xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Mae'r adran hon yn gymwys os diddymir ac ail-ddeddfir, gan Ddeddf Seneddol, Ran 4 o Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 (wedi neu heb ei haddasu).
(2)Yn is-adran (1) mae'r ymadrodd “diddymir ac ail-ddeddfir” yn cynnwys diddymu ac ailddeddfu cyn cychwyn y diddymiad ac ailddeddfiad.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn—
(a)gwneud darpariaeth sy'n cyfateb i ddarpariaeth a wneir gan adrannau 9 i 16 o'r Mesur hwn, a
(b)gwneud y cyfryw ddarpariaeth arall ag y byddant o'r farn ei bod yn briodol iddynt ei gwneud yn sgil unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan baragraff (a).
(4)Mae'r pŵer a roddir gan is-adran (3) yn cynnwys pŵer i ddiwygio neu ddiddymu unrhyw ddeddfiad (pa bryd bynnag y caiff ei basio neu ei wneud), gan gynnwys unrhyw ddarpariaeth yn y Mesur hwn.
(5)Yn yr adran hon mae “deddfiad” yn cynnwys deddfiad a geir mewn is-ddeddfwriaeth, o fewn ystyr Deddf Ddehongli 1978 (p.30).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 20 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 26(3)
I2A. 20 mewn grym ar 11.6.2011 gan O.S. 2011/1468, ergl. 2