Mesur Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009
2009 mccc 3
MESUR gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth ynghylch hybu disgyblion mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru i fwyta ac yfed yn iach; i ddarparu ar gyfer rheoleiddio gan gyrff llywodraethu'r ysgolion hynny neu awdurdodau lleol fwyd a diod a ddarperir ar gyfer disgyblion mewn ysgolion a gynhelir; ac at ddibenion sy'n gysylltiedig â hynny.
Mae'r Mesur hwn, a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 8 Gorffennaf 2009 ac a gymeradwywyd gan Ei Mawrhydi yn Ei Chyngor ar 15 Hydref 2009, yn deddfu'r darpariaethau a ganlyn:—
1Hybu disgyblion mewn ysgolion a gynhelir i fwyta ac yfed yn iachLL+C
(1)Rhaid i awdurdod lleol gymryd camau i hybu disgyblion cofrestredig ysgolion a gynhelir yn ei ardal i fwyta ac yfed yn iach.
(2)Rhaid i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir gymryd camau i hybu disgyblion cofrestredig yr ysgol i fwyta ac yfed yn iach.
(3)Wrth gyflawni'r dyletswyddau hyn rhaid i awdurdod lleol a chorff llywodraethu roi sylw i ganllawiau a roddir o bryd i'w gilydd gan Weinidogion Cymru—
(a)ynghylch beth mae bwyta ac yfed yn iach yn ei olygu,
(b)ynghylch y camau priodol i'w cymryd er mwyn hybu bwyta ac yfed yn iach,
(c)ynghylch sut y mae egwyddorion datblygiad cynaliadwy i fod yn gymwys mewn perthynas â hybu bwyta ac yfed yn iach.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 1 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 12(3)
I2A. 1 mewn grym ar 2.9.2013 gan O.S. 2013/1985, ergl. 2(b)
2Adroddiadau llywodraethwyrLL+C
Yn adran 30 o Ddeddf 2002 (adroddiadau llywodraethwyr (Cymru) a gwybodaeth arall), ar ôl is-adran (2) mewnosoder —
“(2A)The governing body of a maintained school in Wales must include in a governors' report information about the action taken to promote healthy eating and drinking by pupils of the school.”.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 2 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 12(3)
I4A. 2 mewn grym ar 2.9.2013 gan O.S. 2013/1985, ergl. 2(b)
3Swyddogaethau'r Prif Arolygydd dros Addysg a Hyfforddiant yng NghymruLL+C
(1)Diwygier Deddf Addysg 2005 (p.18) fel a ganlyn.
(2)Yn adran 20(1) (swyddogaethau'r prif arolygydd), ar ôl paragraff (f), mewnosoder—
“(g)actions taken at maintained schools to promote healthy eating and drinking.”.
(3)Yn adran 31(1) (dehongli pennod 3) ar ôl diffiniad “the Chief Inspector” mewnosoder—
““maintained school” means a community, foundation or voluntary school, a community or foundation special school, a maintained nursery school or a pupil referral unit in Wales.”.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 3 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 12(3)
I6A. 3 mewn grym ar 2.9.2013 gan O.S. 2013/1985, ergl. 2(b)
4Gofynion ynglŷn â bwyd a diod a ddarperir ar fangre ysgol etcLL+C
(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ragnodi gofynion y mae'n rhaid cydymffurfio â hwy, yn ddarostyngedig i'r cyfryw eithriadau ag y darperir ar eu cyfer gan y rheoliadau neu odanynt, mewn cysylltiad â'r canlynol—
(a)bwyd neu ddiod a ddarperir ar fangre unrhyw ysgol a gynhelir, neu
(b)bwyd neu ddiod a ddarperir mewn man ac eithrio mangre ysgol gan awdurdod neu gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir ar gyfer unrhyw ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol.
(2)Yn benodol, caiff rheoliadau o dan yr adran hon—
(a)pennu safonau maethiad, neu ofynion eraill ynglŷn â maethiad, y mae'n rhaid cydymffurfio â hwy,
(b)ei gwneud yn ofynnol i fwyd neu ddiod o ddisgrifiadau penodedig beidio â chael eu darparu.
(c)pennu uchafsymiau—
(i)braster,
(ii)braster dirlawn,
(iii)halen, a
(iv)siwgr,
y caniateir i'r bwyd neu'r ddiod eu cynnwys.
(3)Nid yw gofynion a ragnodir yn rhinwedd is-adran (1)(a) yn gymwys i fwyd y deuir ag ef neu ddiod y deuir â hi i fangre ysgol a gynhelir pan ddeuir â'r bwyd neu'r ddiod i'r fangre honno gan unrhyw berson i'w fwyta neu i'w hyfed gan y person hwnnw ei hun.
(4)Pan fo awdurdod lleol neu gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yn darparu bwyd neu ddiod—
(a)ar gyfer unrhyw un ar fangre'r ysgol, neu
(b)ar gyfer unrhyw ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol mewn man ac eithrio mangre ysgol,
rhaid i'r awdurdod hwnnw neu, yn ôl fel y digwydd, rhaid i'r corff llywodraethu hwnnw sicrhau y cydymffurfir ag unrhyw ddarpariaethau cymwys yn y rheoliadau.
(5)Mae is-adran (4) yn gymwys p'un a ddarperir y bwyd neu'r ddiod yn unol ag unrhyw ofyniad statudol neu fel arall.
(6)Pan fo—
(a)bwyd yn cael ei ddarparu neu ddiod yn cael ei darparu ar fangre ysgol a gynhelir,
(b)y ddarpariaeth yn cael ei gwneud gan berson (“X”) ac eithrio'r awdurdod neu gorff llywodraethu'r ysgol, ac
(c)X yn defnyddio neu'n meddiannu'r cyfan neu ran o'r fangre o dan amgylchiadau sy'n gysylltiedig â chytundeb defnyddio neu feddiannu a wneir (boed gan X neu gan unrhyw berson arall) gyda'r awdurdod neu'r corff llywodraethu,
rhaid i'r awdurdod hwnnw neu, yn ôl fel y digwydd, rhaid i'r corff llywodraethu hwnnw sicrhau y cydymffurfir ag unrhyw ddarpariaethau cymwys yn y rheoliadau.
(7)Mae “cytundeb defnyddio neu feddiannu”, mewn perthynas â mangre ysgol, yn gytundeb neu'n drefniant arall sy'n ymwneud â defnyddio neu feddiannu'r cyfan neu unrhyw ran o'r fangre.
(8)Heb ragfarnu cyffredinolrwydd adran 10, caiff rheoliadau o dan yr adran hon ragnodi—
(a)gofynion gwahanol mewn perthynas â dosbarthau neu ddisgrifiadau gwahanol o ysgol fel y'u pennir yn y rheoliadau,
(b)gofynion gwahanol mewn cysylltiad â bwyd neu ddiod a ddarperir gan neu ar gyfer dosbarthau neu ddisgrifiadau gwahanol o berson fel a bennir yn y rheoliadau,
(c)gofynion sy'n gymwys yn ystod cyfnodau gwahanol o'r dydd fel a bennir yn y rheoliadau.
(9)Ystyr “man ac eithrio mangre ysgol” yw man ac eithrio mangre unrhyw ysgol a gynhelir.
(10)Mae'r cyfeiriadau yn yr adran hon at fwyd neu ddiod a ddarperir gan awdurdod lleol neu gorff llywodraethu ysgol yn cynnwys cyfeiriadau at fwyd neu ddiod a ddarperir yn unol â chytundeb neu drefniant arall a wneir gan y cyfryw awdurdod neu gorff ar gyfer darparu bwyd neu ddiod.
(11)Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gwneud rheoliadau o dan yr adran hon—
(a)cymryd camau i ganfod barn disgyblion ar y darpariaethau y bwriedir eu gwneud gan y rheoliadau, a
(b)ymgynghori â'r cyfryw bersonau eraill y maent o'r farn ei bod hi'n briodol ymgynghori â hwy.
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 4 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 12(3)
I8A. 4 mewn grym ar 8.8.2013 gan O.S. 2013/1985, ergl. 2(a)
5Dŵr yfed mewn ysgolionLL+C
(1)Rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod cyflenwad o ddŵr yfed ar gael, yn rhad ac am ddim, ym mangre unrhyw ysgol a gynhelir.
(2)Pan fydd awdurdod lleol yn penderfynu sut y gall gyflawni ei ddyletswydd o dan is-adran (1) orau, rhaid iddo roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan yr is-adran hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I9A. 5 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 12(3)
I10A. 5 mewn grym ar 2.9.2013 gan O.S. 2013/1985, ergl. 2(b)
6Hybu prydau mewn ysgolion a sefydliadau addysgol eraillLL+C
(1)Rhaid i awdurdod lleol neu gorff llywodraethu ysgol a gynhelir sy'n darparu prydau ysgol neu laeth o dan adran 512 o Ddeddf 1996—
(a)hybu defnyddio prydau a llaeth ysgol, a
(b)cymryd camau rhesymol i sicrhau bod pob disgybl sydd â hawl i gael cinio ysgol a llaeth yn rhad ac am ddim o dan adran 512ZB o Ddeddf 1996 yn eu cael.
Gwybodaeth Cychwyn
I11A. 6 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 12(3)
I12A. 6 mewn grym ar 2.9.2013 gan O.S. 2013/1985, ergl. 2(b)
7Diogelu manylion adnabod disgyblion sy'n cael cinio ysgol am ddimLL+C
Ar ôl adran 512ZB o Ddeddf 1996 mewnosoder—
“512ZCProtection of identity of pupils receiving free school lunches or milk
(1)This section applies when a school lunch or milk is provided for a pupil in Wales free of charge by a [F1local authority] under section 512ZB or by the governing body of a maintained school by virtue of section 512A.
(2)A local education authority or governing body in Wales must take reasonable steps to ensure that the pupil cannot be identified as a pupil who receives a school lunch or milk free of charge by any person other than an authorised person.
(3)A local education authority or governing body in Wales must take reasonable steps to ensure that none of the persons mentioned in subsection (4) discloses to any person other than an authorised person the fact that the pupil receives school lunches or milk free of charge.
(4)The persons referred to in subsection (3) are—
(a)a teacher in the school,
(b)any person (other than a teacher) who is—
(i)employed (whether by the local education authority or by another person) in the school, or
(ii)working there on an unpaid basis, and
(c)any other person employed by the local education authority or governing body.
(5)In subsections (2) and (3), “authorised person” means—
(a)a parent of the pupil, and
(b)a person mentioned in subsection (4) who is authorised by the local education authority or governing body to have access to information about a pupil’s entitlement to receive school lunches free of charge.
(6)When deciding what steps to take in order to comply with their duties under subsections (2) and (3) a local education authority in Wales must have regard to any guidance issued by the Welsh Ministers under this section.”.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 7 wedi eu hamnewid (5.5.2010) gan Gorchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1148), erglau. 1, 4(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I13A. 7 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 12(3)
I14A. 7 mewn grym ar 2.9.2013 gan O.S. 2013/1985, ergl. 2(b)
8Diwygiadau canlyniadolLL+C
(1)Yn adran 114A o Ddeddf 1998 (gofynion ar gyfer bwyd a diod a ddarperir ar fangre ysgol etc)—
(a)yn is-adran (1), paragraff (a), ar ôl “ [F2local authority] ” mewnosoder “in England”,
(b)yn is-adran (1), paragraff (b), ar ôl “ [F2local authority] ” mewnosoder “in England”.
(2)Diwygir adran 512 o Ddeddf 1996 (swyddogaethau AALl sy'n ymwneud â darparu prydau, etc) fel a ganlyn—
(a)yn is-adran (4), ar ôl “ [F2local authority] ” mewnosoder “ in England”,
(b)ar ôl is-adran (4), mewnosoder—
“(4A)Subject to section [F34] of the Healthy Eating in Schools (Wales) Measure 2009, any school lunches provided by a [F2local authority] in Wales pursuant to subsection (3) may take such form as the authority think fit.”.
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn a. 8 wedi eu hamnewid (5.5.2010) gan Gorchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1148), erglau. 1, 4(2)
F3Gair yn a. 8(2)(b) wedi ei amnewid (4.5.2013) gan Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(3), Atod. 5 para. 35
Gwybodaeth Cychwyn
I15A. 8 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 12(3)
I16A. 8 mewn grym ar 2.9.2013 gan O.S. 2013/1985, ergl. 2(b)
9ArbediadLL+C
Mae unrhyw reoliadau a wnaed o dan adran 114A o Ddeddf 1998 gan y Cynulliad a gyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 neu gan Weinidogion Cymru neu sy'n effeithiol fel pe baent wedi'u gwneud o dan yr adran honno yn rhinwedd adran 86(3) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 ac sy'n effeithiol yn union cyn i'r adran hon gychwyn yn effeithiol o ran Cymru ar ôl iddi gychwyn fel pe baent wedi'u gwneud gan Weinidogion Cymru o dan adran 7 o'r Mesur hwn.
Gwybodaeth Cychwyn
I17A. 9 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 12(3)
I18A. 9 mewn grym ar 2.9.2013 gan O.S. 2013/1985, ergl. 2(b)
10Gorchmynion a rheoliadauLL+C
(1)Mae unrhyw bŵer i wneud gorchymyn neu reoliadau a roddir gan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.
(2)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer—
(a)i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol,
(b)i wneud darpariaethau gwahanol ar gyfer achosion gwahanol, ac
(c)i wneud y cyfryw ddarpariaeth gysylltiedig, atodol, arbed neu drosiannol y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda.
(3)Caniateir i unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau neu orchmynion o dan y Mesur hwn (yn ogystal â bod yn arferadwy mewn perthynas â'r holl achosion y mae'n gymwys iddynt) gael ei arfer mewn perthynas â'r holl achosion hynny yn ddarostyngedig i eithriadau neu mewn perthynas ag unrhyw achos penodol neu ddosbarth penodol o achosion.
(4)Yn ddarostyngedig i is-adran (5) mae unrhyw offeryn statudol sy'n cynnwys gorchymyn neu reoliadau a wneir o dan y Mesur hwn yn agored i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan y Cynulliad.
(5)Nid yw is-adran (4) yn gymwys i offeryn statudol sy'n cynnwys gorchymyn sy'n gwneud darpariaeth o dan adran 12(3) yn unig.
Gwybodaeth Cychwyn
I19A. 10 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 12(3)
I20A. 10 mewn grym ar 2.9.2013 gan O.S. 2013/1985, ergl. 2(b)
11DehongliLL+C
Yn y Mesur hwn—
[F4ystyr “awdurdod lleol” yw awdurdod lleol yng Nghymru o fewn ystyr “local authority in Wales” yn adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996;]
ystyr “y Cynulliad” (“the Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996 (p.56);
ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31);
ystyr “y Prif Arolygydd” (“the Chief Inspector”) yw'r Prif Arolygydd dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru;
ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol, ysgol arbennig gymunedol F5... , ysgol feithrin a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion yng Nghymru.
Diwygiadau Testunol
F4Geiriau yn a. 11 wedi eu hamnewid (5.5.2010) gan Gorchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1148), erglau. 1, 4(3)
F5Geiriau yn a. 11 wedi eu hepgor (1.10.2013) yn rhinwedd Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 27(2); O.S. 2013/1800, ergl. 3(j)
Gwybodaeth Cychwyn
I21A. 11 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 12(3)
I22A. 11 mewn grym ar 2.9.2013 gan O.S. 2013/1985, ergl. 2(b)
12Enw byr a chychwynLL+C
(1)Enw'r Mesur hwn yw Mesur Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009.
(2)Daw'r adran hon i rym ar y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn Ei Chyngor.
(3)Daw gweddill darpariaethau'r Mesur hwn i rym ar y cyfryw ddydd neu ddyddiau a benodir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.
(4)Mae'r Mesur hwn i'w gynnwys yn y rhestr o Ddeddfau Addysg a geir yn adran 578 o Ddeddf Addysg 1996.