xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)At ddibenion y Rhan hon, mae “rheoleiddiwr perthnasol” yn berson a restrir yn is-adran (2) a “swyddogaethau perthnasol” y rheoleiddiwr yw'r rhai a bennir mewn cysylltiad â'r person hwnnw yn yr is-adran honno.
(2)Mae'r rheoleiddwyr perthnasol a'u swyddogaethau perthnasol fel a ganlyn—
(a)Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru wrth arfer swyddogaethau o dan adran 38 o Ddeddf Addysg 1997 (p. 44) (arolygu AALl);
(b)Gweinidogion Cymru wrth arfer eu swyddogaethau o dan—
(i)adrannau 93, 94 a 95 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau Cymunedol) 2003 (p. 43) (adolygiadau etc o'r gwasanaethau cymdeithasol sy'n cael eu darparu);
(ii)rheoliadau a wnaed o dan adran 96 o'r Ddeddf honno;
(c)person a benodwyd o dan adran 28 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21) (arolygwyr) wrth arfer ei swyddogaethau o dan adran 28(1) o'r Ddeddf honno;
[F1(d)Comisiynydd y Gymraeg wrth arfer swyddogaethau o dan adran 17 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 (p. 38) (ymchwiliadau);]
F2(e). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn—
(a)diwygio neu hepgor unrhyw baragraff yn is-adran (2);
(b)ychwanegu paragraffau ychwanegol at yr is-adran honno;
(c)diwygio neu hepgor paragraffau ychwanegol o'r fath.
(4)Caiff gorchymyn o'r fath wneud unrhyw ddiwygiadau i'r Mesur hwn sy'n ymddangos yn angenrheidiol neu'n hwylus i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â'r ddarpariaeth a wnaed o dan is-adran (3).
(5)Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â gwneud gorchymyn o'r fath onid ydynt wedi ymgynghori â'r canlynol—
(a)personau y mae'n ymddangos iddynt eu bod yn cynrychioli awdurdodau gwella Cymreig;
(b)Archwilydd Cyffredinol Cymru;
(c)pan fo'r gorchymyn yn newid y swyddogaethau perthnasol sydd wedi'u pennu mewn cysylltiad â rheoleiddiwr perthnasol, y rheoleiddiwr hwnnw;
(d)pan fo'r gorchymyn yn ychwanegu person at y rhestr o reoleiddwyr perthnasol, y person hwnnw.
(6)Ond nid yw is-adran (5)(d) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru fod wedi ymgynghori â pherson a sefydlwyd drwy neu o dan unrhyw ddeddfiad os nad yw'r deddfiad mewn grym ar y dyddiad y gwneir y gorchymyn.
Diwygiadau Testunol
F1A. 16(2)(d) wedi ei amnewid (1.4.2012) gan Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Trosglwyddo Swyddogaethau, Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol) 2012 (O.S. 2012/990), erglau. 1(2), 12
F2A. 16(2)(e) wedi ei hepgor (1.4.2014) yn rhinwedd Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (anaw 3), aau. 11(2), 35(2) (ynghyd ag Atod. 3 parau. 2, 3); O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 16 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 53(2)
I2A. 16 mewn grym ar 17.7.2009 gan O.S. 2009/1796, ergl. 2(i)