Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010

Legislation Crest

Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010

2010 mccc 1

Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth ynghylch cyfrannu at ddileu tlodi plant; i ddarparu dyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau cyfleoedd chwarae digonol i blant; i wneud darpariaeth ynghylch trefniadau i blant gymryd rhan ym mhenderfyniadau awdurdod lleol a allai effeithio arnynt; i wneud darpariaeth ynghylch gwarchod plant a gofal dydd i blant; i wneud darpariaeth sy'n sefydlu timau a byrddau integredig ar gyfer cymorth i deuluoedd; i wneud darpariaeth ynghylch gwella safonau mewn gwaith cymdeithasol ar gyfer plant a'r personau sy'n gofalu amdanynt; i wneud darpariaeth ynghylch asesu anghenion plant os oes angen gwasanaethau gofal cymunedol ar eu rhieni neu os oes ganddynt gyflyrau iechyd sy'n effeithio ar anghenion y plant; ac at ddibenion cysylltiedig.

Mae'r Mesur hwn, a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 10 Tachwedd ac a gymeradwywyd gan Ei Mawrhydi yn Ei Chyngor ar 10 Chwefror 2010, yn deddfu'r darpariaethau a ganlyn:—

RHAN 1LL+CTLODI PLANT, CYFLEOEDD CHWARAE A CHYMRYD RHAN

PENNOD 1LL+CDILEU TLODI PLANT

Y nodau eangLL+C

1Y nodau eang i gyfrannu at ddileu tlodi plantLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion y Rhan hon.

(2)Y nodau eang i gyfrannau at ddileu tlodi plant yw—

(a)cynyddu incwm i aelwydydd sy'n cynnwys plentyn neu blant gyda'r bwriad o sicrhau, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, nad oes unrhyw aelwyd yn y grŵp incwm perthnasol;

(b)sicrhau, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, nad yw plant sy'n byw ar aelwydydd yn y grŵp incwm perthnasol wedi'u hamddifadu'n sylweddol;

(c)hybu a hwyluso cyflogaeth am dâl i rieni plant;

(d)darparu i rieni plant y sgiliau sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth am dâl;

(e)lleihau anghydraddoldebau mewn cyrhaeddiad addysgol rhwng plant;

(f)cefnogi rhianta plant;

(g)lleihau anghydraddoldebau mewn iechyd rhwng plant a rhwng rhieni plant (i'r graddau y mae'n angenrheidiol i sicrhau llesiant eu plant);

(h)sicrhau bod pob plentyn yn tyfu mewn tai gweddus;

(i)sicrhau bod pob plentyn yn tyfu mewn cymunedau diogel a chydlynus;

(j)lleihau anghydraddoldebau wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol, gweithgareddau chwaraeon a hamdden rhwng plant a rhwng rhieni plant (i'r graddau y mae'n angenrheidiol i sicrhau llesiant eu plant);

(k)cynorthwyo personau ifanc i gymryd rhan yn effeithiol mewn addysg a hyfforddiant;

(l)cynorthwyo personau ifanc i fanteisio ar gyfleoedd i gael cyflogaeth;

(m)cynorthwyo personau ifanc i gymryd rhan yn effeithiol ac yn gyfrifol ym mywyd eu cymunedau.

(3)At ddibenion is-adran (2)(a), y “grŵp incwm perthnasol”, mewn perthynas ag aelwyd, yw pob aelwyd sy'n cynnwys plentyn neu blant lle y mae incwm yr aelwyd yn llai na 60% o incwm canolrifol yn y Deyrnas Unedig.

(4)At ddibenion is-adran (2)(b), y “grŵp incwm perthnasol”, mewn perthynas ag aelwyd, yw pob aelwyd sy'n cynnwys plentyn neu blant lle y mae incwm yr aelwyd yn llai na 70% o incwm canolrifol yn y Deyrnas Unedig.

(5)Caiff rheoliadau ddarparu ar gyfer penderfynu amddifadedd sylweddol ac incwm canolrifol mewn perthynas ag aelwyd at ddibenion yr is-adran hon.

(6)Os nad oes rheoliadau o dan is-adran (5) mewn grym, mae awdurdod Cymreig i wneud ei benderfyniad ei hun ar amddifadedd sylweddol ac ar incwm canolrifol mewn perthynas ag aelwyd at ddibenion yr is-adran hon.

(7)Yn yr adran hon, ystyr “personau ifanc” yw personau sydd wedi cyrraedd 11 oed ond heb gyrraedd 26 oed.

(8)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn —

(a)diwygio neu hepgor unrhyw baragraff o is-adran (2);

(b)ychwanegu paragraffau at yr is-adran honno;

(c)diwygio neu hepgor paragraffau ychwanegol o'r fath;

(d)diwygio neu hepgor is-adrannau (3), (4), (5), (6) a (7);

(e)ychwanegu is-adrannau sy'n ymwneud ag is-adran (2);

(f)diwygio neu hepgor y cyfryw is-adrannau ychwanegol;

(g)gwneud unrhyw ddiwygiadau i'r Rhan hon sy'n angenrheidiol neu'n hwylus o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan baragraffau (a) i (f).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 mewn grym ar 10.4.2010, gweler a. 75(1)

StrategaethauLL+C

2Strategaethau i gyfrannu at ddileu tlodi plantLL+C

(1)Rhaid i awdurdod Cymreig lunio a chyhoeddi strategaeth i gyfrannu at ddileu tlodi plant yng Nghymru sy'n gosod pob un o'r canlynol—

(a)amcanion a ddewiswyd gan yr awdurdod (yn ddarostyngedig i is-adrannau (3) a (4))—

(i)sy'n ymwneud ag unrhyw un neu unrhyw rai o'r nodau eang i gyfrannu at ddileu tlodi plant, a

(ii)y gellir eu dilyn wrth iddo arfer ei swyddogaethau;

(b)unrhyw amcanion a bennir mewn perthynas â'r awdurdod mewn rheoliadau a wneir o dan is-adran (5);

(c)camau sydd i'w cyflawni a swyddogaethau sydd i'w harfer gan yr awdurdod at ddibenion cyflawni'r amcanion o dan baragraff (a) ac, os pennir unrhyw amcanion mewn perthynas â'r awdurdod mewn rheoliadau o dan is-adran (5), o dan baragraff (b).

(2)Rhaid i awdurdod Cymreig gymryd pob cam rhesymol i gyflawni'r camau ac arfer y swyddogaethau y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(c) yn unol â'i strategaeth.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru ac awdurdod lleol ddewis ystod o amcanion o dan is-adran (1)(a) sy'n ymwneud â'r holl nodau eang i ddileu tlodi plant.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd ddewis amcanion o dan is-adran (1)(a)—

(a)sy'n ymwneud â'u pwerau i ddarparu cyllid i unrhyw berson, a

(b)sy'n hybu'r nodau eang i ddileu tlodi plant.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru bennu amcanion ar gyfer awdurdod Cymreig mewn rheoliadau—

(a)os yw'r amcanion yn ymwneud ag un o'r nodau eang neu fwy ohonynt ar gyfer cyfrannu at ddileu tlodi plant, a

(b)os caniateir i awdurdod Cymreig ddilyn yr amcanion wrth iddo arfer ei swyddogaethau.

(6)Caiff rheoliadau o dan is-adran (5) hefyd ddarparu nad yw is-adran (1)(a) a pharagraff (c) o'r is-adran honno (fel y mae'n ymwneud ag is-adran (a)) yn gymwys i awdurdod Cymreig i'r graddau a bennir yn y rheoliadau.

(7)At ddibenion yr adran hon, mae cyfeiriad at gam sydd i'w gyflawni neu at swyddogaeth sydd i'w harfer gan awdurdod Cymreig yn gyfeiriad at gam neu swyddogaeth sydd o fewn pwerau awdurdod Cymreig.

(8)O ran darparu ynghylch llunio a chyhoeddi strategaethau, gweler adrannau 3 i 5 o'r Mesur hwn F1....

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 2 mewn grym ar 10.4.2010 at ddibenion penodedig, gweler a. 75(1)

I3A. 2 mewn grym ar 10.1.2011 at ddibenion penodedig gan O.S. 2010/2994, ergl. 2(a)

3Strategaethau a lunnir gan Weinidogion CymruLL+C

(1)O ran Gweinidogion Cymru—

(a)rhaid iddynt gyhoeddi eu strategaeth gyntaf o dan y Rhan hon yn 2010,

(b)rhaid iddynt gadw golwg ar eu strategaeth yn gyson, ac

(c)cânt o bryd i'w gilydd ail-lunio neu adolygu eu strategaeth.

(2)Cyn llunio, ail-lunio neu adolygu eu strategaeth, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r canlynol—

(a)yr Ysgrifennydd Gwladol, a

(b)y personau eraill hynny y maent o'r farn eu bod yn briodol.

(3)Nid yw darpariaethau is-adran (2)(a) i'w dehongli fel pe baent yn rhoi pŵer i'r Ysgrifennydd Gwladol neu'n gosod dyletswydd arno.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi strategaeth pan fyddant yn ei llunio a phryd bynnag y byddant yn ei hail-lunio; ac os byddant yn adolygu'r strategaeth heb ei hail-lunio, rhaid iddynt gyhoeddi naill ai'r diwygiadau neu'r strategaeth fel y'i diwygiwyd (fel y maent yn barnu sy'n briodol).

(5)Os bydd Gweinidogion Cymru'n cyhoeddi strategaeth neu ddiwygiadau o dan is-adran (4) rhaid iddynt osod copi o'r strategaeth neu'r diwygiadau gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(6)Rhaid i Weinidogion Cymru yn 2013, ac ym mhob trydedd blwyddyn ar ôl 2013—

(a)cyhoeddi adroddiad sy'n cynnwys asesiad—

(i)i ba raddau y cyflawnwyd yr amcanion sydd yn eu strategaeth i gyfrannu at ddileu tlodi plant, a

(ii)os na chyflawnwyd un o'r amcanion, i ba raddau y gwnaed cynnydd tuag at gyflawni'r amcan;

(b)gosod copi o'r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 3 mewn grym ar 10.4.2010, gweler a. 75(1)

4Strategaethau a lunnir gan awdurdodau lleol F2...LL+C

(1)Bydd dyletswydd awdurdod lleol i gyhoeddi strategaeth o dan adran 2(1) wedi ei chyflawni pan [F3gaiff cynllun llesiant lleol ei gyhoeddi o dan adran 39 [F4, 44(5) neu 47(6) neu (11)] o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2) gan y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus y mae’r awdurdod yn aelod ohono, ond dim ond os yw strategaeth yr awdurdod yn yn rhan gyfannol o’r cynllun hwnnw] .

F5(2). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F5(3). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(4)Yn adran 66 (rheoliadau a gorchmynion), ar ôl is-adran (6) mewnosoder—

(7)Any statutory instrument containing regulations made under section 26 by the Welsh Ministers is subject to annulment in pursuance of a resolution of the National Assembly for Wales.

(8)Paragraphs 33 to 35 of Schedule 11 to the Government of Wales Act 2006 make provision about the National Assembly for Wales procedures that apply to any statutory instrument containing regulations or an order made in exercise of functions conferred upon the National Assembly for Wales by this Act that have been transferred to the Welsh Ministers by virtue of paragraph 30 of that Schedule..

5Strategaethau a lunnir gan awdurdodau Cymreig eraillLL+C

(1)Yn yr adran hon nid yw cyfeiriad at “awdurdod Cymreig” yn cynnwys—

(a)Gweinidogion Cymru;

(b)awdurdod lleol.

(2)Mae is-adran (3) yn gymwys i strategaeth awdurdod Cymreig o dan adran 2.

(3)Caiff rheoliadau ddarparu ar gyfer—

(a)y cyfnod y mae'r strategaeth i ymwneud ag ef;

(b)pryd a sut y mae'n rhaid cyhoeddi strategaeth;

(c)cadw golwg gyson ar strategaeth;

(d)ymgynghori cyn cyhoeddi strategaeth.

F6(4). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(5)Bydd dyletswydd awdurdod Cymreig o dan adran 2(1) i gyhoeddi strategaeth wedi ei chyflawni os yw'r strategaeth yn rhan annatod o [F7gynllun llesiant lleol a gyhoeddir o dan adran 39 [F8, 44(5) neu 47(6) neu (11)] o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2) gan bob bwrdd gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer ardal awdurdod lleol y mae’r awdurdod Cymreig yn arfer swyddogaethau ynddi.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 5 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I8A. 5 mewn grym ar 10.1.2011 gan O.S. 2010/2994, ergl. 2(c)

Yr awdurdodau CymreigLL+C

6Yr awdurdodau CymreigLL+C

(1)At ddibenion y Mesur hwn, mae pob un o'r canlynol yn “awdurdod Cymreig”—

(a)Gweinidogion Cymru;

(b)awdurdod lleol;

[F9(ba)cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir drwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1);]

(c)Bwrdd Iechyd Lleol;

(d)Awdurdod tân ac achub yng Nghymru, sef awdurdod yng Nghymru a gyfansoddwyd drwy gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21) neu gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno yn gymwys iddo;

(e)Awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

(f)[F10Corff Adnoddau Naturiol Cymru];

(g)[F11y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil];

(h)Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru;

(i)Amgueddfa Genedlaethol Cymru;

(j)Cyngor Celfyddydau Cymru;

(k)Llyfrgell Genedlaethol Cymru;

(l)Cyngor Chwaraeon Cymru.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn —

(a)diwygio neu hepgor unrhyw baragraff yn is-adran (1), ac eithrio paragraff (a) a (b);

(b)ychwanegu paragraffau at yr is-adran honno;

(c)diwygio neu hepgor y cyfryw baragraffau ychwanegol;

(d)gwneud unrhyw ddiwygiadau i adran 5 sy'n angenrheidiol neu'n hwylus o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan baragraffau (a) i (c).

(3)Cyn gwneud gorchymyn o dan is-adran (2) i gynnwys person yn is-adran (1) neu i symud person o is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r person hwnnw.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru beidio ag arfer eu pŵer o dan is-adran (2) mewn modd a fyddai'n cynnwys unrhyw un neu unrhyw rai o'r canlynol o fewn is-adran (1)—

(a)person sydd heb swyddogaethau o natur gyhoeddus;

(b)person nad yw ei brif swyddogaethau'n ymwneud â maes neu feysydd yn Rhan 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32);

(c)tribiwnlys.

(5)Os bydd Gweinidogion Cymru yn arfer eu pŵer o dan is-adran (2) mewn modd a fyddai'n cynnwys person o fewn is-adran (1) sydd â swyddogaethau o natur gyhoeddus ac o natur breifat, rhaid iddynt gynnwys y person hwnnw mewn perthynas â'r swyddogaethau hynny sydd ganddo sydd o natur gyhoeddus yn unig.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 6 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I10A. 6 mewn grym ar 10.1.2011 gan O.S. 2010/2994, ergl. 2(d)

Rhagolygol

Gwasanaethau i fynd i'r afael â thlodi plantLL+C

7Dyletswydd awdurdod lleol i sicrhau bod gofal plant ar gael yn ddi-dâlLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod gofal plant o ddisgrifiad rhagnodedig ar gael yn ddi-dâl am y cyfryw gyfnodau ag a ragnodir ar gyfer pob plentyn o ddisgrifiad rhagnodedig yn ei ardal—

(a)sydd wedi cyrraedd y cyfryw oedran ag a ragnodir, ond

(b)sydd o dan oedran ysgol gorfodol.

(2)Mae'r ddyletswydd hon yn ddarostyngedig i ddarpariaethau rheoliadau a wneir o dan adran 10(1)(c).

(3)Yn yr adran hon ystyr “gofal plant” yw—

(a)gwarchod plant neu ofal dydd o fewn ystyr Rhan 2 y mae'n ofynnol i'r darparydd fod wedi'i gofrestru ar ei gyfer o dan y Rhan honno, neu

(b)gofal a ddarperir gan berson o ddisgrifiad a gymeradwyir yn unol â chynllun a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 12(5) o Ddeddf Credydau Treth 2002 (p. 21).

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 7 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

8Gwasanaethau cymorth i rieni: pwerau awdurdod lleolLL+C

(1)Caiff awdurdod lleol ddarparu gwasanaethau cymorth i rieni plant, sicrhau eu darparu neu gymryd rhan wrth eu darparu.

(2)Ni chaiff awdurdod lleol godi tâl am unrhyw beth a ddarperir o dan is-adran (1).

(3)Yn yr adran hon ac yn adran 10, ystyr “gwasanaethau cymorth i rieni” yw unrhyw un neu unrhyw rai o'r canlynol—

(a)hyfforddiant mewn sgiliau rhianta;

(b)unrhyw wasanaeth arall i hybu neu hwyluso rhianta effeithiol.

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 8 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

9Gwasanaethau cymorth iechyd: pwerau awdurdod lleolLL+C

(1)Caiff awdurdod lleol ddarparu gwasanaethau cymorth iechyd, sicrhau eu darparu neu gymryd rhan wrth eu darparu.

(2)Ni chaiff awdurdod lleol ddarparu gwasanaethau nyrsio, sicrhau eu darparu neu gymryd rhan wrth eu darparu o dan is-adran (1) ar gyfer unrhyw ran o'i ardal heb gydsyniad y Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer y rhan honno o'i ardal.

(3)Ni chaiff awdurdod lleol godi tâl am unrhyw beth a ddarperir o dan is-adran (1).

(4)Yn yr adran hon ac yn adran 10, ystyr “gwasanaethau cymorth iechyd” yw gwasanaethau sy'n darparu cymorth mewn perthynas â iechyd plant neu rieni plant (i'r graddau y maent yn angenrheidiol i sicrhau llesiant eu plant), ar wahân i gymorth sy'n golygu darparu gwasanaethau meddygol, deintyddol, offthalmig, neu fferyllol.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 9 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

10Rheoliadau am wasanaethau i fynd i'r afael â thlodi plantLL+C

(1)Caiff rheoliadau—

(a)ei gwneud yn ofynnol bod awdurdod lleol yn sicrhau darparu gwasanaethau cymorth i rieni o ddisgrifiad rhagnodedig yn ddi-dâl i rieni rhagnodedig plant yn ei ardal;

(b)ei gwneud yn ofynnol bod awdurdod lleol yn sicrhau darparu gwasanaethau cymorth iechyd o ddisgrifiad rhagnodedig yn ddi-dâl i blant rhagnodedig neu i rieni rhagnodedig plant yn ei ardal;

(c)darparu bod y ddyletswydd yn adran 7(1) i fod yn gymwys yn unig mewn rhan neu rannau o ardal awdurdod lleol;

(d)darparu bod gofyniad mewn rheoliadau o dan baragraff (a) neu (b) i fod yn gymwys yn unig mewn rhan neu rannau o ardal awdurdod lleol.

(2)Caiff rheoliadau o dan baragraff (c) neu (d) o is-adran (1) (ymysg pethau eraill)—

(a)pennu ardal neu ardaloedd o fewn ardal awdurdod lleol;

(b)darparu ar gyfer pennu ardal neu ardaloedd gan awdurdod lleol.

Gwybodaeth Cychwyn

I14A. 10 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

PENNOD 2LL+CCYFLEOEDD CHWARAE A CHYMRYD RHAN

Cyfleoedd chwaraeLL+C

11Dyletswyddau awdurdod lleol ynghylch cyfleoedd chwarae i blantLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol asesu digonolrwydd cyfleoedd chwarae ar gyfer plant yn ei ardal yn unol â rheoliadau.

(2)Caiff rheoliadau gynnwys darpariaeth ynghylch—

(a)y materion sydd i'w hystyried wrth asesu digonolrwydd;

(b)y dyddiad erbyn pryd y mae asesiad cyntaf i'w gyflawni;

(c)amlder asesiadau;

(d)adolygu asesiadau;

(e)cyhoeddi asesiadau.

(3)Rhaid i awdurdod lleol sicrhau cyfleoedd chwarae digonol i blant yn ei ardal, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, gan roi sylw i'w asesiad o dan is-adran (1).

(4)Rhaid i awdurdod lleol—

(a)cyhoeddi gwybodaeth ynghylch cyfleoedd chwarae i blant yn ardal yr awdurdod, a

(b)diweddaru'r wybodaeth a gyhoeddir.

(5)Wrth gyflawni ei ddyletswyddau o dan yr adran hon, rhaid i awdurdod lleol roi sylw (ymysg pethau eraill)—

(a)i anghenion plant sy'n bobl anabl (o fewn ystyr adran 1 o Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 (p. 50);

(b)i anghenion plant o wahanol oedrannau.

(6)Yn yr adran hon—

  • mae “chwarae” yn cynnwys unrhyw weithgaredd hamdden;

  • ystyr “digonol”, mewn perthynas â chyfleoedd chwarae, yw digonol o ran nifer ac ansawdd.

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 11 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I16A. 11(1)(2)(5)(6) mewn grym ar 1.11.2012 gan O.S. 2012/2453, ergl. 2

I17A. 11(3)(4) mewn grym ar 1.7.2014 gan O.S. 2014/1606, ergl. 2(2)

Cymryd rhanLL+C

12Plant yn cymryd rhan ym mhenderfyniadau awdurdod lleolLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol wneud y cyfryw drefniadau ag y mae'n eu hystyried yn addas i hybu a hwyluso plant i gymryd rhan ym mhenderfyniadau'r awdurdod a allai effeithio arnynt.

(2)Rhaid i awdurdod lleol—

(a)cyhoeddi gwybodaeth ynghylch ei drefniadau o dan is-adran (1), a

(b)diweddaru'r wybodaeth a gyhoeddir.

(3)Diddymir adran 176 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32) gan yr is-adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I18A. 12 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I19A. 12 mewn grym ar 31.1.2012 gan O.S. 2012/191, ergl. 5

PENNOD 3LL+CAROLYGU, CANLLAWIAU A CHYFARWYDDIADAU

Rhagolygol

ArolyguLL+C

13ArolyguLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu—

(a)ar gyfer arolygu arfer swyddogaethau gan awdurdod lleol o dan adrannau 7 i 12;

(b)ar gyfer cyhoeddi adroddiadau o'r arolygiadau yn y fath fodd y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol.

(2)Caiff y rheoliadau ddarparu bod yr arolygiadau yn cael eu trefnu—

(a)gan Weinidogion Cymru, neu

(b)gan Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, neu gan unrhyw berson arall, o dan drefniadau a wnaed gyda Gweinidogion Cymru.

(3)Caiff y rheoliadau ddarparu at ddibenion cyfraith difenwi bod unrhyw adroddiad a gyhoeddir o dan y rheoliadau yn freintiedig oni ddangosir bod y cyhoeddiad wedi'i wneud yn faleisus.

(4)Nid yw rheoliadau a wneir o dan is-adran (3) yn cyfyngu ar unrhyw fraint sy'n bodoli ar wahân i ddarpariaeth yn y cyfryw reoliadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I20A. 13 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

14Pwerau mynediadLL+C

(1)Caiff unrhyw berson a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru, at ddibenion rheoliadau a wneir o dan adran 13, ar unrhyw adeg resymol fynd i mewn—

(a)i unrhyw fangre sydd ym mherchenogaeth neu o dan reolaeth awdurdod lleol;

(b)i unrhyw fangre sy'n dod o fewn is-adran (3).

(2)Ond nid yw is-adran (1) yn awdurdodi mynediad i mewn i fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf fel annedd breifat.

(3)Y mangreoedd y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(b) yw mangreoedd—

(a)a ddefnyddir, neu yr arfaethir eu defnyddio, gan unrhyw berson mewn cysylltiad â gwasanaethau neu gyfleusterau a sicrhawyd gan awdurdod lleol;

(b)neu bod y person a awdurdodwyd o dan is-adran (1) yn rhesymol yn credu eu bod yn cael eu defnyddio felly, neu yr arfaethir eu defnyddio felly.

(4)Caniateir rhoi awdurdodiad o dan is-adran (1)—

(a)ar gyfer achlysur neu gyfnod penodol;

(b)yn ddarostyngedig i amodau.

(5)Rhaid i berson sy'n arfer unrhyw bŵer a roddir gan is-adran (1) neu adran 15, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos dogfen a ddilyswyd yn briodol sy'n dangos awdurdod y person hwnnw i wneud hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I21A. 14 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

15Pwerau arolyguLL+C

(1)Caiff person sy'n mynd i mewn i fangre o dan adran 14 (yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodwyd o dan adran 14(4)(b))—

(a)arolygu'r fangre;

(b)arolygu unrhyw ddogfennau neu gofnodion, cymryd copïau ohonynt neu eu symud oddi yno a hwythau'n ymwneud ag awdurdod lleol yn cyflawni ei swyddogaethau o dan adrannau 7 i 12;

(c)arolygu unrhyw eitem arall a'i symud o'r fangre;

(d)cyf-weld yn breifat ag unrhyw berson sy'n gweithio yn y fangre.

(2)Mae'r pŵer yn is-adran (1)(b) yn cynnwys—

(a)pŵer i'w gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n dal dogfennau neu gofnodion neu sy'n atebol amdanynt yn y fangre i'w dangos, a

(b)o ran cofnodion a gedwir drwy gyfrwng cyfrifiadur, pŵer i'w gwneud yn ofynnol i'r cofnodion gael eu dangos ar ffurf sy'n eu gwneud yn ddarllenadwy ac y gellir eu cymryd oddi yno.

(3)Nid yw'r pŵer yn is-adran (1)(b) yn cynnwys pŵer—

(a)i'w gwneud yn ofynnol i berson ddangos unrhyw ddogfennau neu gofnodion y gellid cynnal hawliad am fraint broffesiynol gyfreithiol mewn cysylltiad â hwy mewn achos cyfreithiol, neu

(b)i gymryd copïau o ddogfennau neu gofnodion o'r fath neu eu symud oddi yno.

(4)O ran arolygu unrhyw ddogfennau o'r fath, caiff person a awdurdodwyd at ddibenion adran 14 (yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodwyd o dan adran 14(4)(b))—

(a)cael mynediad i unrhyw gyfrifiadur a chyfarpar cysylltiedig neu ddeunyddiau ac arolygu a gwirio eu gweithrediad y mae'r person hwnnw'n ystyried sy'n cael eu defnyddio neu wedi cael eu defnyddio mewn cysylltiad â'r dogfennau, a

(b)ei gwneud yn ofynnol bod person sy'n dod o fewn is-adran (5) yn rhoi iddo'r cyfryw gymorth rhesymol ag y bo angen amdano at y diben hwnnw.

(5)Mae person yn dod o fewn yr is-adran hon —

(a)os yw'n berson y mae'r cyfrifiadur yn cael ei ddefnyddio ganddo neu wedi cael ei ddefnyddio ganddo neu ar ei ran, neu

(b)os yw'n berson sydd â gofal y cyfrifiadur, y cyfarpar neu'r deunydd neu fel arall yn ymwneud â'u gweithredu.

(6)Caiff person sy'n mynd i mewn i fangre o dan adran 14 (yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodir o dan adran 14(4)(b)) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi iddo'r cyfryw gyfleusterau a chymorth ynglŷn â materion sydd o dan reolaeth y person ag a fo'n angenrheidiol i'w alluogi i arfer pwerau o dan adran 14 neu o dan yr adran hon.

(7)Mae unrhyw berson sydd heb esgus rhesymol—

(a)yn rhwystro person rhag arfer unrhyw bŵer o dan adran 14(1) neu o dan yr adran hon, neu

(b)yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir o dan yr adran hon,

yn euog o dramgwydd a bydd yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.

Gwybodaeth Cychwyn

I22A. 15 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

16Pŵer i'w gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth yn cael ei rhoiLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson a bennir yn is-adran (3) roi iddynt unrhyw wybodaeth, dogfennau, cofnodion (gan gynnwys cofnodion personol) neu eitemau eraill—

(a)sy'n ymwneud ag arfer ei swyddogaethau gan awdurdod lleol o dan adrannau 7 i 12, a

(b)y mae Gweinidogion Cymru—

(i)yn ystyried eu bod yn angenrheidiol neu'n hwylus eu cael at ddibenion unrhyw un neu unrhyw rai o'u swyddogaethau sy'n ymwneud ag awdurdod lleol yn arfer ei swyddogaethau o dan adrannau 7 i 12, neu

(ii)yn ystyried eu bod yn angenrheidiol neu'n hwylus i unrhyw berson sy'n arfer swyddogaethau o dan adrannau 14 i 15 eu cael at ddibenion y swyddogaethau hynny.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru rannu unrhyw beth a gafwyd o dan is-adran (1) gydag unrhyw berson sy'n arfer swyddogaethau o dan adrannau 14 i 15.

(3)Dyma'r personau y cyfeirir atynt yn is-adran (1)—

(a)awdurdod lleol;

(b)unrhyw berson y mae'r awdurdod wedi ymrwymo mewn trefniadau gydag ef—

(i)wrth iddo arfer unrhyw un neu unrhyw rai o'i swyddogaethau o dan adrannau 7 i 12, neu

(ii)ynglŷn ag unrhyw weithgaredd cysylltiedig.

(4)Mae'r pŵer yn is-adran (1) yn cynnwys, mewn perthynas â gwybodaeth, ddogfennau neu gofnodion a gedwir drwy gyfrwng cyfrifiadur, pŵer i'w gwneud yn ofynnol eu darparu mewn ffurf ddarllenadwy y gellir ei cymryd oddi yno.

(5)Nid yw'r pŵer yn is-adran (1) yn cynnwys y pŵer i'w gwneud yn ofynnol i roi gwybodaeth, dogfennau neu gofnodion y gellid cynnal hawliad am fraint broffesiynol gyfreithiol mewn cysylltiad â hwy mewn achos cyfreithiol.

(6)Bydd unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir yn rhinwedd yr adran hon yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.

Gwybodaeth Cychwyn

I23A. 16 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

Canllawiau a chyfarwyddiadauLL+C

17CanllawiauLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi canllawiau i awdurdod Cymreig arall o bryd i'w gilydd ynghylch—

(a)arfer swyddogaethau o dan adrannau 1 i 10, neu

(b)unrhyw gam i hybu'r nodau eang i gyfrannu at ddileu tlodi plant.

(2)Rhaid i awdurdod Cymreig roi sylw i'r canllawiau wrth arfer ei swyddogaethau.

(3)Wrth iddo arfer ei swyddogaethau o dan adrannau 11 a 12, rhaid i awdurdod lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir o bryd i'w gilydd gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I24A. 17 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I25A. 17 mewn grym ar 10.1.2011 gan O.S. 2010/2994, ergl. 2(e)

18CyfarwyddiadauLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod unrhyw awdurdod Cymreig arall yn methu â chydymffurfio, neu'n debygol o fethu â chydymffurfio ag unrhyw ddyletswydd o dan adrannau 2, 7, 10, 11 neu 12.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo'r awdurdod Cymreig i gymryd unrhyw gam y mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei fod yn angenrheidiol neu'n hwylus i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion y ddyletswydd berthnasol.

(3)O ran cyfarwyddyd a roddir o dan yr adran hon—

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(b)caniateir ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach;

(c)mae'n orfodadwy drwy orchymyn gorfodi ar gais Gweinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I26A. 18 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I27A. 18 mewn grym ar 10.1.2011 gan O.S. 2010/2994, ergl. 2(f)

RHAN 2LL+CGWARCHOD PLANT A GOFAL DYDD I BLANT

Y prif dermauLL+C

19Ystyr “gwarchod plant” a “gofal dydd i blant”LL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion y Rhan hon.

(2)Mae person yn gweithredu fel gwarchodwr plant os yw'r person yn gofalu am blentyn neu blant o dan [F12ddeuddeng] oed mewn mangre ddomestig er mwyn gwobr; ac mae “gwarchod plant” i'w ddehongli yn unol â hynny.

(3)Mae person yn darparu gofal dydd i blant os yw'r person yn darparu gofal ar unrhyw adeg i blant o dan [F13ddeuddeng] oed mewn mangre heblaw mangre ddomestig; ac mae “gofal dydd i blant” a “gofal dydd” i'w dehongli yn unol â hynny.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn—

(a)diwygio is-adran (2) neu (3) i amnewid oedran gwahanol;

(b)darparu, o dan yr amgylchiadau a bennir yn y gorchymyn, nad yw person yn gweithredu fel gofalydd plant at ddibenion y Rhan hon;

(c)darparu, o dan yr amgylchiadau a bennir yn y gorchymyn, nad yw person yn darparu gofal dydd at ddibenion y Rhan hon.

(5)Caiff yr amgylchiadau a bennir mewn gorchymyn ymwneud ag un neu fwy o'r materion canlynol (ymhlith eraill)—

(a)y person sy'n darparu'r gwasanaeth gwarchod plant neu'r gofal dydd;

(b)y plentyn neu'r plant y darperir ef ar ei gyfer neu ar eu cyfer;

(c)natur y gwasanaeth gwarchod plant neu'r gofal dydd;

(d)y fangre y darperir ef ynddi;

(e)yr adegau pan ddarperir ef;

(f)y trefniadau y darperir ef oddi tanynt.

(6)Yn yr adran hon ystyr “mangre ddomestig” yw unrhyw fangre sy'n cael ei defnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf fel annedd breifat.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I28A. 19 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I29A. 19 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

Cofrestru gwarchod plantLL+C

20Cofrestr o warchodwyr plantLL+C

Rhaid i Weinidogion Cymru gynnal cofrestr (“cofrestr o warchodwyr plant”) o bob person sydd wedi'i gofrestru'n warchodwr plant o dan y Rhan hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I30A. 20 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I31A. 20 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

21Dyletswydd gwarchodwyr plant i gofrestruLL+C

(1)Rhaid i berson beidio â gweithredu'n warchodwr plant yng Nghymru oni bai bod y person hwnnw wedi'i gofrestru'n warchodwr plant gan Weinidogion Cymru o dan y Rhan hon.

(2)Os yw'n ymddangos i Weinidogion Cymru bod person yn gweithredu fel gwarchodwr plant heb iddo gael ei gofrestru i wneud hynny o dan y Rhan hon, caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad gorfodi”) i'r person hwnnw.

(3)Ceir cyflwyno hysbysiad gorfodi i berson—

(a)drwy ei draddodi i'r person, neu

(b)drwy ei anfon drwy'r post i gyfeiriad hysbys diwethaf y person.

(4)Mae hysbysiad gorfodi yn effeithiol am gyfnod o flwyddyn sy'n dechrau ar y dyddiad pan gyflwynir ef.

(5)Mae person (“P”) sy'n gweithredu fel gwarchodwr plant yn groes i is-adran (1) yn cyflawni tramgwydd —

(a)os oes hysbysiad gorfodi yn effeithiol mewn perthynas â P, a

(b)os yw P yn gweithredu fel gwarchodwr plant heb esgus rhesymol.

(6)Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan y is-adran (5) yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Gwybodaeth Cychwyn

I32A. 21 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I33A. 21 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

Cofrestru gofal dydd i blantLL+C

22Cofrestr o ddarparwyr gofal dydd i blantLL+C

Rhaid i Weinidogion Cymru gynnal cofrestr (“cofrestr gofal dydd i blant”) o bob person sydd wedi'i gofrestru i ddarparu gofal dydd i blant o dan y Rhan hon ac o'r mangreoedd y maent wedi eu hawdurdodi i'w ddarparu ynddynt o dan y Rhan hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I34A. 22 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I35A. 22 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

23Dyletswydd darparwyr gofal dydd i gofrestruLL+C

(1)Rhaid i berson beidio â darparu gofal dydd i blant mewn unrhyw fangre yng Nghymru oni bai bod y person hwnnw wedi'i gofrestru i ddarparu gofal dydd i blant yn y fangre honno gan Weinidogion Cymru o dan y Rhan hon.

(2)Mae person sy'n mynd yn groes i is-adran (1) heb esgus rhesymol yn cyflawni tramgwydd.

(3)Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan is-adran (2) yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Gwybodaeth Cychwyn

I36A. 23 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I37A. 23 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

Y broses gofrestru a gofynion cofrestruLL+C

24Ceisiadau i gofrestru: gwarchod plantLL+C

(1)Caiff person sy'n bwriadu gweithredu fel gwarchodwr plant wneud cais i Weinidogion Cymru i gofrestru fel gwarchodwr plant.

(2)Rhaid i gais—

(a)rhoi unrhyw wybodaeth a ragnodwyd am faterion a ragnodwyd,

(b)rhoi unrhyw wybodaeth arall y gall Gweinidogion Cymru yn rhesymol ei gwneud yn ofynnol i'r ceisydd ei rhoi, ac

(c)cynnwys gydag ef unrhyw ffi a ragnodwyd.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru ganiatáu cais—

(a)os na chafodd y ceisydd ei anghymwyso rhag cofrestru o dan adran 38, a

(b)os yw'n ymddangos i Weinidogion Cymru bod yr holl ofynion rhagnodedig ar gyfer cofrestru fel gwarchodwr plant wedi eu bodloni a'u bod yn debygol o barhau i fod wedi eu bodloni.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru wrthod unrhyw gais o dan is-adran (1) nad yw is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ei ganiatáu.

Gwybodaeth Cychwyn

I38A. 24 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I39A. 24 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

25Gofynion rhagnodedig ar gyfer cofrestru fel gwarchodwr plantLL+C

Caiff y gofynion rhagnodedig ar gyfer cofrestru fel gwarchodwr plant gynnwys gofynion sy'n ymwneud â'r canlynol—

(a)y ceisydd;

(b)y fangre y darperir y gwasanaeth gwarchod plant ynddi;

(c)y trefniadau ar gyfer gwarchod plant yn y fangre honno;

(d)unrhyw berson a all fod yn gofalu am blant yn y fangre honno;

(e)unrhyw berson a all fod yn y fangre honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I40A. 25 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I41A. 25 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

26Ceisiadau i gofrestru: gofal dydd i blantLL+C

(1)Caiff person sy'n bwriadu darparu gofal dydd i blant mewn mangre benodol wneud cais i Weinidogion Cymru i gofrestru fel darparydd gofal dydd yn y fangre honno.

(2)Rhaid i gais—

(a)rhoi unrhyw wybodaeth a ragnodwyd am faterion a ragnodwyd,

(b)rhoi unrhyw wybodaeth arall y gall Gweinidogion Cymru yn rhesymol ei gwneud yn ofynnol i'r ceisydd ei rhoi, ac

(c)cynnwys gydag ef unrhyw ffi a ragnodwyd.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru ganiatáu cais—

(a)os na chafodd y ceisydd ei anghymwyso rhag cofrestru o dan adran 38, a

(b)os yw'n ymddangos i Weinidogion Cymru bod yr holl ofynion rhagnodedig i gofrestru darparwyr gofal dydd wedi eu bodloni a'u bod yn debygol o barhau i fod wedi eu bodloni.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru wrthod unrhyw gais o dan is-adran (1) nad yw is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ei ganiatáu.

Gwybodaeth Cychwyn

I42A. 26 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I43A. 26 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

27Gofynion rhagnodedig ar gyfer cofrestru darparwyr gofal dydd i blantLL+C

Caiff y gofynion rhagnodedig ar gyfer cofrestru fel darparwyr gofal dydd i blant gynnwys gofynion sy'n ymwneud â'r canlynol—

(a)y ceisydd;

(b)y fangre y darperir y gofal dydd ynddi;

(c)y trefniadau ar gyfer gofal dydd yn y fangre honno;

(d)unrhyw berson a all fod yn gofalu am blant yn y fangre honno;

(e)unrhyw berson arall a all fod yn y fangre honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I44A. 27 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I45A. 27 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

28Cofnodi ar y gofrestr a thystysgrifauLL+C

(1)Os caiff cais o dan adran 24(1) ei ganiatáu, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cofrestru'r ceisydd yn y gofrestr gwarchodwyr plant fel gwarchodwr plant, a

(b)rhoi tystysgrif gofrestru i'r ceisydd yn datgan bod y ceisydd wedi'i gofrestru.

(2)Os caiff cais o dan adran 26(1) ei ganiatáu, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cofrestru'r ceisydd yn ddarparydd gofal dydd ynglŷn â'r fangre o dan sylw, a

(b)rhoi tystysgrif gofrestru i'r ceisydd yn datgan fod y ceisydd wedi'i gofrestru.

(3)Rhaid i dystysgrif gofrestru a roddir i geisydd o dan is-adran (1) neu (2) gynnwys gwybodaeth a ragnodwyd ynghylch materion a ragnodwyd.

(4)Os oes newid yn yr amgylchiadau sy'n ei gwneud yn ofynnol diwygio tystysgrif gofrestru, rhaid i Weinidogion Cymru roi i'r person cofrestredig dystysgrif ddiwygiedig.

(5)Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod tystysgrif gofrestru wedi cael ei cholli neu ei difa, rhaid i Weinidogion Cymru roi copi i'r person cofrestredig, pan fydd y person cofrestredig yn talu'r ffi a ragnodwyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I46A. 28 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I47A. 28 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

29Amodau wrth gofrestruLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru osod y cyfryw amodau ag y gwelant yn dda eu gwneud wrth gofrestru unrhyw berson o dan y Rhan hon sy'n gweithredu fel gwarchodwr plant neu berson sy'n darparu gofal dydd i blant.

(2)Caniateir i'r pŵer hwn gael ei arfer ar unrhyw adeg pan fydd Gweinidogion Cymru yn cofrestru person o dan adran 24 neu adran 26 neu ar unrhyw adeg ar ôl hynny.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg amrywio neu dynnu i ffwrdd unrhyw amod a osodwyd o dan yr adran hon.

(4)Mae person sydd wedi'i gofrestru o dan y Rhan hon yn cyflawni tramgwydd os bydd y person hwnnw, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio ag unrhyw un o'r amodau a osodir o dan yr adran hon.

(5)Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan is-adran (4) yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I48A. 29 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I49A. 29 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

30Rheoliadau sy'n llywodraethu gweithgareddauLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n llywodraethu gweithgareddau personau cofrestredig sy'n gweithredu fel gwarchodwyr plant, neu'n darparu gofal dydd, mewn mangre yng Nghymru.

(2)Caiff y rheoliadau o dan yr adran hon ymdrin â'r materion canlynol (ymhlith eraill)—

(a)lles a datblygiad y plant o dan sylw;

(b)addasrwydd i ofalu am y plant o dan sylw, neu fod mewn cyswllt rheolaidd â hwy;

(c)cymwysterau a hyfforddiant;

(d)mwyafswm nifer y plant y caniateir iddynt dderbyn gofal a nifer y personau sy'n ofynnol i gynorthwyo i ofalu amdanynt;

(e)cynnal a chadw, diogelwch ac addasrwydd y fangre a'r cyfarpar;

(f)y gweithdrefnau i drafod cwynion;

(g)goruchwylio staff;

(h)cadw cofnodion;

(i)darparu gwybodaeth.

(3)Os yw'r rheoliadau'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson (heblaw Gweinidogion Cymru) roi sylw i neu fodloni ffactorau, safonau neu faterion eraill a ragnodwyd gan y rheoliadau neu y cyfeirir atynt yn y rheoliadau, cânt hefyd ddarparu bod unrhyw honiad bod person wedi methu â gwneud hynny yn cael ei gymryd i ystyriaeth—

(a)gan Weinidogion Cymru wrth iddynt arfer eu swyddogaethau o dan y Rhan hon, neu

(b)mewn unrhyw achos cyfreithiol o dan y Rhan hon.

(4)Caiff rheoliadau ddarparu—

(a)bod person cofrestredig sydd heb esgus rhesymol yn mynd yn groes i unrhyw ofyniad yn y rheoliadau, neu fel arall yn methu â chydymffurfio ag ef, yn euog o dramgwydd; a

(b)bod person sy'n euog o'r tramgwydd yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Gwybodaeth Cychwyn

I50A. 30 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I51A. 30 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

Diddymu ac atal cofrestriadLL+C

31Diddymu cofrestriadLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddiddymu cofrestriad person a gofrestrwyd o dan y Rhan hon os yw'n ymddangos iddynt bod y person bellach wedi'i anghymwyso rhag cofrestru o dan adran 38.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddiddymu cofrestriad person a gofrestrwyd o dan y Rhan hon os yw'n ymddangos iddynt bod unrhyw un neu unrhyw rai o'r canlynol yn gymwys—

(a)bod y gofynion i gofrestru sy'n gymwys o ran cofrestriad y person o dan adran 25 neu 27 wedi peidio â chael eu bodloni neu y byddant yn peidio â chael eu bodloni;

(b)bod y person wedi methu â chydymffurfio ag amod a osodwyd ar gofrestriad y person hwnnw o dan y Rhan hon;

(c)bod y person wedi methu â chydymffurfio â gofyniad a osodwyd ar y person hwnnw gan reoliadau o dan y Rhan hon;

(d)bod y person wedi methu â thalu'r ffi a ragnodwyd.

(3)Os gosodwyd gofyniad i wneud unrhyw newidiadau neu ychwanegiadau i unrhyw wasanaethau, cyfarpar neu fangre ar berson a gofrestrwyd o dan y Rhan hon, ni cheir diddymu cofrestriad y person hwnnw ar sail unrhyw ddiffyg neu annigonolrwydd yn y gwasanaethau, cyfarpar neu fangre—

(a)os nad yw'r amser a osodwyd i gydymffurfio â'r gofynion wedi dod i ben, a

(b)os dangosir bod y diffyg neu'r annigonolrwydd oherwydd na wnaed y newidiadau neu'r ychwanegiadau.

(4)Rhaid i ddiddymiad o dan yr adran hon fod yn ysgrifenedig.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru ragnodi amgylchiadau eraill pan geir diddymu cofrestriad person cofrestredig o dan y Rhan hon.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I52A. 31 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I53A. 31 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

32Atal cofrestriadLL+C

(1)Caiff rheoliadau ddarparu bod cofrestriad unrhyw berson o dan y Rhan hon yn cael ei atal.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) gynnwys (ymysg pethau eraill) ddarpariaeth ynghylch—

(a)cyfnod yr ataliad;

(b)yr amgylchiadau y ceir atal cofrestriad ynddynt;

(c)atal cofrestriad ar gais y person cofrestredig.

(3)Rhaid i reoliadau o dan is-adran (1) gynnwys darpariaeth yn rhoi i'r person cofrestredig hawl i apelio i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn ataliad.

(4)Nid yw'r ddyletswydd yn is-adran (3) yn gymwys mewn perthynas ag ataliad ar gais y person cofrestredig.

(5)Rhaid i berson a gofrestrwyd o dan y Rhan hon i warchod plant gan Weinidogion Cymru beidio â gweithredu fel gwarchodwr plant yng Nghymru ar adeg pan fydd y cofrestriad hwnnw wedi'i atal.

(6)Rhaid i berson a gofrestrwyd o dan y Rhan hon i ddarparu gofal dydd yn unrhyw fangre gan Weinidogion Cymru beidio â darparu gofal dydd yn y fangre honno ar unrhyw adeg pan fydd y cofrestriad hwnnw wedi'i atal.

(7)Os yw person yn mynd yn groes i is-adran (5) neu (6) heb esgus rhesymol, mae'r person hwnnw'n euog o dramgwydd ac yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Gwybodaeth Cychwyn

I54A. 32 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I55A. 32 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

33Tynnu oddi ar y gofrestr yn wirfoddolLL+C

(1)Caiff person a gofrestrwyd o dan y Rhan hon hysbysu Gweinidogion Cymru i dynnu'r person hwnnw oddi ar y gofrestr gwarchod plant neu (yn ôl y digwydd) y gofrestr gofal dydd i blant.

(2)Os bydd person yn rhoi hysbysiad o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru dynnu'r person hwnnw oddi ar y gofrestr gwarchod plant neu (yn ôl y digwydd) y gofrestr gofal dydd i blant.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â gweithredu o dan is-adran (2)—

(a)os yw Gweinidogion Cymru wedi anfon hysbysiad at y person (o dan adran 36) o'u bwriad i ddiddymu cofrestriad y person, a

(b)os yw Gweinidogion Cymru yn dal i fwriadu cymryd y cam hwnnw.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â gweithredu o dan is-adran (2)—

(a)os yw Gweinidogion Cymru wedi anfon hysbysiad at y person (o dan adran 36) o'u bwriad i ddiddymu cofrestriad y person hwnnw, a

(b)os nad yw'r amser y gellir dwyn apêl o dan adran 37 wedi dod i ben neu, os gwnaed y cyfryw apêl, na chafodd ei phenderfynu.

Gwybodaeth Cychwyn

I56A. 33 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I57A. 33 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

Amddiffyn mewn argyfwngLL+C

34Amddiffyn plant mewn argyfwng: diddymu cofrestriadLL+C

(1)O ran person a gofrestrwyd o dan y Rhan hon, caiff Gweinidogion Cymru wneud cais i ynad heddwch am orchymyn yn diddymu cofrestriad y person.

(2)Os yw'n ymddangos i'r ynad bod plentyn y mae'r person hwnnw yn ei warchod neu'n darparu gofal dydd iddo, neu y gallai'r person hwnnw fod yn ei warchod neu'n darparu gofal dydd iddo, a bod y plentyn yn dioddef niwed arwyddocaol, neu'n debygol o wneud hynny, caniateir i'r ynad wneud y gorchymyn.

(3)Caniateir i gais o dan is-adran (1) gael ei wneud heb hysbysiad.

(4)O ran gorchymyn o dan is-adran (2)—

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig, a

(b)bydd yn effeithiol o'r amser y gwneir ef.

(5)Os gwneir gorchymyn o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno i'r person cofrestredig cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud y gorchymyn—

(a)copi o'r gorchymyn,

(b)copi o unrhyw ddatganiad ysgrifenedig yn cefnogi'r cais am y gorchymyn, ac

(c)hysbysiad o unrhyw hawl i apelio a roddir gan adran 37(2).

(6)Caniateir cyflwyno'r dogfennau a grybwyllir yn is-adran (5) i'r person cofrestredig—

(a)drwy eu traddodi i'r person, neu

(b)drwy eu hanfon drwy'r post i gyfeiriad hysbys diwethaf y person.

(7)Os gwneir gorchymyn o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo'n rhesymol bosibl ar ôl gwneud y gorchymyn, hysbysu'r awdurdod lleol y mae neu yr oedd y person yn gweithredu neu wedi gweithredu yn ei ardal fel gwarchodwr plant, neu'n darparu neu wedi darparu gofal dydd ynddi, bod y gorchymyn wedi'i wneud.

(8)At ddibenion yr adran hon ac adran 35, mae i “niwed” yr ystyr sydd i “harm” yn Neddf Plant 1989 (p. 41) ac mae'r cwestiwn a yw niwed yn arwyddocaol yn un sydd i'w benderfynu yn unol ag adran 31(10) o'r Ddeddf honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I58A. 34 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I59A. 34 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

35Amddiffyn plant mewn argyfwng: newidiadau i amodauLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys—

(a)os yw person wedi'i gofrestru o dan y Rhan hon, a

(b)os oes gan Weinidogion Cymru achos rhesymol i gredu oni fyddant yn gweithredu o dan yr adran hon y bydd plentyn yn dioddef neu'n debygol o ddioddef niwed arwyddocaol.

(2)Os yw'r is-adran hon yn gymwys, caiff Gweinidogion Cymru, drwy roi hysbysiad o dan yr adran hon i'r person a gofrestrwyd o dan y Rhan hon, ddarparu bod unrhyw benderfyniad gan Weinidogion Cymru a grybwyllir yn is-adran (3) i gael effaith o'r amser pan roddir yr hysbysiad.

(3)Y penderfyniadau y cyfeirir atynt yn is-adran (2) yw penderfyniadau o dan adran 29 i amrywio neu dynnu i ffwrdd amod sydd ar y pryd mewn grym o ran y cofrestriad neu i osod amod ychwanegol.

(4)Caniateir cyflwyno hysbysiad o dan yr adran hon i berson—

(a)drwy ei draddodi i'r person, neu

(b)drwy ei anfon drwy'r post i gyfeiriad hysbys diwethaf y person.

(5)Rhaid i'r hysbysiad—

(a)datgan ei fod yn cael ei roi o dan yr adran hon,

(b)datgan rhesymau Gweinidogion Cymru dros gredu bod yr amgylchiadau'n dod o fewn is-adran (1)(b),

(c)pennu'r amod a gafodd ei amrywio, ei dynnu i ffwrdd neu ei osod, ac esbonio'r hawl i apelio a roddir gan adran 37.

Gwybodaeth Cychwyn

I60A. 35 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I61A. 35 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

Diogelwch gweithdrefnolLL+C

36Gweithdrefnau ar gyfer cymryd camau penodolLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru'n bwriadu cymryd unrhyw un neu unrhyw rai o'r camau canlynol o dan y Rhan hon—

(a)gwrthod cais i gofrestru;

(b)gosod amod newydd ar gofrestriad person;

(c)amrywio neu dynnu i ffwrdd unrhyw amod a osodwyd ar gofrestriad person;

(d)gwrthod caniatáu cais i amrywio neu dynnu i ffwrdd unrhyw amod o'r fath;

(e)diddymu cofrestriad person.

(2)Nid yw'r adran hon yn gymwys i gam a gymerir o dan adran 34 neu 35.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru roi i'r ceisydd i gofrestru neu (yn ôl y digwydd) y person cofrestredig hysbysiad o'u bwriad i gymryd y cam o dan sylw.

(4)Rhaid i'r hysbysiad—

(a)rhoi rhesymau Gweinidogion Cymru dros y bwriad i gymryd y cam, a

(b)hysbysu'r person o dan sylw o hawliau'r person hwnnw o dan yr adran hon.

(5)Ni chaiff Gweinidogion Cymru gymryd y cam tan ddiwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy'n dechrau gyda'r diwrnod y maent yn rhoi'r hysbysiad o dan is-adran (3) oni fydd y ceisydd i gofrestru neu (yn ôl y digwydd) y person cofrestredig yn hysbysu Gweinidogion Cymru ei fod yn dymuno gwrthwynebu bod y cam yn cael ei gymryd.

(6)Os bydd derbynnydd hysbysiad o dan is-adran (3) (“y derbynnydd”) yn hysbysu Gweinidogion Cymru fod y derbynnydd yn dymuno gwrthwynebu bod y cam yn cael ei gymryd, rhaid i Weinidogion Cymru roi cyfle i'r derbynnydd wrthwynebu cyn iddynt gymryd y cam.

(7)Caniateir i wrthwynebiad o dan is-adran (5) gael ei wneud ar lafar neu'n ysgrifenedig ac yn y naill achos neu'r llall caniateir iddo gael ei wneud gan y derbynnydd neu gan gynrychiolydd y derbynnydd.

(8)Os bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu cymryd y cam, rhaid iddynt hysbysu'r derbynnydd o'u penderfyniad (p'un a wnaeth y derbynnydd hysbysu Gweinidogion Cymru fod y derbynnydd yn dymuno gwrthwynebu bod y cam yn cael ei gymryd ai peidio).

(9)Nid yw cymryd cam a grybwyllir ym mharagraff (b), (c) neu (e) o is-adran (1) yn cael effaith—

(a)nes bod y cyfnod y ceir apelio ynddo o dan adran 37 wedi dod i ben, neu

(b)os cyflwynir y cyfryw apêl, hyd at yr amser pan benderfynir yr apêl (a phan gadarnheir bod caniatâd i gymryd y cam).

(10)Nid yw is-adran (9) yn rhwystro'r cyfryw gam rhag cael effaith cyn i'r cyfnod y caniateir apelio ynddo ddod i ben os yw'r person o dan sylw yn hysbysu Gweinidogion Cymru nad yw'r person yn bwriadu apelio.

(11)Os yw Gweinidogion Cymru'n hysbysu ceisydd i gofrestru o dan y Rhan hon eu bod yn bwriadu gwrthod y cais, ni chaniateir tynnu'r cais yn ôl heb gydsyniad Gweinidogion Cymru.

(12)Yn yr adran hon ac yn adran 37, ystyr “amod newydd” yw amod a osodir ar adeg heblaw adeg cofrestriad y person.

Gwybodaeth Cychwyn

I62A. 36 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I63A. 36 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

37ApelauLL+C

(1)Caiff ceisydd i gofrestru neu (yn ôl y digwydd) berson cofrestredig apelio i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn unrhyw un neu unrhyw rai o'r camau canlynol gan Weinidogion Cymru o dan y Rhan hon—

(a)gwrthod cais i gofrestru;

(b)gosod amod newydd wrth gofrestru;

(c)amrywio neu dynnu i ffwrdd unrhyw amod a osodwyd wrth gofrestru;

(d)gwrthod cais i amrywio neu dynnu i ffwrdd unrhyw amod o'r fath;

(e)diddymu cofrestriad.

(2)Caiff y personau canlynol hefyd apelio i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf—

(a)ceisydd i gofrestru neu (yn ôl y digwydd) berson cofrestredig ynglŷn â phenderfyniad a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan y Rhan hon o ddisgrifiad a ragnodwyd;

(b)person cofrestredig y gwnaed gorchymyn yn ei erbyn o dan adran 34;

(c)person cofrestredig y rhoddir hysbysiad iddo o dan adran 35.

(3)Pan fo apêl, rhaid i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf—

(a)naill ai gadarnhau bod y cam yn cael ei gymryd, bod y penderfyniad arall yn cael ei wneud, bod y gorchymyn yn cael ei wneud, neu bod yr hysbysiad yn cael ei roi (yn ôl y digwydd), neu

(b)cyfarwyddo nad yw'n cael effaith neu ei fod yn peidio â chael effaith.

(4)Oni fydd y Tribiwnlys Haen Gyntaf wedi cadarnhau bod cymryd cam a grybwyllir yn is-adran (1)(a) neu (e) neu wneud gorchymyn o dan adran 34 yn diddymu cofrestriad person, caiff y Tribiwnlys hefyd wneud y naill neu'r llall o'r canlynol neu wneud y ddau ohonynt—

(a)gosod amodau ar gofrestriad y person o dan sylw;

(b)amrywio neu dynnu i ffwrdd unrhyw amod a osodwyd cyn hynny ar gofrestriad y person.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I64A. 37 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I65A. 37 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

Anghymwyso rhag cofrestruLL+C

38Anghymwyso rhag cofrestruLL+C

(1)Yn yr adran hon ystyr “cofrestru” yw cofrestru o dan y Rhan hon.

(2)Caiff rheoliadau ddarparu fod person i'w anghymwyso rhag cofrestru.

(3)Caiff y rheoliadau, yn benodol, ddarparu bod person i'w anghymwyso rhag cofrestru—

(a)os yw'r person wedi ei wahardd rhag gweithgaredd a reoleiddir sy'n ymwneud â phlant (o fewn ystyr adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hawdd eu Niweidio 2006 (p. 47));

(b)os gwnaed gorchymyn o fath a ragnodwyd ynglŷn â'r person;

(c)os gwnaed gorchymyn o fath a ragnodwyd ar unrhyw adeg ynglŷn â phlentyn a fu dan ofal y person;

(d)os gosodwyd gofyniad o fath a ragnodwyd ar unrhyw adeg ynglŷn â phlentyn o'r fath, o dan neu yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad;

(e)os gwrthodwyd cofrestru'r person ar unrhyw adeg o dan y Rhan hon o'r Mesur hwn, Rhan 3 o Ddeddf Gofal Plant 2006 (p. 21) neu o dan Ran 10 neu Ran 10A o Ddeddf Plant 1989 (p. 41) neu unrhyw ddeddfiad a ragnodwyd, neu os diddymwyd unrhyw gofrestriad o'r fath ar ei gyfer;

(f)os cafodd y person ei gollfarnu o dramgwydd o fath a ragnodwyd neu os cafodd ryddhad diamod neu ryddhad amodol am y cyfryw dramgwydd;

(g)os cafodd y person rybudd ynglŷn â thramgwydd o fath a ragnodwyd;

(h)os cafodd y person ar unrhyw adeg ei anghymwyso rhag maethu plentyn yn breifat (o fewn ystyr Deddf Plant 1989 (p. 41));

(i)os gosodwyd gwaharddiad ar y person ar unrhyw adeg o dan adran 69 o Ddeddf Plant 1989 (p. 41), adran 10 o Ddeddf Plant Maeth (yr Alban) 1984 (p. 56) neu unrhyw ddeddfiad a ragnodwyd;

(j)os cafodd hawliau a phwerau person ynglŷn â phlentyn ar unrhyw adeg eu breinio mewn awdurdod a ragnodwyd o dan ddeddfiad a ragnodwyd.

(4)Caiff rheoliadau ddarparu i berson gael ei anghymwyso rhag cofrestru—

(a)os yw'r person yn byw ar yr un aelwyd â pherson arall sydd wedi'i anghymwyso rhag cofrestru, neu

(b)os yw person yn byw ar aelwyd y mae person arall sydd wedi'i anghymwyso yn cael ei gyflogi yno.

(5)Caiff rheoliadau o dan is-adran (2) neu (4) ddarparu nad yw person i'w anghymwyso rhag cofrestru (ac yn benodol cânt ddarparu nad yw person i'w anghymwyso rhag cofrestru at ddibenion adran 39) o achos unrhyw ffaith a fyddai fel arall yn peri bod y person yn cael ei anghymwyso—

(a)os yw'r person wedi datgelu'r ffaith i Weinidogion Cymru, a

(b)os yw Gweinidogion Cymru wedi cydsynio'n ysgrifenedig nad yw'r person wedi'i anghymwyso rhag cofrestru ac nad ydynt wedi tynnu eu cydsyniad yn ôl.

(6)Yn yr adran hon—

  • mae “rhybudd” yn cynnwys cerydd neu rybudd yn yr ystyr sydd i “caution” yn adran 65 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (p. 37);

  • ystyr “deddfiad” yw unrhyw ddeddfiad sy'n cael effaith ar unrhyw adeg yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig.

(7)Mae collfarn y gwnaed gorchymyn prawf ynglŷn â hi cyn 1 Hydref 1992 (na fyddai fel arall yn cael ei thrin fel collfarn) i'w thrin fel collfarn at ddibenion yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I66A. 38 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I67A. 38 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

39Canlyniadau anghymwysoLL+C

(1)Rhaid i berson sydd wedi ei anghymwyso rhag cofrestru o dan y Rhan hon gan reoliadau o dan adran 38 beidio â gwneud y canlynol—

(a)gweithredu fel gwarchodwr plant yng Nghymru,

(b)darparu gofal dydd yng Nghymru neu ymwneud yn uniongyrchol â rheolaeth unrhyw ddarpariaeth gofal dydd yng Nghymru.

(2)Rhaid i berson beidio â chyflogi, mewn cysylltiad â darparu gofal dydd neu wasanaeth gwarchod plant yng Nghymru, berson sydd wedi'i anghymwyso rhag cofrestru o dan y Rhan hon gan reoliadau o dan adran 38.

(3)Mae person sy'n mynd yn groes i is-adran (1) neu (2) yn cyflawni tramgwydd.

(4)Nid yw person sy'n mynd yn groes i is-adran (1) yn euog o dramgwydd o dan is-adran (3)—

(a)os yw'r person wedi'i anghymwyso rhag cofrestru yn unig yn rhinwedd rheoliadau o dan adran 38(4), a

(b)os yw'r person yn profi na wyddai, ac nad oedd ganddo sail resymol dros gredu, ei fod yn byw—

(i)ar yr un aelwyd â pherson a oedd wedi'i anghymwyso rhag cofrestru, neu

(ii)ar aelwyd yr oedd y cyfryw berson yn cael ei gyflogi yno.

(5)Nid yw person sy'n mynd yn groes i is-adran (2) yn euog o dramgwydd o dan is-adran (3) os yw'r person yn profi na wyddai, ac nad oedd ganddo sail resymol dros gredu, bod y person a gyflogwyd wedi'i anghymwyso rhag cofrestru.

(6)Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan is-adran (3) yn atebol ar gollfarn ddiannod i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na 51 o wythnosau, neu i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol, neu i'r ddau.

(7)O ran tramgwydd a gyflawnwyd cyn cychwyn adran 281(5) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p. 44) (newid mewn cosbau ar gyfer tramgwyddau diannod), mae'r cyfeiriad at 51 o wythnosau yn is-adran (7) i'w ddarllen fel cyfeiriad at 6 mis.

Gwybodaeth Cychwyn

I68A. 39 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I69A. 39 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

ArolyguLL+C

40ArolyguLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu—

(a)ar gyfer arolygu gwarchod plant a ddarperir yng Nghymru gan bersonau cofrestredig a gofal dydd a ddarperir gan bersonau cofrestredig mewn mangreoedd yng Nghymru;

(b)ar gyfer cyhoeddi adroddiadau o'r arolygiadau mewn modd y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol.

(2)Caiff y rheoliadau ddarparu bod yr arolygiadau yn cael eu trefnu—

(a)gan Weinidogion Cymru, neu

(b)gan Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, neu gan unrhyw berson arall, o dan drefniadau a wneir gyda Gweinidogion Cymru.

(3)Caiff y rheoliadau ddarparu at ddibenion cyfraith difenwi bod unrhyw adroddiad a gyhoeddir o dan y rheoliadau yn freintiedig oni ddangosir bod y cyhoeddiad wedi'i wneud yn faleisus.

(4)Nid yw rheoliadau a wneir o dan is-adran (3) yn cyfyngu ar unrhyw fraint sy'n bodoli ar wahân i ddarpariaeth yn y cyfryw reoliadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I70A. 40 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I71A. 40 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

41Pwerau mynediadLL+C

(1)Caiff unrhyw berson a awdurdodwyd at ddibenion yr is-adran hon gan Weinidogion Cymru ar unrhyw adeg resymol fynd i mewn i unrhyw fangre yng Nghymru lle y darperir gwasanaeth gwarchod plant neu ofal dydd ar unrhyw adeg.

(2)Caiff unrhyw berson a awdurdodwyd at ddibenion yr is-adran hon gan Weinidogion Cymru ar unrhyw adeg resymol fynd i mewn i unrhyw fangre yng Nghymru os oes gan y person achos rhesymol dros gredu bod plentyn yn derbyn gofal yn unrhyw fangre yn groes i'r Rhan hon.

(3)Caniateir rhoi awdurdodiad o dan is-adran (1) neu (2)—

(a)ar gyfer achlysur neu gyfnod penodol;

(b)yn ddarostyngedig i amodau.

(4)Rhaid i berson sy'n arfer unrhyw bŵer a roddir gan yr adran hon neu adran 42, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos dogfen a ddilyswyd yn briodol sy'n dangos awdurdod y person hwnnw i wneud hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I72A. 41 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I73A. 41 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

42Pwerau arolyguLL+C

(1)Caiff person sy'n mynd i mewn i fangre o dan adran 41 (yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodir o dan adran 41(3)(b))—

(a)arolygu'r fangre;

(b)arolygu, a chymryd copïau o'r canlynol—

(i)unrhyw gofnodion a gedwir gan y person sy'n darparu'r gwasanaeth gwarchod plant neu'r gofal dydd, a

(ii)unrhyw ddogfennau eraill sy'n cynnwys gwybodaeth ynghylch darparu'r gwasanaeth;

(c)ymafael yn unrhyw ddogfen neu ddeunydd arall neu beth arall a geir yno a'u symud oddi yno y mae gan y person a awdurdodwyd sail resymol dros gredu y gall fod yn dystiolaeth o fethiant i gydymffurfio ag unrhyw amod neu ofyniad a osodwyd gan neu o dan y Rhan hon;

(d)cymryd mesuriadau neu dynnu lluniau neu wneud recordiadau;

(e)arolygu unrhyw blant sy'n derbyn gofal yno, a'r trefniadau a wnaed er eu lles;

(f)cyfweld yn breifat â'r person sy'n darparu'r gwasanaeth gwarchod plant neu'r gofal dydd;

(g)cyfweld yn breifat ag unrhyw berson sy'n gofalu am blant, neu'n byw neu'n gweithio, yn y fangre sy'n cydsynio i gael ei gyfweld.

(2)Mae'r pŵer yn is-adran (1)(b) yn cynnwys—

(a)pŵer i'w gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n dal dogfennau neu gofnodion a gedwir yn y fangre neu sy'n atebol amdanynt i'w dangos, a

(b)o ran cofnodion a gedwir drwy gyfrwng cyfrifiadur, pŵer i'w gwneud yn ofynnol i'r cofnodion gael eu dangos ar ffurf sy'n eu gwneud yn ddarllenadwy ac y gellir eu cymryd oddi yno.

(3)Nid yw'r pŵer ym mharagraffau (b) ac (c) yn is-adran (1) yn cynnwys pŵer—

(a)i'w gwneud yn ofynnol i berson ddangos unrhyw ddogfennau neu gofnodion y gellid cynnal hawliad am fraint broffesiynol gyfreithiol mewn cysylltiad â hwy mewn achos cyfreithiol, neu

(b)i gymryd copïau o ddogfennau neu gofnodion o'r fath neu i ymafael ynddynt a'u symud oddi yno.

(4)Mewn cysylltiad ag arolygu unrhyw ddogfennau o'r fath, caiff person a awdurdodwyd at ddibenion adran 41 (yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodir o dan adran 41(3)(b))—

(a)cael mynediad i unrhyw gyfrifiadur a chyfarpar neu ddeunyddiau cysylltiedig ac arolygu a gwirio eu gweithrediad y mae'r person hwnnw'n ystyried sy'n cael eu defnyddio neu wedi cael eu defnyddio mewn cysylltiad â'r dogfennau, a

(b)ei gwneud yn ofynnol bod person sy'n dod o fewn is-adran (5) yn rhoi iddo'r cyfryw gymorth rhesymol ag y bo angen amdano at y diben hwnnw.

(5)Mae person yn dod o fewn yr is-adran hon—

(a)os yw'n berson y mae'r cyfrifiadur yn cael ei ddefnyddio ganddo neu wedi cael ei ddefnyddio ganddo neu ar ei ran, neu

(b)os yw'n berson sydd â gofal y cyfrifiadur, y cyfarpar neu'r deunydd neu fel arall yn ymwneud â'u gweithredu.

(6)Caiff person sy'n mynd i mewn i fangre o dan adran 41 (yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodir o dan adran 41(3)(b)) ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson yn rhoi iddo'r cyfryw gyfleusterau a chymorth ynglyn â materion o fewn rheolaeth y person ag sy'n angenrheidiol i'w alluogi i arfer pwerau o dan adran 41 neu o dan yr adran hon.

(7)Mae unrhyw berson sydd heb esgus rhesymol—

(a)yn rhwystro person sy'n arfer unrhyw bŵer o dan adran 41 neu o dan yr adran hon, neu

(b)yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir o dan yr adran hon,

yn euog o dramgwydd a bydd yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.

Gwybodaeth Cychwyn

I74A. 42 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I75A. 42 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

43Pŵer cwnstabl i gynorthwyo wrth arfer pwerau mynediadLL+C

(1)Caiff person a awdurdodwyd i arfer pŵer mynediad o dan adran 41 wneud cais i lys am warant o dan yr adran hon.

(2)Os yw'n ymddangos i'r llys bod y person awdurdodedig—

(a)wedi ceisio arfer pŵer a roddwyd i'r person hwnnw o dan adran 41 neu 42 ond ei fod wedi cael ei rwystro rhag gwneud hynny, neu

(b)yn debygol o gael ei rwystro rhag arfer unrhyw bŵer o'r fath,

caiff y llys ddyroddi gwarant sy'n awdurdodi unrhyw gwnstabl i gynorthwyo'r person awdurdodedig i arfer y pŵer, gan ddefnyddio grym rhesymol os bydd angen.

(3)Rhaid i warant a ddyroddwyd o dan yr adran hon gael ei chyfeirio at gwnstabl a chael ei gweithredu ganddo.

F14(4). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(5)Yn yr adran hon, ystyr “llys” yw'r Uchel Lys, llys sirol neu lys ynadon; ond mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a ellid ei gwneud (yn rhinwedd is-adran (4)) gan neu o dan Atodlen 11 i Ddeddf Plant 1989.

Diwygiadau Testunol

F14A. 43(4) wedi ei hepgor (22.4.2014) yn rhinwedd Crime and Courts Act 2013 (c. 22), a. 61(3), Atod. 11 para. 209(a); O.S. 2014/954, ergl. 2(e) (ynghyd ag ergl. 3) (ynghyd â transitional provisions ac savings in O.S. 2014/956, erglau. 3-11)

Gwybodaeth Cychwyn

I76A. 43 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I77A. 43 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

GwybodaethLL+C

44Cyflenwi gwybodaeth i Weinidogion CymruLL+C

Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd wedi'i gofrestru o dan y Rhan hon roi iddynt unrhyw wybodaeth sy'n gysylltiedig â gweithgareddau'r person fel gwarchodwr plant neu wrth ddarparu gofal dydd y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ei chael at ddibenion eu swyddogaethau o dan y Rhan hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I78A. 44 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I79A. 44 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

45Cyflenwi gwybodaeth i awdurdodau lleolLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru roi gwybodaeth a ragnodwyd i'r awdurdod lleol perthnasol, os ydynt yn cymryd unrhyw un neu unrhyw rai o'r camau canlynol o dan y Rhan hon—

(a)caniatáu cais cofrestru i berson;

(b)rhoi hysbysiad o'u bwriad i ddiddymu cofrestriad person;

(c)diddymu cofrestriad person;

(d)atal cofrestriad person;

(e)tynnu person oddi ar y gofrestr ar gais y person hwnnw.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd roi gwybodaeth a ragnodwyd i'r awdurdod lleol perthnasol os gwneir gorchymyn o dan adran 34(2).

(3)Yr wybodaeth y gellir ei rhagnodi at ddibenion yr adran hon yw gwybodaeth a fyddai'n cynorthwyo'r awdurdod lleol wrth iddo gyflawni ei swyddogaethau o dan adran 27 o Ddeddf Gofal Plant 2006 (p. 21).

(4)Yn yr adran hon, ystyr “yr awdurdod lleol perthnasol” yw'r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y mae'r person yn gweithredu fel gwarchodwr plant ynddi (neu wedi gweithredu felly) neu'n darparu (neu wedi darparu) gofal dydd y mae'r person (neu yr oedd y person) wedi ei gofrestru ynglŷn ag ef.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru roi gwybodaeth i berson sy'n arfer swyddogaethau statudol (at ddibenion sy'n gysylltiedig â'r swyddogaethau hynny) ynghylch a yw person wedi'i gofrestru o dan y Rhan hon ai peidio.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C6A. 45 terfyn i ddarpariaethau sy'n effeithio'n gynharach 2020 c. 7, Atod. 17 para. 7 (25.9.2022) gan Coronavirus Act 2020 (c. 7), a. 89 (ynghyd ag a. 90)

Gwybodaeth Cychwyn

I80A. 45 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I81A. 45 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

Tramgwyddau, achosion troseddol a chosbau penodedigLL+C

46Y tramgwydd o wneud datganiad anwir neu gamarweiniolLL+C

(1)Mae person yn cyflawni tramgwydd os yw, mewn cais i gofrestru o dan y Rhan hon, yn gwneud datganiad y mae'n gwybod ei fod yn anwir neu'n gamarweiniol mewn manylyn perthnasol.

(2)Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan is-adran (1) yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Gwybodaeth Cychwyn

I82A. 46 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I83A. 46 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

47Hysbysiadau o gosbLL+C

(1)Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod person wedi cyflawni tramgwydd cosb benodedig, cânt roi i'r person hysbysiad o gosb o ran y tramgwydd.

(2)Tramgwydd cosb benodedig yw unrhyw dramgwydd perthnasol a ragnodwyd at ddibenion yr adran hon.

(3)Tramgwydd perthnasol yw tramgwydd o dan y Rhan hon neu o dan reoliadau a wneir o dan y Rhan hon.

(4)Hysbysiad o gosb yw hysbysiad sy'n cynnig cyfle i'r person fodloni unrhyw atebolrwydd i gollfarn am y tramgwydd y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef drwy dalu cosb yn unol â'r hysbysiad.

(5)Os yw person yn cael hysbysiad o gosb, ni cheir codi achos am y tramgwydd y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef cyn diwedd y cyfryw gyfnod ag a ragnodir.

(6)Os yw person yn cael hysbysiad o gosb, ni ellir collfarnu'r person o'r tramgwydd y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef os yw'r person yn talu'r gosb yn unol â'r hysbysiad.

(7)Mae cosbau o dan yr adran hon yn daladwy i Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I84A. 47 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I85A. 47 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

48Hysbysiadau o gosb: darpariaethau atodolLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth am unrhyw un neu unrhyw rai o'r canlynol—

(a)ffurf a chynnwys yr hysbysiadau o gosb;

(b)swm ariannol y gosb ac erbyn pa bryd y mae i'w thalu;

(c)penderfynu'r dulliau y gellir talu cosbau drwyddynt;

(d)y cofnodion sydd i'w cadw o ran hysbysiadau o gosb;

(e)tynnu hysbysiad o gosb yn ôl, mewn amgylchiadau a ragnodwyd, gan gynnwys—

(i)ad-dalu unrhyw swm a dalwyd am gosb o dan hysbysiad o gosb a dynnir yn ôl, a

(ii)gwahardd codi achos cyfreithiol neu barhau ag ef am y tramgwydd y mae'r hysbysiad a dynnir yn ôl yn ymwneud ag ef;

(f)tystysgrifau sydd i'w derbyn yn dystiolaeth—

(i)sy'n honni eu bod wedi'u llofnodi gan neu ar ran person a ragnodwyd, a

(ii)sy'n datgan bod taliad o unrhyw swm a dalwyd am gosb wedi dod i law neu, yn ôl y digwydd, heb ddod i law ar ddyddiad a bennir yn y dystysgrif neu cyn y dyddiad hwnnw;

(g)camau sydd i'w cymryd os na thelir cosb yn unol â hysbysiad o gosb;

(h)unrhyw beth arall o ran cosbau neu hysbysiadau o gosb y mae Gweinidogion Cymru o'r farn eu bod yn angenrheidiol neu'n hwylus.

(2)O ran rheoliadau o dan is-adran (1)(b)—

(a)cânt ddarparu ar gyfer cosbau o symiau gwahanol i fod yn daladwy mewn achosion gwahanol, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer y gosb sy'n daladwy o dan hysbysiad o gosb i wahaniaethu yn unol â'r amser erbyn pryd y telir hi, ond

(b)rhaid iddynt sicrhau nad yw swm unrhyw gosb sy'n daladwy o ran unrhyw dramgwydd yn fwy nag un hanner mwyafswm y ddirwy y byddai person sy'n cyflawni tramgwydd yn atebol amdani ar gollfarn ddiannod[F15neu, pan na fo mwyafswm o’r fath, nad yw’n fwy na’r swm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol ar gyfer tramgwyddau diannod].

(3)Yn yr adran hon—

  • ystyr “cosb” yw cosb o dan hysbysiad o gosb;

  • mae i “hysbysiad o gosb” yr ystyr a roddir gan adran 47.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I86A. 48 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I87A. 48 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

49Terfyn amser ar gyfer achosionLL+C

(1)Ceir dwyn achos am dramgwydd o dan y Rhan hon neu o dan reoliadau a wneir oddi tani o fewn cyfnod o flwyddyn o'r dyddiad pan ddaw'r erlynydd i wybod am dystiolaeth ddigonol ym marn yr erlynydd i warantu'r achos.

(2)Ni chaniateir cychwyn unrhyw achos o'r fath yn rhinwedd rheoliad (1) fwy na thair blynedd ar ôl i'r tramgwydd gael ei gyflawni.

Gwybodaeth Cychwyn

I88A. 49 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I89A. 49 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

50Tramgwyddau gan gyrff corfforaetholLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os cyflawnir unrhyw dramgwydd o dan y Rhan hon gan gorff corfforaethol.

(2)Os profir bod y tramgwydd wedi cael ei gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran, unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, neu swyddog arall tebyg yn y corff corfforaethol, neu unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swyddogaeth o'r fath, bydd y person hwnnw (yn ogystal â'r corff corfforaethol) yn euog o'r tramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I90A. 50 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I91A. 50 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

51Cymdeithasau anghorfforedigLL+C

(1)Rhaid i achos am dramgwydd o dan y Rhan hon yr honnir iddo cael ei gyflawni gan gymdeithas anghorfforedig gael ei ddwyn yn enw'r gymdeithas (ac nid yn enw unrhyw un neu unrhyw rai o'i haelodau).

(2)At ddibenion unrhyw achosion o'r fath, mae rheolau'r llys ynghylch cyflwyno dogfennau i gael effaith fel pe bai'r gymdeithas yn gorff corfforaethol.

(3)Mewn achos am dramgwydd o dan y Rhan hon sy'n cael ei ddwyn yn erbyn cymdeithas anghorfforedig, mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925 (p. 86) ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p. 43) yn gymwys fel y maent mewn perthynas â chorff corfforaethol.

(4)Mae dirwy a osodir ar gymdeithas anghorfforedig pan gollfernir hi o dramgwydd o dan y Rhan hon i'w thalu allan o gronfeydd y gymdeithas.

(5)Os dangosir bod tramgwydd o dan y Rhan hon gan gymdeithas anghorfforedig—

(a)wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad un o swyddogion y gymdeithas neu aelod o'i chorff llywodraethu, neu

(b)i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran y cyfryw swyddog neu aelod,

mae'r swyddog neu'r aelod hwnnw yn ogystal â'r gymdeithas yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn ac i gael ei gosbi yn unol â hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I92A. 51 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I93A. 51 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

AmrywiolLL+C

52Swyddogaethau awdurdodau lleolLL+C

Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol bod awdurdod lleol yn sicrhau darparu—

(a)gwybodaeth neu gyngor ynghylch gwarchod plant a gofal dydd i blant;

(b)hyfforddiant ynghylch darparu gwasanaethau gwarchod plant a gofal dydd i blant.

Gwybodaeth Cychwyn

I94A. 52 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I95A. 52 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

53FfioeddLL+C

(1)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i bersonau a gofrestrwyd o dan y Rhan hon dalu i Weinidogion Cymru ar adegau a ragnodwyd neu erbyn yr adegau hynny y symiau a ragnodwyd o ran bod Gweinidogion Cymru yn cyflawni eu swyddogaethau o dan y Rhan hon.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ragnodi amgylchiadau—

(a)pan ellir amrywio swm y ffi sy'n daladwy o dan y rheoliadau yn unol â'r rheoliadau;

(b)pan ellir hepgor y ffi sy'n daladwy o dan y rheoliadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I96A. 53 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I97A. 53 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

54Cydweithredu rhwng awdurdodauLL+C

(1)Os yw'n ymddangos i Weinidogion Cymru y gallai unrhyw awdurdod lleol, drwy gymryd unrhyw gam penodol, gynorthwyo wrth iddynt arfer unrhyw un neu unrhyw rai o'u swyddogaethau o dan y Rhan hon, cânt ofyn am gymorth yr awdurdod, gan nodi'r cam o dan sylw.

(2)Rhaid i awdurdod y gofynnir iddo am ei gymorth gydymffurfio â'r cais os yw'n cydweddu â'i ddyletswyddau statudol ef ei hun a'i ddyletswyddau eraill ac nad yw'n rhagfarnu'n ormodol unrhyw un neu unrhyw rai o'i swyddogaethau rhag cael eu cyflawni.

Gwybodaeth Cychwyn

I98A. 54 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I99A. 54 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

55HysbysiadauLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys o ran hysbysiadau sy'n ofynnol neu a awdurdodwyd eu rhoi i unrhyw berson gan unrhyw un neu unrhyw rai o'r canlynol—

(a)adran 33;

(b)adran 36.

(2)Gellir rhoi'r hysbysiad i'r person o dan sylw—

(a)drwy ei draddodi i'r person,

(b)drwy ei anfon drwy'r post i gyfeiriad hysbys diwethaf y person, neu

(c)yn ddarostyngedig i is-adran (3), drwy ei drosglwyddo'n electronig.

(3)Os trosglwyddir yr hysbysiad yn electronig, mae i'w drin fel un wedi ei roi ond yn unig os bodlonir gofynion is-adran (4) neu (5).

(4)Os y person y mae'n ofynnol iddo roi'r hysbysiad neu a awdurdodwyd i wneud hynny yw Gweinidogion Cymru—

(a)rhaid bod y person y mae'n ofynnol neu yr awdurdodwyd rhoi'r hysbysiad iddo wedi rhoi ar ddeall i Weinidogion Cymru bod y person hwnnw'n barod i dderbyn hysbysiadau a drosglwyddir drwy gyfrwng electronig a'i fod wedi darparu cyfeiriad addas at y diben hwnnw, a

(b)rhaid anfon yr hysbysiad i'r cyfeiriad a ddarparwyd gan y person hwnnw.

(5)Os nad Gweinidogion Cymru yw'r person y mae'n ofynnol iddo roi'r hysbysiad neu a awdurdodwyd i wneud hynny, rhaid i'r hysbysiad gael ei drosglwyddo yn y cyfryw fodd ag y caiff Gweinidogion Cymru ei wneud yn ofynnol.

(6)Ceir dangos parodrwydd i dderbyn hysbysiadau a drosglwyddir drwy fodd electronig, a roddir at ddibenion is-adran (4), drwy ddull cyffredinol at ddibenion hysbysiadau y mae'n ofynnol eu rhoi neu yr awdurdodwyd eu rhoi gan Weinidogion Cymru o dan y Rhan hon neu ceir cyfyngu hynny i hysbysiadau o ddisgrifiad penodol.

(7)O ran cymryd cam a grybwyllir ym mharagraff (b) neu (c) o adran 36(1) ceir rhoi hysbysiad yr awdurdodwyd ei roi gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (5) neu (7) o'r adran honno ar lafar i berson a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru i dderbyn y cyfryw hysbysiad (yn ogystal â thrwy unrhyw un neu unrhyw rai o'r dulliau a grybwyllir yn is-adran (2)).

Gwybodaeth Cychwyn

I100A. 55 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I101A. 55 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

56Marwolaeth person cofrestredigLL+C

(1)Caiff rheoliadau—

(a)darparu bod darpariaethau'r Rhan hon i fod yn gymwys gydag addasiadau rhagnodedig mewn achosion lle y mae person, sef yr unig berson a oedd wedi'i gofrestru ynglŷn â busnes gofal dydd, wedi marw;

(b)ei gwneud yn ofynnol bod cynrychiolwyr personol person a fu farw a oedd wedi'i gofrestru ynglŷn â gwarchod plant neu ofal dydd i blant yn hysbysu Gweinidogion Cymru o'r farwolaeth.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)(a) yn benodol—

(a)darparu bod y busnes gofal dydd yn cael ei gyflawni am gyfnod rhagnodedig gan berson na chafodd ei gofrestru ar ei gyfer; a

(b)cynnwys darpariaeth y gellir estyn y cyfnod rhagnodedig gan y cyfryw gyfnod pellach ag a ganiateir gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I102A. 56 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I103A. 56 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

F16RHAN 3LL+CTIMAU INTEGREDIG CYMORTH I DEULUOEDD

F16TimauLL+C

F1657Sefydlu timau integredig cymorth i deuluoeddLL+C

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F1658Swyddogaethau timau integredig cymorth i deuluoeddLL+C

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F1659Adnoddau ar gyfer timau integredig cymorth i deuluoeddLL+C

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F1660Cyfansoddiad timau integredig cymorth i deuluoeddLL+C

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F16ByrddauLL+C

F1661Sefydlu byrddau integredig cymorth i deuluoeddLL+C

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F1662Swyddogaethau byrddau integredig cymorth i deuluoeddLL+C

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F16RheoliadauLL+C

F1663Rheoliadau ynghylch timau a byrddau integredig cymorth i deuluoeddLL+C

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F16AdroddiadauLL+C

F1664Adroddiadau blynyddol ar dimau integredig cymorth i deuluoeddLL+C

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F16CanllawiauLL+C

F1665Canllawiau ynghylch timau integredig cymorth i deuluoeddLL+C

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

RHAN 4LL+CAMRYWIOL A CHYFFREDINOL

Rhagolygol

Swyddogion safonau gwaith cymdeithasol teuluolLL+C

66Swyddogion safonau gwaith cymdeithasol teuluolLL+C

Rhaid i awdurdod lleol ddynodi swyddog o'r awdurdod (i'w alw'n “swyddog safonau gwaith cymdeithasol teuluol”) yn un sydd â chyfrifoldeb am y materion canlynol o ran gwaith cymdeithasol sy'n cael ei wneud gan neu ar ran yr awdurdod mewn cysylltiad â phlant a phersonau sy'n gofalu am blant—

(a)codi safonau mewn arferion gwaith cymdeithasol;

(b)codi ymwybyddiaeth o dystiolaeth mewn ymchwil perthnasol ymysg personau sy'n gwneud gwaith cymdeithasol;

(c)hybu addasu arferion gwaith cymdeithasol yng ngoleuni tystiolaeth mewn ymchwil perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I104A. 66 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

Rhagolygol

Anghenion plant sy'n deillio o anghenion gofal cymunedol ac anghenion iechyd eu rhieniLL+C

67Anghenion plant sy'n deillio o anghenion gofal cymunedol eu rhieniLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys i blentyn os yw'n ymddangos i awdurdod lleol bod rhiant y plentyn—

(a)yn berson y gallai fod yn darparu neu'n trefnu ar ei gyfer ddarpariaeth o wasanaethau gofal cymunedol, a

(b)y gallai fod arno angen unrhyw wasanaethau o'r fath.

(2)Rhaid i awdurdod lleol ystyried a yw'n ymddangos i'r awdurdod bod y plentyn yn blentyn mewn angen o ganlyniad i anghenion y rhiant.

(3)Rhaid i awdurdod lleol gymryd cyfrif o ganlyniadau ei ystyriaeth o dan is-adran (2) wrth benderfynu—

(a)p'un ai asesu anghenion y plentyn at ddibenion adran 17 o Ddeddf Plant 1989 (p.41) (darparu gwasanaethau i blant mewn angen) ai peidio, a

(b)pa wasanaethau, os o gwbl, i'w darparu o dan yr adran honno i'r plentyn neu i deulu'r plentyn.

(4)Rhaid i awdurdod lleol gymryd cyfrif o ganlyniadau ei ystyriaeth o dan is-adran (2) wrth wneud unrhyw benderfyniad ynglŷn â'r rhiant o dan adran 47(1)(b) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) (asesiad o anghenion ar gyfer gwasanaethau gofal cymunedol).

(5)Yn yr adran hon—

  • mae i “gwasanaethau gofal cymunedol” yr ystyr sydd i “community care services” yn adran 46 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990;

  • ystyr “plentyn mewn angen” (“child in need”) yw plentyn y bernir ei fod mewn angen at ddibenion Rhan 3 o Ddeddf Plant 1989.

(6)Yn yr adran hon ac yn adran 68 mae “rhiant”, o ran plentyn, yn cynnwys unrhyw unigolyn—

(a)nad yw'n rhiant i'r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, neu

(b)sydd â gofal y plentyn.

(7)At ddibenion is-adran (6)—

(a)mae i “cyfrifoldeb rhiant” yr ystyr a roddir i “parental responsibility” yn Neddf Plant 1989 (p.41);

(b)wrth benderfynu a yw unigolyn â gofal plentyn, mae unrhyw absenoldeb o ran y plentyn mewn ysbyty, cartref plant neu leoliad maeth ac unrhyw absenoldeb arall dros dro i'w anwybyddu.

Gwybodaeth Cychwyn

I105A. 67 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

68Anghenion plant sy'n deillio o gyflyrau iechyd eu rhieniLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd penodedig i riant plentyn os darperir y gwasanaethau neu os sicrheir hwy gan gorff Gwasanaeth Iechyd Gwladol penodedig.

(2)Rhaid i gorff Gwasanaeth Iechyd Gwladol penodedig wneud y trefniadau hynny y mae'n barnu sy'n gweddu—

(a)er mwyn ystyried effaith unrhyw gyflwr iechyd gan y rhiant ar anghenion y plentyn ac a fyddai'r effaith honno'n galw am ddarparu gwasanaethau gan awdurdod lleol wrth iddo arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol;

(b)er mwyn atgyfeirio achosion priodol i'r awdurdod lleol perthnasol, yn ddarostyngedig i unrhyw dyletswydd sy'n ddyledus gan y corff Gwasanaeth Iechyd Gwladol i'r plentyn neu i'r rhiant ynghylch datgelu gwybodaeth sy'n ymwneud â'r plentyn neu'r rhiant.

(3)Yn yr adran hon—

  • ystyr “corff Gwasanaeth Iechyd Gwladol” (“National Health Service body”) yw unrhyw un o'r canlynol—

    (a)

    Bwrdd Iechyd Lleol;

    (b)

    ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol;

  • ystyr “iechyd” (“health”) yw iechyd corfforol neu iechyd meddwl;

  • ystyr “penodedig” (“specified”) yw corff neu wasanaeth sy'n benodedig drwy orchymyn Gweinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I106A. 68 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

Rhagolygol

Swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasolLL+C

69Swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasolLL+C

Yn Atodlen 1 i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970 (p. 42) (swyddogaethau sy'n swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol), ar y diwedd mewnosoder—

Children and Families (Wales) Measure 2010
Sections 57 to 65Functions relating to integrated family support teams and boards.
Section 66Family social work standards officers.
Section 67Assessing the needs of children arising from community care needs of their family members.

Gwybodaeth Cychwyn

I107A. 69 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

CyffredinolLL+C

70CanllawiauLL+C

(1)Mae'r adran hon yn cael effaith o ran unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan y Mesur hwn i gyrff y mae'n rhaid iddynt roi sylw i'r canllawiau.

(2)O ran Gweinidogion Cymru—

(a)cânt roi canllawiau i gyrff yn gyffredinol neu i un corff penodol neu i gyrff penodol;

(b)cânt ddyroddi canllawiau gwahanol i gyrff gwahanol neu mewn perthynas â hwy;

(c)rhaid iddynt, cyn iddynt ddyroddi canllawiau, ymgynghori â'r cyrff hynny y mae'n rhaid iddynt roi sylw i'r canllawiau;

(d)rhaid iddynt gyhoeddi'r canllawiau.

Rhagolygol

71Dehongli'n GyffredinolLL+C

Yn y Mesur hwn—

  • ystyr “awdurdod Cymreig” (“Welsh authority”) yw person a bennir yn adran 6(1);

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

  • ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42);

  • mae “gofal dydd i blant” (“day care for children”) (a “gofal dydd” (“day care”)) i'w ddehongli yn unol ag adran 19 at ddibenion Rhan 2;

  • mae “gwarchod plant” (“child minding”) i'w ddehongli yn unol ag adran 19 at ddibenion Rhan 2;

  • mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw le ac unrhyw gerbyd;

  • ystyr “plentyn” (“child”) yw person nad yw wedi cyrraedd 18 oed;

  • ystyr “rhagnodi” (“prescribed”) yw rhagnodi mewn rheoliadau;

  • ystyr “rheoliadau” (“regulations”) yw rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I109A. 71 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

72Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadolLL+C

Mae Atodlen 1 yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol.

Gwybodaeth Cychwyn

I110A. 72 mewn grym ar 10.2.2010 by virtue of s. 75(2)

I111A. 72 mewn grym ar 10.2.2010 gan virtue of a. 75(2), gweler Measure

I112A. 72 mewn grym ar 1.4.2011 at ddibenion penodedig gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

73DiddymiadauLL+C

Mae Atodlen 2 yn cynnwys diddymiadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I113A. 73 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I114A. 73 mewn grym ar 1.4.2011 at ddibenion penodedig gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag ergl. 3, Atod. 2, Atod. 3)

74Gorchmynion a rheoliadauLL+C

(1)Mae unrhyw bŵer gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Mae unrhyw bŵer gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer—

(a)i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer gwahanol achosion neu wahanol ddosbarthau o achos neu wahanol ardaloedd neu wahanol ddibenion;

(b)i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu yn ddarostyngedig i esemptiadau neu eithriadau penodol neu mewn perthynas ag achosion penodol neu ddosbarthau o achos yn unig;

(c)i wneud y cyfryw ddarpariaeth gysylltiedig, darpariaeth atodol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed ag y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn addas.

(3)Mae unrhyw offeryn statudol sy'n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Mesur hwn yn ddarostyngedig i'w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(4)Nid yw is-adran (3) yn gymwys i orchmynion y mae is-adran (5) yn gymwys iddynt.

(5)Ni cheir gwneud offeryn statudol sy'n cynnwys rheoliadau o dan adran 2(5) neu orchymyn o dan adran 1(8), 6(2) neu 19(4) oni chafodd drafft o'r offeryn ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

Gwybodaeth Cychwyn

I115A. 74 mewn grym ar 10.4.2010, gweler a. 75(1)

75CychwynLL+C

(1)Mae'r darpariaethau canlynol yn dod i rym ar ddiwedd cyfnod o ddau fis sy'n dechrau ar y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor—

  • adran 1;

  • adran 2 (i'r graddau y mae'n gymwys i Weinidogion Cymru);

  • adran 3;

  • adran 74;

  • yr adran hon;

  • adran 76.

(2)Daw paragraffau 19 i 20 o Atodlen 1 i rym ar y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor.

(3)Daw gweddill darpariaethau'r Mesur hwn i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I116A. 75 mewn grym ar 10.4.2010, gweler a. 75(1)

76Enw byrLL+C

Enw'r Mesur hwn yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.

Gwybodaeth Cychwyn

I117A. 76 mewn grym ar 10.4.2010, gweler a. 75(1)

(a gyflwynir gan adran 72)

ATODLEN 1LL+CMÅN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL

Deddf Llysoedd Ynadon >1980 (p. 43)LL+C

1Diwygier Deddf Llysoedd Ynadon 1980 fel a ganlyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I118Atod. 1 para. 1 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I119Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

2Yn Adran 65 (ystyr achosion teulu), yn is-adran (1) ar ôl paragraff (nza) mewnosoder—

(nzb)sections 34 and 43 of the Children and Families (Wales) Measure 2010;.

Gwybodaeth Cychwyn

I119Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

I120Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I121Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

Deddf Uwchlysoedd 1981 (p.54)LL+C

3Diwygier Deddf Uwchlysoedd 1981 fel a ganlyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I122Atod. 1 para. 3 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I123Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

4Yn Atodlen 1 (dosbarthiad busnes yn yr Uchel Lys) ar ôl paragraff 3(ea) ychwanegwch—

(eb)proceedings under section 43 of the Children and Families (Wales) Measure 2010;.

Gwybodaeth Cychwyn

I123Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

I124Atod. 1 para. 4 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I125Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

Deddf Plant 1989 (p. 41)LL+C

5Diwygier Deddf Plant 1989 fel a ganlyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I126Atod. 1 para. 5 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I127Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

6Yn adran 80 (arolygu cartrefi plant etc gan bersonau a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru)—

(a)yn is-adran (1) hepgorer paragraff (i);

(b)yn is-adran (5) hepgorer paragraffau (h) ac (hh).

Gwybodaeth Cychwyn

I127Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

I128Atod. 1 para. 6 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I129Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

7Yn adran 105 (dehongli)—

(a)yn is-adran (1)—

(i)yn y diffiniad o “day care” hepgorer “(except in Part ZA)”;

(ii)yn y diffiniad o “hospital” hepgorer “(except in Schedule 9A)”;

(b)hepgorer is-adran (5A).

Gwybodaeth Cychwyn

I127Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

I130Atod. 1 para. 7 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I131Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

Deddf y Diwydiant Dŵr 1991 (p. 56)LL+C

8Diwygier Deddf y Diwydiant Dŵr 1991 fel a ganlyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I132Atod. 1 para. 8 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I133Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

9Yn Atodlen 4A (mangreoedd na ddylid eu datgysylltu am beidio â thalu ffioedd) ym mharagraff 12(2) yn lle “Part 10A of the Children Act 1989” rhodder “Part 2 of the Children and Families (Wales) Measure 2010”.

Gwybodaeth Cychwyn

I133Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

I134Atod. 1 para. 9 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I135Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

Deddf Amddiffyn Plant 1999 (p. 14)LL+C

10Diwygier Deddf Amddiffyn Plant 1999 fel a ganlyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I136Atod. 1 para. 10 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I137Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

11Yn adran 2A (pŵer awdurdodau penodol i atgyfeirio unigolion i'w cynnwys ar restr o bersonau a ystyrir yn anaddas i weithio gyda phlant), yn is-adran (1)(a) yn lle “Part 10A of the Children Act 1989” rhodder “Part 2 of the Children and Families (Wales) Measure 2010”.

Gwybodaeth Cychwyn

I137Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

I138Atod. 1 para. 11 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I139Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

12Yn adran 9 (y Tribiwnlys), yn is-adran (2)—

(a)ym mharagraff (c) hepgorer “or under, or by virtue of, Part XA of that Act”;

(b)ym mharagraff (f), hepgorer “or”;

(c)ar ddiwedd paragraff (g), mewnosoder “; or”;

(d)ar ôl paragraff (g), mewnosoder—

(h)on an appeal under, or by virtue of, Part 2 of the Children and Families (Wales) Measure 2010.

Gwybodaeth Cychwyn

I137Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

I140Atod. 1 para. 12 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I141Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

Deddf Safonau Gofal 2000 (p.14)LL+C

13Diwygier Deddf Safonau Gofal 2000 fel a ganlyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I142Atod. 1 para. 13 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I143Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

14Yn adran 55(3)(e)—

(a)yn lle “Assembly” yn y ddau le lle y mae'n ymddangos rhodder “Welsh Assembly Government”;

(b)yn lle “section 79T of that Act” rhodder “section 40 of the Children and Families (Wales) Measure 2010”.

Gwybodaeth Cychwyn

I143Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

I144Atod. 1 para. 14 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I145Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

Deddf Plant 2004 (p. 31)LL+C

15Diwygier Deddf Plant 2004 fel a ganlyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I146Atod. 1 para. 15 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I147Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

16Yn adran 29 (cronfeydd data gwybodaeth: Cymru) yn is-adran (8)(a) yn lle “Part 10A of the Children Act 1989 (c 41)” rhodder “Part 2 of the Children and Families (Wales) Measure 2010”.

Gwybodaeth Cychwyn

I147Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

I148Atod. 1 para. 16 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I149Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

Deddf Addysg 2005 (p.18)LL+C

17Diwygier Deddf Addysg 2005 fel a ganlyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I150Atod. 1 para. 17 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I151Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

18Yn adran 59 (adroddiadau cyfun), yn lle is-adran (1)(b) rhodder y canlynol—

(b)Part 2 of the Children and Families (Wales) Measure 2010 (child minding and day care for children),.

Gwybodaeth Cychwyn

I151Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

I152Atod. 1 para. 18 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I153Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40)LL+C

19Diwygier adran 162 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (fel y'i diwygiwyd gan Fesur Addysg (Cymru) 2009) fel a ganlyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I154Atod. 1 para. 19 mewn grym ar 10.2.2010, gweler a. 75(2)

20Yn is-adran (5A)—

(a)ar ôl paragraff (a) ychwanegwch—

(aa)make such provision as appears to them to be appropriate for the purpose of—

(i)repealing any reference in a Measure of the National Assembly for Wales to a children’s services authority (however expressed), and

(ii)replacing it, where it appears to them to be appropriate, with a reference (however expressed) to a Welsh local authority;;

(b)ym mharagraff (b), ar ôl “paragraph (a)” ychwanegwch “or paragraph (aa)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I154Atod. 1 para. 19 mewn grym ar 10.2.2010, gweler a. 75(2)

I155Atod. 1 para. 20 mewn grym ar 10.2.2010, gweler a. 75(2)

Deddf Gofal Plant 2006 (p. 21)LL+C

21Diwygier Deddf Gofal Plant 2006 fel a ganlyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I156Atod. 1 para. 21 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I157Atod. 1 para. 21 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

22Yn adran 30 (dehongli Rhan 2) yn y diffiniad o “childcare”, yn lle “Part 10A of the Children Act 1989 (c 41)” rhodder “Part 2 of the Children and Families (Wales) Measure 2010”.

Gwybodaeth Cychwyn

I157Atod. 1 para. 21 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

I158Atod. 1 para. 22 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I159Atod. 1 para. 22 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

23Yn adran 75 (anghymwyso rhag cofrestru), yn is-adran (3)(f) ar ôl “Part 10A of the Children Act 1989 (c 41)” mewnosoder “or under Part 2 of the Children and Families (Wales) Measure 2010”.

Gwybodaeth Cychwyn

I157Atod. 1 para. 21 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

I160Atod. 1 para. 23 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I161Atod. 1 para. 23 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

24Yn adran 101 (darparu gwybodaeth am blant: Cymru)—

(a)yn is-adran (1)(a) yn lle “Part 10A of the Children Act 1989 (c 41)” rhodder “Part 2 of the Children and Families (Wales) Measure 2010”;

(b)yn is-adran (9), yn y diffiniad o “child minding” a “day care” yn lle “Part 10A of the Children Act 1989” rhodder “Part 2 of the Children and Families (Wales) Measure 2010”.

Gwybodaeth Cychwyn

I157Atod. 1 para. 21 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

I162Atod. 1 para. 24 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I163Atod. 1 para. 24 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42)LL+C

25Diwygier Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 fel a ganlyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I164Atod. 1 para. 25 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I165Atod. 1 para. 25 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

26Yn Atodlen 1, paragraff 7A (pwyso plant a'u mesur)—

(a)yn is-baragraff (3) yn lle “Part 10A of the Children Act 1989” rhodder “Part 2 of the Children and Families (Wales) Measure 2010”;

(b)yn is-baragraff (4) yn lle “Part 10A of the Children Act 1989” rhodder “Part 2 of the Children and Families (Wales) Measure 2010”.

Gwybodaeth Cychwyn

I165Atod. 1 para. 25 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

I166Atod. 1 para. 26 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I167Atod. 1 para. 26 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

Deddf Diogelu Grwpiau Hawdd eu Niweidio 2006 (p. 47)LL+C

27Diwygier Deddf Diogelu Grwpiau Hawdd eu Niweidio 2006 fel a ganlyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I168Atod. 1 para. 27 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I169Atod. 1 para. 27 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

28Yn Atodlen 4—

(a)ym mharagraff 1(6)(a) yn lle “section 79D of the Children Act 1989 (c41) ” rhodder “section 21 of the Children and Families (Wales) Measure 2010”;

(b)ym mharagraff 1(6)(b), ar ôl “eight” mewnosoder “(or such other age as may be substituted by order under section 19(4)(a) of the Children and Families (Wales) Measure 2010)”;

(c)ym mharagraff 3(2)(c), yn lle “(within the meaning of section 79A of the Children Act 1989 (c 41))” rhodder “(within the meaning of section 19 of the Children and Families (Wales) Measure 2010)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I169Atod. 1 para. 27 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

I170Atod. 1 para. 28 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I171Atod. 1 para. 28 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

(a gyflwynwyd gan adran 73)

ATODLEN 2LL+CDIDDYMIADAU

Gwybodaeth Cychwyn

I172Atod. 2 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75

I173Atod. 2 mewn grym ar 1.4.2011 at ddibenion penodedig gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag ergl. 3, Atod. 2, Atod. 3)

Teitl byr a phennodGraddau'r diddymiad
Deddf Plant 1989 (p. 41)Yn adran 80(1), paragraff (i).
Yn adran 80(5), paragraffau (h) ac (hh).
Yn adran 105, is-adran (5A).
Rhan XA.
Atodlen 9A.
Deddf Addysg 2002 (p. 32)Adran 176.
Deddf Addysg 2005 (p. 18)Yn Atodlen 7, paragraffau 5 a 6.
Deddf Gofal Plant 2006 (p. 21)Yn Atodlen 2, paragraffau 5 i 18.
Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p. 40)Adran 167.
Deddf Addysg a Sgiliau 2008 (p. 25)Adran 158.