xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1LL+CGWELLA LLYWODRAETH LEOL

Amcanion gwellaLL+C

3Amcanion gwellaLL+C

(1)Ar gyfer pob blwyddyn ariannol, rhaid i awdurdod gwella Cymreig osod amcanion iddo'i hun i wella'r modd y mae'n arfer ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn honno (“amcanion gwella”).

(2)Rhaid i awdurdod gwella Cymreig wneud trefniadau i sicrhau ei fod yn bodloni ei amcanion gwella.

(3)Rhaid i amcan gwella gael ei ffurfio mewn ffordd a fydd yn gwella'r modd yr arferir y swyddogaeth y mae'n ymwneud â hi neu'r swyddogaethau y mae'n ymwneud â hwy o ran un o'r canlynol o leiaf—

(a)effeithiolrwydd strategol;

(b)ansawdd gwasanaethau;

(c)argaeledd gwasanaethau;

(d)tegwch;

(e)cynaliadwyedd;

(f)effeithlonrwydd; ac

(g)arloesi.

(4)I gael ystyron paragraffau (a) i (g) o is-adran (3), gweler adran 4.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 3 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 53(2)

I2A. 3 mewn grym ar 1.4.2010 gan O.S. 2009/3272, ergl. 3(1), Atod. 2