37ApelauLL+C
(1)Caiff ceisydd i gofrestru neu (yn ôl y digwydd) berson cofrestredig apelio i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn unrhyw un neu unrhyw rai o'r camau canlynol gan Weinidogion Cymru o dan y Rhan hon—
(a)gwrthod cais i gofrestru;
(b)gosod amod newydd wrth gofrestru;
(c)amrywio neu dynnu i ffwrdd unrhyw amod a osodwyd wrth gofrestru;
(d)gwrthod cais i amrywio neu dynnu i ffwrdd unrhyw amod o'r fath;
(e)diddymu cofrestriad.
(2)Caiff y personau canlynol hefyd apelio i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf—
(a)ceisydd i gofrestru neu (yn ôl y digwydd) berson cofrestredig ynglŷn â phenderfyniad a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan y Rhan hon o ddisgrifiad a ragnodwyd;
(b)person cofrestredig y gwnaed gorchymyn yn ei erbyn o dan adran 34;
(c)person cofrestredig y rhoddir hysbysiad iddo o dan adran 35.
(3)Pan fo apêl, rhaid i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf—
(a)naill ai gadarnhau bod y cam yn cael ei gymryd, bod y penderfyniad arall yn cael ei wneud, bod y gorchymyn yn cael ei wneud, neu bod yr hysbysiad yn cael ei roi (yn ôl y digwydd), neu
(b)cyfarwyddo nad yw'n cael effaith neu ei fod yn peidio â chael effaith.
(4)Oni fydd y Tribiwnlys Haen Gyntaf wedi cadarnhau bod cymryd cam a grybwyllir yn is-adran (1)(a) neu (e) neu wneud gorchymyn o dan adran 34 yn diddymu cofrestriad person, caiff y Tribiwnlys hefyd wneud y naill neu'r llall o'r canlynol neu wneud y ddau ohonynt—
(a)gosod amodau ar gofrestriad y person o dan sylw;
(b)amrywio neu dynnu i ffwrdd unrhyw amod a osodwyd cyn hynny ar gofrestriad y person.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1A. 37(2)(a) cymhwyswyd (6.12.2022) gan Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2022 (dirymwyd) (O.S. 2022/1066), rhlau. 1, 10
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 37 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)