7Agweddau ar wella: diwygioLL+C
(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn—
(a)diwygio neu hepgor unrhyw baragraff yn is-adran (2) o adran 4;
(b)ychwanegu paragraffau ychwanegol at yr is-adran honno;
(c)diwygio neu hepgor paragraffau ychwanegol o'r fath.
(2)Caiff gorchymyn o'r fath wneud unrhyw ddiwygiadau i'r Mesur hwn sy'n ymddangos i Weinidogion Cymru yn angenrheidiol neu'n hwylus mewn cysylltiad â'r ddarpariaeth a wnaed o dan is-adran (1).
(3)Cyn gwneud gorchymyn o'r fath, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r canlynol—
(a)personau y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli awdurdodau gwella Cymreig, a
(b)unrhyw bersonau eraill (os oes rhai) y gwêl Gweinidogion Cymru'n dda i ymgynghori â hwy.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 7 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 53(2)
I2A. 7 mewn grym ar 17.7.2009 gan O.S. 2009/1796, ergl. 2(f)