Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010

AmrywiolLL+C

52Swyddogaethau awdurdodau lleolLL+C

Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol bod awdurdod lleol yn sicrhau darparu—

(a)gwybodaeth neu gyngor ynghylch gwarchod plant a gofal dydd i blant;

(b)hyfforddiant ynghylch darparu gwasanaethau gwarchod plant a gofal dydd i blant.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 52 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I2A. 52 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

53FfioeddLL+C

(1)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i bersonau a gofrestrwyd o dan y Rhan hon dalu i Weinidogion Cymru ar adegau a ragnodwyd neu erbyn yr adegau hynny y symiau a ragnodwyd o ran bod Gweinidogion Cymru yn cyflawni eu swyddogaethau o dan y Rhan hon.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ragnodi amgylchiadau—

(a)pan ellir amrywio swm y ffi sy'n daladwy o dan y rheoliadau yn unol â'r rheoliadau;

(b)pan ellir hepgor y ffi sy'n daladwy o dan y rheoliadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 53 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I4A. 53 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

54Cydweithredu rhwng awdurdodauLL+C

(1)Os yw'n ymddangos i Weinidogion Cymru y gallai unrhyw awdurdod lleol, drwy gymryd unrhyw gam penodol, gynorthwyo wrth iddynt arfer unrhyw un neu unrhyw rai o'u swyddogaethau o dan y Rhan hon, cânt ofyn am gymorth yr awdurdod, gan nodi'r cam o dan sylw.

(2)Rhaid i awdurdod y gofynnir iddo am ei gymorth gydymffurfio â'r cais os yw'n cydweddu â'i ddyletswyddau statudol ef ei hun a'i ddyletswyddau eraill ac nad yw'n rhagfarnu'n ormodol unrhyw un neu unrhyw rai o'i swyddogaethau rhag cael eu cyflawni.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 54 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I6A. 54 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

55HysbysiadauLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys o ran hysbysiadau sy'n ofynnol neu a awdurdodwyd eu rhoi i unrhyw berson gan unrhyw un neu unrhyw rai o'r canlynol—

(a)adran 33;

(b)adran 36.

(2)Gellir rhoi'r hysbysiad i'r person o dan sylw—

(a)drwy ei draddodi i'r person,

(b)drwy ei anfon drwy'r post i gyfeiriad hysbys diwethaf y person, neu

(c)yn ddarostyngedig i is-adran (3), drwy ei drosglwyddo'n electronig.

(3)Os trosglwyddir yr hysbysiad yn electronig, mae i'w drin fel un wedi ei roi ond yn unig os bodlonir gofynion is-adran (4) neu (5).

(4)Os y person y mae'n ofynnol iddo roi'r hysbysiad neu a awdurdodwyd i wneud hynny yw Gweinidogion Cymru—

(a)rhaid bod y person y mae'n ofynnol neu yr awdurdodwyd rhoi'r hysbysiad iddo wedi rhoi ar ddeall i Weinidogion Cymru bod y person hwnnw'n barod i dderbyn hysbysiadau a drosglwyddir drwy gyfrwng electronig a'i fod wedi darparu cyfeiriad addas at y diben hwnnw, a

(b)rhaid anfon yr hysbysiad i'r cyfeiriad a ddarparwyd gan y person hwnnw.

(5)Os nad Gweinidogion Cymru yw'r person y mae'n ofynnol iddo roi'r hysbysiad neu a awdurdodwyd i wneud hynny, rhaid i'r hysbysiad gael ei drosglwyddo yn y cyfryw fodd ag y caiff Gweinidogion Cymru ei wneud yn ofynnol.

(6)Ceir dangos parodrwydd i dderbyn hysbysiadau a drosglwyddir drwy fodd electronig, a roddir at ddibenion is-adran (4), drwy ddull cyffredinol at ddibenion hysbysiadau y mae'n ofynnol eu rhoi neu yr awdurdodwyd eu rhoi gan Weinidogion Cymru o dan y Rhan hon neu ceir cyfyngu hynny i hysbysiadau o ddisgrifiad penodol.

(7)O ran cymryd cam a grybwyllir ym mharagraff (b) neu (c) o adran 36(1) ceir rhoi hysbysiad yr awdurdodwyd ei roi gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (5) neu (7) o'r adran honno ar lafar i berson a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru i dderbyn y cyfryw hysbysiad (yn ogystal â thrwy unrhyw un neu unrhyw rai o'r dulliau a grybwyllir yn is-adran (2)).

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 55 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I8A. 55 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

56Marwolaeth person cofrestredigLL+C

(1)Caiff rheoliadau—

(a)darparu bod darpariaethau'r Rhan hon i fod yn gymwys gydag addasiadau rhagnodedig mewn achosion lle y mae person, sef yr unig berson a oedd wedi'i gofrestru ynglŷn â busnes gofal dydd, wedi marw;

(b)ei gwneud yn ofynnol bod cynrychiolwyr personol person a fu farw a oedd wedi'i gofrestru ynglŷn â gwarchod plant neu ofal dydd i blant yn hysbysu Gweinidogion Cymru o'r farwolaeth.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)(a) yn benodol—

(a)darparu bod y busnes gofal dydd yn cael ei gyflawni am gyfnod rhagnodedig gan berson na chafodd ei gofrestru ar ei gyfer; a

(b)cynnwys darpariaeth y gellir estyn y cyfnod rhagnodedig gan y cyfryw gyfnod pellach ag a ganiateir gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 56 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I10A. 56 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)