Cynlluniau rheoli gwastraff safle
12Cynlluniau rheoli gwastraff safle
(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i bersonau o ddisgrifiad penodedig–
(a)paratoi cynlluniau ar gyfer rheoli a gwaredu gwastraff a gëir wrth lunio disgrifiadau penodedig o weithiau yng Nghymru sy'n cynnwys adeiladu neu ddymchwel;
(b)cydymffurfio â'r cynlluniau hynny.
(2)Caiff rheoliadau gynnwys darpariaeth hefyd ynghylch–
(a)yr amgylchiadau y mae'n rhaid paratoi cynlluniau odanynt;
(b)cynnwys y cynlluniau;
(c)awdurdodau gorfodi mewn perthynas â chynlluniau a swyddogaethau'r awdurdodau hynny;
(d)cadw cynlluniau a'u dangos i awdurdodau gorfodi;
(e)y dull o wneud cynlluniau gan Weinidogion Cymru neu awdurdod gorfodi sy'n gosod gofynion ar bersonau o ddisgrifiad penodedig i dalu ffioedd neu daliadau eraill a godir fel cyfrwng i adennill y costau rhesymol a dynnir gan awdurdod gorfodi wrth gyflawni ei swyddogaethau o dan yr adran hon.
(3)Mae disgrifiadau o weithiau y caniateir eu pennu o dan is-adran (1) yn cynnwys (ymhlith pethau eraill) disgrifiad drwy gyfeirio at gost neu gost debygol y gweithiau hynny.
(4)Mae unrhyw reoliadau sydd wedi eu gwneud gan Weinidogion Cymru o dan adran 54 o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 ac sydd mewn grym yn union cyn i'r Rhan hon ddod i rym yn cael effaith fel petaent wedi eu gwneud o dan yr adran hon ac adran 13.
(5)Yn yr adran hon, nid yw “Cymru” yn cynnwys unrhyw ran o'r môr sy'n gyfagos i Gymru.
13Tramgwyddau a chosbau
(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau–
(a)ar gyfer tramgwyddau mewn perthynas â methiant i gydymffurfio â darpariaeth a wnaed o dan adran 12;
(b)ar gyfer cosbau mewn perthynas â'r tramgwyddau hynny;
(c)ar gyfer rhyddhau o atebolrwydd am dramgwydd o dan baragraff (a) drwy dalu cosb benodedig i awdurdod gorfodi o dan adran 12;
(d)ynghylch y ffyrdd y caniateir i daliadau a wneir o dan baragraff (c) gael eu defnyddio gan awdurdodau gorfodi sy'n arfer swyddogaethau o dan adran 12.
(2)Ni chaniateir i'r rheoliadau greu tramgwyddau–
(a)y gellir eu cosbi â chyfnod yn y carchar, neu
(b)y gellir eu cosbi ar gollfarn ddiannod â dirwy sy'n fwy na £50,000.
(3)Ni chaniateir i'r rheoliadau greu tramgwyddau o fethu â chydymffurfio â darpariaeth a wneir o dan adran 12(2)(e) y gellir eu cosbi ar gollfarn ddiannod â dirwy sy'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
14Sancsiynau sifil mewn cysylltiad â chynlluniau rheoli gwastraff safle
(1)Mae'r adran hon yn gymwys pan fo'r pŵer i wneud rheoliadau yn adran 13 wedi ei arfer neu'n cael ei arfer yn y fath fodd ag i greu tramgwydd.
(2)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth, mewn perthynas ag awdurdod gorfodi, y gellid ei gwneud drwy orchymyn o dan Ran 3 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 (“RESA 2008”) fel pe byddai, at ddibenion Rhan 3 o'r Ddeddf honno–
(a)yr awdurdod gorfodi yn rheoleiddiwr, a
(b)y tramgwydd yn dramgwydd perthnasol mewn perthynas â'r rheoleiddiwr hwnnw.
(3)Ond mae adran 49(1) o RESA 2008 yn cael ei haddasu wrth ei chymhwyso i dramgwyddau a grëwyd gan y rheoliadau fel y bydd y cyfeiriad at “£20,000” i'w ddarllen fel cyfeiriad at “level 5 on the standard scale”.
(4)Mae adrannau 63 i 69 o RESA 2008 yn gymwys i ddarpariaeth a wneir o dan reoliadau o dan adran 13 neu yn rhinwedd y rheoliadau hynny fel y maent yn gymwys i ddarpariaeth a wneir o dan Ran 3 o RESA 2008 neu yn rhinwedd y Rhan honno.
(5)At ddibenion is-adran (4), mae'r cyfeiriadau at “regulator” yn adrannau 63 i 69 o RESA 2008 i'w darllen fel cyfeiriadau at awdurdod gorfodi.
(6)Yn yr adran hon, ystyr “awdurdod gorfodi” yw person sydd â swyddogaeth orfodi mewn perthynas â thramgwydd a grëwyd gan reoliadau o dan adran 13.
15Canllawiau
Rhaid i berson sy'n awdurdod gorfodi o dan adran 12 roi sylw i ganllawiau a roddir o bryd i'w gilydd gan Weinidogion Cymru pan fo'n arfer swyddogaethau awdurdod gorfodi.
16Ymgynghori
(1)Cyn gwneud unrhyw reoliadau o dan adran 12, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r canlynol–
(a)Asiantaeth yr Amgylchedd;
(b)pob awdurdod lleol;
(c)unrhyw bersonau y mae'n ymddangos iddynt eu bod yn cynrychioli buddiannau personau sy'n agored i fod yn ddarostyngedig i ddyletswyddau o dan y rheoliadau ac y mae Gweinidogion Cymru'n barnu eu bod yn briodol;
(d)unrhyw bersonau eraill y maent yn barnu eu bod yn briodol.
(2)At ddibenion is-adran (1), mae ymgynghoriad sydd wedi ei wneud cyn pasio'r Mesur hwn yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud ar ôl ei basio.