymunedol o dan adran 39(4).
Gwybodaeth Cychwyn
I11A. 42 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 53(2)
I12A. 42 mewn grym ar 1.1.2010 gan O.S. 2009/3272, ergl. 2, Atod. 1
(1)Mae'r adran hon yn gymwys i awdurdod lleol neu un o'i bartneriaid cynllunio cymunedol os yw'r strategaeth gymunedol gyfredol ar gyfer ardal yr awdurdod yn disgrifio—
(a)cam sydd i'w gyflawni gan yr awdurdod neu bartner er mwyn bodloni amcan strategaeth gymunedol; neu
(b)swyddogaeth sydd i'w harfer gan yr awdurdod neu bartner er mwyn bodloni amcan strategaeth gymunedol.
(2)Rhaid i'r awdurdod neu'r partner cynllunio cymunedol gymryd pob mesur rhesymol i gyflawni'r cam neu arfer y swyddogaeth yn unol â'r strategaeth gymunedol.
Gwybodaeth Cychwyn
I13A. 43 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 53(2)
I14A. 43 mewn grym ar 1.1.2010 gan O.S. 2009/3272, ergl. 2, Atod. 1
(1)Rhaid i awdurdod lleol a'i bartneriaid cynllunio cymunedol sicrhau bod trefniadau yn cael eu gwneud er mwyn i'r personau a grybwyllir yn is-adran (2) gael cyfle i leisio eu barn, a chael bod y farn honno yn cael ei hystyried, mewn cysylltiad â'r canlynol—
(a)cynllunio cymunedol;
(b)llunio strategaeth gymunedol ar gyfer ardal yr awdurdod; ac
(c)yr adolygiad o strategaethau cymunedol.
(2)Y personau yw—
(a)personau sy'n preswylio yn ardal yr awdurdod lleol;
(b)personau nad ydynt yn preswylio yn yr ardal honno ond sy'n cael gwasanaethau a ddarperir gan yr awdurdod neu un o'i bartneriaid cynllunio cymunedol;
(c)cynrychiolwyr cyrff gwirfoddol perthnasol;
(d)cynrychiolwyr personau sy'n rhedeg busnesau yn ardal yr awdurdod;
(e)personau eraill sydd, ym marn yr awdurdod, â diddordeb ym maes gwella llesiant cymdeithasol, economaidd neu amgylcheddol yr ardal.
(3)At ddibenion yr adran hon ystyr “cyrff gwirfoddol perthnasol” yw cyrff (ac eithrio awdurdodau lleol neu gyrff cyhoeddus eraill) y mae eu gweithgareddau—
(a)yn cael eu cynnal am resymau nad ydynt yn ymwneud ag elw, a
(b)o fudd uniongyrchol neu anuniongyrchol i'r cyfan neu unrhyw ran o ardal yr awdurdod lleol.
(4)Mae landlord cymdeithasol cofrestredig (o fewn ystyr “registered social landlord” yn Rhan 1 o Ddeddf Tai 1996) sy'n darparu tai yn ardal yr awdurdod lleol yn gorff gwirfoddol perthnasol at ddibenion yr adran hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I15A. 44 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 53(2)
I16A. 44 mewn grym ar 1.1.2010 gan O.S. 2009/3272, ergl. 2, Atod. 1
(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau ynghylch—
(a)unrhyw agwedd ar gynllunio cymunedol;
(b)llunio ac adolygu strategaethau cymunedol;
(c)dyletswyddau awdurdod lleol a'i bartneriaid cynllunio cymunedol o dan adrannau 42 i 44.
(2)Rhaid i awdurdod lleol a'i bartneriaid cynllunio cymunedol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir o dan yr adran hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I17A. 45 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 53(2)
I18A. 45 mewn grym ar 17.7.2009 gan O.S. 2009/1796, ergl. 2(p)
Rhaid i Weinidogion Cymru, wrth arfer unrhyw swyddogaeth a all effeithio ar gynllunio cymunedol anelu, cyhyd â'i bod yn rhesymol ymarferol i wneud hynny, at hyrwyddo ac annog cynllunio cymunedol.
Gwybodaeth Cychwyn
I19A. 46 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 53(2)
I20A. 46 mewn grym ar 1.1.2010 gan O.S. 2009/3272, ergl. 2, Atod. 1
(1)At ddibenion y Rhan hon—
mae i “ardal heddlu” yr ystyr a roddir i “police area” gan adran 1 o Ddeddf yr Heddlu 1996;
ystyr “awdurdod heddlu” (“police authority”) yw awdurdod heddlu yng Nghymru a sefydlwyd o dan adran 3 o Ddeddf yr Heddlu 1996;
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
ystyr “awdurdod Parc Cenedlaethol” (“National Park authority”) yw awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;
mae i'r ymadrodd “awdurdod tân ac achub Cymreig” (“Welsh fire and rescue authority”) yr un ystyr â'i ystyr yn adran 1(c);
rhaid dehongli “cynllunio cymunedol” (“community planning”) yn unol ag adran 37;
ystyr “partner cynllunio cymunedol” (“community planning partner”) yw person sy'n dod o fewn adran 38;
ystyr “strategaeth gymunedol gyfredol” (“current community strategy”) yw'r strategaeth gymunedol ar gyfer ardal awdurdod lleol a gyhoeddwyd o dan adran 39(4) neu, pan fo'r strategaeth wedi'i diwygio yn dilyn adolygiad o dan adran 41, y strategaeth a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar o dan adran 41(6).
(2)Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at gam yn cael ei gyflawni neu swyddogaeth yn cael ei harfer er mwyn bodloni un o amcanion strategaeth gymunedol yn gyfeiriad at gam sy'n cael ei gyflawni neu swyddogaeth sy'n cael ei harfer yn y modd sydd wedi ei ddisgrifio yn adran 37(2)(c).
(3)Pan fo cyfeiriad yn y Rhan hon at beth sy'n gysylltiedig â swyddogaethau partner cynllunio cymunedol, nid yw'r swyddogaethau hynny'n cynnwys swyddogaethau'r partner o dan y Rhan hon.
(4)Caniateir i ddogfen y cyfeiriwyd ati gan y Mesur hon fel “strategaeth gymunedol” (neu gan ymadrodd sy'n cynnwys y term hwnnw) gael ei galw yn lle hynny yn ôl pa enw amgen bynnag y bydd awdurdod lleol a'i bartneriaid cynllunio cymunedol yn cytuno arno.
Gwybodaeth Cychwyn
I21A. 47 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 53(2)
I22A. 47 mewn grym ar 17.7.2009 gan O.S. 2009/1796, ergl. 2(q)
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Testun a grëwyd gan yr adran o Lywodraeth Cynulliad Cymru oedd yn gyfrifol am destun y Mesur i esbonio beth mae’r Mesur yn ceisio ei wneud ac i wneud y Mesur yn hygyrch i ddarllenwyr nad oes ganddynt gymhwyster cyfreithiol. Mae Nodiadau Esboniadol yn cyd-fynd â holl Fesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys