Newidiadau dros amser i: Adran 27A
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/11/2021.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, Adran 27A yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 09 Tachwedd 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.
Changes to Legislation
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
[27APŵer Gweinidogion Cymru i ragnodi graddfa ffioeddLL+C
This
adran has no associated
Nodiadau Esboniadol
(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ragnodi graddfa neu raddfeydd ffioedd i gael effaith yn lle graddfa neu raddfeydd a ragnodir gan Swyddfa Archwilio Cymru o dan adran 27(1),
(2)Mae graddfa ffioedd a ragnodir o dan is-adran (1) yn caeleffaith am y cyfnod a bennir mewn perthynas â hi yn y rheoliadau.
(3)Mae is-adran (4) yn gymwys—
(a)os oes graddfa ffioedd yn cael ei rhagnodi o dan is-adran (1) yn lle graddfa a ragnodwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru, a
(b)os mai’r raddfa a ragnodwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru fyddai’r raddfa briodol, fel arall, at ddibenion adran 27(3) a (4).
(4)Mae’r cyfeiriadau at y raddfa briodol yn adran 27(3) a (4) i’w darllen fel cyfeiriadau at y raddfa a ragnodwyd o dan is-adran (1).
(5)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (1) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—
(a)Swyddfa Archwilio Cymru,
(b)unrhyw gymdeithasau cyrff llywodraeth leol yng Nghymru yr ymddengys i Weinidogion Cymru eu bod a wnelont â’r peth, ac
(c)y personau eraill hynny y maent yn gweld yn dda i ymgynghori â hwy.
(6)Mae rheoliadau a wneir o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i’w diddymu yn unol â phenderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.]
Yn ôl i’r brig