10Sancsiynau sifil mewn cysylltiad â [F1thramgwyddau a grëir gan reoliadau o dan adrannau 9 a 9A] LL+C
(1)Mae'r adran hon yn gymwys pan fo'r pŵer i wneud rheoliadau yn adran 9(1) [F2neu 9A(1)] wedi ei arfer neu'n cael ei arfer yn y fath fodd ag i greu tramgwydd.
(2)[F3Caniateir arfer y pŵer i] wneud, mewn perthynas ag awdurdod gorfodi, ddarpariaeth y gellid ei gwneud drwy orchymyn o dan Ran 3 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 (“RESA 2008”) fel pe byddai, at ddibenion Rhan 3 o'r Ddeddf honno–
(a)yr awdurdod gorfodi yn rheoleiddiwr, a
(b)y tramgwydd yn dramgwydd perthnasol mewn perthynas â'r rheoleiddiwr hwnnw.
[F4(3)Ond nid yw adrannau 39(4) a 42(6) o RESA 2008 yn gymwys i’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud drwy reoliadau o dan adran 9(1) neu 9A(1) yn rhinwedd is-adran (2).]
(4)Mae adrannau 63 i 69 o RESA 2008 yn gymwys [F5pan fo rheoliadau o dan adran 9(1) neu 9A(1) yn gwneud darpariaeth yn rhinwedd is-adran (2) fel y maent yn gymwys pan wneir darpariaeth] o dan Ran 3 o RESA 2008 neu yn rhinwedd y Rhan honno.
(5)At ddibenion is-adran (4), mae'r cyfeiriadau at “regulator” yn adrannau 63 i 69 o RESA 2008 i'w darllen fel cyfeiriadau at awdurdod gorfodi.
(6)Yn yr adran hon, ystyr “awdurdod gorfodi” yw person sydd â swyddogaeth orfodi mewn perthynas â thramgwydd a grëwyd drwy reoliadau o dan adran 9(1) [F6neu 9A(1) (fel y bo’n briodol)].
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 10 teitl wedi eu hamnewid (18.10.2023) gan Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (anaw 3), aau. 68(3), 88(3)(b); O.S. 2023/1096, ergl. 2(c)
F2Geiriau yn a. 10(1) wedi eu mewnosod (18.10.2023) gan Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (anaw 3), aau. 68(4), 88(3)(b); O.S. 2023/1096, ergl. 2(c)
F3Geiriau yn a. 10(2) wedi eu hamnewid (18.10.2023) gan Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (anaw 3), aau. 68(5), 88(3)(b); O.S. 2023/1096, ergl. 2(c)
F4A. 10(3) wedi ei amnewid (18.10.2023) gan Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (anaw 3), aau. 68(6), 88(3)(b); O.S. 2023/1096, ergl. 2(c)
F5Geiriau yn a. 10(4) wedi eu hamnewid (18.10.2023) gan Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (anaw 3), aau. 68(7), 88(3)(b); O.S. 2023/1096, ergl. 2(c)
F6Geiriau yn a. 10(6) wedi eu mewnosod (18.10.2023) gan Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (anaw 3), aau. 68(8), 88(3)(b); O.S. 2023/1096, ergl. 2(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 10 mewn grym ar 15.2.2011, gweler a. 21(2)