Adran 6 – Rheoliadau am gosbau
34.Mae'r adran hon yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau am gosbau y gall awdurdodau lleol fod yn atebol i’w talu—
am fethu â chyrraedd y targedau ar gyfer ailgylchu, paratoi i ailddefnyddio a chompostio a osodir o dan adran 3;
am fethu â chyrraedd targedau gwastraff o dan adran 4, neu
am dorri rheoliadau o dan adran 5 sy'n ymwneud â monitro ac archwilio cydymffurfedd.
35.Caiff y Rheoliadau o dan adran 6 osod swm y gosb neu osod rheolau ar gyfer ei chyfrifo. Caniateir iddynt hefyd bennu pryd y mae taliadau i'w talu a gwneud darpariaeth ynghylch llog ar gosbau sydd heb eu talu; ynghylch adennill, gwrth-hawlio neu sicrhau symiau sydd heb eu talu o ran cosbau a llog; ac ynghylch hepgor cosbau.
36.Mae rheoliadau o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i weithdrefn penderfyniad cadarnhaol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru (gweler adran 20(3)).