Nodiadau Esboniadol i Mesur Gwastraff (Cymru) 2010 Nodiadau Esboniadol

Adran 1 – Y taliadau a godir am fagiau siopa untro: pen taith yr enillion

7.Mae'r adran hon yn diwygio Atodlen 6 i Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 (p.27) (“Deddf 2008”). Mae'r Atodlen hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau ynghylch y broses o godi tâl gan werthwyr nwyddau am gyflenwi bagiau siopa untro. Mae Gweinidogion Cymru, yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn bwriadu i reoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i werthwyr godi tâl ddod i rym yn 2011.

8.Nid oedd Deddf 2008 yn galluogi Gweinidogion Cymru i osod dyletswyddau ar werthwyr nwyddau, nac unrhyw un arall, mewn cysylltiad â phen taith yr enillion o'r taliadau a osodir o dan reoliadau. Mae adran 1 o'r Mesur hwn yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i wneud hynny drwy fewnosod paragraff 4A newydd a pharagraff 4B newydd yn Atodlen 6 i Ddeddf 2008.

9.Diben ac effaith y paragraff 4A newydd yw caniatáu i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau i ddefnyddio enillion net y tâl at ddibenion y mae’n rhaid iddynt ymwneud â materion amgylcheddol penodol ac a bennir mewn rheoliadau. Mae effaith wedi ei rhoi i hyn yn bennaf drwy is-baragraff (2) o baragraff 4A sy'n darparu y gall y ddarpariaeth honno gael ei gwneud drwy reoliadau o dan Atodlen 6.

10.Mae i “net proceeds of the charge” yr un ystyr at y diben hwn ag sydd iddo at bob diben arall o dan Atodlen 6 ac o’r herwydd caiff ei ddiffinio drwy gyfeirio at y diffiniad o’r term hwnnw sydd eisoes ym mharagraff 7(4) o Atodlen 6(3). Wrth wneud rheoliadau ynghylch defnyddio enillion net y tâl bydd y rheoliadau gan hynny yn canolbwyntio ar y symiau sy’n cynrychioli’r balans rhwng y cyfanswm a gafwyd gan y gwerthwyr drwy’r tâl statudol am fagiau siopa untro, yn llai unrhyw symiau a bennir mewn rheoliadau (er enghraifft, mae’r Rheoliadau Drafft sydd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar hyn o bryd yn pennu TAW a chostau rhesymol).

11.Diben is-baragraff (1) yw egluro ar wyneb Atodlen 6 i Ddeddf 2008 (sy'n rhychwantu Cymru a Lloegr a Gogledd Iwerddon) mai dim ond i reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â Chymru y mae’r pwerau a roddir gan baragraff 4A yn gymwys.

12.Mae is-baragraff (2) yn ehangu cwmpas pwerau Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau o dan Atodlen 6 i Ddeddf 2008 fel bod y rheoliadau hefyd yn gallu cynnwys darpariaeth i gymhwyso enillion net y tâl i’r dibenion penodedig.

13.Mae is-baragraff (3) yn gosod rhestr nad yw'n hollgynhwysfawr o'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud o dan y pŵer a geir yn is-baragraff (2). Gallai rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i werthwyr ddefnyddio enillion net y tâl at ddibenion a bennir yn y rheoliadau (is-baragraff (3)(a)). Gallent ddarparu hefyd i unrhyw ddyletswydd o'r fath gael ei chyflawni drwy drydydd partïon yn derbyn enillion net gwerthwyr. Byddai’r trydydd partïon hynny yn cael eu pennu yn y rheoliadau a gallent fod yn bersonau neu’n gategorïau o bersonau (is-baragraff (3)(b)). Gallai'r rheoliadau’r ymdrin â’r trefniadau i drosglwyddo enillion net i unrhyw drydydd partïon (is-baragraff (3)(c)), a gallent ei gwneud yn ofynnol i'r trydydd partïon a bennir yn y rheoliadau ddefnyddio'r enillion at un neu fwy o ddibenion penodedig (is-baragraff (3)(d)).

14.Mae is-baragraff (3)(e) yn caniatáu i reoliadau ymdrin ag adennill symiau pan na fo’r enillion net wedi cael eu derbyn na’u defnyddio fel y dylasid eu defnyddio. Mae’n caniatáu i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth ynghylch adennill symiau oddi wrth werthwyr ac oddi wrth unrhyw bersonau sy’n cael yr enillion wrth werthwyr. Mae is-baragraff (3)(f) yn caniatáu i reoliadau ymdrin â defnyddio unrhyw symiau a adenillwyd at ddibenion penodedig. Mae’n ei gwneud yn glir ar wyneb y ddeddfwriaeth bod rheoliadau sy’n gwneud darpariaeth ynghylch defnyddio symiau a adenillwyd at ddibenion penodedig hefyd yn gallu gwneud darpariaeth fel nad yw’r symiau hynny yn mynd i Gronfa Gyfunol Cymru. Gallai'r rheoliadau ei gwneud yn ofynnol hefyd i Weinidogion Cymru roi canllawiau ynghylch cydymffurfio â'r rheoliadau (is-baragraff 3(g)).

15.Mae is-baragraffau (4) a (5) yn ymwneud â'r dibenion y gellir eu pennu mewn rheoliadau fel dibenion y mae’n rhaid defnyddio enillion net y tâl ar eu cyfer. Mae'r rhain yn gysylltiedig â chymhwysedd y Cynulliad Cenedlaethol i ddeddfu yn y maes hwn.

16.Gall y rheoliadau, o dan amgylchiadau penodol, fod yn gymwys i bersonau nad ydynt yn werthwyr os yw Gweinidogion Cymru o’r farn y byddai hynny’n briodol i gyrraedd y naill neu’r llall neu’r ddau amcan hyn. Mae a wnelo’r amcan cyntaf â gorfodi unrhyw ddarpariaeth ynghylch defnyddio enillion net y tâl. Mae a wnelo’r ail amcan â gwneud unrhyw ddarpariaeth am ddefnyddio’r enillion net yn effeithiol (is-baragraff (6)).

17.Mae is-baragraffau (7) ac (8) yn ychwanegu hyblygrwydd o ran sut y gellir cymhwyso rheoliadau o dan Atodlen 6 i Ddeddf 2008.

18.Mae Atodlen 6 eisoes yn caniatáu cymhwyso rheoliadau i bob gwerthwr, i werthwyr a enwir neu i werthwyr a ddynodir drwy gyfeirio at ffactorau a nodir yn Atodlen 6 (neu gyfuniad o enw a ffactorau). Mae is-baragraff (7) yn awr yn caniatáu i reoliadau gael eu cymhwyso drwy gyfeirio at drefniadau gwerthwr i ddefnyddio enillion net y tâl a thrwy gyfeirio at unrhyw ffactor arall sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru. Enghreifftiau o’r canlyniadau y gellid eu cyflawni o dan yr hyblygrwydd ychwanegol hwn yw cymhwyso rheoliadau i werthwyr a ddynodir drwy gyfeirio at y nifer neu’r math o fagiau siopa untro y maent yn eu cyflenwi.

19.Mae is-baragraff (8) yn caniatáu i reoliadau wneud eithriadau ac esemptiadau. Mae hyn er enghraifft yn dangos y tu hwnt i amheuaeth y gellid esemptio gwerthwyr a ddynodir wrth eu henwau o’r rheoliadau.

20.Mae paragraff 4B yn diffinio nifer o dermau a ddefnyddir ym mharagraff 4A.

21.Caiff diwygiadau pellach i Atodlen 6 i Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 eu gwneud gan adran 1(3) ac 1(4) o'r Mesur.

22.Mae adran 1(3) yn mewnosod paragraff 7(3A) newydd yn Atodlen 6. Mae paragraff 7 o Atodlen 6 yn ymwneud â chadw cofnodion a chyhoeddi cofnodion. Effaith paragraff 7(3A) yw y caiff rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan yr Atodlen honno ei gwneud yn ofynnol hefyd i gyhoeddi neu gyflenwi cofnodion neu wybodaeth ynglŷn â'r swm a gafwyd gan berson oddi wrth werthwr fel enillion net y tâl. Byddai hyn, er enghraifft, yn caniatáu i’r rheoliadau i’w gwneud yn ofynnol i bersonau sy’n cael yr enillion net wrth werthwr gyhoeddi a chyflenwi cofnodion.

23.Mae adran 1(4) yn mewnosod paragraff 8(2A) newydd yn Atodlen 6. Mae paragraff 8 yn ymwneud â gorfodi. Effaith paragraff 8(2A) yw galluogi Gweinidogion Cymru i roi pwerau i weinyddydd i holi'r rhai y mae gan y gweinyddydd sail resymol dros gredu eu bod wedi cael unrhyw enillion net o'r tâl. Caiff gweinyddwyr eu penodi o dan y rheoliadau i weinyddu a gorfodi’r ddarpariaeth a wneir ganddynt.

3

“The seller’s gross proceeds of the charge reduced by such amounts as may be specified”: paragraff 7(4) o Atodlen 6.

Back to top