xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Tirlenwi LL+C

9Rheoliadau sy'n gwahardd gollwng gwastraff ar safle tirlenwiLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ar gyfer gwahardd neu reoleiddio fel arall y weithred o ollwng mathau penodedig o wastraff ar safle tirlenwi yng Nghymru, ac mewn cysylltiad â'i wahardd neu ei reoleiddio.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud y canlynol (ymhlith pethau eraill)–

(a)diwygio rheoliadau a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 ac sy'n ymwneud â dull gweithredu safle tirlenwi;

(b)darparu ar gyfer tramgwyddau mewn perthynas â methiant i gydymffurfio â darpariaeth a wnaed o dan y rheoliadau;

(c)darparu ar gyfer cosbau mewn perthynas â'r tramgwyddau hynny;

(d)darparu ar gyfer awdurdodau gorfodi a swyddogaethau'r awdurdodau hynny.

(3)Yn is-adran (1), mae i “safle tirlenwi” yr ystyr a roddir i “landfill” yn Erthygl 2(g) o Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/31/EC dyddiedig 26 Ebrill 1999 am dirlenwi gwastraff.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 9 mewn grym ar 15.2.2011, gweler a. 21(2)