Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010

32Atal cofrestriadLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Caiff rheoliadau ddarparu bod cofrestriad unrhyw berson o dan y Rhan hon yn cael ei atal.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) gynnwys (ymysg pethau eraill) ddarpariaeth ynghylch—

(a)cyfnod yr ataliad;

(b)yr amgylchiadau y ceir atal cofrestriad ynddynt;

(c)atal cofrestriad ar gais y person cofrestredig.

(3)Rhaid i reoliadau o dan is-adran (1) gynnwys darpariaeth yn rhoi i'r person cofrestredig hawl i apelio i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn ataliad.

(4)Nid yw'r ddyletswydd yn is-adran (3) yn gymwys mewn perthynas ag ataliad ar gais y person cofrestredig.

(5)Rhaid i berson a gofrestrwyd o dan y Rhan hon i warchod plant gan Weinidogion Cymru beidio â gweithredu fel gwarchodwr plant yng Nghymru ar adeg pan fydd y cofrestriad hwnnw wedi'i atal.

(6)Rhaid i berson a gofrestrwyd o dan y Rhan hon i ddarparu gofal dydd yn unrhyw fangre gan Weinidogion Cymru beidio â darparu gofal dydd yn y fangre honno ar unrhyw adeg pan fydd y cofrestriad hwnnw wedi'i atal.

(7)Os yw person yn mynd yn groes i is-adran (5) neu (6) heb esgus rhesymol, mae'r person hwnnw'n euog o dramgwydd ac yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 32 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I2A. 32 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)