xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CGWARCHOD PLANT A GOFAL DYDD I BLANT

Y broses gofrestru a gofynion cofrestruLL+C

28Cofnodi ar y gofrestr a thystysgrifauLL+C

(1)Os caiff cais o dan adran 24(1) ei ganiatáu, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cofrestru'r ceisydd yn y gofrestr gwarchodwyr plant fel gwarchodwr plant, a

(b)rhoi tystysgrif gofrestru i'r ceisydd yn datgan bod y ceisydd wedi'i gofrestru.

(2)Os caiff cais o dan adran 26(1) ei ganiatáu, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cofrestru'r ceisydd yn ddarparydd gofal dydd ynglŷn â'r fangre o dan sylw, a

(b)rhoi tystysgrif gofrestru i'r ceisydd yn datgan fod y ceisydd wedi'i gofrestru.

(3)Rhaid i dystysgrif gofrestru a roddir i geisydd o dan is-adran (1) neu (2) gynnwys gwybodaeth a ragnodwyd ynghylch materion a ragnodwyd.

(4)Os oes newid yn yr amgylchiadau sy'n ei gwneud yn ofynnol diwygio tystysgrif gofrestru, rhaid i Weinidogion Cymru roi i'r person cofrestredig dystysgrif ddiwygiedig.

(5)Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod tystysgrif gofrestru wedi cael ei cholli neu ei difa, rhaid i Weinidogion Cymru roi copi i'r person cofrestredig, pan fydd y person cofrestredig yn talu'r ffi a ragnodwyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 28 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I2A. 28 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)