- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu ar gyfer treialu darpariaethau Deddf Addysg 1996 (p. 56) a Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 (p. 50) fel y'u diwygir gan y Rhan hon am gyfnod a bennir yn y rheoliadau o hyd at 40 o fisoedd (“y cyfnod treialu”).
(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddarparu (ymhlith eraill)—
(a)mai dim ond i blant y mae awdurdodau lleol penodedig yn gyfrifol amdanynt y mae hawliau plentyn a roddir gan ddiwygiadau a wneir i Ddeddf Addysg 1996 gan y Rhan hon yn gymwys;
(b)mai dim ond i awdurdodau lleol penodedig y mae unrhyw ddyletswydd a osodir ar awdurdod lleol gan ddiwygiadau a wneir i Ddeddf Addysg 1996 gan y Rhan hon yn gymwys;
(c)mai dim ond i gorff sy'n gyfrifol am ysgol mewn ardaloedd penodedig y mae hawliau person a roddir gan ddiwygiadau a wneir i Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 gan y Rhan hon yn gymwys;
(d)mai dim ond i awdurdodau lleol penodedig y mae unrhyw ddyletswydd a osodir ar awdurdod lleol gan ddiwygiadau a wneir i Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 gan y Rhan hon yn gymwys;
(e)bod adroddiadau neu wybodaeth arall ar weithredu darpariaethau a dreialwyd yn cael eu darparu neu ei darparu ar gyfer Gweinidogion Cymru gan Dribiwnlys Cymru, awdurdodau lleol a bennir o dan baragraffau (a), (b) neu (d) neu gyrff sy'n gyfrifol am ysgolion mewn ardaloedd a bennir o dan baragraff (c).
(3)Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)cyhoeddi adroddiad ynghylch sut y rhoddwyd y darpariaethau a dreialwyd ar waith a pha mor effeithiol oeddynt o ran hyrwyddo llesiant plant, a
(b)gosod copi o'r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
(4)Caniateir i adroddiad o dan is-adran (3) gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru cyn diwedd y cyfnod treialu; ond ni chaniateir iddo gael ei osod ar ddyddiad lai na 12 mis ar ôl dechrau'r cyfnod treialu.
(5)Rhaid i adroddiad o dan is-adran (3) gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru heb fod yn hwyrach na 30 o fisoedd ar ôl i reoliadau o dan yr adran hon ddod i rym.
(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn wneud darpariaeth ynghylch—
(a)hawliau plentyn i apelio i Dribiwnlys Cymru mewn cysylltiad â materion y mae gan riant hawl i apelio mewn perthynas â hwy o dan Ran 4 o Ddeddf Addysg 1996;
(b)hawl person i wneud hawliad i Dribiwnlys Cymru mewn cysylltiad â materion y mae gan riant i'r person hwnnw hawl i wneud hawliad mewn perthynas â hwy o dan adran 28I o Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995;
(c)unrhyw fater sy'n gysylltiedig â'r cyfryw hawliau;
(d)darparu cyngor a gwybodaeth i blant ynghylch materion sy'n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig;
(e)darparu cyngor a gwybodaeth i blant anabl ynghylch materion sy'n ymwneud â gwahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion;
(f)gwasanaethau eirioli ynghylch anghenion addysgol arbennig neu wahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion;
(g)trefniadau gyda'r bwriad o osgoi neu ddatrys anghytundebau rhwng—
(i)awdurdod addysg lleol (ar y naill law) a phlentyn (ar y llaw arall) ynghylch arfer gan awdurdodau swyddogaethau o dan Ran 4 o Ddeddf Addysg 1996;
(ii)perchennog ysgol berthnasol (ar y naill law) a phlentyn (ar y llaw arall) ynghylch darpariaeth addysgol arbennig (o fewn ystyr “special educational provision” yn adran 312(4) o Ddeddf Addysg 1996);
(iii)corff sy'n gyfrifol am ysgol (ar y naill law) a phlentyn anabl (ar y llaw arall) ynghylch gwahaniaethu ar sail anabledd.
(2)Mae'r pŵer i wneud gorchymyn o dan is-adran (1) yn cynnwys pŵer—
(a)i ychwanegu, i ddileu neu i addasu hawliau;
(b)i ddiwygio neu ddiddymu un neu fwy o ddarpariaethau Rhan 4 o Ddeddf Addysg 1996;
(c)i ddiwygio neu ddiddymu un neu fwy o ddarpariaethau Rhan 4 o Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995;
(d)i wneud diwygiadau canlyniadol a diddymiadau i ddarpariaethau yn y Deddfau hynny.
(3)Ni chaniateir arfer y pŵer i wneud gorchymyn o dan yr adran hon—
(a)cyn i adroddiad gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 17(3), neu
(b)ar ôl cyfnod o 24 o fisoedd yn cychwyn ar ddiwrnod olaf y cyfnod treialu a bennir mewn rheoliadau o dan adran 17(1).
(1)Yn adrannau 17 ac 18—
ystyr “awdurdodau lleol” (“local authorities”) yw awdurdodau addysg lleol yng Nghymru;
ystyr “perchennog” (“proprietor”) mewn perthynas ag ysgol yw'r person neu'r corff o bersonau sy'n gyfrifol am reoli'r ysgol (a'i ystyr felly mewn perthynas ag ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol neu ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig, neu ysgol feithrin a gynhelir, yw'r corff llywodraethu);
mae “plentyn” (“child”) yn cynnwys unrhyw berson nad yw eto'n 19 oed ac sy'n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol;
mae i “plentyn anabl” (“disabled child”) yr ystyr sydd i “disabled child” yn adran 28IB o Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995;
mae i “rhiant” (“parent”) yr ystyr a roddir i “parent” yn adran 576 o Ddeddf Addysg 1996;
ystyr “Tribiwnlys Cymru” (“Welsh Tribunal”) yw Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru;
ystyr “ysgol berthnasol” (“relevant school”) yw—
ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir,
uned cyfeirio disgyblion,
ysgol annibynnol a enwir yn y datganiad a gedwir ar gyfer y plentyn o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996, neu
ysgol a gymeradwyir o dan adran 342 o Ddeddf Addysg 1996;
ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw unrhyw ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol neu unrhyw ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig nas sefydlwyd mewn ysbyty;
ystyr “ysgol feithrin a gynhelir” (“maintained nursery school”) yw ysgol feithrin a gynhelir gan awdurdod addysg lleol ac nad yw'n ysgol arbennig.
(2)At ddibenion adran 17(2)(c) ac 18(1)(g)(iii), penderfynir ar y corff sy'n gyfrifol am ysgol yn unol â pharagraff 1 o Atodlen 4A i Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995.
(3)Mae awdurdod lleol yn gyfrifol am blentyn at ddibenion adran 17(2)(a) os yw'r plentyn yn ei ardal—
(a)a bod y plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir,
(b)a bod addysg yn cael ei darparu ar gyfer y plentyn mewn ysgol nad yw'n ysgol a gynhelir neu'n ysgol feithrin a gynhelir, ond ei bod yn cael ei darparu felly ar gost yr awdurdod,
(c)ac nad yw'r plentyn yn dod o fewn (a) neu (b), ond bod y plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a'i fod wedi ei ddwyn i sylw'r awdurdod am fod ganddo (neu am ei bod yn debygol bod ganddo) anghenion addysgol arbennig, neu
(d)ac nad yw'r plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol, ond nad yw o dan ddwyflwydd oed neu dros oedran ysgol gorfodol a'i fod wedi ei ddwyn i sylw'r awdurdod am fod ganddo (neu am ei bod yn debygol bod ganddo) anghenion addysgol arbennig.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Testun a grëwyd gan yr adran o Lywodraeth Cynulliad Cymru oedd yn gyfrifol am destun y Mesur i esbonio beth mae’r Mesur yn ceisio ei wneud ac i wneud y Mesur yn hygyrch i ddarllenwyr nad oes ganddynt gymhwyster cyfreithiol. Mae Nodiadau Esboniadol yn cyd-fynd â holl Fesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys