Chwilio Deddfwriaeth

Mesur Gwastraff (Cymru) 2010

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 17A

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Mesur Gwastraff (Cymru) 2010, Adran 17A. Help about Changes to Legislation

[F117A.Ystyr “y Gyfarwyddeb Gwastraff Mwyngloddio”LL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Wrth ddarllen Erthygl 2 o’r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff yn unol ag adran 17(4), ystyr “y Gyfarwyddeb Gwastraff Mwyngloddio” (“the Mining Waste Directive(fel y’i mewnosodwyd gan baragraff (a)(iii) o adran 17(4)) yw Cyfarwyddeb 2006/21/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reoli gwastraff o ddiwydiannau echdynnu, gan ei darllen yn unol ag is-adrannau (2) i (5).

(2)Mae Erthygl 2 i’w darllen fe pe bai—

(a)ym mharagraff 2(c), y cyfeiriad at Erthygl 11(3)(j) o Gyfarwyddeb 2000/60/EC yn gyfeiriad at yr Erthygl honno o’i darllen yn unol ag is-adran (4);

(b)paragraffau 3 a 4 wedi eu hepgor.

(3)Mae Erthygl 3(1) i’w darllen fel pe bai “Article 3(1) of the Waste Framework Directive, as read with Articles 5 and 6 of that Directive” wedi ei roi yn lle “Article 1(a) of Directive 75/442/EEC”.

(4)At ddibenion is-adran (2)(a), mae Erthygl 11(3)(j) o Gyfarwyddeb 2000/60/EC i’w darllen fel pe bai—

(a)y cyfeiriad cyntaf at “Member States” yn gyfeiriad at Weinidogion Cymru neu Gorff Adnoddau Naturiol Cymru;

(b)y canlynol wedi ei fewnosod ar y diwedd—

  • and “environmental objectives”, in relation to a river basin district within the meaning of the Water Environment (Water Framework Directive) (England and Wales) Regulations 2017 has the same meaning as in those Regulations.

(5)Wrth ddarllen y Gyfarwyddeb Gwastraff Mwyngloddio yn unol ag is-adran (3), mae i’r cyfeiriad yn y Gyfarwyddeb honno at y “Waste Framework Directive” (fel y’i mewnosodwyd gan is-adran (3)) yr ystyr a roddir gan adran 17(2) o’r mesur hwn.]

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth