xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 6AMRYWIOL AC ATODOL

49Ystyr gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd

(1)Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol yr adran hon, at ddibenion y Mesur hwn, gwasanaeth iechyd meddwl eilaidd yw–

(a)gwasanaeth ar ffurf triniaeth i anhwylder meddwl unigolyn a ddarperir o dan Ran 1 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

(b)gwasanaeth a ddarperir o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983;

(c)gwasanaeth gofal cymunedol ei brif ddiben yw diwallu angen sy'n ymwneud ag iechyd meddwl oedolyn;

(d)gwasanaeth a ddarperir i blentyn o dan Ran III o Ddeddf Plant 1989 a'i brif ddiben yw bodloni angen sy'n ymwneud ag iechyd meddwl y plentyn hwnnw.

(2)At ddibenion is-adran (1), nid yw gwasanaeth i'w ystyried fel un a ddarperir o dan Ran 1 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 os darperir ef–

(a)o dan adran 41 o'r Ddeddf honno;

(b)o dan gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol yr ymrwymwyd ynddo gan Fwrdd Iechyd Lleol o dan adran 42 o'r Ddeddf honno;

(c)o dan drefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol yr ymrwymwyd ynddynt gan Fwrdd Iechyd Lleol o dan adran 50 o'r Ddeddf honno;

(d)o dan Atodlen 1 i'r Ddeddf honno.

(3)Mae gwasanaeth ar ffurf triniaeth ar gyfer anhwylder meddwl unigolyn yn cynnwys gwasanaeth sydd, ym marn y person sy'n darparu neu sy'n gwneud trefniadau ar gyfer darparu'r gwasanaeth, yn wasanaeth y bwriedir iddo drin yr anhwylder meddwl yr amheuir ei fod gan yr unigolyn sy'n cael y gwasanaeth.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn–

(a)pennu gwasanaethau eraill sydd i'w hystyried yn wasanaethau iechyd meddwl eilaidd at ddibenion unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau'r Mesur hwn;

(b)darparu bod gwasanaethau a fyddai fel arall yn cael eu hystyried yn wasanaethau iechyd meddwl eilaidd i beidio a chael eu hystyried felly at ddibenion unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau'r Mesur hwn.

50Ystyr gwasanaethau tai a gwasanaethau llesiant

(1)At ddibenion y Mesur hwn, ystyr “gwasanaethau tai neu wasanaethau llesiant” yw–

(a)dyroddi llety gan awdurdod tai lleol o dan Ran 6 o Ddeddf Tai 1996 (dyroddi tai'n llety) neu sicrhau llety gan y cyfryw awdurdod o dan Ran 7 o'r Ddeddf honno (digartrefedd);

(b)unrhyw wasanaethau yn ymwneud â llesiant (gan gynnwys tai) a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru (p'un a ddarperir hwy gan neu o dan drefniadau a wneir gydag awdurdod cyhoeddus);

(c)darparu gwybodaeth neu gyngor ynghylch unrhyw wasanaeth sy'n dod o fewn paragraff (a) neu (b) uchod (p'un ai wedi ei ddarparu gan neu o dan drefniadau a wneir gydag awdurdod cyhoeddus).

(2)Mae'r cyfeiriadau i wasanaethau yn is-adran (1)(b) yn cynnwys taliadau, grantiau a benthyciadau.

51Dehongli'n gyffredinol

(1)Yn y Mesur hwn–

(2)At ddibenion y Mesur hwn, mae unigolyn dan warcheidiaeth awdurdod lleol yng Nghymru os oes gan awdurdod lleol, mewn perthynas â'r unigolyn, y pwerau sydd yn adran 8(1) o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.

(3)Yn y Mesur hwn mae unrhyw gyfeiriad (sut bynnag y'i mynegir) at wasanaeth a ddarperir gan berson yn cynnwys cyfeiriad at wasanaeth a ddarperir o dan drefniadau a wnaed gan y person.

(4)Hyd nes y daw adran 8(1) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 i rym, mae pob cyfeiriad at adran 22C(12) o Ddeddf Plant 1989 i'w ddarllen fel cyfeiriad at adran 23(3) o Ddeddf Plant 1989.

(5)Mae cyfeiriadau yn y Mesur hwn at gydgysylltydd gofal i'w dehongli fel cyfeiriadau at gydgysylltydd gofal sy'n gweithredu ar ran y darparydd gwasanaeth iechyd meddwl a oedd yn gyfrifol am benodi'r unigolyn fel cydgysylltydd gofal o dan adran 14(1) neu (3), oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall.

52Gorchmynion a rheoliadau

(1)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer–

(a)i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion neu ddosbarthau o achosion gwahanol, ardaloedd gwahanol neu at ddibenion gwahanol;

(b)i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu'n ddarostyngedig i esemptiadau neu eithriadau penodol neu'n unig mewn perthynas ag achosion neu ddosbarthau penodol o achos;

(c)i wneud y cyfryw ddarpariaeth gysylltiedig, atodol, darfodol, canlyniadol, trosiannol neu arbed ag y gwêl Gweinidogion Cymru'n dda ei gwneud.

(3)Mae unrhyw offeryn statudol sy'n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Mesur hwn neu orchymyn o dan adran 53(3)(b) yn ddarostyngedig i'w ddirymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(4)Nid yw is-adran (3) yn gymwys i reoliadau a gorchmynion y mae is-adrannau (5) a (6) yn gymwys iddynt.

(5)Rhaid peidio â gwneud offeryn statudol sy'n cynnwys (yn unigol neu ynghyd a darpariaeth arall)–

(a)gorchymyn o dan adran 49(4) neu adran 53(3)(a); neu

(b)rheoliadau o dan adran 7(6)(a), 23(1)(b), 23(2), 45 neu 46,

onid oes drafft o'r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

(6)Rhaid peidio a gwneud offeryn statudol sy'n cynnwys (yn unigol neu ynghyd â darpariaethau eraill) y rheoliadau cyntaf i gael eu gwneud o dan adran 18(1)(c) neu 18(8) onid oes drafft o'r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

53Diwygiadau canlyniadol etc

(1)Mae gan Atodlen 1 effaith i wneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol mewn cysylltiad â Rhan 4.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn wneud y darpariaethau hynny sy'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru at ddibenion cyffredinol y Mesur hwn, neu at unrhyw ddibenion neilltuol yn y Mesur hwn, neu o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Mesur hwn neu gan reoliadau o dan adrannau 45 a 46 neu er mwyn rhoi llawn effaith i'r darpariaethau hynny.

(3)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud mewn gorchymyn o dan is-adran (2) yn cynnwys darpariaeth i ddiwygio, diddymu, dirymu neu addasu cymhwyso unrhyw ddarpariaeth mewn–

(a)unrhyw Deddf Seneddol neu unrhyw un o Ddeddfau neu Fesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (gan gynnwys y Mesur hwn); a

(b)is-ddeddfwriaeth.

(4)Yn yr adran hon mae i'r term “is-ddeddfwriaeth” yr ystyr sydd i “subordinate legislation” yn Neddf Dehongli 1978.

54Diddymiadau

Mae gan Atodlen 2 effaith i wneud diddymiadau mewn cysylltiad â Rhan 4.

55Cychwyn

(1)Mae'r darpariaethau yn is-adran (2) yn dod i rym ar ddiwedd cyfnod o ddau fis sy'n dechrau ar y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor.

(2)Dyma'r darpariaethau–

(a)y rhai sydd wedi eu cynnwys yn y Rhan hon (ac eithrio yn adrannau 53(1) a 54); a

(b)unrhyw ddarpariaeth sy'n rhoi pŵer i wneud rheoliadau neu orchymyn, i'r graddau y mae'r ddarpariaeth yn rhoi'r cyfryw bŵer.

(3)Daw gweddill darpariaethau'r Mesur hwn i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

56Enw byr

Enw'r Mesur hwn yw Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.