Cyffredinol
17Dehongli
(1)Yn y Mesur hwn–
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
ystyr “gwastraff” (“waste”) yw unrhyw beth–
(a)sy'n wastraff at ddibenion y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff, a
(b)nas eithriwyd o gwmpas y Gyfarwyddeb honno gan Erthygl 2 o'r Gyfarwyddeb honno;
ystyr “pennu” (“specified”) yw pennu mewn rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru, ac ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu mewn rheoliadau o'r fath;
ystyr “swyddogaeth” (“function”) yw pŵer neu ddyletswydd.
(2)At ddibenion y diffiniad o “gwastraff” yn is-adran (1), ystyr “y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff” yw Cyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 19 Tachwedd 2008 sy'n ymwneud â gwastraff ac sy'n diddymu Cyfarwyddebau penodol.
18Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
Mae'r Atodlen yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol.
19Gorchmynion a rheoliadau
(1)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.
(2)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer–
(a)i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol neu ddosbarthiadau gwahanol ar achos, ardaloedd gwahanol, personau gwahanol neu ddisgrifiadau gwahanol o berson neu ddibenion gwahanol;
(b)i beri i ddarpariaeth wahanol fod yn gymwys ar adegau gwahanol;
(c)i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol;
(d)i wneud darpariaethau cysylltiedig, atodol, canlyniadol, dros dro, trosiannol neu ddarpariaethau arbed fel y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda.
(3)Caniateir i unrhyw ddarpariaeth y caniateir ei gwneud drwy orchymyn o dan y Mesur hwn gael ei gwneud drwy reoliadau.
(4)Caniateir i unrhyw ddarpariaeth y caniateir ei gwneud drwy reoliadau o dan y Mesur hwn gael ei gwneud drwy orchymyn.
20Gorchmynion a rheoliadau: gweithdrefnau
(1)Mae unrhyw offeryn statudol sy'n cynnwys gorchymyn neu reoliadau a wneir o dan y Mesur hwn yn ddarostyngedig i'w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(2)Nid yw is-adran (1) yn gymwys–
(a)i orchymyn o dan adran 21(1);
(b)i orchmynion a rheoliadau y mae is-adran (3) yn gymwys iddynt.
(3)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy'n cynnwys gorchymyn o dan adran 3(4) neu reoliadau o dan adran 4, 5(1)(g), 6, 9, neu 14 (p'un ai ar ei ben ei hun neu ar eu pennau eu hunain neu ynghyd â darpariaethau eraill) oni fydd drafft o'r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a'i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.
(4)Pan fo rheoliadau yn gwneud darpariaeth y caniateir ei gwneud drwy orchymyn, bydd unrhyw weithdrefn a fyddai'n gymwys i'r gorchymyn o dan yr adran hon yn gymwys i'r rheoliadau.
(5)Pan fo gorchymyn yn gwneud darpariaeth y caniateir ei gwneud drwy reoliadau, bydd unrhyw weithdrefn a fyddai'n gymwys i'r rheoliadau o dan yr adran hon yn gymwys i'r gorchymyn.
21Cychwyn
(1)Mae adran 3 yn dod i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.
(2)Mae gweddill y darpariaethau sydd yn y Mesur hwn yn dod i rym ar ddiwedd cyfnod o ddeufis sy'n dechrau ar y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor.
22Enw byr
Enw'r Mesur hwn yw Mesur Gwastraff (Cymru) 2010.