Chwilio Deddfwriaeth

Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 40

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, Adran 40. Help about Changes to Legislation

40ArolyguLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu—

(a)ar gyfer arolygu gwarchod plant a ddarperir yng Nghymru gan bersonau cofrestredig a gofal dydd a ddarperir gan bersonau cofrestredig mewn mangreoedd yng Nghymru;

(b)ar gyfer cyhoeddi adroddiadau o'r arolygiadau mewn modd y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol.

(2)Caiff y rheoliadau ddarparu bod yr arolygiadau yn cael eu trefnu—

(a)gan Weinidogion Cymru, neu

(b)gan Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, neu gan unrhyw berson arall, o dan drefniadau a wneir gyda Gweinidogion Cymru.

(3)Caiff y rheoliadau ddarparu at ddibenion cyfraith difenwi bod unrhyw adroddiad a gyhoeddir o dan y rheoliadau yn freintiedig oni ddangosir bod y cyhoeddiad wedi'i wneud yn faleisus.

(4)Nid yw rheoliadau a wneir o dan is-adran (3) yn cyfyngu ar unrhyw fraint sy'n bodoli ar wahân i ddarpariaeth yn y cyfryw reoliadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 40 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I2A. 40 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth