Penodi cydgysylltwyr gofalLL+C
14Dyletswydd i benodi cydgysylltydd gofal ar gyfer claf perthnasolLL+C
(1)Rhaid i'r darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol ar gyfer claf perthnasol benodi unigolyn yn gydgysylltydd gofal ar gyfer y claf i weithredu swyddogaethau ynglŵn â'r claf a roddir i gydgysylltwyr gofal gan ac o dan y Rhan hon.
(2)Mae'r ddyletswydd o dan is-adran (1) i'w chyflawni cyn gynted ag y bydd yn rhesymol ymarferol–
(a)ar ôl i unigolyn ddod yn glaf perthnasol; neu
(b)mewn achos pan fydd unigolyn yn peidio â bod wedi ei benodi'n gydgysylltydd gofal claf perthnasol yn barhaol, ar ôl terfynu'r penodiad hwnnw yn barhaol.
(3)Pan fo'r darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol o'r farn bod cydgysylltydd gofal claf am ba reswm bynnag yn analluog dros dro i weithredu felly, caiff y darparydd benodi unigolyn yn gydgysylltydd gofal dros dro ar gyfer y claf i gyflawni mewn perthynas â'r claf y swyddogaethau y cyfeirir atynt yn is-adran (1).
(4)Mae penodiad dros dro o dan is-adran (3) yn terfynu pan fo'r darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol o'r farn bod yr unigolyn a benodwyd yn flaenorol yn gydgysylltydd gofal wedi adennill y gallu i weithredu felly, ac yn yr achos hwnnw adferir penodiad yr unigolyn hwnnw.
(5)Caniateir i drefniadau gael eu gwneud rhwng dau Fwrdd Iechyd Lleol er mwyn i swyddogaethau'r naill o dan is-adran (1) neu (3) gael eu harfer gan y llall.
(6)Ni fydd unrhyw drefniadau a wneir o dan is-adran (5) yn effeithio ar gyfrifoldeb Bwrdd Iechyd Lleol fel darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol o dan is-adrannau (1) neu (3).
(7)Mae adran 15 yn gwneud darpariaeth ynghylch dynodi'r darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol ar gyfer claf perthnasol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 14 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 55(3)
I2A. 14 mewn grym ar 6.6.2012 gan O.S. 2012/1397, ergl. 2(c)
15Dynodi'r darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol ar gyfer claf perthnasolLL+C
(1)Mae'r is-adran hon yn gymwys–
(a)pan fydd Bwrdd Iechyd Lleol yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth iechyd meddwl eilaidd ar gyfer claf perthnasol; a
(b)pan na fydd awdurdod lleol yn gyfrifol am ddarparu cyfryw wasanaeth.
(2)Pan fydd is-adran (1) yn gymwys, y Bwrdd yw'r darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol.
(3)Mae'r is-adran hon yn gymwys–
(a)pan fydd Bwrdd Iechyd Lleol yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth iechyd meddwl eilaidd ar gyfer claf perthnasol; a
(b)pan fydd awdurdod lleol hefyd yn gyfrifol am ddarparu'r cyfryw wasanaeth.
(4)Pan fydd is-adran (3) yn gymwys, mae dynodi mai un o'r personau y cyfeirir atynt yn yr is-adran honno yw'r darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol i'w wneud yn unol â darpariaeth mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
(5)Caiff rheoliadau o dan is-adran (4)–
(a)darparu i Weinidogion Cymru ddyfarnu ar anghydfodau o ran gweithredu'r rheoliadau;
(b)darparu i Weinidogion Cymru wneud y cyfryw ddyfarniad ag y gwelant yn dda ei wneud sy'n ddyfarniad sy'n ei gwneud yn ofynnol i daliadau gael eu gwneud gan un o'r personau y cyfeirir atynt yn is-adran (3) i'r person arall yn sgil dyfarniad y cyfeirir ato ym mharagraff (a);
(c)dynodi mai darparydd yw'r darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol tra disgwylir dyfarniad o dan baragraff (a).
(6)Os nad yw nac is-adran (1) nac is-adran (3) yn gymwys, dyma yw'r darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol–
(a)os yw awdurdod lleol yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth iechyd meddwl eilaidd ar gyfer y claf, yr awdurdod;
(b)os yw'r claf o dan warcheidiaeth awdurdod lleol, yr awdurdod;
(c)os nad yw na pharagraff (a) na pharagraff (b) yn gymwys ond bod Gweinidogion Cymru'n gyfriol am ddarparu gwasanaeth iechyd meddwl eilaidd i'r claf, Gweinidogion Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 15 mewn grym ar 15.2.2011 at ddibenion penodedig, gweler a. 55(1)(2)(b)
I4A. 15 mewn grym ar 6.6.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/1397, ergl. 2(d)
16Darpariaeth bellach ynghylch penodi cydgysylltwyr gofalLL+C
(1)Rhaid i ddarparydd beidio â phenodi unigolyn yn gydgysylltydd gofal o dan adran 14(1) onid yw'r unigolyn yn gymwys i'w benodi'n gydgysylltydd gofal o dan reoliadau a wneir o dan adran 47.
(2)Rhaid i ddarparydd beidio â phenodi unigolyn yn gydgysylltydd gofal o dan adran 14(1) o blith staff person arall heb gydsyniad y person hwnnw.
(3)Onid yw rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru'n darparu fel arall, nid yw penodiad unigolyn yn gydgysylltydd gofal yn dod i ben o ganlyniad i newid darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol claf perthnasol fel y'i dynodir o dan adran 15.
(4)Caiff darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol derfynu penodiad unigolyn a benodwyd yn gydgysylltydd gofal o dan adran 14(1).
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 16 mewn grym ar 15.2.2011 at ddibenion penodedig, gweler a. 55(1)(2)(b)
I6A. 16 mewn grym ar 6.6.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/1397, ergl. 2(e)