Adran 5 – Monitro ac archwilio cydymffurfedd â thargedau
32.Mae'r adran hon yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch asesu, monitro ac archwilio cydymffurfedd mewn perthynas â thargedau ar gyfer ailgylchu, paratoi i ailddefnyddio a chompostio o dan adran 3 neu dargedau gwastraff eraill o dan adran 4. Caiff rheoliadau wneud darpariaeth—
ar gyfer y dull o asesu cydymffurfedd â thargedau;
ynghylch trefniadau ar gyfer monitro ac archwilio cydymffurfedd;
rhoi pwerau mynediad a phwerau arolygu i'r personau hynny sy'n monitro ac archwilio cydymffurfedd;
yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gadw cofnodion a darparu gwybodaeth;
ynghylch cyhoeddi gwybodaeth mewn perthynas â thargedau; a
gosod atebolrwydd ar awdurdod lleol i dalu cosb os yw'n methu cydymffurfio ag unrhyw ofyniad mewn rheoliadau a wneir o dan yr adran hon.
33.Mae rheoliadau o dan yr adran hon sy'n gosod atebolrwydd i dalu cosb yn ddarostyngedig i weithdrefn penderfyniad cadarnhaol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru (gweler adran 23). Mae pob rheoliad arall o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i weithdrefn negyddol (gweler adran 20(1), (2) a (3)).