SYLWADAU AR YR ADRANNAU

Cynnwys cyffredinol y Mesur

3.Mae gan y Mesur 21 o adrannau, ynghyd ag Atodlen. Mae adrannau 1 i 5, yn ogystal â’r Atodlen, yn cynnwys darpariaethau sy’n ymwneud â swydd Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Comisiynydd”). Mae adrannau 6, 7 ac 8 yn ymdrin â swyddogaethau’r Comisiynydd. Mae adran 9 yn trafod dyletswydd Clerc y Cynulliad i gyfeirio materion at y Comisiynydd. Mae adrannau 10 i 18 yn rhoi i’r Comisiynydd bwerau i gyflawni ei ddyletswyddau’n effeithiol. Yn olaf, mae adrannau 19 i 21 yn gwneud darpariaethau cyffredinol.

Adran 1: Y Comisiynydd

4.Mae’r adran hon yn sefydlu swydd Comisiynydd, sydd i’w benodi gan y Cynulliad (ond gweler yr esboniad ym mharagraff 1 o’r Atodlen isod). Er mwyn lleihau’r risg y bydd yna wrthdaro buddiannau, mae rhai personau wedi’u hanghymhwyso rhag cael eu penodi, sef Aelodau’r Cynulliad neu’r rheini sydd wedi bod yn Aelodau Cynulliad yn ystod y ddwy flynedd flaenorol ac, yn yr un modd, staff y Cynulliad neu Lywodraeth Cynulliad Cymru, neu’r rheini sydd wedi bod yn aelodau o staff y Cynulliad neu Lywodraeth Cynulliad Cymru yn ystod y ddwy flynedd flaenorol. Mae person a benodir yn Gomisiynydd yn peidio â dal y swydd honno’n awtomatig: os daw’n ymgeisydd i’w ethol i’r Cynulliad; os caiff ei benodi i swydd y Cwnsler Cyffredinol neu os dynodir ef dros dro i arfer swyddogaethau’r swydd honno; neu os daw’n aelod o staff y Cynulliad neu Lywodraeth Cynulliad Cymru.

5.Mae’r Comisiynydd i’w benodi am gyfnod penodedig o chwe blynedd. Ni chaniateir i’r Comisiynydd gael ei benodi am gyfnod neu gyfnodau ychwanegol (boed yn olynol neu beidio).

6.Cyn diwedd cyfnod, caiff y Comisiynydd ymddiswyddo neu gael ei ddiswyddo drwy benderfyniad gan y Cynulliad ar yr amod bod y penderfyniad yn cael ei basio â mwyafrif o ddau draean.

Adran 2: Prif nod y Comisiynydd

7.Mae’r adran hon yn pennu’n ddiamwys beth yw prif nod y Comisiynydd, sef hybu, annog a diogelu safonau ymddygiad uchel yn swydd gyhoeddus Aelod Cynulliad.

Adran 3: Darpariaeth bellach ynghylch y Comisiynydd

8.Mae’r adran hon yn cyflwyno’r Atodlen (gweler isod).

Adran 4: Penodi Comisiynydd Dros Dro

9.Mae’r adran hon yn galluogi Comisiynydd Dros Dro i gael ei benodi gan y Cynulliad os na all y Comisiynydd weithredu. Caniateir i’r Comisiynydd Dros Dro gael ei benodi i weithredu yn lle’r Comisiynydd yn gyffredinol (er enghraifft os bydd y Comisiynydd yn sâl) neu mewn perthynas ag achosion penodol (er enghraifft pe bai rhyw wrthdaro buddiannau a fyddai’n peri ei bod yn amhriodol i’r Comisiynydd weithredu mewn perthynas â chwyn benodol). Mae personau sydd wedi'u hanghymhwyso rhag cael eu penodi’n Gomisiynydd wedi’u hanghymhwyso hefyd rhag cael eu penodi’n Gomisiynydd Dros Dro a bydd Comisiynydd Dros Dro yn peidio â dal swydd yn awtomatig o dan yr un amgylchiadau â’r Comisiynydd. Caiff Comisiynydd Dros Dro ymddiswyddo neu gael ei ddiswyddo drwy benderfyniad gan y Cynulliad ond yn achos Comisiynydd Dros Dro, bydd mwyafrif syml o blaid y penderfyniad yn ddigon.

Adran 5: Annibyniaeth y Comisiynydd

10.Mae adran 5 yn egluro bod y Comisiynydd yn annibynnol. Mae’n darparu nad yw’r Comisiynydd i gael ei gyfarwyddo na’i reoli gan y Cynulliad ac eithrio i gydymffurfio ag adran 19 (gweler isod).

Adran 6: Swyddogaethau’r Comisiynydd

11.Mae adran 6 yn nodi swyddogaethau’r Comisiynydd.

12.Un swyddogaeth yw derbyn cwynion bod Aelodau’r Cynulliad wedi gweithredu’n groes i “ddarpariaethau perthnasol”, ymchwilio i’r cwynion hynny a chyflwyno adroddiadau arnynt i’r Cynulliad. Diffinnir “Cynulliad” yn y Mesur i gynnwys (heblaw mewn perthynas â phenodiad, ymddiswyddiad a diswyddiad Comisiynydd neu Gomisiynydd Dros Dro) unrhyw Bwyllgor neu Is-bwyllgor y mae swyddogaethau sy’n ymwneud ag ymchwilio i gwynion yn erbyn Aelodau’r Cynulliad wedi’u dirprwyo iddo. Felly, o dan Reolau Sefydlog cyfredol y Cynulliad, byddai’r Comisiynydd yn cyflwyno adroddiadau i Bwyllgor Safonau Ymddygiad y Cynulliad.

13.“Darpariaethau perthnasol” yw’r rheolau am ymddygiad Aelodau’r Cynulliad, wedi’u diffinio mewn ffordd sydd wedi’i seilio ar y swyddogaethau a ddirprwywyd i’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad gan Reol Sefydlog 16.1 ar hyn o bryd, ond gyda digon o hyblygrwydd i ganiatáu i’r rheolau hynny gael eu hymestyn i ddod o dan awdurdodaeth y Comisiynydd. Dim ond pan fydd y person hwnnw hefyd yn Aelod Cynulliad etholedig y bydd y rheolau hyn yn berthnasol i’r Cwnsler Cyffredinol (nid oes rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol fod yn Aelod Cynulliad etholedig).

14.Mae’r Comisiynydd hefyd yn cael cynghori Aelodau’r Cynulliad a’r cyhoedd ar weithdrefnau ar gyfer gwneud cwynion ac ymchwilio iddynt.

15.Bydd gan y Comisiynydd swyddogaethau eraill a nodir yn adran 7 (gweler isod).

Adran 7: Swyddogaethau eraill y Comisiynydd

16.Mae swyddogaethau eraill y Comisiynydd yn cynnwys rhoi cyngor i’r Cynulliad am faterion o egwyddor gyffredinol sy’n ymwneud ag ymddygiad Aelodau’r Cynulliad, rhoi cyngor am weithdrefnau ar gyfer ymchwilio i gwynion, a rhoi cyngor am faterion sy’n ymwneud â hybu, annog a diogelu safonau ymddygiad uchel gan Aelodau’r Cynulliad yn gyffredinol.

Adran 8: Cod ar gyfer Gweinidogion

17.Mae adran 8 yn pwysleisio bod pwerau’r Comisiynydd (fel y’u pennir yn adrannau 6 a 7 o’r Mesur) yn ymestyn i fynegi unrhyw farn am safonau ymddygiad yr Aelodau Cynulliad hynny sy’n Weinidogion pan fyddant yn gweithredu yn rhinwedd eu swyddi gweinidogol ar wahân. Y Cod Cymreig ar gyfer Gweinidogion a fydd yn dal i gael ei ddefnyddio’n unig wrth ymdrin â materion o’r fath.

Adran 9: Dyletswydd y Clerc i gyfeirio mater at y Comisiynydd

18.Mae Clerc y Cynulliad yn cyflawni nifer o swyddogaethau, gan gynnwys gweithredu fel prif swyddog cyfrifyddu Comisiwn y Cynulliad. Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r Clerc gyflwyno adroddiad ysgrifenedig i’r Comisiwn ynghylch methiant Aelodau’r Cynulliad i gydymffurfio ag unrhyw rai o’r darpariaethau perthnasol (a ddisgrifir ym mharagraff 13 uchod) sy’n ymwneud â’r swyddogaeth gyfrifyddu hon (megis camddefnyddio cyllid). Rhaid i’r Comisiynydd drin unrhyw achos o’r fath a gyfeirir ato fel cwyn ffurfiol o dan adran 6 o’r Mesur a rhaid iddo weithredu’n unol â hynny.

Adran 10: Ymchwilio gan y Comisiynydd i Gwynion

19.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiynydd ymchwilio i gwynion, a chyflwyno adroddiadau arnynt i’r Cynulliad (sef i’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn ymarferol) yn unol â’r Rheolau Sefydlog a gweithdrefnau’r Cynulliad ar gyfer ymchwilio i gwynion. Felly, mae’r Cynulliad i gadw rheolaeth dros bennu’r rheolau sylfaenol sy’n ymwneud ag ymdrin â chwynion. Bydd sut caiff y rheolau hynny eu cymhwyso at achosion unigol o dan reolaeth y Comisiynydd yn unig. Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau is-adran (3), rhaid i’r Comisiynydd gyflwyno adroddiad ar ymchwiliad i’r Cynulliad (hynny yw, i’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad). Rhaid i adroddiad y Comisiynydd beidio â chynnwys argymhelliad ynghylch pa sancsiwn a ddylai gael ei orfodi ar Aelod Cynulliad pan fydd cwyn yn ei erbyn yn cael ei chadarnhau. Bydd hynny’n parhau yn fater i’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad a’r Cynulliad.

20.Os caiff y Comisiynydd wybod, wrth gynnal ymchwiliad, am unrhyw amgylchiadau sy’n codi materion o egwyddor gyffredinol neu o arfer cyffredinol sy’n berthnasol i swyddogaethau’r Clerc fel prif swyddog cyfrifyddu’r Comisiwn, yna mae’n rhaid i’r Comisiynydd fynegi’r amgylchiadau hynny yn ysgrifenedig i’r Clerc. Enghraifft o hyn fyddai pe bai ymchwiliad gan y Comisiynydd yn dod o hyd i wendid systemig yn y rheolaeth ar gyfer talu lwfansau i Aelodau’r Cynulliad, neu ryw ddiffyg eglurder yn y rheolau ynghylch taliadau o’r fath.

21.Rhaid i’r Comisiynydd hefyd roi gwybod i’r Clerc yn ysgrifenedig am unrhyw amgylchiadau a allai ei gwneud yn ofynnol i’r Clerc, ar ôl ystyried y mater ymhellach, gymryd camau o dan adran 9. Mae hyn yn sicrhau annibyniaeth y Comisiynydd drwy ofalu na fydd angen i’r Comisiynydd fyth gychwyn ymchwiliad heb gael cwyn ffurfiol i ddechrau o dan adran 6 o’r Mesur.

22.O dan amgylchiadau y bydd angen eu rhagnodi mewn rheolau a wneir o dan Reolau Sefydlog y Cynulliad, caiff y Comisiynydd wrthod cwyn yn ddiannod, ac os felly, ni fydd y Comisiynydd yn cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor ond yn hytrach yn hysbysu’r achwynydd a’r Aelod Cynulliad o dan sylw, gan roi rhesymau dros wrthod. Mae’r rheolau cyfredol (Gweithdrefn Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer Ymdrin â Chwynion yn erbyn Aelodau’r Cynulliad) yn rhoi pŵer i’r Comisiynydd anstatudol presennol wrthod cwyn y mae’n credu ei bod yn annerbyniadwy (paragraff 2.3 o’r Weithdrefn), er enghraifft os nad yw wedi’i gwneud o fewn blwyddyn ar ôl y dyddiad y byddai’n rhesymol i’r achwynydd gael gwybod am yr ymddygiad y cwynir amdano neu os nad oes digon o dystiolaeth i ategu cwyn.

Adran 11: Pŵer i alw am dystion a dogfennau ac Adran 12: Tystion a dogfennau: hysbysu

23.Mae’r adrannau hyn, sy’n dilyn patrwm adrannau 37 a 38 o’r Ddeddf, yn darparu dull i’r Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson y mae’r Comisiynydd yn credu bod ganddo wybodaeth sy’n berthnasol i ymchwiliad fod yn bresennol gerbron y Comisiynydd i roi tystiolaeth lafar neu gyflwyno tystiolaeth ddogfennol. Er mwyn gorfodi gofyniad o’r fath, rhaid i’r Comisiynydd roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person o dan sylw.

24.Dyma ddarpariaethau allweddol y Mesur. Maent yn rhoi i’r Comisiynydd y pwerau i gynnal ymchwiliadau trwyadl i gwynion. Mae’r pwerau sydd i’w rhoi i’r Comisiynydd yn ehangach mewn rhai ffyrdd na’r pwerau a all gael eu harfer gan y Cynulliad (a Phwyllgorau’r Cynulliad) o dan y Ddeddf. Dim ond i ategu eu gwaith wrth graffu ar Weinidogion Cymru ac mewn perthynas â phersonau sy’n ymwneud ag arfer swyddogaethau neu gynnal gweithgareddau mewn perthynas â Chymru y caniateir i bwerau’r Cynulliad gael eu defnyddio. Heblaw’r cyfyngiad a grybwyllir ym mharagraff 26, yr unig gyfyngiad ar y personau y caniateir ei gwneud yn ofynnol iddynt roi neu gyflwyno tystiolaeth yw bod yn rhaid i’r dystiolaeth fod yn berthnasol i ymchwiliad sy’n cael ei gynnal gan y Comisiynydd.

25.Nid yw bodolaeth y pŵer o dan adran 11 (a’r pŵer cyfatebol o dan adran 13) yn golygu bod y pwerau o dan sylw yn debyg o gael eu defnyddio fel rhan o’r drefn. Dim ond os bydd y person hwnnw’n gwrthod gwneud hynny o’i wirfodd y bydd angen i’r Comisiynydd orfodi tyst i roi tystiolaeth neu i gyflwyno dogfennau.

26.Mae is-adran 12(2) yn darparu mai dim ond i berson mewn cyfeiriad yng Nghymru neu Loegr y caniateir i’r hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson fod yn bresennol neu gyflwyno dogfennau gael ei roi, gan na chaiff Mesur Cynulliad gynnwys darpariaethau y mae eu heffaith gyfreithiol yn ymestyn y tu allan i awdurdodaeth Cymru a Lloegr.

Adran 13: Llwon a chadarnhadau

27.Mae adran 13 (sy’n cyfateb i adran 40(1) o’r Ddeddf) yn galluogi’r Comisiynydd i’w gwneud yn ofynnol i berson sy’n bresennol er mwyn rhoi tystiolaeth (o’i wirfodd neu beidio) dyngu llw neu roi cadarnhad. Pwysigrwydd y pŵer hwn yw ei fod yn cryfhau eto ar bŵer y Comisiynydd i ymchwilio. Mae tyst sydd, ar ôl tyngu llw neu ar ôl rhoi cadarnhad, yn rhoi tystiolaeth ffug, yn cyflawni’r tramgwydd o dyngu anudon o dan adran 2 o Ddeddf Anudon 1911 (sef tramgwydd a all gael ei gosbi â dirwy a hyd at ddwy flynedd yn y carchar ar hyn o bryd).

Adran 14: Braint ac imiwnedd buddiant cyhoeddus

28.Mae’r adran hon (cymharer adran 37, is-adrannau (8), (9) a (10) o’r Ddeddf) yn darparu diogelwch ar gyfer tystion rhag cael eu gorfodi i roi mathau penodol o dystiolaeth i’r Comisiynydd.

29.Mae is-adran (1) yn galluogi tyst i hawlio’r un breintiau â thyst sy’n rhoi tystiolaeth mewn llys barn (er enghraifft y fraint yn erbyn hunanargyhuddo a’r fraint yn erbyn datgelu cyngor cyfreithiol breintiedig). Mae is-adran (2) yn diogelu’r awdurdodau erlyn, a’r Cwnsler Cyffredinol lle bydd achos wedi gychwyn yn unol ag is-adran (3), rhag gorfod datgelu gwybodaeth sy’n ymwneud ag erlyniadau troseddol (gan y byddai gwneud hynny’n debyg o ragfarnu erlyniadau o’r fath). Mae is-adran (3) yn egluro y gall y Cwnsler Cyffredinol ddibynnu ar yr imiwnedd y darperir ar ei gyfer yn is-adran (2) mewn achos a sefydlwyd gan Weinidogion Cymru, y Prif Weinidog neu’r Cwnsler Cyffredinol, neu ar eu rhan.

Adran 15: Tramgwyddau

30.Mae’r adran hon yn creu nifer o sancsiynau i ategu pwerau’r Comisiynydd o dan adrannau 11, 12 ac 13. Adran 39 yw’r ddarpariaeth gyfatebol yn y Ddeddf.

31.Bydd yn dramgwydd troseddol a all gael ei gosbi â dirwy hyd at lefel 5 ar y raddfa safonol (sef £5000 ar hyn o bryd) a hyd at dri mis yn y carchar, i berson y mae’r Comisiynydd wedi’i gwneud yn ofynnol iddo roi tystiolaeth neu gyflwyno dogfen wrthod neu fethu â gwneud hynny heb esgus rhesymol, gwrthod neu fethu (eto heb esgus rhesymol) ag ateb cwestiwn neu fynd ati’n fwriadol i newid, atal, celu neu ddinistrio dogfen yr oedd yn ofynnol ei chyflwyno.

32.Mae is-adran (3) yn ei gwneud yn dramgwydd (a all gael ei gosbi yn yr un modd) gwrthod tyngu llw neu roi cadarnhad pan fydd y Comisiynydd yn gofyn i berson wneud hynny.

Adran 16: Cyfyngiadau ar ddatgelu gwybodaeth

33.Mae’r adran hon yn cyfyngu ar ddatgelu gwybodaeth a ddarperir gan achwynydd neu unrhyw berson arall i’r Comisiynydd mewn perthynas â chwyn. Ni chaiff y Comisiynydd na neb sy’n gweithio i’r Comisiynydd ddatgelu gwybodaeth o’r fath ac eithrio i’r graddau y bydd hynny’n angenrheidiol er mwyn galluogi’r Comisiynydd i gyflawni ei swyddogaethau o dan y Mesur (er enghraifft fel rhan o adroddiad y Comisiynydd i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad), i gydymffurfio ag unrhyw rwymedigaeth statudol arall (megis o dan Ddeddf Diogelu Data 1998) neu i ymchwilio i unrhyw dramgwydd troseddol. Nid oes sancsiwn penodol wedi'i ragnodi ond byddai datgelu heb awdurdod yn golygu bod y tramgwyddwr yn agored i achos sifil mewn nifer o ffyrdd (gweler er enghraifft baragraff 34).

Adran 17: Diogelu rhag achosion difenwi

34.Er mwyn galluogi’r Comisiynydd i ymchwilio i gwynion yn drwyadl, mae angen i’r rheini a fydd yn rhoi gwybodaeth i’r Comisiynydd mewn perthynas ag ymchwiliad gael eu diogelu rhag hawliadau am ddifenwi mewn perthynas â’r wybodaeth honno. Mae adran 17 yn darparu’r diogelwch hwn. Byddai datgelu diawdurdod gan y Comisiynydd (neu gan y rhai sy’n gweithio i’r Comisiynydd), yn groes i adran 16, yn golygu y byddai’r datgelwr yn colli’r diogelwch hwn.

Adran 18: Darpariaeth drosiannol

35.Mae’r adran hon yn galluogi’r Comisiynydd, pan gaiff ei benodi, i gymryd drosodd neu i barhau, os cyfarwyddir iddo wneud hynny gan y Cynulliad (hynny yw, gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad), ymchwiliad sydd eisoes wedi’i ddechrau o dan y trefniadau anstatudol presennol.

Adran 19: Adroddiad blynyddol

36.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiynydd gyflwyno adroddiad blynyddol i’r Cynulliad. Caiff y Cynulliad roi cyfarwyddiadau ar ffurf yr adroddiad a natur y wybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys ynddo ond mae’n rhaid beth bynnag i’r adroddiad gynnwys gwybodaeth am faterion ariannol y swydd (gweler hefyd baragraff 7 o’r Atodlen isod). Rhaid i’r Comisiynydd hefyd gydymffurfio, os yw’n rhesymol ymarferol iddo wneud hynny, ag unrhyw ofyniad gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i fod yn bresennol gerbron y Pwyllgor a rhoi gwybodaeth am y materion y mae’n ofynnol eu cynnwys yn yr adroddiad blynyddol.

Adran 20: Dehongli

37.Mae adran 20 yn diffinio’r termau sy’n cael eu defnyddio yn y Mesur.

Adran 21: Enw byr a chychwyn

38.Mae’r darpariaethau sy’n sefydlu swydd y Comisiynydd ac sy’n fodd i Gomisiynydd gael ei benodi i ddod i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Mesur ei gymeradwyo gan Ei Mawrhydi yn y Cyngor. Mae gweddill y darpariaethau, sy’n ymdrin â phwerau’r Comisiynydd, i ddod i rym yn unol â’r weithdrefn a nodir yn is-adran (3) ac a ysgogir gan benodiad y Comisiynydd cyntaf o dan y Mesur.

Yr Atodlen

39.Mae’r Atodlen yn cynnwys nifer o faterion gweinyddol manwl sy’n ymwneud â’r Comisiynydd.

Paragraffau 1 a 2

40.Mae’r paragraffau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r broses ar gyfer enwi’r person y mae ei enw i’w gyflwyno i’r Cynulliad i’w benodi fod yn gystadleuaeth deg ac agored. Caniateir i’r trefniadau ar gyfer dod o hyd i’r ymgeisydd gorau ac ar gyfer pennu manylion telerau’r penodiad arfaethedig (er enghraifft y tâl) gael eu dirprwyo i Gomisiwn y Cynulliad, i Bwyllgor (er enghraifft y Pwyllgor Safonau Ymddygiad) neu i’r staff (neu gyfuniad o’r rhain) a chaniateir ar gyfer cynnwys elfen annibynnol yn y broses ddethol.

Paragraffau 3 a 4

41.Mae’r Comisiynydd i fod yn gorfforaeth undyn. Gan hynny, ni fydd newid o ran y person sy’n dal y swydd yn effeithio ar hawliau, dyletswyddau a rhwymedigaethau cyfreithiol sy’n gysylltiedig â’r swydd. Gwneir darpariaeth ar gyfer dilysu dogfennau ffurfiol.

Paragraff 5

42.Mae’r paragraff hwn yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn dalu i’r Comisiynydd y cyflog a’r buddion eraill, gan gynnwys unrhyw bensiwn, y cytunwyd arnynt wrth ei benodi. Rhaid hefyd i’r Comisiwn dalu rhwymedigaethau cyfreithiol a fydd yn cael eu hysgwyddo gan y Comisiynydd wrth gyflogi staff neu wrth brynu gwasanaethau neu wrth wneud taliadau i bersonau y mae’n ofynnol iddynt fod yn bresennol er mwyn rhoi tystiolaeth neu er mwyn cyflwyno dogfennau. Mae taliadau mewn perthynas â chyflog a lwfansau’r Comisiynydd ac unrhyw daliadau pensiwn yn cael eu codi ar Gronfa Gyfunol Cymru ac felly gellir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru heb fod angen rhagor o awdurdod cyfreithiol.

Paragraff 6

43.Mae’r paragraff hwn yn galluogi’r Comisiynydd i gyflogi staff neu brynu gwasanaethau a gwneud trefniadau gyda chyrff cyhoeddus neu ddeiliaid swyddi cyhoeddus eraill (er enghraifft ombwdsmon) er mwyn i’r person hwnnw ddarparu gwasanaethau i’r Comisiynydd. Felly, gallai’r Comisiynydd drefnu gydag ombwdsmon neu swyddog tebyg i’r cymorth gweinyddol y bydd ar y Comisiynydd ei angen gael ei ddarparu.

44.Er hynny, wrth ddefnyddio’r pwerau hyn, rhaid i’r Comisiynydd roi sylw i gyfrifoldebau’r Clerc, yn rhinwedd ei swydd fel prif swyddog cyfrifyddu’r Comisiwn.

45.Rhaid i’r Comisiynydd hefyd ymgynghori â’r Clerc mewn perthynas ag unrhyw rwymedigaeth ariannol y bydd yn ofynnol i’r Comisiwn ei thalu, (er enghraifft mewn perthynas â chyflogi staff, sicrhau bod nwyddau a gwasanaethau’n cael eu darparu neu mewn perthynas â lwfansau a threuliau personau sy’n cael eu galw i roi tystiolaeth neu i gyflwyno dogfennau) a rhaid iddo roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y Clerc mewn ymateb. Caniateir ymgynghori fel hyn mewn un o dri modd. Caiff y Comisiynydd gytuno ar gyllideb ymlaen llaw mewn perthynas â mathau penodol o wariant, neu caiff hysbysu’r Clerc ymlaen llaw am gynnig i ysgwyddo eitem benodol o wariant neu, mewn achos brys, caiff ysgwyddo’r rhwymedigaeth heb hysbysu’r Clerc ymlaen llaw ond ei fod wedyn yn gorfod gwneud hynny cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

46.Bwriad y darpariaethau hyn yw cadw cydbwysedd rhwng annibyniaeth y Comisiynydd a’r angen i’r Comisiynydd gael digon o adnoddau i gyflawni swyddogaethau’r swydd yn effeithiol ar y naill law, a dyletswydd y Clerc ar y llaw arall i sicrhau bod cronfeydd cyhoeddus, a ddarperir drwy’r Comisiwn, yn cael eu gwario’n gyfreithlon.

Paragraff 7

47.Oherwydd natur gyfyngedig gweithgareddau’r Comisiynydd, nid yw’r Mesur yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiynydd baratoi amcangyfrifon blynyddol na chynhyrchu cyfrifon blynyddol ffurfiol. Rhagwelir yn hytrach y bydd y Comisiwn, gan y bydd pob taliad i’r Comisiynydd neu ar ei ran yn cael ei wneud drwyddo, yn cynnwys gwybodaeth am faterion ariannol y Comisiynydd fel adran ar wahân yng nghyfrifon y Comisiwn. Mae’r paragraff hwn yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiynydd roi’r wybodaeth angenrheidiol i’r Comisiwn er mwyn i hyn ddigwydd.