Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010

29Penderfynu man preswylio arferolLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)At ddibenion y Rhan hon, mae unrhyw gwestiwn o ran ardal yr awdurdod lleol y mae oedolyn fel arfer yn preswylio ynddi i'w benderfynu yn unol â darpariaeth mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(2)Mae'r ddarpariaeth y caniateir iddi gael ei gwneud mewn rheoliadau o dan is-adran (1) yn cynnwys darpariaeth (ond nid yw wedi ei chyfyngu iddi)–

(a)sy'n rhoi pŵer i benderfynu ar ardal yr awdurdod lleol y mae oedolyn fel arfer yn preswylio ynddi;

(b)ar gyfer tybio bod oedolyn fel arfer yn preswylio mewn ardal.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 29 mewn grym ar 15.2.2011 at ddibenion penodedig, gweler a. 55(1)(2)(b)

I2A. 29 mewn grym ar 6.6.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/1397, ergl. 2(r)