Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010

Yn ddilys o 01/04/2011

46Y tramgwydd o wneud datganiad anwir neu gamarweiniolLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Mae person yn cyflawni tramgwydd os yw, mewn cais i gofrestru o dan y Rhan hon, yn gwneud datganiad y mae'n gwybod ei fod yn anwir neu'n gamarweiniol mewn manylyn perthnasol.

(2)Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan is-adran (1) yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 46 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)