30Rheoliadau sy'n llywodraethu gweithgareddau
(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n llywodraethu gweithgareddau personau cofrestredig sy'n gweithredu fel gwarchodwyr plant, neu'n darparu gofal dydd, mewn mangre yng Nghymru.
(2)Caiff y rheoliadau o dan yr adran hon ymdrin â'r materion canlynol (ymhlith eraill)—
(a)lles a datblygiad y plant o dan sylw;
(b)addasrwydd i ofalu am y plant o dan sylw, neu fod mewn cyswllt rheolaidd â hwy;
(c)cymwysterau a hyfforddiant;
(d)mwyafswm nifer y plant y caniateir iddynt dderbyn gofal a nifer y personau sy'n ofynnol i gynorthwyo i ofalu amdanynt;
(e)cynnal a chadw, diogelwch ac addasrwydd y fangre a'r cyfarpar;
(f)y gweithdrefnau i drafod cwynion;
(g)goruchwylio staff;
(h)cadw cofnodion;
(i)darparu gwybodaeth.
(3)Os yw'r rheoliadau'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson (heblaw Gweinidogion Cymru) roi sylw i neu fodloni ffactorau, safonau neu faterion eraill a ragnodwyd gan y rheoliadau neu y cyfeirir atynt yn y rheoliadau, cânt hefyd ddarparu bod unrhyw honiad bod person wedi methu â gwneud hynny yn cael ei gymryd i ystyriaeth—
(a)gan Weinidogion Cymru wrth iddynt arfer eu swyddogaethau o dan y Rhan hon, neu
(b)mewn unrhyw achos cyfreithiol o dan y Rhan hon.
(4)Caiff rheoliadau ddarparu—
(a)bod person cofrestredig sydd heb esgus rhesymol yn mynd yn groes i unrhyw ofyniad yn y rheoliadau, neu fel arall yn methu â chydymffurfio ag ef, yn euog o dramgwydd; a
(b)bod person sy'n euog o'r tramgwydd yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.