xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Cyn gwneud unrhyw reoliadau o dan adran 12, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r canlynol–
(a)[F1Corff Adnoddau Naturiol Cymru];
(b)pob awdurdod lleol;
(c)unrhyw bersonau y mae'n ymddangos iddynt eu bod yn cynrychioli buddiannau personau sy'n agored i fod yn ddarostyngedig i ddyletswyddau o dan y rheoliadau ac y mae Gweinidogion Cymru'n barnu eu bod yn briodol;
(d)unrhyw bersonau eraill y maent yn barnu eu bod yn briodol.
(2)At ddibenion is-adran (1), mae ymgynghoriad sydd wedi ei wneud cyn pasio'r Mesur hwn yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud ar ôl ei basio.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 16(1)(a) wedi eu hamnewid (1.4.2013) gan Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013 (O.S. 2013/755), ergl. 1(2), Atod. 3 para. 2 (ynghyd ag Atod. 7)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 16 mewn grym ar 15.2.2011, gweler a. 21(2)