Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Adran 13 – Tramgwyddau a chosbau

64.Mae'r adran hon yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau mewn perthynas â thramgwyddau a chosbau am dorri'r gofynion a sefydlwyd mewn rheoliadau a wnaed o dan adran 12. Mae’r adran hefyd yn gosod, neu’n gwneud yn eglur, y terfynau y gellir eu gosod am dramgwyddau o’r fath.

65.Fel y nodir uchod, mae adran 12 ar y cyfan yn ailddeddfu darpariaeth yn adran 54 o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005. O’r herwydd, nid yw'r terfynau ar y sancsiynau troseddol y gellir eu gosod mewn Mesurau yn gymwys i dramgwyddau a gaiff eu creu oddi tani. (Gosodir y terfynau hyn ym mharagraff 2 o Ran 2 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006; a gwelir y ffaith nad ydynt yn gymwys mewn achosion pan fo Mesur yn ailddatgan y gyfraith ym mharagraff 9 o Ran 3 o Atodlen 5).

66.Yn lle hynny, mae adran 13(2) a (3) yn gosod y terfynau sy’n gymwys i sancsiynau am dramgwyddau a gafodd eu creu o dan adran 12. Mae adran 13(2) yn ymdrin â thramgwyddau am dorri amodau mewn darpariaethau sydd wedi eu hailddatgan, h.y. torri gofynion a sefydlwyd o dan adran 12(2)(a) i (d). Mae’n gosod cyfyngiadau sy’n gwahardd creu tramgwyddau y gellir eu cosbi drwy garchariad, neu drwy ddirwy sy’n uwch na £50,000 ar gollfarn ddiannod.

67.Er hynny, nid yw’r ddarpariaeth a wneir gan adran 12(2)(e) yn ailddatgan y gyfraith gyfredol ond mae’n ychwanegu ati. Mae hyn y golygu nad yw’r terfynau ar sancsiynau troseddol a osodir ym mharagraff 2 o Ran 2 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn gymwys yn yr achos hwn. Er hynny, yr oedd Llywodraeth Cynulliad Cymru o’r farn ei bod yn ddymunol gwneud y terfyn ar y sancsiynau yn eglur ar wyneb y Mesur, ac mae adran 13(3) gan hynny’n darparu na ddylid cosbi tramgwyddau a wneir o dan y ddarpariaeth hon gan ddirwy sy’n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.