Mesur Addysg (Cymru) 2009

RHAN 2LL+CAMRYWIOL A CHYFFREDINOL

Yn ddilys o 01/09/2011

Diwygiadau i Ran 7 o Ddeddf Addysg 2002LL+C

21Y cyfnod sylfaenLL+C

(1)Diwygir Deddf Addysg 2002 (p. 32) yn unol â'r adran hon.

(2)Yn adran 97 (dehongli Rhan 7)—

(a)yn y diffiniad o “assessment arrangements”, yn lle “stage”, bob tro y'i ceir, rhodder “phase”;

(b)yn y diffiniad o “desirable outcomes”, yn lle “foundation stage” rhodder “foundation phase”;

(c)yn y diffiniad o “the foundation stage”, yn lle “stage” rhodder “phase”.

(3)Yn adrannau 102 (gan gynnwys y pennawd), yn lle “foundation stage”, bob tro y ceir y geiriau hynny, rhodder “foundation phase”.

(4)Yn adran 103, hepgorer is-adran (1)(a).

(5)Yn adran 104 (gan gynnwys y pennawd), yn lle “foundation stage”, bob tro y ceir y geiriau hynny, rhodder “foundation phase”.

(6)Yn adran 105 (gan gynnwys yn y pennawd), hepgorer y gair “first,” bob tro y'i ceir.

(7)Yn adran 108—

(a)yn lle “foundation stage”, bob tro y ceir y geiriau hynny, rhodder “foundation phase”;

(b)yn is-adran (3), hepgorer y gair “first,”.

(8)Yn adran 110 yn lle “foundation stage”, bob tro y ceir y geiriau hynny, rhodder “foundation phase”.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 21 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 26(3)

Yn ddilys o 01/09/2011

Diwygiadau i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000LL+C

22Hawliau mewn perthynas â'r cwricwlwm lleol ar gyfer myfyrwyr 16 i 18 oedLL+C

(1)Diwygir Deddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21) yn unol â'r adran hon.

(2)Yn adran 33F(1)(a), yn lle “ceases to be” rhodder “was not at the beginning of the entitlement period, or subsequently ceases to be,”.

(3)Yn lle'r diffiniad o “academic year” yn adran 33N(1) rhodder y canlynol—

  • “academic year” means the period beginning on the fourth Monday of September in any year and ending on the first day of September in the following year;.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 22 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 26(3)

CyffredinolLL+C

Yn ddilys o 10/02/2012

23Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadolLL+C

Mae'r Atodlen yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 23 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 26(3)

24Gorchmynion a rheoliadauLL+C

(1)Mae unrhyw bŵer sy'n perthyn i Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Mae unrhyw bŵer sy'n perthyn i Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer—

(a)i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion neu ardaloedd gwahanol;

(b)i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol;

(c)i wneud y cyfryw ddarpariaeth gysylltiedig, atodol, darfodol, trosiannol neu arbed ag y gwêl Gweinidogion Cymru'n dda ei gwneud.

(3)Mae unrhyw offeryn statudol sy'n cynnwys rheoliadau a wneir o dan adran 17(1) yn ddarostyngedig i'w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(4)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol yn cynnwys gorchymyn o dan adran 18 neu 20 onid oes drafft o'r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 24 mewn grym ar 9.2.2010, gweler a. 26(1)

25Gorchmynion o dan adran 18: y weithdrefnLL+C

(1)Cyn gwneud gorchymyn o dan adran 18 rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)ymgynghori â'r personau hynny sydd yn eu barn hwy'n gynrychioliadol o fuddiannau yr effeithir arnynt gan eu cynigion;

(b)rhoi sylw i ganfyddiadau eu hadroddiad o dan adran 17(3).

(2)Os bydd Gweinidogion Cymru, ar ôl ymgynghori o dan is-adran (1), yn arfaethu gwneud gorchymyn o dan adran 18, rhaid iddynt osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddogfen yn cynnwys—

(a)esboniad o'r cynigion,

(b)drafft o'r gorchymyn arfaethedig, ac

(c)manylion yr ymgynghoriad o dan is-adran (1)(a).

(3)Os gosodir dogfen gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan is-adran (2), rhaid i ddrafft o orchymyn o dan adran 18 i roi effaith i'r cynigion (wedi neu heb eu haddasu) beidio â chael ei osod gerbron y Cynulliad hyd oni fydd cyfnod o drigain o ddiwrnodau yn dechrau ar y diwrnod y gosodwyd y ddogfen wedi dod i ben.

(4)Wrth gyfrifo'r cyfnod a grybwyllir yn is-adran (3) nid yw unrhyw amser pan fo Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei ddiddymu neu pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol mewn cyfnod o doriad o fwy na phedwar diwrnod i'w gyfrif.

(5)Wrth baratoi gorchymyn drafft o dan adran 18 rhaid i Weinidogion Cymru ystyried unrhyw gynrychioliadau a wnaed yn ystod y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (3).

(6)Rhaid i ddatganiad gan Weinidogion Cymru fynd gyda gorchymyn drafft a osodir gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n unol ag adran 24(4) a rhaid i'r datganiad roi manylion ynghylch—

(a)unrhyw gynrychioliadau y rhoddwyd ystyriaeth iddynt yn unol ag is-adran (5), a

(b)unrhyw newidiadau a wnaed i'r cynigion a gaiff eu cynnwys yn y ddogfen a osodir gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan is-adran (2).

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 25 mewn grym ar 9.2.2010, gweler a. 26(1)

26CychwynLL+C

(1)Daw'r darpariaethau a ganlyn i rym ar ddiwedd cyfnod o ddeufis yn cychwyn ar y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn y Cyngor—

  • adran 24,

  • adran 25,

  • yr adran hon,

  • adran 27.

(2)Daw paragraffau 10 i 12 o'r Atodlen i rym ar y diwrnod pan gymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn Ei Chyngor.

(3)Daw gweddill darpariaethau'r Mesur hwn i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 26 mewn grym ar 9.2.2010, gweler a. 26(1)

27Enw byrLL+C

Enw'r Mesur hwn yw Mesur Addysg (Cymru) 2009.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 27 mewn grym ar 9.2.2010, gweler a. 26(1)