Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010

18CyfarwyddiadauLL+C
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod unrhyw awdurdod Cymreig arall yn methu â chydymffurfio, neu'n debygol o fethu â chydymffurfio ag unrhyw ddyletswydd o dan adrannau 2, 7, 10, 11 neu 12.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo'r awdurdod Cymreig i gymryd unrhyw gam y mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei fod yn angenrheidiol neu'n hwylus i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion y ddyletswydd berthnasol.

(3)O ran cyfarwyddyd a roddir o dan yr adran hon—

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(b)caniateir ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach;

(c)mae'n orfodadwy drwy orchymyn gorfodi ar gais Gweinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 18 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I2A. 18 mewn grym ar 10.1.2011 gan O.S. 2010/2994, ergl. 2(f)