SYLWEBAETH AR ADRANNAU

Adran 1 – Ystyr “y diwydiant cig coch”

2.Mae'r adran hon yn diffinio yr hyn a olygir wrth y term ‘y diwydiant cig coch’ fel mae'n gymwys yn y cyd-destun hwn, hynny yw, bridio, cadw, prosesu, marchnata a dosbarthu gwartheg, defaid, a moch( rhai byw a marw fel ei gilydd) ac unrhyw gynhyrchion sy’n dod o’r anifeiliaid hynny i unrhyw raddau helaeth.

3.Mae rhai gweithgareddau nas cwmpesir gan y Mesur hwn oherwydd fod yna drefniadau ar wahân i gefnogi a datblygu'r cynhyrchion hynny megis llaeth a chynhyrchion llaeth a gwlân cnu sydd dan gyfrifoldeb Dairy UK a'r Bwrdd Marchnata Gwlân yn eu trefn. Ni chwmpesir crwyn gan nad ystyriwyd erioed eu bod yn rhan o'r diwydiant cig coch ond mai un elfen yn y fasnach gelanedd-dai ydynt sydd heb fod yn ddarostyngedig i ardoll.

4.Mae'r Mesur yn darparu bod amrediad cymhwysiad y pwerau sydd ar gael o dan y Mesur i’w cymhwyso mewn ffordd wahanol i'r tri sector allweddol.

Adran 2 – Amcanion

5.Amcanion y Mesur yw;

6.Yr un yw'r amcanion hyn ag amcanion cyfredol Bwrdd Ardollau Cymru ac maent hefyd yn adlewyrchu'r amcanion a osodir yn Neddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (“Deddf ANChG”), sef y brif fframwaith gyfreithiol ddiffiniadol ar gyfer hybu a datblygu prif sectorau amaethyddol y Deyrnas Unedig.

Adran 3 – Swyddogaethau

7.Swyddogaethau'r Mesur yw darparu'r moddau a'r dulliau sy'n rhoi i Weinidogion Cymru'r pŵer i allu diwygio manylion y Mesur drwy allu newid y geiriad, a thrwy ychwanegu disgrifiadau newydd neu ddileu disgrifiadau presennol o'r gweithgareddau y gellir eu gwneud er mwyn datblygu a hybu'r diwydiant cig coch. Rhoddir yr eglurhad manwl yn Atodlen 1.

8.Mae gan Weinidogion Cymru hefyd y pŵer i greu cronfa wrth gefn os oes angen gwneud hynny at ddibenion cynorthwyo ariannu'r gweithgareddau hyn.

Adran 4 – Gosod ardoll: dynodi personau sy’n atebol

9.Y prif ddull o roi cefnogaeth ariannol i'r diwydiant cig coch yw drwy godi cronfeydd yn fewnol oddi wrth y diwydiant hwnnw y gellir wedyn eu gwario ar ddatblygu a hybu'r amrywiol weithgareddau a osodir yn Atodlen 1.

10.Mae'r Mesur yn gosod rhai paramedrau sylfaenol mewn perthynas â'r ardoll.

11.Mae'n rhaid gwario'r arian a godir ym mhob sector (gwartheg, defaid a moch) er budd y sector hwnnw ac felly caiff y sector ei hybu yn gymesur â'i bwysigrwydd i'r diwydiant amaeth yng Nghymru.

12.Dim ond ar hybu a datblygu'r tri sector hwn yn y diwydiant cig coch y ceir gwario'r arian a godir, ni cheir ei wario, er enghraifft, ar hybu cynnyrch amaethyddol cyffredinol o Gymru na'i wario ychwaith ar ymchwil a datblygu'n gyffredinol.

13.Mae'r Mesur yn darparu hyblygrwydd fel y byddai modd ei gwneud yn ofynnol i bawb drwy'r gadwyn gyflenwi yn ei chyfanrwydd, o'r amaethwr sy'n cadw'r stoc ac yn bridio a meithrin yr anifeiliaid i'r cigydd sy'n gwerthu cig a chynhyrchion eraill i'r cwsmer terfynol, dalu'r ardoll. Fe allai gweithredwyr lladd-dai, allforwyr, marchnadoedd ocsiynau da byw a chwmnïau sy'n ymwneud â phob ffurf ar brosesu pellach ddod yn rhai cymwys i godi ffi ardoll arnynt.

14.Mae'r Mesur yn gosod pedwar categori o berson a allai fod yn gymwys i godi ffi ardoll arno, sef

15.Caiff y termau gweithgaredd cynradd a gweithgaredd eilradd eu diffinio yn yr adran hon ym mharagraff 6.

16.Gwneir y diffiniadau hyn mewn termau sy'n fwy eang na phenodol fel y gall y Mesur ddarparu fframwaith hyblyg y gallai gwahanol rannau'r diwydiant ei defnyddio fel y man pennu os oes ardoll i'w chodi. Ceir yr un hyblygrwydd o ran y man neu'r mannau lle gellid casglu'r ardoll.

17.Mae'r hyblygrwydd hwn yn bwysig mewn Mesur fel hwn oherwydd fod angen i Weinidogion Cymru fod â phwerau sy'n eu galluogi i ddatblygu'r diwydiant yn unol â strategaethau tymor canolig a hirdymor sy'n seiliedig ar asesu a gwerthuso gofynion a chyfleoedd y farchnad yn y dyfodol. Mae'r amcanestyniadau hynny ynghylch y dyfodol yn rhwym o newid ac felly mae'r Mesur hwn yn amcanu datblygu'r dulliau sy'n galluogi addasu'r gefnogaeth a roddir i'r diwydiant mewn modd sy'n ymateb i'r newidiadau hynny ac sy'n eu hadlewyrchu.

Adran 5 - Yr ardollau sydd i'w codi ar gigyddwyr neu allforwyr

18.Mae'r adran hon yn gosod y fframwaith sy'n galluogi i'r trefniadau cyfredol presennol ar gyfer pennu a chasglu'r ardoll o'r man cigydda neu o'r man lle'r allforir yn fyw ohoni barhau'n ddi-doriad neu heb ddiwygiadau mawrion.

19.Gosodir y ffordd o gyfrifo'r ardoll bresennol ac o'i thalu yn Atodlen 2.

Adran 6 – Pŵer i wneud darpariaeth ynglŷn ag ardollau sydd i'w gosod mewn perthynas â phersonau sy'n cyflawni gweithgaredd cynradd dynodedig neu weithgaredd eilradd dynodedig

20.Mae'r adran hon yn gosod y fframwaith sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i bennu trefniadau o'i mewn ar gyfer penderfynu ar ardoll a'i chasglu o fannau eraill o fewn y gadwyn gyflenwi. Rhaid gwneud unrhyw drefniadau o'r fath drwy orchymyn.

Adran 7 – Dirprwyo ac is-gwmnïau

21.Mae'r adran hon yn gosod y fframwaith sy'n peri fod gan Weinidogion Cymru y pŵer o'i mewn i ddirprwyo'r cyfan o'u pwerau neu rai ohonynt i drydydd partïon. Mae hefyd yn darparu'r fframwaith sy'n peri fod gan Weinidogion Cymru y pŵer o'i mewn i gaffael neu i sefydlu is-gwmnïau i gyflawni unrhyw un neu fwy o'u swyddogaethau.

22.Mae'r adran hon yn peri fod modd i Weinidogion Cymru greu a gwneud trefniadau gyda chyrff megis Hybu Cig Cymru – Meat Promotion Wales (HCC) fel y gall HCC ymgymryd â rhai neu'r cyfan o'r dyletswyddau a chyflawni rhai neu'r cyfan o'r swyddogaethau. Mae'n darparu hyblygrwydd fel y gellid defnyddio opsiynau eraill yn y dyfodol a newid neu ddiwygio trefniadau presennol.

23.Mae'r adran hon yn ei gwneud yn eglur na all Gweinidogion Cymru ddirprwyo'r cyfrifoldeb dros wneud rheoliadau na gorchmynion na thros wneud cyfarwyddiadau i unrhyw un arall.

Adran 8 – Datganiadau Niferoedd ac Amcangyfrifon

24.Mae'r adran hon yn gosod y trefniadau sy'n peri fod rhaid i bersonau sy'n atebol i dalu ardoll gyflwyno datganiadau sy'n nodi nifer y gwartheg, y defaid neu'r moch y gellir codi ardoll amdanynt gan roi pa wybodaeth bynnag y bernir ei bod yn ofynnol drwy gyfarwyddyd Gweinidogion Cymru a hynny ym mha ffurf bynnag sy'n ofynnol.

25.Mae'r adran yn darparu y gellir newid a diwygio natur, amseriad a chynnwys unrhyw ddatganiadau o'r fath yn ôl yr angen.

26.Mae hefyd yn darparu ar gyfer sefyllfaoedd pan fo datganiadau niferoedd i ddod oddi wrth bersonau sy'n atebol i dalu ardoll ond nis cyflwynir ganddynt, ac mewn achos o'r fath, gellir rhoi i'r cyfryw bersonau amcangyfrif (ysgrifenedig) o'r nifer disgwyliedig o anifeiliaid y bydd rhaid talu ardoll arnynt. Yna bydd ganddynt 28 o ddiwrnodau i ddarparu datganiad niferoedd iawn a chywir yn y ffurf sy'n ofynnol neu bydd rhaid iddynt dalu pa ardoll bynnag sy'n angenrheidiol ar sail yr amcangyfrif a roddwyd iddynt, onid oes esgus resymol dros fethu â gwneud.

Adran 9 – Darparu gwybodaeth

27.Mae'r adran hon yn darparu'r fframwaith sy'n ei gwneud yn ofynnol fod rhaid i bobl sy'n gorfod talu'r ardoll gadw cofnodion priodol ynghylch yr anifeiliaid y mae'r ardoll yn seiliedig arnynt ac fod rhaid iddynt ddangos y cofnodion hynny i gael eu harolygu pan ofynnir iddynt wneud hynny.

28.Mae i bobl beidio â chadw cofnodion o'r fath ac/neu iddynt fethu â dangos y cofnodion hynny pan ofynnir iddynt yn dramgwydd ac mae'r adran hon yn gosod natur y tramgwydd hwnnw a graddfa'r gosb.

Adran 10 – Arolygu

29.Mae'r adran hon yn gosod y pwerau sydd gan Weinidogion Cymru dros benodi arolygwyr (y person penodedig) a gaiff fynd a gweld yr anifeiliaid, y cofnodion a'r wybodaeth am y taliad er mwyn sicrhau fod y gofyniad i roi cyfrif am yr ardoll ac i'w thalu wedi'i fodloni.

Adran 11 - Pwerau mynediad

30.Mae'r adran hon yn gosod amodau cyffredinol a phenodol y mae’n rhaid eu bodloni cyn y gall arolygwr (y person penodedig) wneud cais am warant er mwyn medru mynd ar dir a/neu i fangre at ddibenion gorfodi'r Mesur.

Adran 12 – Tramgwyddau a gyflawnir gan gyrff neu bartneriaethau

31.Mae'r adran hon yn gosod y fframwaith sy'n rhoi i unigolion, megis cyfarwyddwyr, rheolwyr, ysgrifenyddion neu swyddogion eraill cyrff corfforaethol megis cwmnïau cyfyngedig neu ffurfiau eraill ar endidau cyfreithiol, gyfrifoldeb personol o fewn telerau'r Mesur hwn a gellir dwyn achos yn eu herbyn os ydynt wedi cyflawni unrhyw dramgwyddau o dan y Mesur hwn.

32.Gosodir amodau cyffelyb ar gyfer cyrff anghorfforedig, partneriaethau a phartneriaethau Albanaidd fel ei bod yn eglur sut y byddai'r Mesur hwn yn gymwys i'r gwahanol weithredwyr o fewn cadwyn gyflenwi'r diwydiant cig coch.

Adran 13 – Cyfyngiadau amser ar gyfer dwyn achos

33.Mae'r adran hon yn gosod cyfyngiadau amser ar gyfer dwyn achos o dan y Mesur hwn, sef o fewn 6 mis i'r dyddiad y daeth tystiolaeth ddigonol i law i ddangos y gallai fod tramgwydd wedi'i gyflawni ond ni chaniateir cychwyn achos fwy na dwy flynedd ar ôl cyflawni'r tramgwydd.

Adran 14 - Diffiniadau

34.Mae'r adran hon yn diffinio'r prif dermau yn ôl yr angen yng nghyd-destun y Mesur hwn.

Adran 15 – Diddymu Bwrdd Ardollau Cymru

35.Mae'r adran hon yn darparu'r pwerau a fydd yn diddymu Bwrdd Ardollau Cymru. Corff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad yw Bwrdd Ardollau Cymru a grëwyd o dan delerau'r Ddeddf Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig a Gorchymyn Bwrdd Ardollau Cymru at y dibenion o osod, codi a gwario arian ardollau a godwyd oddi wrth ddiwydiant cig coch Cymru.

Adran 16 – Cyfarwyddiadau

36.Y cyfan a ddywedir yn yr adran hon yw fod rhaid o dan y Mesur hwn i unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru fod wedi'u rhoi yn ysgrifenedig ond fod modd eu hamrywio neu eu dirymu drwy unrhyw gyfarwyddyd diweddarach.

Adran 17 – Gorchmynion a rheoliadau

37.Mae'r adran hon yn gwneud darpariaeth ynglŷn â'r pwerau i wneud gorchmynion a rheoliadau o dan y Mesur. Mae'r pwerau hyn yn ddarostyngedig i weithdrefnau penderfyniad negyddol, ac eithrio unrhyw orchymyn a wneir o dan adrannau 3(3), 4(4) a (5), 5(4) a 6(3) sy’n ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol.

Adran 18 – Cychwyn

38.Mae'r adran hon yn gosod pa bryd y mae’r pwerau o dan y Mesur hwn yn dod i rym.

Adran 19 – Enw Byr

39.Y disgrifiad byr o'r Mesur yw Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010.

Atodlen 1

40.Mae'r Atodlen hon yn rhoi disgrifiad ac eglurhad manwl o natur y gweithgareddau y gellir ymgymryd â hwy at ddibenion datblygu a hybu'r diwydiant cig coch.

Atodlen 2

41.Mae'r Atodlen hon yn egluro sut y cyfrifir yr ardoll a sut y'i telir gan gigyddwyr ac allforwyr.